Search Legislation

Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 4) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1826 (Cy. 266) (C. 114)

Tai, Cymru

Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 4) 2015

Gwnaed

21 Hydref 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 145(3) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 4) 2015.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014.

Y diwrnod penodedig

2.  Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf ddod i rym i’r graddau nad ydyw’r darpariaethau hynny eisoes mewn grym yw 23 Tachwedd 2015—

(a)adran 1 (trosolwg o’r Rhan hon);

(b)adran 2 (ystyr y prif dermau);

(c)adran 3 (awdurdod trwyddedu);

(d)adran 14 (dyletswydd i gynnal cofrestr mewn perthynas ag eiddo ar rent) ac Atodlen 1 (cofrestr o dai rhent preifat);

(e)adran 15 (cofrestru gan awdurdod trwyddedu);

(f)adran 16 (dyletswydd i ddiweddaru gwybodaeth);

(g)adran 17 (dirymu cofrestriad);

(h)adran 18 (trwyddedau y caniateir eu rhoi);

(i)adran 19 (gofynion cais am drwydded);

(j)adran 20 (gofyniad person addas a phriodol);

(k)adran 21 (penderfynu ar gais);

(l)adran 22 (amodau trwydded);

(m)adran 23 (dyletswydd i ddiweddaru gwybodaeth);

(n)adran 24 (diwygio trwydded);

(o)adran 25 (dirymu trwydded);

(p)adran 26 (trwydded yn dod i ben neu yn cael ei hadnewyddu);

(q)adran 27 (apelau trwyddedu);

(r)adran 36 (ceisiadau am wybodaeth gan awdurdodau a defnyddio gwybodaeth gan awdurdodau);

(s)adran 37 (pŵer i’w gwneud yn ofynnol cyflwyno dogfennau neu ddarparu gwybodaeth);

(t)adran 38 (gorfodi pwerau cael gafael ar wybodaeth);

(u)adran 39 (gwybodaeth anwir neu gamarweiniol);

(v)adran 45 (landlordiaid sy’n ymddiriedolwyr);

(w)adran 47 (gwybodaeth am geisiadau);

(x)adran 48 (rhoi hysbysiad etc. o dan y Rhan hon); ac

(y)adran 49 (dehongli’r Rhan hon a mynegai o dermau wedi eu diffinio).

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

21 Hydref 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 23 Tachwedd 2015, ddarpariaethau penodol o Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”). Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn ymwneud â rheoleiddio tai rhent preifat. Mae Rhan 1 yn cynnwys gofyniad, sy’n ddarostyngedig i eithriadau, i landlordiaid anheddau a osodir, neu sydd i’w gosod, o dan denantiaethau domestig, gofrestru gyda’r awdurdod trwyddedu dynodedig. Yn yr un modd, mae’n ofynnol i asiantau landlordiaid a landlordiaid sy’n ymhél â gosod neu reoli anheddau o’r fath wneud cais i’r awdurdod trwyddedu am drwydded.

Bydd y darpariaethau sy’n dod i rym ar 23 Tachwedd 2015 yn caniatáu i landlordiaid fod wedi eu cofrestru ar ôl cyflwyno’r wybodaeth angenrheidiol i’r awdurdod trwyddedu, ac yn caniatáu i landlordiaid ac asiantau fel ei gilydd wneud ceisiadau am drwyddedau i’r awdurdod trwyddedu. O ran trwyddedau, bydd unrhyw apêl gysylltiedig yn erbyn penderfyniad yr awdurdod trwyddedu yn apêl i dribiwnlys eiddo preswyl. Bydd gan yr awdurdod trwyddedu’r pwerau i brosesu gwybodaeth a gyflwynir, i gofrestru landlordiaid ac i benderfynu ceisiadau am drwyddedau. Mae darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i’r awdurdod trwyddedu yn drosedd.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf wedi eu dwyn i rym yn llawn (oni nodir fel arall) drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

DarpariaethDyddiad cychwynRhif O.S.
Adrannau 2 i 3 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adrannau 5 i 8 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 10 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 12 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adrannau 14 i 16 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adrannau 19 i 21 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 23 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 29 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 34 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adrannau 40 i 42 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 46 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 49 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 50 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 50 (at y dibenion sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adrannau 51 i 5627 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 57 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 57 (at y dibenion sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 5827 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 59 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 59 (at y dibenion sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adrannau 60 i 6327 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 64 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 64 (at y dibenion sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adrannau 65 i 7127 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 72 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 72 (at y dibenion sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adrannau 73 i 7427 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 75(1), (2) a (4)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adrannau 76 i 7727 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 78 (at ddiben gwneud Gorchmynion, Rheoliadau a Chyfarwyddydau)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 78(2)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 7927 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 80 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 80 (at y dibenion sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 81 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 81 (at y dibenion sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adrannau 82 i 8527 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 86 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 86 (at y dibenion sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adrannau 87 i 9427 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 95 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 95 (at bob diben sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adrannau 96 i 9727 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 98 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 98 (at y dibenion sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 99 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 99 (at y dibenion sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 10027 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adrannau 101 i 10225 Chwefror 20152015/380 (Cy. 39)
Adran 10525 Chwefror 20152015/380 (Cy. 39)
Adran 106 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 106 (at y dibenion sy’n weddill)25 Chwefror 20152015/380 (Cy. 39)
Adrannau 107 i 11025 Chwefror 20152015/380 (Cy. 39)
Adrannau 111 i 1281 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 130 a Rhan 3 o Atodlen 31 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 131(4)(c)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 1371 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 1401 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 141 a Rhan 5 o Atodlen 31 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 1441 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Atodlen 2 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Atodlen 2 (at y dibenion sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Rhan 1 o Atodlen 327 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Rhan 2 o Atodlen 325 Chwefror 20152015/380 (Cy. 39)

Gweler hefyd adran 145(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ac adran 145(2) ar gyfer y darpariaethau hynny a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources