Search Legislation

Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 9

ATODLEN 1Y swyddogaethau sydd i’w cyflawni gan drefniadau partneriaeth

Tabl 1

Swyddogaethau awdurdodau lleol

Y swyddogaeth

1.  Swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol sydd wedi eu cynnwys yn Atodlen 2 i’r Ddeddf, ac eithrio—

(a)y swyddogaethau yn Rhan 5 o’r Ddeddf (codi ffioedd),

(b)adran 144 o’r Ddeddf (cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol),

(c)adrannau 1 a 2 o Ddeddf Mabwysiadu 1976(1),

(d)adrannau 114 a 115 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(2),

(e)Rhannau VII i X ac adran 86 o Ddeddf Plant 1989

2.  Swyddogaethau o dan adran 7 o Ddeddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986(3)

3.  Swyddogaethau darparu cyfleusterau hamdden, neu sicrhau’r ddarpariaeth o gyfleusterau hamdden, o dan adran 19 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976(4)

4.  Swyddogaethau awdurdodau tai lleol o dan Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996(5); ac o dan Ran VI o Ddeddf Tai 1996(6) a Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014(7)

5.  Swyddogaethau awdurdodau lleol o dan adran 126 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996

6.  Swyddogaethau casglu gwastraff neu waredu gwastraff o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(8)

7.  Swyddogaethau darparu gwasanaethau iechyd yr amgylchedd o dan adrannau 180 a 181 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(9)

8.  Swyddogaethau awdurdodau priffyrdd lleol o dan Ddeddf Priffyrdd 1980(10) ac adran 39 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988(11)

9.  Swyddogaethau o dan adran 63 (trafnidiaeth teithwyr) ac adran 93 (cynlluniau consesiynau teithio) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985(12)

Tabl 2

Swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol

Y swyddogaeth
Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal)
Adran 82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(13) (cydweithredu rhwng cyrff GIG ac awdurdodau lleol)
Adran 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (dyletswydd i hyrwyddo gwasanaeth iechyd)
Adrannau 2 a 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (pwerau i ddarparu gwasanaethau iechyd), gan gynnwys gwasanaethau adsefydlu a gwasanaethau sydd â’r bwriad o osgoi derbyn pobl i’r ysbyty ond gan eithrio llawdriniaethau, radiotherapi, terfynu beichiogrwydd, endosgopi, defnyddio triniaethau laser Dosbarth 4 a thriniaethau mewnwthiol eraill a gwasanaethau ambiwlans brys
Adran 10(1), (2), (3), (4) a (5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (trefniadau gyda chyrff eraill)
Adran 38(6) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (dyletswydd i roi ar gael wasanaethau a ddarperir gan berson a gyflogir yn y gwasanaeth iechyd er mwyn galluogi awdurdodau lleol i gyflawni swyddogaethau)

Rheoliad 15

ATODLEN 2Swyddogaethau cymorth i deuluoedd

Tabl 1

Swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas â phlant

Y swyddogaethRhychwant
Rhannau 3 a 4 o’r Ddeddf (asesu a diwallu anghenion am ofal a chymorth)I’r graddau y maent yn ymwneud â diwallu anghenion plant sydd wedi cael eu hasesu o dan adran 21 o’r Ddeddf fel rhai sydd ag anghenion am ofal a chymorth ac ar gyfer eu teuluoedd.
Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal)

Tabl 2

Swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas ag oedolion

Y swyddogaethRhychwant
Rhannau 3 a 4 o’r Ddeddf (asesu a diwallu anghenion am ofal a chymorth)I’r graddau y maent yn ymwneud â diwallu anghenion personau sydd dros 18 oed ac sydd wedi cael eu hasesu o dan adran 19 o’r Ddeddf fel rhai sydd ag anghenion am ofal a chymorth oherwydd eu bod yn ddibynnol ar alcohol neu ar gyffuriau, neu oherwydd eu bod yn ddioddefwyr trais domestig neu gam-drin domestig, oherwydd bod ganddynt hanes o ymddwyn yn dreisgar neu’n gamdriniol neu oherwydd bod ganddynt anhwylder meddwl.
Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal)

Tabl 3

Swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol mewn perthynas â phlant

Y swyddogaethRhychwant
Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal)I’r graddau y maent yn ymwneud â’r ddarpariaeth o wasanaethau neu gyfleusterau iechyd i blant, neu driniaeth i blant, sydd wedi cael eu hasesu o dan adran 21 o’r Ddeddf fel rhai sydd ag anghenion am ofal a chymorth, gan gynnwys asesu’r angen am wasanaethau neu gyfleusterau o’r fath.
Adran 82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (cydweithredu rhwng cyrff GIG ac awdurdodau lleol)
Adran 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (dyletswydd i hyrwyddo gwasanaeth iechyd)
Adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (pwerau cyffredinol)
Adran 3(1)(c),(d), (e) ac (f) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (darparu gwasanaethau penodol)
Adran 10(1), (2), (3), (4) a (5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (trefniadau gyda chyrff eraill)
Adran 38(6) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (dyletswydd i roi ar gael wasanaethau a ddarperir gan berson a gyflogir yn y gwasanaeth iechyd er mwyn galluogi awdurdodau lleol i gyflawni swyddogaethau)

Tabl 4

Swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol mewn perthynas ag oedolion

Y swyddogaethRhychwant
Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal)I’r graddau y maent yn ymwneud â’r ddarpariaeth o wasanaethau neu gyfleusterau iechyd i bobl, neu driniaeth i bobl, sy’n ddibynnol ar alcohol neu ar gyffuriau, neu sy’n ddioddefwyr trais domestig neu gam-drin domestig, sydd â hanes o ymddwyn yn dreisgar neu’n gamdriniol neu sydd ag anhwylder meddwl, i gynnwys asesu’r angen am wasanaethau neu driniaeth o’r fath.
Adran 82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (cydweithredu rhwng cyrff GIG ac awdurdodau lleol)
Adran 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (dyletswydd i hyrwyddo gwasanaeth iechyd)
Adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (pwerau cyffredinol)
Adran 3(1)(c),(d), (e) ac (f) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (darparu gwasanaethau penodol)
Adran 10(1), (2), (3), (4) a (5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (trefniadau gyda chyrff eraill)
Adran 38(6) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (dyletswydd i roi ar gael wasanaethau a ddarperir gan berson a gyflogir yn y gwasanaeth iechyd er mwyn galluogi awdurdodau lleol i gyflawni swyddogaethau)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: