Search Legislation

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014.

(2Maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 30 Ebrill 2015.

Diddymu adran 1(1) o Ddeddf Bridio Cŵn 1973

2.  Yn adran 1 o Ddeddf Bridio Cŵn 1973 (trwyddedu sefydliadau bridio cŵn), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A) Subsection (1) does not apply in relation to Wales.

Dehongli

3.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “amodau trwydded” (“licence conditions”) yw’r amodau hynny a bennir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn ac unrhyw amodau ychwanegol a osodir ynghlwm wrth drwydded gan yr awdurdod lleol;

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw unrhyw berson sydd ag awdurdod ysgrifenedig gan awdurdod lleol i weithredu mewn materion sy’n codi o dan, neu mewn cysylltiad â’r Ddeddf neu’r Rheoliadau hyn;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol lle y mae’r ceisydd am y drwydded o dan reoliad 7 yn cynnal y gweithgaredd o fridio cŵn yn ei ardal;

ystyr “ci bach” (“puppy”) yw ci sy’n iau na 6 mis oed;

ystyr “ci llawndwf” (“adult dog”) yw ci nad yw’n iau na 6 mis oed;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Lles Anifeiliaid 2006;

ystyr “gast fridio” (“breeding bitch”) yw gast heb ei hysbaddu, nad yw’n iau na 6 mis oed;

ystyr “gweinydd llawnamser” (“full time attendant”) yw person sy’n gweithio am o leiaf 37 awr yr wythnos, naill ai am dâl neu’n ddi-dâl, ym mangre deiliad y drwydded;

ystyr “gweinydd rhan-amser” (“part time attendant”) yw person sy’n gweithio rhwng 18.5 a 37 awr bob wythnos, naill ai am dâl neu’n ddi-dâl, ym mangre deiliad y drwydded;

ystyr “rhaglen gymdeithasoli” (“socialisation programme”) yw dogfen a gymeradwywyd mewn ysgrifen gan yr awdurdod lleol, sy’n manylu ar sut y gwneir i gŵn bach ymgynefino â chael eu trin gan bobl, amgylcheddau domestig a chwarae, a sut i’w paratoi ar gyfer eu gwahanu oddi wrth y fam;

ystyr “rhaglen gymdeithasoli ddrafft” (“draft socialisation programme”) yw dogfen sy’n manylu ar sut y gwneir i gŵn bach ymgynefino â chael eu trin gan bobl, amgylcheddau domestig a chwarae, a sut i’w paratoi ar gyfer eu gwahanu oddi wrth y fam, a gyflwynir gan y ceisydd i’r awdurdod lleol o dan reoliad 7;

ystyr “rhaglen wella a chyfoethogi” (“enhancement and enrichment programme”) yw dogfen a gymeradwywyd mewn ysgrifen gan yr awdurdod lleol, sy’n manylu ar y modd y rhoddir cyfleoedd i gŵn fynegi patrymau ymddygiad naturiol;

ystyr “rhaglen wella a chyfoethogi ddrafft” (“draft enhancement and enrichment programme”) yw dogfen sy’n manylu ar y modd y rhoddir cyfleoedd i gŵn fynegi patrymau ymddygiad naturiol, a gyflwynwyd gan y ceisydd i’r awdurdod lleol o dan reoliad 7;

ystyr “trwydded” (“licence”) yw trwydded a roddir o dan reolad 8.

RHAN 2Gofyniad i ddal trwydded

Trwyddedu bridwyr cŵn

4.  Mae bridio cŵn yn weithgaredd penodedig, at ddibenion adran 13(1) o’r Ddeddf.

Bridio cŵn: dehongli

5.—(1Mae person yn cynnal y gweithgaredd o fridio cŵn at ddibenion adran 13(1) o’r Ddeddf os yw’n cadw 3 neu ragor o eist bridio mewn mangre, ac—

(a)yn bridio, yn y fangre honno, 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;

(b)yn hysbysebu ar werth o’r fangre honno gi neu gŵn bach, a anwyd o 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach a roddwyd ar werth yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis;

(c)yn cyflenwi o’r fangre honno gi neu gŵn bach, a anwyd o 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis;

(d)yn hysbysebu busnes o fridio neu o werthu cŵn bach o’r fangre honno.

(2At ddibenion paragraff (1) rhagdybir bod unrhyw gi a ganfyddir mewn mangre yn cael ei gadw gan feddiannydd y fangre honno nes profir i’r gwrthwyneb.

(3At ddibenion paragraffau (1)(a) i (c) nid yw’n berthnasol a yw’r torllwythi o gŵn bach wedi eu bridio o’r geist bridio y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), ai peidio.

(4Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 6.

Bridio cŵn: eithrio

6.—(1Nid yw person yn cynnal y gweithgaredd o fridio cŵn at ddibenion adran 13(1) o’r Ddeddf os yw’r cŵn a grybwyllwyd yn rheoliad 5 yn cael eu bridio—

(a)i’w defnyddio mewn gweithdrefnau a reoleiddir, a

(b)mewn lle a bennir mewn trwydded adran 2C yn rhinwedd adran 2B(2)(b) o Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986.

(2Ym mharagraff (1) mae i “gweithdrefn a reoleiddir” a “trwydded adran 2C” yr ystyr a roddir i “regulated procedure” a “section 2C licence” gan adran 30 o Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986.

RHAN 3Trwyddedau

Cais am drwydded

7.—(1Er mwyn gwneud cais am drwydded o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i geisydd gyflwyno –

(a)cais ar ffurf ac mewn modd a gymeradwywyd gan yr awdurdod lleol;

(b)rhaglen wella a chyfoethogi ddrafft;

(c)rhaglen gymdeithasoli ddrafft;

(d)manylion am nifer y cŵn llawndwf a chŵn bach y rhagwelir a fydd yn bresennol yn y fangre ar unrhyw adeg; ac

(e)y dogfennau ategol hynny sy’n rhesymol ofynnol gan yr awdurdod.

(2Rhaid i’r ceisydd dalu unrhyw ffi briodol yn unol â rheoliad 12.

Rhoi neu adnewyddu trwyddedau

8.—(1Wrth gael cais sy’n cydymffurfio â rheoliad 7, rhaid i awdurdod lleol archwilio mangre’r ceisydd, ac os bydd wedi ei fodloni—

(a)bod amodau’r drwydded naill ai wedi eu bodloni neu y byddant yn cael eu bodloni;

(b)gyda’r rhaglen wella a chyfoethogi ddrafft;

(c)gyda’r rhaglen gymdeithasoli ddrafft; a

(d)gydag unrhyw faterion eraill y mae’r awdurdod lleol yn eu hystyried yn berthnasol;

caiff roi trwydded i’r ceisydd.

(2Ynghlwm wrth bob trwydded a roddir, rhaid i’r awdurdod lleol roi—

(a)yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn;

(b)amod sy’n pennu’r nifer uchaf o gŵn llawndwf a chŵn bach sydd i’w cadw o dan delerau’r drwydded; ac

(c)amod sy’n pennu cymhareb nifer y staff i nifer y cŵn llawndwf a fydd yn sicrhau, fel isafswm staffio—

(i)1 gweinydd llawnamser am bob 20 ci llawndwf a gedwir; neu

(ii)1 gweinydd rhan-amser am bob 10 ci llawndwf a gedwir.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (2) caiff yr awdurdod lleol hefyd atodi amodau pellach i drwydded fel y mae’n ei ystyried yn angenrheidiol.

(4Caiff yr awdurdod lleol roi neu adnewyddu trwydded am unrhyw gyfnod o hyd at 1 flwyddyn.

Ystyried ceisiadau am drwyddedau

9.—(1Wrth ystyried a ddylid rhoi neu adnewyddu trwydded, rhaid i’r awdurdod lleol fod wedi ei fodloni—

(a)bod y cŵn yn cael eu cadw bob amser mewn llety o wneuthuriad a maint priodol, gyda chyfleusterau ymarfer, tymheredd, goleuo, awyru a glanweithdra priodol;

(b)bod cyfleusterau esgor priodol ar gael;

(c)bod y cŵn yn cael cyflenwad addas o fwyd, diod a gwasarn; a

(d)bod y cŵn yn cael cyfleusterau digonol i’w galluogi i arddangos patrymau ymddygiad naturiol.

(2Cyn rhoi neu adnewyddu trwydded, bydd hawl gan awdurdod lleol, wrth ystyried a fydd amodau’r drwydded yn cael eu bodloni, i roi sylw i ymddygiad y ceisydd, neu i unrhyw amgylchiadau eraill a ystyrir yn berthnasol gan yr awdurdod lleol.

Pobl na chaniateir iddynt wneud cais am drwydded

10.  Ni chaiff neb wneud cais am drwydded os yw wedi ei anghymhwyso o dan—

(a)adran 33 o Ddeddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon) 2011(1);

(b)adran 34 o’r Ddeddf;

(c)adran 40(1) a (2) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid (Yr Alban) 2006(2);

(d)adran 33A o Orchymyn Cŵn (Gogledd Iwerddon) 1983(3);

(e)adran 3(3) o Ddeddf Bridio Cŵn 1973(4) rhag cadw sefydliad bridio;

(f)adran 4(3) o Ddeddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 rhag cadw sefydliad marchogaeth(5);

(g)adran 3(3) o Ddeddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963 rhag cadw sefydliad lletya(6);

(h)adran 1(1) o Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1954 rhag gwarchod anifail(7);

(i)adran 5(3) o Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951 rhag cadw siop anifeiliaid anwes(8); neu

(j)adran 6(2) o Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 rhag bod yn berchen anifail(9),

ac y mae unrhyw drwydded a ddyroddir i berson sydd wedi ei anghymhwyso felly yn annilys.

Marwolaeth deiliad trwydded

11.—(1Os bydd y deiliad trwydded yn marw, rhagdybir bod y drwydded honno wedi ei rhoi i gynrychiolwyr personol y deiliad trwydded, ar yr amod nad oes yr un o’r cynrychiolwyr personol yn ddarostyngedig i orchymyn anghymhwyso o dan unrhyw un o’r darpariaethau a bennir yn rheoliad 10, a bydd y drwydded yn parhau mewn grym am gyfnod o 3 mis, sy’n cychwyn gyda dyddiad y farwolaeth, ond yn parhau’n ddarostyngedig i’r darpariaethau yn Rhan 3.

(2Rhaid i’r cynrychiolwyr personol hysbysu’r awdurdod lleol a ddyroddodd y drwydded, fod y drwydded wedi ei breinio ynddynt hwy, o fewn 4 wythnos ar ôl marwolaeth y deiliad trwydded.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), caiff awdurdod lleol, ar gais y cynrychiolwyr personol hynny, estyn y cyfnod o 3 mis y cyfeirir ato ym mharagraff (1) os bodlonir yr awdurdod lleol fod yr estyniad yn angenrheidiol at y diben o ddirwyn i ben ystâd yr ymadawedig, ac nad oes amgylchiadau eraill sy’n peri y byddai’n annymunol caniatáu estyniad.

(4Cyn estyn trwydded y tu hwnt i 1 flwyddyn o’r dyddiad y’i cyflwynwyd, rhaid i awdurdod lleol archwilio mangre’r deiliad trwydded, ac ar ôl hynny archwilio’r fangre o leiaf unwaith y flwyddyn yn ystod cyfnod yr estyniad.

(5Ni chaniateir estyn unrhyw drwydded o dan baragraff (3) y tu hwnt i 3 blynedd o’r dyddiad y cyflwynwyd y drwydded.

Ffioedd

12.—(1Caiff awdurdod lleol godi’r cyfryw ffioedd a ystyria’n angenrheidiol—

(a)am ystyried cais am drwydded; ac

(b)am roi neu adnewyddu trwydded.

(2Ni chaiff y ffi a godir am ystyried cais am drwydded fod yn fwy na chostau rhesymol cyflawni’r ystyriaeth honno.

(3Ni chaiff y ffi a godir am roi neu adnewyddu trwydded fod yn fwy na swm y costau am roi neu adnewyddu a’r costau disgwyliedig rhesymol am fonitro cydymffurfiaeth y deiliad trwydded â’r Rheoliadau hyn ac amodau’r drwydded yn y dyfodol.

Canllawiau

13.  Rhaid i’r awdurdod lleol, wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

RHAN 4Atal Dros Dro, Amrywio a Dirymu Trwydded

Seiliau ar gyfer atal dros dro ac amrywio trwydded

14.  Caiff awdurdod lleol atal dros dro neu amrywio trwydded ar unrhyw adeg os bodlonir yr awdurdod lleol—

(a)nad yw’r materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 9(1)(a) i (d) wedi eu bodloni;

(b)na chydymffurfir ag amodau’r drwydded;

(c)y cyflawnwyd toriad o’r Rheoliadau hyn;

(d)bod gwybodaeth a gyflenwyd gan y deiliad trwydded yn ffug; neu

(e)bod atal dros dro neu amrywio’n angenrheidiol er mwyn diogelu lles ci.

Y weithdrefn ar gyfer atal dros dro ac amrywio

15.—(1Bydd atal dros dro neu amrywio trwydded o dan reoliad 14 yn cael effaith ar ddiwedd y cyfnod o 7 diwrnod sy’n cychwyn gyda diwrnod cyflwyno’r hysbysiad o’r ataliad dros dro neu’r amrywiad.

(2Os yw’n angenrheidiol er mwyn diogelu lles anifail, caiff yr awdurdod lleol bennu yn yr hysbysiad fod yr ataliad dros dro neu’r amrywiad i gael effaith ar unwaith.

(3Raid i hysbysiad o ataliad dros dro neu amrywiad—

(a)datgan seiliau’r awdurdod lleol dros atal dros dro neu amrywio;

(b)datgan pa bryd y daw’r ataliad dros dro neu’r amrywiad i rym;

(c)pennu pa gamau, ym marn yr awdurdod lleol, y mae’n angenrheidiol eu cymryd er mwyn ymateb i’r seiliau; a

(d)esbonio bod hawl gan y deiliad trwydded i wneud sylwadau ysgrifenedig o dan baragraff (4), rhoi iddo fanylion y person y dylid cyflwyno’r sylwadau hynny iddo, a datgan erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid eu cyflwyno.

(4Os nad yw’r hysbysiad i gael effaith ar unwaith, caiff y deiliad trwydded gyflwyno sylwadau ysgrifenedig yn gwrthwynebu’r hysbysiad, i’r awdurdod lleol o fewn cyfnod o 7 diwrnod sy’n cychwyn gyda dyddiad cyflwyno’r hysbysiad.

(5Os gwneir sylwadau o dan baragraff (4), ni fydd yr ataliad dros dro neu’r amrywiad yn cael effaith hyd nes bo’r awdurdod lleol wedi ystyried y sylwadau ac wedi penderfynu arnynt yn unol â pharagraff (6).

(6Rhaid i’r awdurdod lleol wneud penderfyniad ar y sylwadau, a hysbysu’r deiliad trwydded o’r penderfyniad hwnnw mewn ysgrifen, gan roi rhesymau, o fewn cyfnod o 7 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod y mae’r awdurdod yn cael y sylwadau hynny.

(7Os yw trwydded wedi ei atal dros dro am fwy na 28 niwrnod, rhaid i awdurdod lleol—

(a)adfer y drwydded honno a ataliwyd dros dro; neu

(b)dirymu’r drwydded honno a ataliwyd dros dro.

Adfer trwydded

16.—(1Rhaid i awdurdod lleol, drwy hysbysiad, adfer trwydded a ataliwyd dros dro, unwaith y’i bodlonir bod y seiliau a bennwyd yn yr hysbysiad o ataliad dros dro wedi eu datrys, neu y byddant yn cael eu datrys.

(2Wrth adfer trwydded o dan baragraff (1) ceir amrywio’r cyfnod y dyroddir y drwydded ar ei gyfer ond ni cheir estyn y drwydded y tu hwnt i 1 flwyddyn o’r dyddiad y cafodd ei hadfer.

Seiliau ar gyfer dirymu trwydded

17.—(1Caiff awdurdod lleol ddirymu trwydded os bodlonir yr awdurdod lleol—

(a)nad yw’r materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 9(1)(a) i (d) wedi eu bodloni;

(b)na chydymffurfir ag amodau’r drwydded;

(c)y cyflawnwyd toriad o’r Rheoliadau hyn;

(d)bod gwybodaeth a gyflenwyd gan y deiliad trwydded yn ffug; neu

(e)bod dirymu’n angenrheidiol er mwyn diogelu lles ci.

(2Os anghymhwysir deiliad trwydded o dan unrhyw un o’r deddfiadau yn rheoliad 10, dirymir trwydded y deiliad hwnnw yn awtomatig pan fo’r cyfnod o amser a ganiateir ar gyfer unrhyw apêl yn dod i ben, neu os gwneir apêl, pan wrthodir yr apêl honno.

Hysbysiad dirymu

18.  Rhaid i hysbysiad dirymu—

(a)datgan seiliau’r awdurdod lleol dros ddirymu;

(b)datgan pa bryd y daw’r dirymiad i rym; a

(c)nodi bod hawl i apelio i lys ynadon.

RHAN 5Apelau

Hawl i Apelio

19.—(1Caiff unrhyw berson a dramgwyddir oherwydd gwrthod rhoi neu adnewyddu trwydded, neu benderfyniad i ddirymu trwydded, apelio i lys ynadon.

(2Bydd y weithdrefn mewn apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) ar ffurf cwyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(10) yn gymwys i’r achos.

(3Y cyfnod a ganiateir ar gyfer dwyn apêl yw cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod sy’n dilyn y diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad.

RHAN 6Darpariaethau amrywiol

Pŵer i gymryd samplau

20.  Caiff arolygydd, at y diben o sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau’r Rheoliadau hyn, gymryd samplau o boer neu o flew unrhyw gi sydd mewn mangre a feddiannir gan y deiliad trwydded, ar gyfer cynnal profion DNA.

Dyletswydd i gynorthwyo gyda chymryd samplau

21.  Rhaid i’r deiliad trwydded gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol gan arolygydd, i hwyluso adnabod ac archwilio ci a chymryd samplau yn unol â rheoliad 20 ac, yn benodol, trefnu i gorlannu ci os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd.

Troseddau

22.—(1Cyflawnir trosedd os yw person, heb awdurdod cyfreithiol nac esgus, yn mynd yn groes i unrhyw amod trwyddedu.

(2Mae person sy’n euog o drosedd o dan y rheoliad hwn yn agored, ar gollfarn ddiannod, i gyfnod yn y carchar nad yw’n hwy na 6 mis, dirwy nad yw’n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu’r ddau.

Pwerau mynediad

23.  Rhaid trin toriad o amod trwydded fel trosedd berthnasol yn yr ystyr a roddir i “relevant offence” at ddibenion adran 23 o’r Ddeddf (mynd i mewn a chwilio o dan warant mewn cysylltiad â throseddau).

Pwerau sy’n dilyn collfarn

24.  Mae’r pwerau perthnasol sy’n dilyn collfarn, a gynhwysir yn adrannau 34 a 42 o’r Ddeddf, yn gymwys mewn perthynas â chollfarn am drosedd o dorri amod trwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn.

Darpariaethau trosiannol

25.  Bydd trwydded a roddwyd o dan Ddeddf Bridio Cŵn 1973 yn parhau i gael effaith fel pe bai’n drwydded a roddwyd o dan reoliad 5.

Diwygiadau canlyniadol

26.  Mae Atodlen 2 (diwygiadau canlyniadol) yn cael effaith.

Gorfodi

27.  Gorfodir y Rheoliadau hyn gan yr awdurdod lleol.

Rebecca Evans

Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru.

10 Rhagfyr 2014

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources