Search Legislation

Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol a Chynefinoedd Naturiol (Echdynnu Mwynau drwy Dreillio Gwely'r Môr) (Cymru) 2007

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1RHAGARWEINIAD

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol a Chynefinoedd Naturiol (Echdynnu Mwynau drwy Dreillio Gwely'r Môr) (Cymru) 2007, a deuant i rym ar 28 Medi 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran dyfroedd Cymru fel y'u diffinnir yn rheoliad 2(1).

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “yr Alban” yr ystyr a roddir i “Scotland” ac i “parth Albanaidd” yr ystyr a roddir i “Scottish zone” gan adran 126 o Ddeddf yr Alban 1998(1);

  • ystyr “ceisydd arfaethedig” (“prospective applicant”) yw person sy'n bwriadu gwneud cais o dan reoliad 10 neu o dan reoliad18;

  • ystyr “cychwyn” (“commencement”) yw'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;

  • mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” gan adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2);

  • ystyr “y cyrff ymgynghori priodol” (“the appropriate consultation bodies”) yw—

    (a)

    mewn perthynas ag unrhyw dreillio yn nyfroedd Cymru a allai fod yn brosiect neu ran o brosiect at ddibenion amddiffyn gwladol, yr Ysgrifennydd Gwladol;

    (b)

    mewn perthynas ag unrhyw dreillio yn nyfroedd Cymru a fyddai'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd yn nyfroedd Lloegr, yr Ysgrifennydd Gwladol;

    (c)

    mewn perthynas ag unrhyw dreillio yn nyfroedd Cymru a fyddai'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon, Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon;

    (ch)

    Cyngor Cefn Gwlad Cymru; a

    (d)

    y cyrff hynny sydd â buddiant mewn prosiect perthnasol, ym marn Gweinidogion Cymru, oherwydd eu cyfrifoldebau amgylcheddol penodol;

  • mae i'r ymadrodd “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 7(1);

  • ystyr “y deiliad” (“the holder”), mewn cysylltiad â chaniatâd a roddir o dan y Rheoliadau hyn, yw unrhyw berson y mae'r caniatâd wedi ei drosglwyddo iddo, tra bydd y caniatâd wedi ei freinio yn y person hwnnw;

  • ystyr “drwy hysbysebu'n gyhoeddus” (“by public advertisement”), mewn perthynas â hysbysiad yw—

    (a)

    drwy gyhoeddi'r hysbysiad mewn cyhoeddiad cenedlaethol a phapur newydd lleol y mae Gweinidogion Cymru o'r farn eu bod yn briodol; a

    (b)

    os yw Gweinidogion Cymru yn cynnal gwefan at ddiben hysbysebu ceisiadau, drwy gyhoeddi'r hysbysiad ar y wefan;

  • ystyr “dyfroedd Cymru” (“Welsh waters”) yw dyfroedd llanw a rhannau o'r môr sy'n gyfagos â Chymru o'r ffynhonnau penllanw cymedrig i'r terfynau dyfroedd tiriogaethol allan i'r môr;

  • ystyr “dyfroedd Lloegr” (“English waters”) yw —

    (a)

    dyfroedd llanw ac unrhyw ran o'r môr o fewn terfynau dyfroedd y Deyrnas Unedig allan i'r môr at ddibenion Deddf Môr Tiriogathol 1987(3); a

    (b)

    dyfroedd sydd wedi eu dynodi am y tro o dan adran 1(7) o Ddeddf yr Ysgafell Gyfandirol 1964(4) (dynodi ardaloedd yr ysgafell gyfandirol)

    ac eithrio, mewn perthynas â pharagraffau (a) a (b),—

    (i)

    dyfroedd cyfagos â Gogledd Iwerddon,

    (ii)

    dyfroedd cyfagos â'r Alban,

    (iii)

    y parth Albanaidd, a

    (iv)

    dyfroedd Cymru;

  • ystyr “dyfroedd sy'n gyfagos â Gogledd Iwerddon” (“waters adjacent to Northern Ireland”) yw hynny o ddyfroedd mewndirol a môr tiriogaethol y Deyrnas Unedig ag sy'n gyfagos â Gogledd Iwerddon, fel y dyfernir o dan adran 98(8) o Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998(5);

  • ystyr “dyfroedd sy'n gyfagos â'r Alban” (“waters adjacent to Scotland”) yw hynny o ddyfroedd mewndirol a môr tiriogaethol y Deyrnas Unedig ag sy'n gyfagos â'r Alban, fel y dyfernir o dan adran 126(2) o Ddeddf yr Alban 1998(6);

  • mae i “Gogledd Iwerddon” yr ystyr a roddir i “Northern Ireland” gan Ddeddf Gogleddd Iwerddon 1998(7)

  • ystyr “y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt” (“the Wild Birds Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC(8) ar gadwraeth adar gwyllt;

  • ystyr “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” (“the Habitats Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC(9) ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt;

  • ystyr “y Gyfarwyddeb EIA” (“the EIA Directive”) yw Cyfarwyddeb 85/337/EEC(10) ar asesu effeithiau prosiectau penodol ar yr amgylchedd, boed y prosiectau'n rhai cyhoeddus neu'n rhai preifat;

  • ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig, a dehonglir “hysbysu” ac ymadroddion cytras yn unol â hynny;

  • ystyr “y meini prawf dethol” (“the selection criteria”) yw'r meini prawf a geir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn;

  • ystyr “perchennog” (“owner”)

    (a)

    mewn perthynas â mwynau a geir yn nyfroedd Cymru y mae gan y Goron neu Ddugiaeth fuddiant ynddynt (fel y'i diffinnir yn adran 293 (diffiniadau rhagarweiniol) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(11)), sef—

    (i)

    ystad mewn ffi syml, neu

    (ii)

    buddiant sydd gyfwerth, ym marn Gweinidogion Cymru, ag ystad o'r fath,

    yw'r awdurdod priodol fel y'i diffinnir yn yr adran honno;

    (b)

    mewn perthynas â mwynau nad oes gan y Goron neu Ddugiaeth fuddiant o'r fath ynddynt neu nad ydynt yn perthyn i ystad y Goron, yw'r person y breinir y mwynau ynddo mewn ffi syml neu berson sydd â buddiant yn y mwynau sy'n gyfwerth ag ystad mewn ffi syml, ym marn Gweinidogion Cymru;

  • ystyr “prosiect cynefinoedd” (“habitats project”) yw prosiect ar gyfer gwneud gwaith treillio yn nyfroedd Cymru nad yw'n uniongyrchol gysylltiedig â rheoli safle Ewropeaidd neu'n angenrheidiol i hynny ac sy'n debygol o gael effaith sylweddol (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau a phrosiectau eraill) ar safle Ewropeaidd;

  • ystyr “prosiect perthnasol” (“relevant project”) yw unrhyw brosiect ar gyfer gwneud gwaith treillio yn nyfroedd Cymru a fyddai'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd yn rhinwedd ffactorau megis natur, maint neu leoliad y gwaith treillio;

  • ystyr “safle Ewropeaidd” (“European site”) yw unrhyw un neu rai o'r canlynol a leolir yn nyfroedd Cymru—

    (a)

    ardal cadwraeth arbennig;

    (b)

    safle o bwys Cymunedol sydd wedi ei roi ar y rhestr y cyfeirir ati yn nhrydydd is-baragraff Erthygl 4(2) o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd;

    (c)

    ardal a gaiff ei dosbarthu'n ardal gwarchodaeth arbennig o dan Erthygl 4(1) neu (2) o'r Gyfarwyddeb Adar Gwyllt;

    (ch)

    safle y mae Gweinidogion Cymru wedi ei gynnig yn safle cymwys ar gyfer ei ddynodi'n ardal cadwraeth arbennig at ddibenion bodloni rhwymedigaethau'r Deyrnas Unedig o dan Erthygl 4(1) o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd—

    (i)

    hyd oni chaiff ei gynnwys yn y rhestr o safleoedd o bwys Cymunedol y cyfeirir ati yn nhrydydd is-baragraff Erthygl 4(2) o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd, neu

    (ii)

    hyd oni chytunir o dan Erthygl 4(2) o'r Gyfarwyddeb honno i beidio â chynnwys y safle yn y rhestr honno; ac

  • ystyr “treillio” (“dredging”) yw echdynnu mwynau drwy dreillio yn nyfroedd Cymru, ond nid yw'n cynnwys—

    (a)

    echdynnu y mae unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw ddeddfiad a geir mewn Deddf neu is-ddeddfwriaeth leol) yn awdurdodi'n benodol ei wneud, ac nid yw'n cynnwys yn benodol echdynnu a awdurdodir gan orchymyn o dan adran 3 (gorchmynion o ran dyfrffyrdd mewndirol etc.) o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992(12);

    (b)

    treillio mewn unrhyw ddyfroedd o fewn awdurdodaeth awdurdod porthladd, fel y'i diffinnir yn adran 57 o Ddeddf Porthladdoedd 1964(13); neu

    (c)

    echdynnu y mae unrhyw un neu rai o'r Rheoliadau canlynol yn gymwys iddo—

    (i)

    Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999(14),

    (ii)

    Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999(15),

    (iii)

    Rheoliadau Gwaith Piblinell Cludo Nwy Cyhoeddus (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 1999(16),

    (iv)

    Rheoliadau Cynhyrchu Petrolewm Alltraeth a Phiblinellau Petrolewm Alltraeth (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 1999(17),

    (v)

    Rheoliadau Gwaith Piblinellau (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2000(18), ac

    os yw'r cyd-destun yn gwneud hynny'n ofynnol, mae'n cynnwys treillio a gynigir.

(2Mae i ymadroddion Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn cael eu defnyddio yn y Gyfarwyddeb EIA neu'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd, yr un ystyr at ddibenion y Rheoliadau hyn â'r ystyr a roddir i'r ymadroddion Saesneg hynny yn y Cyfarwyddebau hynny.

(3Pan fo'r Rheoliadau hyn yn cyfeirio at —

(a)cais neu archiad y caiff unrhyw berson ei wneud; neu

(b)cymeradwyaeth, penderfyniad, dyfarniad neu farn i'w dyroddi neu i'w ddyroddi gan Weinidogion Cymru;

rhaid i unrhyw gais neu archiad o'r fath gael ei wneud yn ysgrifenedig, a rhaid i unrhyw gymeradwyaeth, penderfyniad, dyfarniad neu farn o'r fath gael ei dyroddi neu ei ddyroddi'n ysgrifenedig.

Cymhwyso i'r Goron

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae'r Rheoliadau hyn yn rhwymo'r Goron.

(2Ni chaniateir gwneud y Goron yn droseddol atebol am dorri unrhyw un neu rai o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, er bod hynny'n dramgwydd troseddol, ond caiff yr Uchel Lys, ar gais unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r Llys fod ganddo fuddiant, ddatgan bod unrhyw weithred neu anweithred gan y Goron sy'n torri darpariaeth yn y modd hwnnw yn anghyfreithlon.

(3Er gwaethaf unrhyw beth ym mharagraff (2), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i bersonau yng ngwasanaeth cyhoeddus y Goron fel y maent yn gymwys i unrhyw berson arall.

(1)

1998 p.46. Gweler hefyd Gorchymyn Terfynau Dyfroedd Cyfagos â'r Alban 1999 (O.S. 1999/1126).

(2)

2006 p.32; Gweler hefyd erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 3 iddo. Caiff y darpariaethau hyn, a wnaed o dan adran 155(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) (pwer i wneud gorchymyn at ddibenion y diffiniad o Gymru), eu trin fel pe baent wedi eu gwneud o dan adran 158(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhinwedd paragraff 26(3) o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.

(5)

1998 p.47. Gweler hefyd Gorchymyn Terfynau Dyfroedd Cyfagos (Gogledd Iwerddon) 2002 (O.S. 2002/791).

(6)

1998 p.46. Gweler hefyd Gorchymyn Terfynau Dyfroedd Cyfagos â'r Alban 1999 (O.S. 1999/1126).

(7)

1998 p.47. Gweler hefyd Gorchymyn Terfynau Dyfroedd Cyfagos (Gogledd Iwerddon) 2002 (O.S. 2002/791).

(8)

OJ Rhif L103, 25.04.97, t.1, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(9)

OJ Rhif L206, 22.07.92, t.7 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(10)

OJ Rhif L175, 05.07.85, t. 40, a ddiwygiwyd gan Gyfarwyddeb 97/11/EC, OJ Rhif L73, 14.03.97, t.5 a Chyfarwyddeb 2003/35/EC, OJ Rhif L156, 25.06.03, t.17.

(11)

1990 p. 8. mewnosodwyd adran 293 gan Atodlen 3 i Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5).

(12)

1992 p.42.

(13)

1964 p.40.

(14)

O.S. 1999/293, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/2867, 2006/3099, a 2006/3295.

(16)

O.S. 1999/1672, fel y'i diwygir gan Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p.27), adran 76(7) a chan O.S. 2007/1996.

(17)

O.S.1999/360, a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/933.

(18)

O.S. 2000/1928, a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/1992.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources