- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Gwnaed
5 Chwefror 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Chwefror 2013
Yn dod i rym
28 Chwefror 2013
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2013.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004(3);
ystyr “y Rheoliadau Cofrestru” (“the Registration Regulations”) yw Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(4).
3.—(1) Mae'r prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), mewnosoder yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor—
“ystyr “cymhwyster gofynnol” (“required qualification”) yw cymhwyster sy'n gynwysedig mewn rhestr a gynhelir gan Weinidogion Cymru(5) at ddiben y Rheoliadau hyn;”.
(3) Yn rheoliad 8(3)(c) (ffitrwydd y darparydd cofrestredig), ar ôl “person” mewnosoder “ond dim ond os yw'r person hwnnw yn rheoli neu'n bwriadu rheoli'r asiantaeth y bydd y dogfennau a grybwyllir ym mharagraffau 6A a 6B o Atodlen 2 yn ofynnol”.
(4) Yn rheoliad 9 (penodi rheolwr)—
(a)ar ddiwedd paragraff (5), ar ôl y geiriau “Atodlen 2” mewnosoder “ac nad yw'r wybodaeth a grybwyllir ym mharagraffau 6A a 6B o Atodlen 2 yn ofynnol”.
(b)ar ôl paragraff (5), mewnosoder—
“(6) Os yw'r darparydd cofrestredig yn bwriadu rheoli'r asiantaeth, rhaid i'r unigolyn hwnnw—
(a)cydymffurfio â'r gofynion a bennir yn rheoliad 10 (ffitrwydd y rheolwr); a
(b)hysbysu swyddfa briodol Gweinidogion Cymru ar unwaith am y dyddiad y bydd rheolaeth o'r fath yn dechrau.”
(5) Yn rheoliad 10 (ffitrwydd y rheolwr)—
(a)ar ddechrau paragraff (2)(c) mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (7),”;
(b)ar ôl paragraff (2), mewnosoder y canlynol—
“(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae cyfeiriad at gymwysterau, medrau a phrofiad yn cynnwys gofyniad bod yn rhaid i'r person feddu ar gymhwyster gofynnol.
(4) Pan fo person, nad yw yn dal cymhwyster gofynnol, wedi cael ei benodi yn rheolwr ar asiantaeth cyn 28 Chwefror 2013 nid yw'r person hwnnw yn ffit i reoli asiantaeth oni bai ei fod yn cael cymhwyster gofynnol heb fod yn hwyrach na—
(a)31 Rhagfyr 2013; neu
(b)unrhyw ddyddiad hwyrach y bydd Gweinidogion Cymru yn cytuno sydd yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.
(5) Nid yw unrhyw beth ym mharagraffau (3) neu (4) yn effeithio ar unrhyw ofyniad i reolwr feddu ar gymwysterau neu fedrau eraill neu brofiad arall sy'n berthnasol i'r materion hynny a nodwyd ym mharagraff (2)(b).
(6) Nid yw person yn ffit i reoli asiantaeth oni fo wedi ei gofrestru fel rheolwr asiantaeth gyda Chyngor Gofal Cymru heb fod yn hwyrach na—
(a)31 Rhagfyr 2013; neu
(b)unrhyw ddyddiad hwyrach y bydd Gweinidogion Cymru yn cytuno sydd yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.
(7) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi cytuno ar estyniad amser o dan baragraffau (4)(b) neu (6)(b), mae'n rhaid bod yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraffau 6A a 6B o Atodlen 2 ar gael yn unol â thelerau'r cytundeb hwnnw.”
(6) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â darparwyr a rheolwyr cofrestredig asiantaeth a phersonau sydd wedi'u henwi i ddirprwyo ar gyfer person cofrestredig) ar ôl paragraff 6, mewnosoder—
“6A. Tystiolaeth ddogfennol am gymhwyster gofynnol.
6B. Tystiolaeth ddogfennol am gofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru.”
4.—(1) Mae'r Rheoliadau Cofrestru wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1 (yr wybodaeth sydd i'w darparu wrth wneud cais am gofrestriad fel person sy'n rhedeg sefydliad neu asiantaeth), yn Rhan 1 (gwybodaeth am y ceisydd)—
(a)ym mharagraff 1(ba), ar ôl “care home” mewnosoder “or the agency is a domiciliary care agency”;
(b)ym mharagraff 2(ca), ar ôl “care home” mewnosoder “or the agency is a domiciliary care agency”.
(3) Yn Atodlen 3 (yr wybodaeth a dogfennau sydd i'w darparu wrth wneud cais am gofrestriad fel rheolwr sefydliad neu asiantaeth), yn Rhan 1 (gwybodaeth), ar ôl paragraff 2B, mewnosoder—
“2C. Where the agency is a domiciliary care agency, details of the applicant’s registration with the Care Council for Wales.”
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
5 February 2013
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”) a wneir o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000.
Mae'r diwygiadau yn ei gwneud hi'n ofynnol bod rheolwyr asiantaethau gofal cartref yn meddu ar gymhwyster gofynnol a'u bod wedi eu cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru.
Mae rheoliad 4 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Yn ganlyniad i hyn, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o ran y costau a'r buddion tebygol o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Ceir copi oddi wrth: Is-adran Polisi a Strategaethau Gwasanaethau Cymdeithasol, Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
2000 p.14 (“y Ddeddf”). Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan yr “appropriate Minister”. Diffinir y term hwn yn adran 121(1) o'r Ddeddf mewn perthynas â Chymru, i olygu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y Ddeddf i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Gweler adran 121(1) o'r Ddeddf am ddiffiniadau o “prescribed” a “regulations”.
Gweler adran 22(9) o'r Ddeddf am y gofyniad i ymgynghori.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r awdurdod cofrestru at ddiben Deddf Safonau Gofal 2000 mewn perthynas â Chymru (gweler adran 5(1) o'r Ddeddf honno). Trosglwyddwyd y swyddogaeth hon i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: