- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Gwnaed
28 Mehefin 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Mehefin 2011
Yn dod i rym
1 Gorffennaf 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(2), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ac a freinir bellach ynddynt hwy(2).
I'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 a bennir uchod, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3).
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â diogelwch bwyd (gan gynnwys diod)(4).
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(5), ymgynghorwyd yn agored a thryloyw â'r cyhoedd wrth baratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
1990 p.16, amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 ac 48, yn eu trefn, gan baragraffau 12 ac 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S. 2004/2990 ac O.S. 2004/3279.
Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” (sef, o ran Cymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwladol a oedd yn eu trefn yn ymwneud ag iechyd yn Lloegr a bwyd ac iechyd yng Nghymru) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999 ac wedyn fe'u trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC mewn perthynas â'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: