- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Catrefi Symudol, Cymru
Gwnaed
10 Gorffennaf 2013
Yn dod i rym
10 Gorffennaf 2013
Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 2A o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983(1) ac adran 229(3) a (4) a 250(2) o Ddeddf Tai 2004(2) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy.
Yn unol ag adran 2A(5) o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r cyrff hynny sydd, yn eu tyb hwy, yn cynrychioli’r buddiannau yr effeithir yn sylweddol arnynt gan y Gorchymyn ac â phersonau eraill a oedd, yn eu tyb hwy, yn briodol.
Yn unol ag adran 2A(6) o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 ac adran 250(6) o Ddeddf Tai 2004 cafodd drafft o’r Gorchymyn hwn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad((3).
Yn unol â pharagraff 24 o Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007(4) mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd.
1983 p.34 . Mewnosodwyd adran 2A gan adran 208(1) o Ddeddf Tai 2004 (p.34). Mae pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 2A yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30(1) a (2)(c) o Atodlen 11 iddi.
2004 p. 34. Mae pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 229 a 250 yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) , a pharagraff 30(1) a (2)(c) o Atodlen 11 iddi. Gweler y diffiniad o “appropriate national authority” yn adran 261(1) o Ddeddf 2004.
Mae swyddogaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru o wneud Gorchymyn o dan adran 2A o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 a Gorchymyn o dan adran 229(3) o Ddeddf Tai 2004 yn sylweddol yr un fath â swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hynny. Yn rhinwedd paragraff 34(2) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae adran 2A(6) o Ddeddf 1983 ac adran 250(6) o Ddeddf 2004 yn gymwys i arfer, gan Weinidogion Cymru, eu swyddogaeth o wneud gorchymyn o dan adran 2A o Ddeddf 1983 ac adran 229(3) o Ddeddf 2004 fel pe bai unrhyw gyfeiriad at y naill neu’r llall o ddau Dŷ’r Senedd yn gyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: