Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009

Estyn y cyfnodau amser pan fo rhaid i awdurdodau cynllunio mwynau gymryd camau

5.—(1Pan yw—

(a)yn ofynnol bod awdurdod cynllunio mwynau perthnasol yn cymryd unrhyw gam o fewn cyfnod a bennir o dan y Rheoliadau hyn, neu a gytunwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn (“y cyfnod penodedig”); a

(b)yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol yn rhesymol yn dod i'r casgliad na all gymryd y cam hwnnw o fewn y cyfnod penodedig,

caiff yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol wneud cais ysgrifenedig am i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o dan y rheoliad hwn.

(2Rhaid i gais a wneir o dan baragraff (1)—

(a)nodi'r cam y mae'n ofynnol bod yr awdurdod yn ei gymryd;

(b)nodi erbyn pa ddyddiad y mae'n ofynnol bod yr awdurdod yn cymryd y cam dan sylw;

(c)cael ei gyflwyno ynghyd â datganiad ysgrifenedig o resymau'r awdurdod dros ddod i'r casgliad na all gymryd y cam dan sylw o fewn y cyfnod penodedig;

(ch)datgan erbyn pa ddyddiad y mae'r awdurdod yn cynnig cymryd y cam dan sylw;

(d)cael ei gyflwyno ynghyd â datganiad ysgrifenedig o resymau'r awdurdod dros ddod i'r casgliad y bydd yn gallu cymryd y cam dan sylw erbyn y dyddiad a ddatgenir yn unol ag is-baragraff (ch); ac

(dd)cael ei gyflwyno naill ai ynghyd â chadarnhad ysgrifenedig bod yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol wedi cydymffurfio â pharagraff (3), neu ynghyd ag esboniad ysgrifenedig yr awdurdod ynghylch pam nad oedd yn gallu, neu pam nad oedd yn bosibl, cydymffurfio â'r paragraff hwnnw.

(3Cyn cyflwyno cais o dan baragraff (1) rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol hysbysu'r ceisydd mewn ysgrifen—

(a)o fwriad yr awdurdod i gyflwyno cais i Weinidogion Cymru o dan baragraff (1);

(b)o'r materion a nodir ym mharagraff (2) (ac eithrio'r mater y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(dd));

(c)y caiff y ceisydd gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru o fewn 14 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad; ac

(ch)effaith paragraff (10).

(4Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o dan y rheoliad hwn a fydd yn pennu bod y cam dan sylw i'w gymryd o fewn cyfnod amgen os bodlonir hwy, ar ôl ystyried cais a wneir yn unol â pharagraff (1), unrhyw sylwadau a wneir gan y ceisydd a pha bynnag faterion eraill a ystyriant yn berthnasol—

(a)na ellir, yn rhesymol, gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol yn cymryd y cam dan sylw o fewn y cyfnod penodedig; a

(b)nad oedd cais yr awdurdod o dan baragraff (1) yn codi oherwydd unrhyw fai neu fwriad ar ran yr awdurdod.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff (4), anfon copi o'r cyfarwyddyd hwnnw at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol ac at y ceisydd.

(6Os na fodlonir Gweinidogion Cymru ynglŷn â'r ddau fater a grybwyllir ym mharagraff (4)(a) a (b) rhaid iddynt wrthod rhoi cyfarwyddyd o dan y rheoliad hwn.

(7Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad yn unol â pharagraff (6), roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol o'r penderfyniad hwnnw a'r rhesymau dros ei wneud.

(8Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi at y ceisydd o unrhyw hysbysiad a roddir yn unol â pharagraff (7).

(9Caiff cyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn bennu pa bynnag gyfnod amgen ag yr ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru.

(10Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael cais a wnaed yn briodol o dan baragraff (1), estynnir y cyfnod penodedig y mae'r cam a nodir yn unol â pharagraff (2)(a) i'w gymryd ynddo hyd at—

(a)os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd sy'n pennu cyfnod amgen, y dyddiad y daw'r cyfnod amgen hwnnw i ben; neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod rhoi cyfarwyddyd o dan y rheoliad hwn, y dyddiad sy'n digwydd 14 diwrnod ar ôl y diweddaraf o'r dyddiadau a ganlyn—

(i)y dyddiad y mae'r cyfnod penodedig yn dod i ben;

(ii)y dyddiad y mae hysbysiad ysgrifenedig yn cael ei roi'n unol â pharagraff (7);

(iii)y dyddiad y mae unrhyw gopi o hysbysiad ysgrifenedig yn cael ei anfon at y ceisydd yn unol â pharagraff (8).

(11Ceir diwygio neu ddirymu cyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn drwy roi cyfarwyddyd pellach.

(12Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r awdurdod cynllunio mwynau a'r ceisydd ynghylch unrhyw gyfarwyddyd a roddir, neu benderfyniad a wneir i wrthod rhoi cyfarwyddyd, o dan y rheoliad hwn.