Search Legislation

Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

PENNOD 4Cyfandaliadau o fuddion marwolaeth

Ystyr “tâl terfynol”

102.—(1Yn y Bennod hon, ystyr “tâl terfynol” (“final pay”) yw’r mwyaf o’r canlynol—

(a)swm tâl pensiynadwy yr aelod yn ystod y cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr aelod yn y cyfnod o 365 diwrnod sy’n diweddu gyda’r diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy; a

(b)swm tâl pensiynadwy yr aelod yn ystod y cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr aelod yn y cyfnod o dair blynedd sy’n diweddu gyda’r diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy, wedi ei rannu gyda thri.

(2Os oedd y cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr aelod yn llai na 365 diwrnod, y swm ym mharagraff (1)(a) yw swm sy’n hafal i dâl blynyddol terfynol yr aelod;

(3At y diben o benderfynu pa un o’r symiau a grybwyllir ym mharagraff (1) yw’r mwyaf—

(a)os oedd y cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr aelod yn llai na thair blynedd, y swm ym mharagraff (1)(b) yw cyfanswm y tâl pensiynadwy a gafodd am y gwasanaeth hwnnw wedi ei rannu gyda nifer y blynyddoedd mewn gwasanaeth pensiynadwy, a gyfrifir yn unol â rheoliad 192 (cyfrifo cyfnodau o aelodaeth a gwasanaeth); a

(b)os trinnir aelod fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig ar gyfer unrhyw gyfnod a gynhwysir ym mharagraff (1)(a) neu (1)(b), mae tâl pensiynadwy yn y rheoliad hwn yn cynnwys y tâl pensiynadwy tybiedig hwnnw.

(4Ond os yw’r cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yn cynnwys y diwrnod 29 Chwefror, mae paragraffau (1)(a) a (2) yn cael effaith fel pe rhoddid “366” yn lle “365”.

Ystyr “tâl blynyddol terfynol”

103.—(1At ddibenion y Bennod hon, tâl blynyddol terfynol aelod yw TT x 365/N, lle—

(a)TT yw tâl pensiynadwy yr aelod yn ystod cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr aelod; a

(b)N yw nifer y diwrnodau yn y cyfnod hwnnw.

(2Ond os yw’r cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yn cynnwys y diwrnod 29 Chwefror, mae paragraff (1) yn cael effaith fel pe rhoddid “366” yn lle “365”.

Y person y mae cyfandaliad budd marwolaeth yn daladwy iddo

104.  Caiff y rheolwr cynllun, yn ôl ei ddisgresiwn absoliwt, dalu unrhyw gyfandaliad o fudd marwolaeth sy’n daladwy o dan y Bennod hon i, neu er budd, enwebai’r aelod, ei gynrychiolwyr personol, neu unrhyw berson y mae’n ymddangos i’r rheolwr cynllun a fu’n berthynas neu’n ddibynnydd yr aelod.

Cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod actif

105.—(1Os bydd farw aelod actif, rhaid i’r rheolwr cynllun dalu cyfandaliad budd marwolaeth.

(2Swm y cyfandaliad budd marwolaeth yw swm sy’n hafal i dair gwaith swm tâl terfynol yr aelod.

(3Os oes gan aelod actif fwy nag un cyfrif aelod actif, mae cyfandaliad budd marwolaeth yn daladwy mewn cysylltiad â phob un o’r cyfrifon hynny.

Cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod-bensiynwr

106.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os bydd farw aelod-bensiynwr o fewn pum mlynedd ar ôl i’r pensiwn ddod yn daladwy.

(2Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r rheolwr cynllun dalu cyfandaliad budd marwolaeth.

(3Mae swm y cyfandaliad budd marwolaeth yn hafal i—

(a)cyfanswm blynyddol pensiynau’r aelod, wedi ei luosi gyda phump; llai

(b)cyfanswm unrhyw daliadau pensiwn a wnaed i’r aelod o dan y cynllun hwn.

(4Ym mharagraff (3)(a), ystyr “cyfanswm blynyddol pensiynau’r aelod” (“total annual amount of the member’s pensions”) yw cyfanswm y gyfradd flynyddol o bensiwn ymddeol a ddangosir yng nghyfrifon pensiwn yr aelod, a gyfrifir fel pe bai dyddiad marwolaeth yr aelod yn ddyddiad cychwyn ar gyfer y pensiwn hwnnw.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, diystyrir unrhyw symiau a dalwyd, neu sy’n daladwy i’r aelod, neu mewn cysylltiad â’r aelod, yn y swyddogaeth o aelod â chredyd pensiwn.

Cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth mewn achosion penodol

107.  Os oedd person (P) ar yr adeg y bu P farw, yn aelod-bensiynwr o’r cynllun hwn ac yn aelod actif o’r cynllun hwn, swm y cyfandaliad budd marwolaeth sy’n daladwy yw’r mwyaf o swm y cyfandaliad budd marwolaeth taladwy o dan reoliad 105 (cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod actif) a swm y cyfandaliad budd marwolaeth taladwy o dan reoliad 106 (cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod-bensiynwr).

Cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod â chredyd pensiwn

108.—(1Os bydd farw aelod â chredyd pensiwn cyn bod unrhyw fuddion sy’n deillio o gredyd pensiwn wedi dod yn daladwy i’r aelod, rhaid i’r rheolwr cynllun dalu cyfandaliad budd marwolaeth yn unol â pharagraff (2).

(2Mae swm y cyfandaliad budd marwolaeth yn hafal i luoswm 2.25 a chyfradd flynyddol y pensiwn y byddai’r aelod â chredyd pensiwn wedi bod â hawl i gael, pe bai hawl wedi bod ganddo i gael taliad o’r pensiwn ar unwaith ar ddyddiad ei farwolaeth.

(3Os bydd farw aelod â chredyd pensiwn o fewn pum mlynedd wedi i bensiwn yr aelod â chredyd pensiwn ddod yn daladwy, a chyn iddo gyrraedd 75 mlwydd oed, rhaid i’r rheolwr cynllun dalu cyfandaliad budd marwolaeth yn unol â pharagraff (4).

(4Swm y cyfandaliad budd marwolaeth yw’r gwahaniaeth rhwng—

(a)y swm sy’n bum gwaith swm pensiwn yr aelod â chredyd pensiwn; a

(b)y rhandaliadau o bensiwn sydd wedi eu talu.

(5Ym mharagraff (4), ystyr “swm pensiwn yr aelod â chredyd pensiwn” (“amount of the pension credit member’s pension”) yw swm blynyddol y pensiwn hwnnw ar y dyddiad y daeth pensiwn yr aelod â chredyd pensiwn yn daladwy.

(6Os oedd yr aelod ymadawedig yn aelod â chredyd pensiwn gyda hawl i gael dau neu ragor o gredydau pensiwn, mae cyfandaliadau budd marwolaeth o dan y cynllun hwn yn daladwy mewn cysylltiad â’r aelod fel pe bai’r aelod yn ddau neu ragor o aelodau, pob un â hawl i gael un o’r credydau pensiwn.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources