- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 7
1.—(1) Y mathau o fagiau siopa untro nad yw rheoliad 6 yn gymwys iddynt yw—
(a)bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys bwyd heb ei becynnu ar gyfer ei fwyta gan bobl neu gan anifeiliaid;
(b)bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys hadau, bylbiau, cormau neu risomau rhydd heb eu pecynnu;
(c)bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys unrhyw fwyell, cyllell, llafn cyllell neu lafn rasel heb eu pecynnu;
(ch)bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys nwyddau heb eu pecynnu ac a halogwyd gan bridd;
(d)bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys y canlynol a gafodd eu pecynnu—
(i)pysgod neu gynhyrchion pysgod heb eu coginio;
(ii)cig neu gynhyrchion cig heb eu coginio;
(iii)dofednod neu gynhyrchion dofednod heb eu coginio,
y mae, mewn perthynas â hwy, uchafswm eu dimensiynau yn 205 o filimetrau (“mm”) (lled) x 125 mm (lled cwysed) x 458 mm (uchder gan gynnwys handlenni);
(dd)bagiau wedi eu selio a gyflenwir gan werthwr cyn cyrraedd y man gwerthu;
(e)bagiau a ddefnyddir i gynnwys nwyddau a brynwyd ar fwrdd llongau, trenau, awyrennau, coetsis neu fysiau;
(f)bagiau a ddefnyddir i gynnwys nwyddau a brynwyd mewn man a ddynodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn fan o dan gyfyngiad diogelwch o dan adran 11A o Ddeddf Diogelwch wrth Hedfan 1982(1);
(ff)bagiau ar gyfer pecynnu a chyflenwi post neu nwyddau wth archebu drwy'r post;
(g)bagiau—
(i)a wnaed yn gyfan gwbl o bapur;
(ii)mae uchafswm eu dimensiynau yn 175 mm (lled) x 260 mm (uchder);
(iii)nad oes ganddynt gwysed; a
(iv)nad oes ganddynt handlen;
(ng)bagiau—
(i)a wnaed yn gyfan gwbl neu'n bennaf o blastig;
(ii)mae uchafswm eu dimensiynau yn 125 mm (lled) x 125 mm (uchder);
(iii)nad oes ganddynt gwysed; a
(iv)nad oes ganddynt handlen;
(h)bagiau—
(i)a wnaed yn gyfan gwbl o bapur;
(ii)mae uchafswm eu dimensiynau yn 80 mm (lled) x 50 mm (lled cwysed) x 155 mm (uchder); a
(iii)nad oes ganddynt handlen;
(i)leininau â chwysed a ddefnyddir i leinio neu i lapio blychau, cratiau neu gynwysyddion eraill o natur debyg;
(j)bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys creaduriaid byw dyfrol mewn dŵr;
(k)bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys un eitem neu fwy o'r categorïau a bennir yn is-baragraff (2).
(2) Y categorïau a bennir yw—
(a)cynnyrch meddyginiaethol neu gyfarpar rhestredig a werthir yn unol â phresgripsiwn a ddyroddwyd gan ymarferydd meddygol cofrestredig, deintydd, rhagnodydd atodol, nyrs-ragnodydd annibynnol, nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol, optometrydd-ragnodydd annibynnol, fferyllydd-ragnodydd annibynnol neu broffesiynolyn iechyd yr AEE;
(b)pan werthir neu pan gyflenwir hwy heb fod yn unol â pharagraff (a),,meddyginiaeth fferyllol.
(3) Yn y paragraff hwn—
ystyr “cyfarpar rhestredig” yw cyfarpar rhestredig o fewn ystyr “listed appliances” yn unrhyw un o'r canlynol—
mae i “cynnyrch meddyginiaethol” yr ystyr a roddir i “medicinal product” yn adran 130 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968(6);
ystyr “deintydd” (“dentist”) yw person sydd wedi'i gofrestru yn y gofrestr ddeintyddion a gedwir o dan adran 14 o Ddeddf Deintyddion 1984(7);
ystyr “heb ei becynnu” (“unpackaged”) yw heb gael ei lapio'n gyfan gwbl neu'n rhannol;
ystyr “meddyginiaeth fferyllol” (“pharmacy medicine”) yw cynnyrch meddyginiaethol nad yw'n feddyginiaeth drwy bresgripsiwn yn unig ac sydd—
yn unol ag adran 52(8) o Ddeddf Meddyginiaethau 1968, y gellir ei werthu neu ei gyflenwi yn unig o dan yr amodau a bennir yn is-adran (1)(a) i (c) o'r adran honno; neu
heblaw am y ffaith y gellir ei werthu neu ei gyflenwi yn unol ag adran 55(9) o'r Ddeddf honno, dim ond o dan yr amodau hynny y gellid ei werthu neu ei gyflenwi'n gyfreithiol;
ystyr “meddyginiaeth drwy bresgripsiwn yn unig” (“prescription only medicine”) yw cynnyrch meddyginiaethol—
mae i “nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent nurse prescriber” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992(12);
mae i “proffesiynolyn iechyd yr AEE” yr ystyr a roddir i “EEA health professional” yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Meddyginiaethau at Ddefnydd Dynol (Rhagnodi gan Ymarferwyr AEE) 2008(13); ac
mae i “rhagnodydd atodol”, “nyrs-ragnodydd annibynnol”, “optometrydd-ragnodydd annibynnol” a “fferyllydd-ragnodydd annibynnol” yr ystyr a briodolir i “supplementary prescriber”, “nurse independent prescriber”, “optometrist independent prescriber” a “pharmacist independent prescriber” yn ôl eu trefn yn erthygl 1(2) o Orchymyn Meddyginiaethau drwy Bresgripsiwn yn Unig (Defnydd Dynol) 1997(14).
Rheoliad 12
1.—(1) Caiff gweinyddwr drwy hysbysiad osod cosb ariannol benodedig ar werthwr sy'n torri'r Rheoliadau hyn o dan yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 11(2).
(2) Caiff gweinyddwr arfer y pŵer a roddir gan is-baragraff (1) mewn perthynas ag achos os yw wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod y toriad yn y Rheoliadau wedi digwydd.
2. Swm y gosb y gellir ei gosod gan weinyddwr fel cosb ariannol benodedig mewn unrhyw achos yw'r swm a bennir yn ail golofn y tabl yn Rhan 2 drwy gyfeirio at y math o doriad yn y Rheoliadau sydd o dan sylw.
3.—(1) Pan fo gweinyddwr yn bwriadu gosod cosb ariannol benodedig ar werthwr, rhaid i'r gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad i'r gwerthwr hwnnw(15).
(2) Rhaid i hysbysiad o fwriad—
(a)datgan swm y gosb;
(b)cynnig y cyfle i'r gwerthwr ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am y gosb drwy dalu'r swm penodedig o fewn 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y cafwyd yr hysbysiad;
(c)cynnwys gwybodaeth o ran—
(i)y seiliau am y bwriad i osod cosb ariannol benodedig;
(ii)effaith talu'r swm penodedig;
(iii)yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau a roddir gan baragraff 5;
(iv)o dan ba amgylchiadau ni chaiff y gweinyddwr osod y gosb ariannol benodedig;
(v)y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y caniateir rhyddhau rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig yn rhinwedd paragraff 4;
(vi)y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y ceir gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau ynddo;
(vii)sut y gellir talu.
4.—(1) Caiff atebolrwydd gwerthwr i gosb ariannol benodedig ei ryddhau os bydd y gwerthwr yn talu'r swm penodedig o fewn 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad sy'n ymwneud ag ef.
(2) Y swm penodedig yw'r swm a bennir yn nhrydedd golofn y tabl yn Rhan 2 drwy gyfeirio at y math o doriad yn y Rheoliadau sydd o dan sylw.
5.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os na fydd gwerthwr yn rhyddhau ei hun rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig drwy dalu'r swm penodedig.
(2) O fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cafodd y gwerthwr yr hysbysiad o fwriad, caiff y gwerthwr wneud sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i'r gweinyddwr mewn perthynas â'r gosb ariannol benodedig y bwriedir ei gosod.
6.—(1) Ar ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau o dan baragraff 5, rhaid i'r gweinyddwr benderfynu ai gosod y gosb ariannol benodedig ai peidio.
(2) Wrth wneud penderfyniad o dan y paragraff hwn rhaid i weinyddwr gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau a wnaed gan y gwerthwr yn unol â'r paragraff hwnnw.
(3) Ni chaiff gweinyddwr benderfynu gosod cosb ariannol benodedig yn unrhyw un neu ragor o'r amgylchiadau canlynol—
(a)os cafwyd rhyddhad rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau drwy dalu'r swm penodedig;
(b)os gosodwyd eisoes gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau;
(c)os gosodwyd gofyniad yn ôl disgresiwn mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith.
(4) Heb gyfyngu ar y pŵer o dan is-baragraff (1), caiff gweinyddwr benderfynu peidio â gosod cosb benodedig os yw'r gweinyddwr o'r farn y byddai'n anfuddiol gwneud hynny o dan holl amgylchiadau'r achos.
(5) Pan fo'r gweinyddwr yn penderfynu gosod y gosb ariannol benodedig rhaid iddo wneud hynny drwy gyflwyno'r hysbysiad terfynol i'r gwerthwr(16).
(6) Rhaid i'r hysbysiad terfynol gydymffurfio â pharagraff 7.
7. Rhaid i'r hysbysiad terfynol gynnwys gwybodaeth o ran—
(a)y seiliau dros osod y gosb ariannol benodedig;
(b)ymateb y gweinyddwr i unrhyw sylwadau a gwrthwynebiadau a wnaed gan y gwerthwr;
(c)swm y gosb;
(ch)sut y gellir talu;
(d)y cyfnod o 56 o ddiwrnodau y mae'n rhaid talu ynddo;
(dd)effaith paragraff 9 (disgownt am dalu'n gynnar);
(e)effaith paragraff 10 (cosb am dalu'n hwyr);
(f)hawliau i apelio; ac
(ff)canlyniadau peidio â thalu.
8.—(1) Rhaid talu cosb ariannol benodedig o fewn 56 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y cafwyd yr hysbysiad terfynol sy'n gosod y gosb.
Ond mae hyn yn ddarostyngedig i reoliad 21(4) (atal gofynion a hysbysiadau tra disgwylir apêl).
(2) Os bydd penderfyniad i osod cosb ariannol benodedig yn destun apêl, yna os caiff y penderfyniad hwnnw ei gadarnhau, rhaid i'r gwerthwr dalu'r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y dyfernir yr apêl.
9. Caiff gwerthwr ryddhau ei hun rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig drwy dalu 50% o swm y gosb o fewn 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y cafwyd yr hysbysiad terfynol sy'n ei gosod.
10. Os na thelir cosb ariannol benodedig o fewn y cyfnod a ganiateir yn unol â pharagraff 8 cynyddir swm y gosb gan 50%.
11.—(1) Caiff gwerthwr apelio yn erbyn penderfyniad gweinyddwr i osod cosb ariannol benodedig.
(2) Y seiliau ar gyfer apelio yw—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall, neu
(ch)unrhyw reswm arall.
Toriad yn y Rheoliadau | Swm y gosb y gellir ei gosod yn gosb ariannol benodedig | Symiau penodedig |
---|---|---|
Methiant i gydymffurfio â'r gofyniad i godi tâl yn unol â rheoliad 6 (rheoliad 11(1) a (2)) | £200 | £100 |
Methiant i gadw cofnodion yn unol â rheoliad 8 (rheoliad 11(1) a (2)) | £100 | £50 |
Methiant i ddal gafael ar gofnodion yn unol â rheoliad 8 (rheoliad 11(1) a (2)) | £100 | £50 |
Methiant i gyflenwi cofnodion yn unol â rheoliad 9 (rheoliad 11(1) a (2)) | £100 | £50 |
Methiant i gyhoeddi cofnodion yn unol â rheoliad 10 (rheoliad 11(1) a (2)) | £100 | £50 |
Rheoliad 12
1.—(1) Caiff gweinyddwr drwy hysbysiad osod un neu fwy o ofynion yn ôl disgresiwn ar werthwr sy'n torri'r Rheoliadau hyn(17).
(2) Caiff gweinyddwr arfer y pŵer a roddir gan is-baragraff (1) mewn perthynas ag achos os yw wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod y toriad yn y Rheoliadau wedi digwydd.
2. Uchafswm y gosb y caiff gweinyddwr ei gosod fel cosb ariannol amrywiadwy mewn perthynas ag unrhyw fath o doriad penodol yn y Rheoliadau yw'r swm a bennir yn ail golofn y tabl yn Rhan 2 drwy gyfeirio at y math o doriad yn y Rheoliadau sydd o dan sylw(18).
3.—(1) Pan fo gweinyddwr yn bwriadu gosod un neu fwy o ofynion yn ôl disgresiwn ar werthwr, rhaid i'r gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad i'r gwerthwr hwnnw(19).
(2) Rhaid i'r hysbysiad o fwriad—
(a)os yw'r gweinyddwr yn bwriadu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n un ariannol(20)—
(i)pennu'r camau y mae'r gweinyddwr yn bwriadu fydd yn ofynnol i'r gwerthwr eu cymryd;
(ii)pennu'r cyfnod o amser y mae'r gweinyddwr yn ei fwriadu i'r camau hynny gael eu cwblhau ynddo;
(b)os yw'r gweinyddwr yn bwriadu gosod cosb ariannol amrywiadwy, pennu swm y gosb a gynigir;
(c)cynnwys gwybodaeth o ran—
(i)y seiliau am y bwriad i osod un neu fwy o ofynion yn ôl disgresiwn;
(ii)yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau a roddir gan baragraff 4;
(iii)o dan ba amgylchiadau ni chaiff gweinyddwr osod un neu fwy o ofynion yn ôl disgresiwn;
(iv)y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y caniateir gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau ynddo;
(v)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, sut y gellir talu.
4. O fewn y 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'r gwerthwr yn cael yr hysbysiad o fwriad, caiff y gwerthwr wneud sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i'r gweinyddwr mewn perthynas â'r bwriad i osod un neu fwy o ofynion yn ôl disgresiwn.
5.—(1) Ar ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau o dan baragraff 4, rhaid i'r gweinyddwr benderfynu ai—
(a)gosod un neu ragor o ofynion yn ôl disgresiwn gydag addasiadau neu hebddynt; neu
(b)gosod unrhyw ofyniad arall yn ôl disgresiwn y mae gan y gweinyddwr y pŵer i'w osod o dan yr Atodlen hon.
(2) Wrth wneud penderfyniad o dan y paragraff hwn rhaid i weinyddwr ystyried unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau a wnaed gan y gwerthwr yn unol â pharagraff 4.
(3) Ni chaiff gweinyddwr benderfynu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn yn unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol—
(a)os gosodwyd eisoes ofyniad yn ôl disgresiwn mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith;
(b)os cafwyd eisoes ryddhad rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau drwy dalu swm penodedig;
(c)os gosodwyd cosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau.
(4) Ni chaiff gweinyddwr benderfynu o dan y paragraff hwn i osod cosb ariannol benodedig yn lle gofyniad yn ôl disgresiwn.
(5) Heb gyfyngu ar y pŵer o dan is-baragraff (1), caiff gweinyddwr benderfynu beidio â gosod gofyniad yn ôl disgresiwn os yw'r gweinyddwr o'r farn y byddai'n anfuddiol gwneud hynny o dan holl amgylchiadau'r achos.
(6) Pan fo'r gweinyddwr yn penderfynu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn, rhaid iddo wneud hynny drwy gyflwyno'r hysbysiad terfynol i'r gwerthwr(21).
(7) Rhaid i'r hysbysiad terfynol gydymffurfio â pharagraff 6.
6. Rhaid i'r hysbysiad terfynol gynnwys gwybodaeth o ran—
(a)y seiliau am osod un neu ragor o ofynion yn ôl disgresiwn;
(b)ymateb y gweinyddwr i unrhyw sylwadau a gwrthwynebiadau a wnaed gan y gwerthwr, gan gynnwys yr effaith (os oes un) ar swm y gosb ariannol amrywiadwy a osodwyd;
(c)os yw'r gofyniad yn ôl disgresiwn yn ofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n un ariannol—
(i)y camau y mae'n ofynnol i'r gwerthwr eu cymryd;
(ii)y cyfnod o amser y mae'n rhaid cwblhau'r camau hynny ynddo;
(ch)pan fo'r gofyniad yn ôl disgresiwn yn gosb ariannol amrywiadwy—
(i)swm y gosb;
(ii)sut y gellir talu;
(iii)o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid talu;
(iv)effaith paragraff 8 (disgownt am dalu'n gynnar);
(v)effaith paragraff 9 (cosb am dalu'n hwyr);
(d)hawliau i apelio; ac
(dd)y canlyniadau am fethu â chydymffurfio â'r hysbysiad.
7.—(1) Rhaid i'r gwerthwr dalu cosb ariannol amrywiadwy o fewn 56 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y cafwyd yr hysbysiad terfynol sy'n ei gosod.
Ond mae hyn yn ddarostyngedig i reoliad 21(4) (atal gofynion a hysbysiadau tra disgwylir apêl).
(2) Os bydd penderfyniad i osod cosb ariannol amrywiadwy yn destun apêl yna i'r graddau y caiff y penderfyniad hwnnw ei gadarnhau, rhaid i'r gwerthwr dalu'r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y dyfernir yr apêl.
8. Caiff gwerthwr ryddhau ei hun rhag atebolrwydd i gosb ariannol amrywiadwy drwy dalu 50% o swm y gosb o fewn 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y cafwyd yr hysbysiad terfynol sy'n ei gosod.
9. Os na thelir cosb ariannol amrywiadwy o fewn y cyfnod a ganiateir yn unol â pharagraff 7 cynyddir y swm sy'n daladwy gan 50%.
10.—(1) Caiff gwerthwr apelio yn erbyn penderfyniad gweinyddwr i osod gofyniad yn ôl disgresiwn.
(2) Y seiliau ar gyfer apelio yw—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)mewn achos o gosb ariannol amrywiadwy, bod swm y gosb yn afresymol;
(ch)mewn achos o ofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n un ariannol, bod natur y gofyniad yn afresymol;
(d)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;
(dd)unrhyw reswm arall.
Toriad yn y Rheoliadau | Yr uchafswm y caniateir ei osod fel cosb ariannol amrywiadwy |
---|---|
Methiant i gydymffurfio â'r gofyniad i godi tâl yn unol â rheoliad 6 (rheoliad 11(1) a (2)) | £5,000 |
Methiant i gadw cofnodion yn unol â rheoliad 8 (rheoliad 11(1) a (2)) | £5,000 |
Methiant i ddal gafael ar gofnodion yn unol â rheoliad 8 (rheoliad 11(1) a (2)) | £5,000 |
Methiant i gyflenwi cofnodion yn unol â rheoliad 9 (rheoliad 11(1) a (2)) | £5,000 |
Methiant i gyhoeddi cofnodion yn unol â rheoliad 10 (rheoliad 11(1) a (2)) | £5,000 |
Heb achos rhesymol, yn rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i weinyddwr (rheoliad 11(3)) | £20,000 |
Heb achos rhesymol, yn rhwystro gweinyddwr rhag cynnal ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu'n methu â rhoi cymorth iddo fel arall wrth iddo gynnal y swyddogaethau hynny (rheoliad 11(3)) | £20,000 |
Rheoliad 15
1.—(1) Yn yr Atodlen hon—
ystyr “camau penodedig” (“specified steps”) yw'r camau a bennir mewn hysbysiad terfynol o dan baragraff 6(c)(i) o Atodlen 3;
ystyr “cyfnod penodedig” (“specified period”) yw'r cyfnod a bennir mewn hysbysiad terfynol o dan baragraff 6(c)(ii) o Atodlen 3.
(2) Mae cyfeiriad yn yr Atodlen hon at fethiant llwyr yn gyfeiriad at werthwr na chymerodd ddim un o'r camau penodedig o fewn y cyfnod penodedig.
(3) Mae cyfeiriad yn yr Atodlen hon at fethiant rhannol yn gyfeiriad at werthwr a gymerodd o leiaf un o'r camau penodedig, ond nid y cyfan ohonynt, o fewn y cyfnod penodedig.
2.—(1) Os yw gwerthwr yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n un ariannol, caiff gweinyddwr drwy hysbysiad osod cosb am beidio â chydymffurfio ar y gwerthwr.
(2) Caniateir gosod cosb am beidio â chydymffurfio mewn perthynas â methiant llwyr neu rannol i gydymffurfio â gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n un ariannol.
(3) Caniateir gosod cosb am beidio â chydymffurfio p'un a osodwyd cosb ariannol amrywiadwy ai peidio yn ychwanegol at y gofyniad heb fod yn ôl disgresiwn y mae cosb am beidio â chydymffurfio yn berthnasol iddo.
(4) Mae swm y gosb am beidio â chydymffurfio i'w ddyfarnu gan y gweinyddwr.
(5) Ond uchafswm y gosb y caniateir ei gosod gan weinyddwr fel cosb am beidio â chydymffurfio yw'r swm a bennir yn is-baragraff (6) drwy gyfeirio at y math o fethiant o dan sylw.
(6) Uchafswm y cosbau yw—
(a)£5,000 mewn perthynas â methiant rhannol;
(b)£5,000 mewn perthynas â methiant llwyr.
3.—(1) Pan fo gweinyddwr yn bwriadu gosod cosb am beidio â chydymffurfio ar werthwr, rhaid i'r gweinyddwr gyflwyno i'r gwerthwr hwnnw hysbysiad o'r hyn y bwriedir ei wneud (“hysbysiad o fwriad”).
(2) Rhaid i hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth o ran—
(a)y math o fethiant y mae'r gweinyddwr yn bwriadu gosod y gosb am beidio â chydymffurfio mewn perthynas â hi;
(b)y camau penodedig sydd eto i'w cymryd gan y gwerthwr o dan sylw;
(c)swm y gosb a fwriedir;
(ch)sut y gellir talu;
(d)erbyn pa ddyddiad y byddai'r taliad yn ddyledus;
(dd)y canlyniadau am fethu â thalu erbyn y dyddiad y mae'n ddyledus;
(e)yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau a roddir gan baragraff 4;
(f)y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y ceir gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau ynddo;
(ff)o dan ba amgylchiadau (os oes rhai) y byddai'r gweinyddwr yn dueddol o leihau swm y gosb a fwriedir.
4. O fewn 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad y cafodd y gwerthwr yr hysbysiad o fwriad, caiff y gwerthwr wneud sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i'r gweinyddwr mewn perthynas â'r bwriad i osod cosb am beidio â chydymffurfio.
5.—(1) Ar ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau o dan baragraff 4, rhaid i'r gweinyddwr benderfynu ai gosod y gosb am beidio â chydymffurfio gydag addasiadau neu hebddynt ai peidio.
(2) Heb gyfyngu ar y pŵer o dan is-baragraff (1), caiff gweinyddwr benderfynu peidio â gosod cosb am beidio â chydymffurfio os yw'r gweinyddwr o'r farn y byddai'n anfuddiol gwneud hynny o dan holl amgylchiadau'r achos.
(3) Wrth wneud penderfyniad o dan y paragraff hwn rhaid i'r gweinyddwr ystyried unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau a wnaed gan y gwerthwr yn unol â pharagraff 4.
(4) Pan fo gweinyddwr yn penderfynu gosod cosb am beidio â chydymffurfio rhaid iddo wneud hynny drwy gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad o gosb am beidio â chydymffurfio”) i'r gwerthwr.
(5) Rhaid i hysbysiad o gosb am beidio â chydymffurfio gydymffurfio â pharagraff 6.
6.—(1) Rhaid i hysbysiad o gosb am beidio â chydymffurfio gynnwys gwybodaeth o ran—
(a)y seiliau am osod y gosb o beidio â chydymffurfio;
(b)ymateb y gweinyddwr i unrhyw sylwadau a gwrthwynebiadau a wnaed gan y gwerthwr, gan gynnwys yr effaith (os oes un) ar swm y gosb sy'n cael ei osod;
(c)swm y gosb;
(ch)sut y gellir talu;
(d)y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid talu;
(dd)yr hawl i apelio; a
(e)y canlyniadau am fethu â thalu erbyn y dyddiad y mae'n ddyledus.
(2) Rhaid i gosb am beidio â chydymffurfio gael ei thalu gan werthwr o fewn 56 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad y cafwyd yr hysbysiad sy'n ei gosod.
(3) Ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraff (4) a rheoliad 21(4) (atal gofynion a hysbysiadau tra disgwylir dyfarniad i apêl).
(4) Os cydymffurfir â gofynion y gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n un ariannol cyn bod y 56 o ddiwrnodau wedi dod i ben, nid yw'r gosb am beidio â chydymffurfio yn daladwy.
(5) Caiff gwerthwr y cyflwynwyd iddo hysbysiad o gosb am beidio â chydymffurfio apelio yn ei erbyn.
(6) Y seiliau ar gyfer apelio yw—
(a)bod y penderfyniad i gyflwyno'r hysbysiad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod swm y gosb yn afresymol;
(ch)bod y penderfyniad yn annheg neu'n afresymol am unrhyw reswm arall;
(d)unrhyw reswm arall.
7. Os bydd hysbysiad o gosb am beidio â chydymffurfio yn destun apêl, yna i'r graddau y caiff yr hysbysiad ei gadarnhau, rhaid i'r gwerthwr dalu'r gosb o fewn 28 gan ddechrau ar y diwrnod y caiff yr apêl ei dyfarnu.
8. Os na thelir cosb am beidio â chydymffurfio o fewn y cyfnod a ganiateir gan baragraff 6(2) neu (yn ôl y digwydd) gan baragraff 7, cynyddir y swm sy'n daladwy gan 50%.
1982 p.36; cafodd adran 11A ei mewnosod gan Ddeddf Diogelwch Awyrennol a Morol 1990 (p.31), Atodlen 1, paragraff 3; a'i diwygio gan O.S. 2010/902, rheoliadau 3 a 9(b).
O.S. 1972/1265 (G.I. 14), diwygiwyd gan 1978/1907 (G.I. 26); mae diwygiadau eraill ond nid oes unrhyw un yn berthnasol.
1978 p.29; mae diwygiadau i adran 27 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
1968 p.67; diwygiwyd adran 130 gan O.S. 1994/3119, rheoliad 2(b); ac O.S. 2005/50, rheoliad 25(1)(c) a (d); mae diwygiadau eraill ond nid ydynt yn berthnasol.
1984 p.24; amnewidiwyd adran 14 gan O.S. 2005/2011, erthyglau 2(1) a 6; ac a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/3101 rheoliadau 109 a 111.
Diwygiwyd adran 52 gan Ddeddf Iechyd 2006 (p.28); mae diwygiadau eraill ond nid ydynt yn berthnasol.
Diwygiwyd adran 55 gan O.S. 2004/1771, erthygl 3 a pharagraff 10(b) o'r Atodlen; gan O.S. 2006/2407, paragraffau 1 a 26 o Atodlen 8.
Mae diwygiadau i adran 58 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Diwygiwyd adran 104 gan O.S. 2004/1031, rheoliad 54 a pharagraff 17 o Atodlen 10; a chan O.S. 2006/2407, paragraffau 1 a 54 o Atodlen 8.
O.S. 1992/662; O.S. 2003/2624 (Cy.252), O.S. 2007/205 (Cy. 19) ac O.S. 2010/1647 (Cy.155) yw'r offerynnau diwygio perthnasol.
O.S. 2008/1692, mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
O.S. 1997/1830; O.S. 2003/696, O.S. 2004/1771, O.S. 2005/765, O.S. 2006/915 ac O.S. 2010/1621 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.
I gael ystyr “notice of intent” gweler paragraff 11(1)(a) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.
I gael ystyr “the final notice” gweler paragraff 11(1)(d) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.
I gael ystyr “discretionary requirement” gweler paragraff 12(3) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.
I gael ystyr “variable monetary penalty” gweler paragraff 12(4) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.
I gael ystyr “notice of intent” gweler paragraff 13(1)(a) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.
I gael ystyr “non-monetary discretionary requirement” gweler paragraff 12(4) o'r Ddeddf honno.
I gael ystyr “the final notice” gweler paragraff 13(1)(d) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: