- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
4. Mae i unrhyw berson wneud gwaith treillio yn dramgwydd, ac eithrio pan fo'r treillio —
(a)yn dod o fewn un o'r achosion a ddisgrifir yn rheoliad 5 (pan na fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â'r treillio ond i'r graddau a bennir yn y rheoliad hwnnw mewn perthynas â'r achos penodol); neu
(b)yn cael ei wneud o dan ganiatâd a roddir o dan Ran 4 o'r Rheoliadau hyn ac yn unol ag ef.
5.—(1) Yr achosion a grybwyllir yn rheoliad 4(a) yw'r rhai a ddisgrifir ym mharagraffau (2), (6) a (7) o'r rheoliad hwn.
(2) Yr achos cyntaf yw pan fo Gweinidogion Cymru yn cael dyfarniad ysgrifenedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn dweud—
(a)bod y treillio'n brosiect neu ran o brosiect sy'n bodloni dibenion amddiffyn gwladol; a
(b)y byddai cymhwyso'r Rheoliadau hyn, ac eithrio i'r graddau a bennir ym mharagraffau (4), (5), (6) neu (7) o'r rheoliad hwn, yn ôl y digwydd, yn effeithio'n andwyol ar y dibenion hynny ym marn yr Ysgrifennydd Gwladol.
(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru ddyfarnu a fyddai'r treillio'n brosiect cynefinoedd.
(4) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, a bod Gweinidogion Cymru'n dyfarnu o dan baragraff (3) y byddai'r prosiect yn brosiect cynefinoedd, dim ond darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn fydd yn gymwys—
(a)Rhannau 1 a 2;
(b)rheoliad 10;
(c)rheoliadau 13 ac 14;
(ch)rheoliadau 16 i 24 ac Atodlen 3;
(d)rheoliadau 25 i 30; ac
(dd)rheoliad 32.
(5) Pan fo paragraff (2) yn gymwys a bod Gweinidogion Cymru'n dyfarnu o dan baragraff (3) na fyddai'r prosiect yn brosiect cynefinoedd, dim ond darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn fydd yn gymwys—
(a)Rhannau 1 a 2;
(b)rheoliad 26; ac
(c)rheoliad 30.
(6) Yr ail achos yw pan fo Gweinidogion Cymru wedi dyfarnu o dan reoliad 6—
(a)nad yw'r treillio'n brosiect perthnasol; a
(b)nad yw'r treillio'n brosiect cynefinoedd;
ac, mewn achos o'r fath, dim ond darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn fydd yn gymwys—
(i)Rhannau 1 a 2,
(ii)rheoliad 26, a
(iii)rheoliad 30.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), y trydydd achos yw pan fo'r treillio'n parhau i gael ei wneud yn unol â chytundeb ysgrifenedig a wnaed gan y perchennog cyn cychwyn, ac mewn achos o'r fath dim ond darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn fydd yn gymwys—
(a)Rhannau 1 a 2;
(b)rheoliad 24 ac Atodlen 3;
(c)rheoliad 26;
(ch)rheoliad 29; a
(d)rheoliad 30.
(8) Pan fo cytundeb ysgrifenedig a wnaed gan y perchennog cyn cychwyn yn cael ei amrywio wrth gychwyn neu ar ôl cychwyn, dim ond pan fo Gweinidogion Cymru, o ystyried y meini prawf dethol hynny sy'n berthnasol, wedi dyfarnu nad yw treillio o dan y cytundeb fel y'i hamrywir felly yn brosiect perthnasol y bydd y treillio'n dod o dan y trydydd achos (a bydd Atodlen 2 yn effeithiol i bennu'r meini prawf dethol ar gyfer dibenion y Rheoliadau hyn).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: