Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

PENNOD 1Dehongli

Ystyr “partner sy’n goroesi”

85.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person yn bartner sy’n goroesi mewn perthynas ag aelod os yw’r person hwnnw, ar ddyddiad marwolaeth yr aelod—

(a)yn briod â’r aelod neu’n bartner sifil i’r aelod;

(b)yn cyd-fyw â’r aelod ac—

(i)nad yw’n briod â’r aelod hwnnw nac mewn partneriaeth sifil â’r aelod hwnnw,

(ii)nad yw’n briod ag unrhyw berson arall nac yn bartner sifil i unrhyw berson arall,

(iii)gallai ymuno mewn priodas neu bartneriaeth sifil â’r aelod o dan gyfraith Cymru a Lloegr ond nad yw wedi gwneud hynny,

(iv)yn ddibynnol yn ariannol ar yr aelod o’r cynllun, neu mewn cyflwr o gyd-ddibyniaeth ariannol gilyddol â’r aelod o’r cynllun, a

(v)mewn perthynas hirdymor â’r aelod o’r cynllun.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “perthynas hirdymor” (“long-term relationship”) yw perthynas sydd wedi parhau am gyfnod o ddwy flynedd o leiaf, sy’n diweddu ar y dyddiad y digwydd i fater statws y person mewn perthynas â’r aelod gael ei ystyried, neu pa bynnag gyfnod byrrach a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun mewn unrhyw achos priodol.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “partner sy’n cyd-fyw” (“cohabiting partner”) yw person sy’n bodloni’r gofynion ym mharagraff (1)(b).

Ystyr “cyfnod dechreuol”

86.  At ddibenion y Rhan hon, ystyr “cyfnod dechreuol” (“initial period”) yw’r cyfnod o 13 wythnos sy’n cychwyn ar y diwrnod ar ôl marwolaeth yr aelod, pan ganiateir i bensiwn profedigaeth fod yn daladwy i unrhyw bartner sy’n goroesi neu i blentyn cymwys.