- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Mae angen plentyn y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 2(2) yn bodloni’r meini prawf cymhwystra os yw—
(a)naill ai—
(i)yr angen yn codi o afiechyd corfforol neu feddyliol y plentyn, ei oedran, ei anabledd, ei ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau, neu amgylchiadau tebyg eraill; neu fod
(ii)yr angen yn un sy’n debyg, os na chaiff ei ddiwallu, o gael effaith andwyol ar ddatblygiad y plentyn;
(b)yr angen yn ymwneud ag un neu fwy o’r canlynol—
(i)gallu i gyflawni arferion hunanofal neu arferion domestig;
(ii)gallu i gyfathrebu;
(iii)amddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod;
(iv)ymglymiad mewn gwaith, addysg, dysgu neu mewn gweithgareddau hamdden;
(v)cynnal neu ddatblygu perthnasoedd teuluol neu rai personol eraill o bwys;
(vi)datblygu a chynnal perthnasoedd cymdeithasol ac ymglymiad yn y gymuned; neu
(vii)cyflawni nodau datblygu;
(c)yr angen yn un nad yw’r plentyn, rhieni’r plentyn na phersonau eraill mewn rôl rhiant yn gallu ei ddiwallu, naill ai—
(i)ar eu pennau eu hunain neu gyda’i gilydd,
(ii)gyda gofal a chymorth eraill sy’n fodlon darparu’r gofal a’r cymorth hwnnw; neu
(iii)gyda chymorth gwasanaethau yn y gymuned y mae gan y plentyn, y rhieni neu bersonau eraill mewn rôl rhiant fynediad iddynt; a
(d)y plentyn yn annhebyg o sicrhau un neu fwy o’i ganlyniadau personol oni bai—
(i)bod yr awdurdod lleol yn darparu neu yn trefnu gofal a chymorth i ddiwallu’r angen; neu
(ii)bod yr awdurdod lleol yn galluogi’r angen i gael ei ddiwallu drwy wneud taliadau uniongyrchol.
(2) Yn y rheoliad hwn—
(i)mae cyfeiriadau at ddatblygiad plentyn yn cynnwys datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol y plentyn hwnnw;
(ii)mae “personau eraill mewn rôl rhiant” (“other persons in a parental role”) yn cynnwys personau sydd â chyfrifoldeb rhiant(1) neu berthnasau sy’n chwarae rôl o ran gofalu am y plentyn;
(iii)mae i “perthynas” (“relative”) yr ystyr a roddir yn adran 197 o’r Ddeddf.
Diffinnir “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989 (p. 41).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: