Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

PENNOD 2Pensiynau ar gyfer partneriaid sy’n goroesi

Pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod actif

87.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phartner sy’n goroesi aelod a fu farw, os oedd yr aelod, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod actif gyda mwy na thri mis o wasanaeth cymwys.

(2Mae hawl gan bartner sy’n goroesi, ac y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, i gael pensiwn partner sy’n goroesi.

(3Yn ddarostyngedig i reoliad 91 (lleihau pensiynau mewn achosion o wahaniaeth oedran eang), cyfradd flynyddol pensiwn y partner sy’n goroesi yw swm sy’n hafal i hanner y pensiwn y byddai hawl gan yr aelod i’w gael pe bai’r aelod wedi ymddeol ar sail afiechyd gyda dyfarniad o bensiwn afiechyd haen uchaf ar ddyddiad marwolaeth yr aelod.

Pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod gohiriedig

88.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phartner sy’n goroesi aelod a oedd, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod gohiriedig.

(2Mae hawl gan bartner sy’n goroesi, ac y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, i gael pensiwn partner sy’n goroesi.

(3Yn ddarostyngedig i reoliad 91 (lleihau pensiynau mewn achosion o wahaniaeth oedran eang), cyfradd flynyddol pensiwn y partner sy’n goroesi yw swm sy’n hafal i hanner y swm dros dro o bensiwn gohiriedig a bennir yng nghyfrif yr aelod gohiriedig a swm y pensiwn ychwanegol (os oes un) a bennir yn y cyfrif pensiwn ychwanegol.

Pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod-bensiynwr

89.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phartner sy’n goroesi aelod (P) a oedd, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod-bensiynwr.

(2Mae hawl gan bartner sy’n goroesi, ac y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, i gael pensiwn partner sy’n goroesi.

(3Yn ddarostyngedig i reoliad 91 (lleihau pensiynau mewn achosion o wahaniaeth oedran eang), cyfradd flynyddol pensiwn y partner sy’n goroesi yw swm sy’n hafal i hanner swm y gyfradd flynyddol o bensiwn ymddeol a oedd yn daladwy i P yn union cyn ei farwolaeth.

(4Os oedd gostyngiad talu’n gynnar wedi ei wneud ar ymddeoliad P, y swm ym mharagraff (2) yw hanner y swm o bensiwn ymddeol a fyddai wedi bod yn daladwy i P pe na bai’r gostyngiad hwnnw wedi ei wneud.

Pensiwn profedigaeth: partner sy’n goroesi

90.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae hawl gan bartner sy’n goroesi aelod actif, neu aelod-bensiynwr, i gael pensiwn profedigaeth am y cyfnod dechreuol.

(2Nid oes hawl gan bartner sy’n goroesi aelod actif i gael pensiwn profedigaeth os nad oedd gan yr aelod actif dri mis o leiaf o wasanaeth cymwys.

(3Os oedd yr aelod yn aelod actif ar ddyddiad ei farwolaeth, mae swm wythnosol y pensiwn profedigaeth sy’n daladwy o dan baragraff (1) yn hafal i’r gwahaniaeth rhwng swm wythnosol y tâl pensiynadwy a delid i’r aelod ar ddyddiad ei farwolaeth neu, os trinnid yr aelod fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig, y swm wythnosol o dâl pensiynadwy tybiedig, a swm wythnosol pensiwn y partner sy’n goroesi.

(4Os oedd yr aelod yn aelod-bensiynwr ar ddyddiad ei farwolaeth, mae swm wythnosol y pensiwn profedigaeth sy’n daladwy o dan baragraff (1) yn hafal i’r gwahaniaeth rhwng swm wythnosol y pensiwn yr oedd hawl gan yr aelod i’w gael ar ddyddiad ei farwolaeth, a swm wythnosol pensiwn y partner sy’n goroesi.

Lleihau pensiynau mewn achosion o wahaniaeth oedran eang

91.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os yw pensiwn partner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod o’r cynllun hwn, yn daladwy i berson sydd dros 12 mlynedd yn iau na’r aelod.

(2Gostyngir cyfradd flynyddol y pensiwn hwnnw gan y lleiaf o’r canlynol—

(a)50% o swm cyfradd flynyddol y pensiwn a gyfrifwyd felly; neu

(b) o’r swm hwnnw,

lle mae N yn dynodi’r nifer o flynyddoedd cyfan y mae’r partner sy’n goroesi yn iau na’r aelod.

Lleiafswm pensiwn gwarantedig goroeswr

92.—(1Os oes gan berson sy’n briod neu’n bartner sifil sy’n goroesi aelod actif, aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr ymadawedig, leiafswm gwarantedig o dan adran 17(1) o DCauP 1993 mewn perthynas â buddion mewn cysylltiad â’r aelod ymadawedig o dan y cynllun hwn—

(a)nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n caniatáu, nac yn ei gwneud yn ofynnol, unrhyw beth a fyddai’n peri i ofynion a wnaed gan, neu o dan, y Ddeddf honno mewn perthynas â pherson o’r fath, a hawliau person o’r fath o dan gynllun, beidio â chael eu bodloni yn achos y person;

(b)nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n rhwystro unrhyw beth rhag cael ei wneud, sy’n angenrheidiol neu’n hwylus at y diben o fodloni gofynion o’r fath yn achos y person.

(2Nid yw paragraffau (3) a (4) yn lleihau dim ar gyffredinolrwydd paragraff (1).

(3Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan, ac eithrio o ganlyniad i’r rheoliad hwn—

(a)na fyddai pensiwn yn daladwy i’r partner sy’n goroesi o dan y Rhan hon; neu

(b)byddai cyfradd wythnosol y pensiynau sy’n daladwy yn llai na’r lleiafswm gwarantedig.

(4Os yw paragraff (3) yn gymwys—

(a)mae pensiwn sydd â’i gyfradd wythnosol yn hafal i’r lleiafswm gwarantedig yn daladwy am ei oes i’r partner sy’n goroesi neu, yn ôl fel y digwydd, bydd pensiynau sydd â’u cyfradd wythnosol gyfanredol yn hafal i’r lleiafswm gwarantedig yn daladwy felly; neu

(b)os yw paragraff (3)(b) yn gymwys, cynyddir y pensiynau sy’n daladwy i’r swm a bennir yn is-baragraff (a).

(5Nid yw paragraff (4) yn gymwys i bensiwn—

(a)sydd wedi ei fforffedu—

(i)o ganlyniad i gollfarn am frad, neu

(ii)mewn achos pan fo’r drosedd berthnasol o dan reoliad 181 (fforffedu: troseddau a gyflawnir gan aelodau, partneriaid sy’n goroesi neu blant cymwys) yn dod o fewn paragraff (b) o’r diffiniad, yn y rheoliad hwnnw, o “trosedd berthnasol” (troseddau o dan y Deddfau Cyfrinachau Swyddogol); neu

(b)pan fo’r pensiwn hwnnw wedi ei gymudo o dan reoliad 177 (cymudo pensiynau bach), a’r amodau yn rheoliad 60 o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Contractio Allan) 1996(2) wedi eu bodloni.

(2)

O.S. 1996/1172. Amnewidiwyd rheoliad 60 gan O.S. 2006/744 ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2006/1337, 2009/2930 a 2010/499.