- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
18 Tachwedd 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddynt gan adran 40(7) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cod Ymarfer Landlordiaid ac Asiantau sydd wedi’u trwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (Dyddiad Penodedig) 2015.
2. Y dyddiad penodedig ar gyfer dwyn i rym God Ymarfer Landlordiaid ac Asiantau sydd wedi’u trwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (y cymeradwywyd drafft ohono drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Tachwedd 2015) yw 23 Tachwedd 2015.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
18 Tachwedd 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae adran 40(1) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod ymarfer yn pennu safonau sy’n ymwneud â gosod a rheoli eiddo ar rent. Unwaith y mae wedi ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) o dan adran 40(6) o Ddeddf 2014, mae’r cod yn dod i rym ar ddyddiad a bennir drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru.
Mae Cod Ymarfer Landlordiaid ac Asiantau sydd wedi’u trwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Cod”) wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad y Cynulliad ar 3 Tachwedd. Mae’r Gorchymyn hwn yn penodi 23 Tachwedd 2015 fel y dyddiad y daw’r Cod a ddyroddir i rym.
Mae’r Cod yn cynnwys gofynion ac argymhellion mewn perthynas â safonau ar gyfer gosod a rheoli eiddo ar rent. Mae’r Cod yn cynnwys gofynion sy’n rhwymedigaethau statudol presennol. Rhaid i landlordiaid ac asiantau sy’n drwyddedig gydymffurfio â’r gofynion hyn, fel arall mae perygl y caiff eu trwyddedau eu dirymu. Mae’r Cod hefyd yn cynnwys argymhellion ynghylch arferion gorau ond ni fydd peidio â chydymffurfio â’r argymhellion hyn yn arwain at drwyddedau yn cael eu dirymu. Mae’r Awdurdod Trwyddedu (fel y’i dynodir o dan adran 3 o’r Ddeddf) yn gyfrifol am bob penderfyniad mewn perthynas â chofrestru a thrwyddedu landlordiaid ac asiantau gan gynnwys dirymu trwyddedau.
Mae adran 2 o’r Cod yn nodi’r gofynion y mae’n rhaid i landlordiaid neu asiantau gydymffurfio â hwy cyn i eiddo gael ei osod. Mae’r rhain yn cynnwys gofynion mewn perthynas â phenodi asiant, ac wrth farchnata neu hysbysebu eiddo.
Mae adran 3 o’r Cod yn ymwneud â’r gofynion wrth sefydlu tenantiaeth, gan gynnwys tystlythyrau a gwiriadau i’w gwneud, dogfennaeth atodol i’w darparu a gofynion ynghylch cytundebau tenantiaeth a blaendaliadau.
Mae adran 4 o’r Cod hefyd yn esbonio’r hyn sy’n ofynnol ar ddechrau’r denantiaeth ac wedyn dros gyfnod y denantiaeth. Mae hyn yn cynnwys gofynion mewn perthynas â chyflwr yr eiddo, casglu rhent a darparu manylion cyswllt.
Mae adran 5 o’r Cod yn ymwneud â therfynu tenantiaeth, pa un ai gan y tenantiaid, y landlordiaid neu’r asiantau.
Gellir cael copi electronig o’r Cod oddi ar wefan Llywodraeth Cymru, a gellir cael copi caled oddi wrth: Yr Adran Dai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: