Search Legislation

Gorchymyn Torfaen (Cymunedau) 2013

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 2156 (Cy. 211)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Torfaen (Cymunedau) 2013

Gwnaed

28 Awst 2013

Mae’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1), adroddiad dyddiedig Ionawr 2013 ar adolygiad a gynhaliwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen o’r ffiniau cymunedol yn Sir Torfaen, ynghyd â’r cynigion y mae’r Comisiwn wedi eu llunio ar y ffiniau cymunedol.

Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i’r cynigion hynny heb eu haddasu.

Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i’r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau hynny a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(2).

Enwi

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Torfaen (Cymunedau) 2013.

Cychwyn

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2),

(a)at bob diben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn yn weithredol ar y diwrnod ar ôl diwrnod ei wneud;

(b)at bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn yn weithredol ar 1 Ebrill 2014, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau.

(2Daw erthyglau 5, 6 a 10 yn weithredol—

(a)at ddiben trafodion sy’n rhagarweiniol i unrhyw etholiad i’w gynnal ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr ar ôl i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud, neu sy’n ymwneud ag etholiad o’r fath, ar 15 Hydref yn y flwyddyn cyn y diwrnod hwnnw;

(b)at bob diben arall, ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr a chynghorwyr cymuned ar ôl i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau ar gyfer erthyglau 5, 6 a 10.

Dehongli

3.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “newydd” (“new”), o ran ardal llywodraeth leol neu ardal etholiadol, yw’r ardal honno fel y’i sefydlir gan y Gorchymyn hwn;

ystyr “presennol” (“existing”), o ran ardal llywodraeth leol neu ardal etholiadol, yw’r ardal honno fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod penodedig;

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3);

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r saith map a farciwyd “Map Gorchymyn Torfaen (Cymunedau) 2013”, a labelwyd yn briodol 1 i 8 er mwyn cyfeirio atynt ac a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau;

mae unrhyw gyfeiriad at adran etholiadol yn gyfeiriad at adran etholiadol o Fwrdeistref Sirol Torfaen; ac

os dangosir ar fap fod ffin yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, caiff ei thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.

Newidiadau yn ardaloedd llywodraeth leol

4.  Mae newidiadau wedi eu gwneud yn ardal llywodraeth leol Bwrdeistref Sirol Torfaen yn unol â darpariaethau canlynol y Gorchymyn hwn.

Croesyceiliog a New Inn – Newidiadau i Ardaloedd Cymunedol a Newidiadau Canlyniadol i’r Trefniadau Etholiadol

5.—(1Mae’r rhannau o gymuned New Inn a ddangosir â chroeslinellau ar Fapiau 1 a 2—

(a)wedi eu trosglwyddo i gymuned Croesyceiliog;

(b)yn rhan o ward Gogledd Croesyceiliog yng nghymuned Croesyceiliog; ac

(c)yn rhan o adran etholiadol Gogledd Croesyceiliog.

(2Yng nghymuned Croesyceiliog, 5 yw nifer y cynghorwyr cymuned sydd i’w hethol ar gyfer ward Gogledd Croesyceiliog.

Llanyrafon – Newidiadau i Wardiau Cymunedol a Newidiadau Canlyniadol i’r Trefniadau Etholiadol

6.—(1Yng nghymuned Llanyrafon—

(a)mae wardiau cymunedol presennol Gogledd Llanyrafon a De Llanyrafon wedi eu diddymu;

(b)mae wardiau cymunedol newydd Dwyrain Llanyrafon a Gorllewin Llanyrafon wedi eu creu, a ddangosir ar Fap 3 fel yr ardaloedd wedi eu marcio “Ward Dwyrain Llanyrafon” a “Ward Gorllewin Llanyrafon” yn y drefn honno;

(c)mae adrannau etholiadol presennol Gogledd Llanyrafon a De Llanyrafon wedi eu diddymu;

(d)mae adran etholiadol newydd Gorllewin Llanyrafon wedi ei chreu, gan gynnwys ward gymunedol newydd Gorllewin Llanyrafon;

(e)mae adran etholiadol newydd Dwyrain Llanyrafon a Phonthir wedi ei chreu, gan gynnwys ward gymunedol newydd Dwyrain Llanyrafon a chymuned bresennol Ponthir;

(f)1 yw nifer y cynghorwyr cymuned sydd i’w hethol ar gyfer ward Dwyrain Llanyrafon a 3 yw’r nifer ar gyfer ward Gorllewin Llanyrafon; ac

(g)1 yw nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer adran etholiadol Dwyrain Llanyrafon a Phonthir ac 1 yw’r nifer ar gyfer adran etholiadol Gorllewin Llanyrafon.

Abersychan a Phen Transh – Newidiadau i Ardaloedd Cymunedol a Newidiadau Canlyniadol i’r Trefniadau Etholiadol

7.  Mae’r rhan o gymuned Abersychan a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 4—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Pen Transh;

(b)yn rhan o ward Snatchwood yng nghymuned Pen Transh; ac

(c)yn rhan o adran etholiadol Snatchwood.

Cwmbrân Uchaf a Phontnewydd – Newidiadau i Ardaloedd Cymunedol a Newidiadau Canlyniadol i’r Trefniadau Etholiadol

8.  Mae’r rhan o gymuned Cwmbrân Uchaf a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 5—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Pontnewydd;

(b)yn rhan o ward Mount Pleasant yng nghymuned Pontnewydd; ac

(c)yn rhan o adran etholiadol Pontnewydd.

Fairwater a Chwmbrân Canolog – Newidiadau i Ardaloedd Cymunedol a Newidiadau Canlyniadol i’r Trefniadau Etholiadol

9.  Mae’r rhan o gymuned Fairwater a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 6—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Cwmbrân Canolog;

(b)yn rhan o ward St Dials yng nghymuned Cwmbrân Canolog; ac

(c)yn rhan o adran etholiadol St Dials.

Fairwater a Chwmbrân Uchaf – Newidiadau i Ardaloedd Cymunedol a Newidiadau Canlyniadol i’r Trefniadau Etholiadol

10.—(1Mae’r rhan o gymuned Fairwater a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 7—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Cwmbrân Uchaf; a

(b)yn rhan o adran etholiadol Cwmbrân Uchaf.

(2Yng nghymuned Cwmbrân Uchaf, mae ward gymunedol newydd Thornhill wedi ei chreu, gan gynnwys yr ardal a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 8.

(3Yng nghymuned Cwmbrân Uchaf, 1 yw nifer y cynghorwyr cymuned sydd i’w hethol ar gyfer pob un o wardiau Dwyrain Cwmbrân Uchaf, Gorllewin Cwmbrân Uchaf a Thornhill.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru

28 Awst 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi effaith i gynigion y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (“y Comisiwn”), a hynny heb eu haddasu. Ym mis Ionawr 2013, cyflwynodd y Comisiwn adroddiad ar adolygiad a gynhaliwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen o ffiniau cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Torfaen. Yn yr adroddiad, argymhellwyd newidiadau i nifer o ffiniau presennol.

Effaith y Gorchymyn hwn yw bod newidiadau i nifer o ardaloedd cymunedol a rhai newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol cynghorau cymuned. Mae newidiadau wedi eu gwneud i ffiniau Abersychan, Croesyceiliog, Cwmbrân Canolog, Fairwater, New Inn, Pen Transh, Pontnewydd a Chwmbrân Uchaf. Mae wardiau cymunedol presennol Llanyrafon, sef Gogledd Llanyrafon a De Llanyrafon, wedi eu diddymu ac mae wardiau cymunedol newydd Dwyrain Llanyrafon a Gorllewin Llanyrafon wedi eu creu. Mae ward gymunedol newydd Thornhill wedi ei chreu. Mae newidiadau canlyniadol wedi eu gwneud i’r trefniadau etholiadol yn Sir Torfaen, gan gynnwys creu adrannau etholiadol newydd Dwyrain Llanyrafon a Phonthir, a Gorllewin Llanyrafon.

Mae printiau o fapiau 1 i 8 sy’n dangos y ffiniau ac y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo a gellir edrych arnynt yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, ac yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Llywodraeth Leol a Chymunedau).

(1)

1972 p.70; diwygiwyd adran 54(1) gan baragraff 7(1) o Atodlen 15 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19), paragraff 12 o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1992 (p.19) ac adran 40(2) o Ddeddf yr Heddlu a Llysoedd Ynadon 1994 (p.29); diwygiwyd adran 58(1) gan baragraff 11(1) o Atodlen 15 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19), ac adran 168(2) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (p.4).

(2)

Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac fe’u breiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

O.S. 1976/246 (fel y’i diwygiwyd gan amryfal offerynnau statudol nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources