- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
6 Ionawr 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8th January 2016
Yn dod i rym
1 Ebrill 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 14, 16, 28 a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a)yn rheoliad 3(1)—
(i)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
“ystyr “athro neu athrawes enwebedig” (“nominated teacher”) yw person a grybwyllir ym mharagraffau 3, 4, 5, 6 neu 7 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn ac sydd wedi ei enwebu gan y pennaeth pan fo’r pennaeth yn ystyried bod hynny’n briodol o dan yr amgylchiadau”; a
(ii)yn y diffiniad o “anghymhwysedd proffesiynol difrifol”, yn lle “anghymhwysedd ar lefel” rhodder “cymhwysedd ar lefel”;
(b)yn rheoliad 16, ar ôl “yn rhinwedd”, yn y man cyntaf lle y mae’n digwydd, mewnosoder “rheoliad 18A neu”;
(c)yn rheoliad 18, ar ôl “(cofrestr a gynhelir gan y Cyngor)” mewnosoder “yn y categori athro neu athrawes ysgol”;
(d)ar ôl Rhan 3 mewnosoder—
18A.—(1) Mae gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol yn berson sy’n darparu’r gwasanaethau a bennir yn rheoliad 17 (“y gwasanaethauneu sy’n cefnogi’r ddarpariaeth o’r gwasanaethau gan athro neu athrawes ysgol.
(2) Ni chaniateir i weithiwr cymorth dysgu mewn ysgol ddarparu’r gwasanaethau neu gefnogi’r ddarpariaeth o’r gwasanaethau gan athro neu athrawes ysgol oni bai—
(a)ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgolion;
(b)ei fod yn darparu’r gwasanaethau gan ryngweithio’n uniongyrchol â dysgwyr i gynorthwyo neu gefnogi gwaith athrawon ysgol neu athrawon enwebedig yn yr ysgol;
(c)ei fod yn darparu’r gwasanaethau o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth athrawon ysgol neu athrawon enwebedig yn unol â threfniadau a wneir gan bennaeth yr ysgol; a
(d)bod y pennaeth yn fodlon ei fod yn meddu ar y sgiliau, yr arbenigedd a’r profiad i ddarparu’r gwasanaethau.
(3) Wrth benderfynu a oes gan berson y sgiliau, yr arbenigedd a’r profiad sy’n ofynnol i ddarparu’r gwasanaethau a bennir ym mharagraff (2)(d) mewn ysgol, rhaid i benaethiaid roi ystyriaeth i—
(a)y safonau ar gyfer cynorthwywyr addysgu lefel uwch, neu’r canllawiau sy’n ymwneud â’r cymwysterau ar gyfer gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru; a
(b)canllawiau ar y materion cytundebol sy’n ymwneud â gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan unrhyw awdurdod lleol neu gyflogwr arall.”;
(e)ar ôl Rhan 4 mewnosoder—
19A. Ni chaniateir i berson ddarparu’r gwasanaethau a nodir yn adran 16(2) o Ddeddf 2014 oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach.”; ac
(f)yn Atodlen 3 hepgorer paragraff 8.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
6 Ionawr 2016
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”).
Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â nifer o swyddogaethau’r Cyngor. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2015 er mwyn mewnosod Rhan 3A newydd. Mae’r Rhan 3A newydd yn darparu na chaniateir i weithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion ddarparu’r gwasanaethau a nodir yn y Rhan 3A honno oni bai eu bod yn bodloni’r meini prawf penodedig. Mae’r meini prawf penodedig yn cynnwys bod yn gofrestredig â’r Cyngor yn y gofrestr a gynhelir ganddo yn unol ag adran 9 o Ddeddf 2014 (rheoliad 2(a) ac (c) o’r Rheoliadau hyn).
Mae rheoliad 2(b) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2015 i egluro bod rhaid i athrawon cymwysedig fod wedi eu cofrestru yn y categori cofrestru athro neu athrawes ysgol er mwyn iddynt allu cyflawni’r gwaith a bennir yn rheoliad 17 o’r Rheoliadau.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2015 ymhellach er mwyn mewnosod Rhan 4A newydd. Mae’r Rhan 4A newydd yn darparu na chaiff gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach ddarparu’r gwasanaethau a nodir yn adran 16(2) o Ddeddf 2014 oni bai bod y person hwnnw wedi ei gofrestru â’r Cyngor yn y gofrestr a gynhelir ganddo yn unol ag adran 9 o Ddeddf 2014 (rheoliad 2(d) o’r Rheoliadau hyn).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: