Search Legislation

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 922 (Cy.87)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008

Gwnaed

28 Mawrth 2008

Yn dod i rym

1 Ebrill 2008

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 29 o Atodlen 3 iddi(1) ac ar ôl cwblhau'r ymgynghori statudol fel y'i rhagnodwyd o dan baragraff 29(4) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.

(2Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall;

ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) “yw 1 Ebrill 2008;

ystyr “yr hen ymddiriedolaeth” (“the old trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg a sefydlwyd ar 19 Chwefror 1996;

ystyr “yr ymddiriedolaeth newydd” (“the new trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf a sefydlwyd ar 12 Mawrth 2008.

Trosglwyddo cyflogeion i'r trosglwyddai

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), trosglwyddir contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogir felly a'r ymddiriedolaeth newydd.

(2Heb ragfarnu paragraff (1) uchod —

(a)yn rhinwedd yr erthygl hon, trosglwyddir yr holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;

(b)bernir bod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi ynglŷn â'r contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen wedi'i wneud gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.

(3Nid yw paragraffau (1) a (2) uchod yn rhagfarnu unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'r cyflogai yn ei amodau gwaith, ond ni fydd unrhyw hawl o'r fath yn codi yn unig oherwydd y newid mewn cyflogwr a berir gan yr erthygl hon.

Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau

3.  Ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen ymddiriedolaeth, sydd heb eu crybwyll yn erthygl 2 uchod, i'r ymddiriedolaeth newydd gan gynnwys heb gyfyngiad—

(a)Y ddyletswydd i baratoi'r cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen ymddiriedolaeth a chyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny;

(b)Eiddo ymddiriedol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 1.

(c)Eiddo ymddiriedol elusennol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 2.

Trosglwyddo swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd

4.  Trosglwyddir holl swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd a byddant yn cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

28 Mawrth 2008

Erthygl 3(b)

ATODLEN 1

EiddoDeiliadaethCofrestr Tir
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg
Ysbyty
Tywysog CharlesRhydd-ddaliadWA794505
Cyffredinol AberdârRhydd-ddaliadWA794503
Santes TudfulRhydd-ddaliadWA794584
AberpennarRhydd-ddaliadWA794490
Clinigau/ Canolfannau Iechyd Canolfan Adnoddau Iechyd Meddwl
Canolfan Iechyd Abercynon, Ffordd Ynysmeurig, Abercynon, Rhondda Cynon Taf, CF45 4SULesddaliad
AberdârRhydd-ddaliadWA794527
Aber-fanRhydd-ddaliad

WA794484

WA794534484

HirwaunRhydd-ddaliadWA707946
HolliesRhydd-ddaliadWA794547
Tŷ Campsie, MerthyrRhydd-ddaliadWA794534
Seymour BerryRhydd-ddaliadWA794517
TreharrisRhydd-ddaliadWA794595
Arall
Uned 7A, Ystâd Ddiwydiannol Cyfarthfa, CF47 8PELesddaliad

Erthygl 3(c)

ATODLEN 2

Cronfa Elussennol Gyffredinol Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Morgannwg (gan gynnwyws pob is-elusen) —Rhif 1060880.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf o 1 Ebrill 2008 ymlaen.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu ar gyfer trosglwyddo holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf ar 1 Ebrill 2008.

(2)

Rheoliadau Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymgynghori ar Sefydlu a Diddymu) 1996, O.S. 1996/653, sy'n parhau i gael effaith yn rhinwedd paragraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006. p.43.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources