- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3. Mae angen oedolyn y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 2(1) yn bodloni’r meini prawf cymhwystra os yw—
(a)yr angen yn codi o afiechyd corfforol neu feddyliol yr oedolyn, ei oedran, ei anabledd, ei ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau, neu amgylchiadau tebyg eraill;
(b)yr angen yn ymwneud ag un neu fwy o’r canlynol—
(i)gallu i gyflawni arferion hunanofal neu arferion domestig;
(ii)gallu i gyfathrebu;
(iii)amddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod;
(iv)ymglymiad mewn gwaith, addysg, dysgu neu mewn gweithgareddau hamdden;
(v)cynnal neu ddatblygu perthnasoedd teuluol neu rai personol eraill o bwys;
(vi)datblygu a chynnal perthnasoedd cymdeithasol ac ymglymiad yn y gymuned; neu
(vii)cyflawni cyfrifoldebau gofalu am blentyn;
(c)yr angen yn un nad yw’r oedolyn yn gallu ei ddiwallu, naill ai—
(i)ar ei ben ei hun;
(ii)gyda gofal a chymorth(1) eraill sy’n fodlon darparu’r gofal a’r cymorth hwnnw; neu
(iii)gyda chymorth gwasanaethau yn y gymuned y mae gan yr oedolyn fynediad iddynt; a
(d)yr oedolyn yn annhebyg o sicrhau un neu fwy o’i ganlyniadau personol oni bai—
(i)bod yr awdurdod lleol yn darparu neu yn trefnu gofal a chymorth i ddiwallu’r angen; neu
(ii)bod yr awdurdod lleol yn galluogi’r angen i gael ei ddiwallu drwy wneud taliadau uniongyrchol(2).
Diffinnir “gofal a chymorth” yn rhannol yn adran 4 o’r Ddeddf.
Caiff rheoliadau o dan adrannau 50 i 53 o’r Ddeddf ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i berson tuag at y gost o ddiwallu ei anghenion. Cyfeirir at daliadau o’r fath yn y Ddeddf fel “taliadau uniongyrchol”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: