- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Gwnaed
20 Tachwedd 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer pwerau a roddwyd gan adrannau 17(2) ac 18 o Fesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010(1).
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Cychwyn, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
(a)ystyr "y Mesur" ("the Measure") yw Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010;
(b)ystyr "y Gorchymyn Ardollau" ("the Levy Order") yw Gorchymyn Bwrdd Ardollau Cymru 2008(2)(2);
(c)ystyr "blwyddyn ariannol 2011/2012" ("2011/2012 financial year") yw 1 Ebrill 2011 hyd at 31 Mawrth 2012 gan gynnwys y dyddiadau hynny.
2. Yn ddarostyngedig i erthyglau 3 a 4, daw darpariaethau'r Mesur i rym i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym fel a ganlyn—
(1) adrannau 4(3) a 5(4) ar 28 Tachwedd 2011;
(2) gweddill yr adrannau ar 1 Ebrill 2012.
3.—(1) O ran y flwyddyn ariannol 2011/2012 mae rhwymedigaethau Bwrdd Ardollau Cymru o dan erthyglau 13(3)(b) (paratoi cyfrifon) a 13(4) (cyflwyno cyfrifon i Archwilydd Cyffredinol Cymru) o'r Gorchymyn Ardollau wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru.
(2) Cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru yw unrhyw faterion sy'n codi o'r cyfrifon sy'n gofyn am weithredu pellach.
4. O ran y cyfrifon a baratowyd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2011/2012, mae rhwymedigaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan erthygl 13(5) (archwilio, ardystio, adrodd ar gyfrifon a'u gosod) o'r Gorchymyn Ardollau yn parhau i fod yn effeithiol.
Alun Davies
Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
20 Tachwedd 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (mccc 3) ("y Mesur").
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn dwyn i rym erthyglau 4(3) a 5(4) ar 28 Tachwedd 2011. Mae gweddill darpariaethau'r Mesur, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, yn cael eu dwyn i rym ar 1 Ebrill 2012.
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau trosiannol am baratoi a chyflwyno cyfrifon Bwrdd Ardollau Cymru am y flwyddyn ariannol 1 Ebrill 2011 i 31 Mawrth 2012 ("blwyddyn ariannol 2011/2012") i Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru yw paratoi'r cyfrifon hynny ac unrhyw faterion sy'n codi ohonynt.
Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaeth arbed sy'n cadw rhwymedigaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru i archwilio, ardystio, ac adrodd ar gyfrifon Bwrdd Ardollau Cymru am y flwyddyn ariannol 2011/2012 ynghyd â'u gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: