- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
PRIFFYRDD, CYMRU
Gwnaed
8 Rhagfyr 2008
Yn dod i rym
17 Rhagfyr 2008
1. Daw'r briffordd newydd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadau ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym.
2. Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd.
3. Bydd y darnau o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog llydan ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd ac yn dod yn ffordd ddosbarthiadol neu'n ffordd ddiddosbarth fel y dangosir yn yr Atodlen honno o'r dyddiad y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hysbysu Cyngor Sir Benfro mai ef fydd yr awdurdod priffyrdd cyfrifol am y darnau hynny o ffordd.
4. Mae Gweinidogion Cymru wedi'u hawdurdodi i adeiladu'r bont newydd a bennir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn fel rhan o'r gwelliannau i'r gefnffordd.
5. Yn y Gorchymyn hwn:
mesurir pob mesuriad o bellter ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;
ystyr “ffordd ddosbarthiadol” (“classified road”), fel dosbarthiad i briffordd yw nad yw'r briffordd yn brif ffordd at ddibenion deddfiadau neu offerynnau, sy'n cyfeirio at briffyrdd a ddosbarthwyd gan Weinidogion Cymru ac nad yw'n cyfeirio'n benodol at eu dosbarthiad fel prif ffyrdd.
ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd Llundain i Abergwaun (yr A40);
ystyr “y plan a adneuwyd” (“the deposited plan”) yw'r plan sy'n dwyn y Rhif HA10/2 NAFW 20 ac sydd wedi'i farcio “Gorchymyn Cefnffordd Llundain i Abergwaun (yr A40) (Gwelliant Penblewin i Barc Slebets) 2008”, ac a lofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru ac sydd wedi'i adneuo gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, yr Uned Storio ac Adfer Cofnodion (RSRU), Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd; ac
ystyr “plan y bont” (“the bridge plan”) yw'r plan sy'n dwyn y Rhif HA10/2 NAFW 20 ac sydd wedi'i farcio “Gorchymyn Cefnffordd Llundain i Abergwaun (yr A40) (Gwelliant Penblewin i Barc Slebets) 2008 Atodlen 3 -Manylebion pont dros gwrs dwr mordwyol”, ac a lofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru ac sydd wedi'i adneuo gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, yr Uned Storio ac Adfer Cofnodion (RSRU), Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd;
6. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 17 Rhagfyr 2008. Enw'r Gorchymyn hwn yw ''Gorchymyn Cefnffordd Llundain i Abergwaun (yr A40) (Gwelliant Penblewin i Barc Slebets) 2008''.
Llofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru
S. C. SHOULER
Cyfarwyddwr Cynllunio a Gweinyddu Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru
8 Rhagfyr 2008
O bwynt ar y gefnffordd 58 o fetrau i'r de ddwyrain o'i chyffordd â'r ffordd ddiddosbarth sy'n arwain i Lawhaden ac sy'n dwyn y cyfeirnod A ar y plan a adneuwyd, ac sy'n cynnwys cylchfan 292 o fetrau i'r de ddwyrain o'i chyffordd â'r A4075, ac ail gylchfan 278 o fetrau i'r de ddwyrain o'i cyffordd â'r B4313, am bellter o 2.67 o gilometrau, hyd at bwynt ar y gefnffordd 420 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â'r B4314 ac sy'n dwyn y cyfeirnod B ar y plan a adneuwyd.
Y darnau hynny o gefnffordd yr A40 sy'n peidio â bod yn gefnffordd yw'r darnau hynny rhwng ei chyffordd â'r ffordd ddiddosbarth sy'n arwain i Lawhaden a'i chyffordd â Flimstone Lane rhwng Penblewin a Slebets yn Sir Benfro sef:
(i)o bwynt ar y gefnffordd 53 o fetrau i'r de ddwyrain o'i chyffordd â'r ffordd ddiddosbarth sy'n arwain i Lawhaden ac sy'n dwyn y cyfeirnod C ar y plan a adneuwyd, pellter cyfan o 0.53 o gilometrau hyd at bwynt ar y gefnffordd 305 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â'r A4075 ac sy'n dwyn y cyfeirnod D ar y plan a adneuwyd fydd yn dod yn ffordd ddiddosbarth, a
(ii)o bwynt ar y gefnffordd 337 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â'r A4075 ac sy'n dwyn y cyfeirnod E ar y plan a adneuwyd, am bellter cyfan o 1.91 o gilometrau hyd at bwynt ar y gefnffordd 245 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â'r B4314 ac sy'n dwyn y cyfeirnod F ar y plan a adneuwyd fydd yn dod yn ffordd ddosbarthiadol.
Pont newydd dros y cwrs dwr mordwyol a elwir afon Cleddau Ddu yng nghymuned Llawhaden yn gyfagos i adeiledd y bont bresennol dros yr A40 yn Canaston Bridge a phellter clir o 12 o fetrau i'r de ohoni, 1.8 o gilometrau i'r gorllewin o Robeston Wathen, y dangosir ei lleoliad a'i dyluniad cyffredinol ar blan y bont.
Yn rhinwedd O.S. 1999/672, erthygl 2 ac atodlen 1, a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'r pwerau hyn bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru o ran Cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: