Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009

Pwerau diofyn Gweinidogion Cymru

6.—(1Pan fo'r canlynol yn gymwys yn achos awdurdod cynllunio mwynol perthnasol mewn perthynas â chais AEA—

(a)ei bod yn ofynnol i'r awdurdod hwnnw gymryd unrhyw gam o fewn cyfnod penodol; a

(b)nad yw'r awdurdod hwnnw'n cymryd y cam dan sylw o fewn y cyfnod penodol,

caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y cais AEA dan sylw yn cael ei atgyfeirio atynt hwy yn hytrach na bod yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol yn ymdrin â'r cais.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd o dan y rheoliad hwn a bod yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (3) yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru adennill oddi wrth yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol pa bynnag gostau neu dreuliau y maent wedi mynd iddynt yn rhesymol wrth ymdrin â'r cais AEA y mae'r cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef.

(3Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar sail y dystiolaeth sydd ar gael iddynt, bod methiant yr awdurdod i gymryd y cam dan sylw o fewn y cyfnod penodol wedi ei achosi o ganlyniad i ddiffyg neu fwriad yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol.

(4Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan y rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori gyda'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol a chyda'r ceisydd.

(5Rhaid i unrhyw gais AEA y rhoddir cyfarwyddyd mewn perthynas ag ef o dan y rheoliad hwn gael ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru yn unol â hynny.

(6At ddibenion y rheoliad hwn, mae cyfeiriad at gyfnod penodol yn gyfeiriad at unrhyw un o'r canlynol—

(a)cyfnod a bennir o dan y Rheoliadau hyn;

(b)cyfnod a gytunir mewn ysgrifen yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau hyn;

(c)pan fo awdurdod cynllunio mwynau perthnasol wedi gwneud cais ysgrifenedig o dan reoliad 5(1), y cyfnod a gyfrifir yn unol â rheoliad 5(10).

(7Cyn penderfynu'r cais, caiff Gweinidogion Cymru, os yw naill ai'r ceisydd neu'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol yn dymuno hynny, roi cyfle i'r naill a'r llall ohonynt ymddangos gerbron a chael gwrandawiad gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.

(8Bydd penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais yn derfynol.

(9Mae'r pwerau a roddir gan y rheoliad hwn yn ychwanegol at, ac nid yn rhanddirymiad o unrhyw bwerau eraill Gweinidogion Cymru gan gynnwys, yn benodol, y pŵer a roddir gan adran 77.