- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
14.—(1) Mae gan weinyddwr y pwerau gorfodi sydd yn y rheoliad hwn.
(2) Y pwerau yw—
(a)prynu nwyddau prawf er mwyn canfod a gydymffurfir â'r Rheoliadau hyn;
(b)arolygu unrhyw nwyddau a mynd i mewn i unrhyw fangre ar unrhyw adeg resymol (heblaw mangre ddomestig) er mwyn canfod a gydymffurfir â'r Rheoliadau hyn;
(c)os yw gweinyddwr yn credu'n rhesymol bod methiant wedi bod i gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn—
(i)cwestiynu gwerthwr neu swyddogion neu gyflogeion gwerthwr;
(ii)ei gwneud yn ofynnol bod dogfennau'n cael eu dangos neu fod gwybodaeth yn cael ei darparu.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “mangre ddomestig” (“domestic premises”) yw mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn annedd breifat.
(4) Rhaid i weinyddwr sy'n ceisio arfer pŵer o dan baragraff (2)(b) neu (c) ddangos tystiolaeth o bwy ydyw a thystiolaeth o'i awdurdod os y person sy'n gofyn iddo, neu felly yr ymddengys, yw—
(a)y gwerthwr, neu swyddog neu gyflogai i'r gwerthwr;
(b)perchennog neu feddiannydd unrhyw fangre lle y mae'r gweinyddwr yn ceisio arfer y pŵer o dan sylw.
(5) Nid oes dim ym mharagraff (2) sy'n gorfodi dangos unrhyw ddogfen—
(a)yng Nghymru a Lloegr neu Ogledd Iwerddon, y byddai gan y person hwnnw ar seiliau braint broffesiynol gyfreithiol yr hawl i beidio â'i dangos o dan orchymyn datgelu mewn achos yn y Llys Sirol neu'r Uchel Lys; neu
(b)yn yr Alban, y byddai gan y person hwnnw ar seiliau cyfrinachedd gohebiaeth yr hawl i beidio â'i dangos o dan orchymyn dangos dogfennau mewn achos yn y Llys Sesiwn.
15. Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gosod cosbau ariannol mewn achosion pan fo gwerthwr yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n un ariannol(1) ac mae'r Atodlen honno'n cael effaith yn unol â hynny.
16.—(1) Caiff gweinyddwr gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad adennill costau gorfodi”) i werthwr y gosodwyd gofyniad yn ôl disgresiwn arno yn ei gwneud yn ofynnol bod y gwerthwr hwnnw'n talu'r costau yr aed iddynt gan y gweinyddwr mewn perthynas â gosod y gofyniad yn ôl disgresiwn hyd at amser ei osod (“costau gorfodi”).
(2) Mae costau gorfodi yn cynnwys, yn benodol—
(a)costau ymchwilio;
(b)costau gweinyddu;
(c)costau cael cyngor arbenigwr (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).
(3) Rhaid i hysbysiad adennill costau gorfodi bennu'r swm y mae'n ofynnol ei dalu a rhaid iddo gynnwys gwybodaeth o ran—
(a)sut y gellir talu;
(b)y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid talu;
(c)yr hawl i apelio; a
(ch)y canlyniadau am fethu â thalu erbyn y dyddiad y mae'n ddyledus.
(4) Rhaid i'r dyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad adennill costau gorfodi i'r gwerthwr.
(5) Rhaid i'r gwerthwr dalu'r costau gorfodi erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad adennill costau gorfodi.
(6) Ond mae paragraff (5) yn ddarostyngedig i weddill y darpariaethau yn y rheoliad hwn a rheoliad 21(4) (atal gofynion a hysbysiadau tra disgwylir apêl).
(7) Os yw penderfyniad gweinyddwr o dan y rheoliad hwn yn destun apêl, yna i'r graddau y caiff y penderfyniad hwnnw ei gadarnhau, rhaid i'r gwerthwr dalu'r costau gorfodi o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y dyfernir yr apêl.
(8) Rhaid i weinyddwr ddarparu dadansoddiad manwl o'r costau a bennir mewn hysbysiad adennill costau gorfodi os bydd y gwerthwr y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo yn gofyn amdano.
(9) Nid yw gwerthwr yn atebol i dalu unrhyw gostau y mae'r gwerthwr hwnnw'n dangos yr aed iddynt yn ddiangen.
(10) Caiff gwerthwr apelio—
(a)yn erbyn penderfyniad gweinyddwr i osod gofyniad i dalu costau;
(b)yn erbyn penderfyniad gweinyddwr o ran swm y costau hynny.
17. Caiff gweinyddwr adennill unrhyw gosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy, cosb am fethu â chydymffurfio, costau gorfodi neu gosb am fod yn hwyr yn talu—
(a)fel dyled sifil;
(b)ar orchymyn gan lys, fel pe bai'n daladwy o dan orchymyn llys.
18.—(1) Caiff gweinyddwr roi hysbysiad cyhoeddusrwydd i werthwr y gosodwyd sancsiwn sifil arno(2).
(2) Y canlynol yw'r wybodaeth a bennir at ddibenion paragraff 19(2)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008—
(a)y math o sancsiwn sifil o dan sylw;
(b)y seiliau dros osod y sancsiwn;
(c)os oedd y sancsiwn yn gosb ariannol benodedig neu'n gosb ariannol amrywiadwy, swm y gosb honno;
(ch)os oedd y sancsiwn yn ofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n ariannol, natur y gofyniad o dan sylw.
(3) Rhaid i hysbysiad cyhoeddusrwydd—
(a)pennu'r dull cyhoeddi sy'n ofynnol;
(b)pennu'r amser ar gyfer cydymffurfio â'r hysbysiad;
(c)ei gwneud yn ofynnol i'r gwerthwr ddarparu tystiolaeth o gydymffurfio â'r hysbysiad o fewn amser a bennir yn yr hysbysiad.
(4) Os bydd gwerthwr yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cyhoeddusrwydd o fewn yr amser a bennir o dan baragraff (3)(b), caiff y gweinyddwr—
(a)rhoi cyhoeddusrwydd i'r wybodaeth y mae'n ofynnol rhoi cyhoeddusrwydd iddi gan yr hysbysiad; a
(b)adennill y costau o wneud hynny oddi wrth y gwerthwr o dan sylw.
(5) Pan fo gweinyddwr yn rhoi cyhoeddusrwydd i wybodaeth o dan baragraff (4)(a) rhaid iddo wneud hynny mewn dull y mae'n ystyried yw'r dull mwyaf tebygol i ddwyn yr wybodaeth i sylw aelodau o'r cyhoedd yn ei ardal.
I gael ystyr “non-monetary discretionary requirement” gweler paragraff 12(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.
I gael ystyr “publicity notice” gweler paragraff 19(2) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: