- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
15 Chwefror 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
17 Chwefror 2017
Yn dod i rym
10 Mawrth 2017
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau yn adrannau 132(1), 145 a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002(1) ar ôl ymgynghori â Chyngor y Gweithlu Addysg fel sy’n ofynnol gan adran 132(4) o’r Ddeddf honno, a’r pwerau yn adrannau 2(2) a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014(2), a chan baragraff 12(1)(b) o Atodlen 1 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Mawrth 2017.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “aelod o’r Cyngor” (“member of the Council”) yw aelod o’r Cyngor a benodir yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf 2014;
ystyr “y ceisydd” (“the applicant”) yw sefydliad sy’n cyflwyno cais i’r Cyngor achredu cwrs neu raglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol;
ystyr “cwrs neu raglen astudio achrededig” (“accredited course or programme of study”) yw cwrs neu raglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol a achredir gan y Cyngor o dan erthygl 3(1)(a) o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017;
ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor y Gweithlu Addysg y parheir â’i fodolaeth gan adran 2 o Ddeddf 2014;
ystyr “darparwr” (“provider”) yw corff sy’n darparu cyrsiau neu raglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(3);
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(4);
ystyr “Deddf 2002” yw Deddf Addysg 2002 (“the 2002 Act”)(5);
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;
ystyr “meini prawf achredu” (“accreditation criteria”) yw’r meini prawf a bennir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 4;
ystyr “prif swyddog” (“chief officer”) yw prif swyddog y Cyngor;
ystyr “Pwyllgor” (“Committee”) yw pwyllgor achredu hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol a sefydlir o dan reoliad 5;
ystyr “Pwyllgor Apelau” (“Appeals Committee”) yw pwyllgor apelau achredu hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol a sefydlir o dan reoliad 7;
ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012(6);
ystyr “sefydliad achrededig” (“accredited institution”) yw sefydliad a achredir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7 o Reoliadau 2012;
mae i “sefydliad addysg bellach” yr ystyr a roddir i “further education institution” yn adran 140 o Ddeddf 2002.
3.—(1) Mae rheoliad 7 o Reoliadau 2012 wedi ei ddirymu yn ddarostyngedig i baragraff (2).
(2) Mae rheoliad 7 o Reoliadau 2012 i barhau i gael effaith hyd nes nad yw unrhyw sefydliad achrededig wedi ei achredu bellach yn y modd hwnnw.
(3) Mae unrhyw achrediad a roddir i sefydliad achrededig o dan reoliad 7 o Reoliadau 2012 ac sydd mewn grym yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym i barhau i gael effaith hyd nes y cynharaf o’r canlynol—
(a)diwedd pob cwrs neu raglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol a ddarperir gan y sefydliad achrededig ac a ddechreuodd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym;
(b)nid oes unrhyw fyfyrwyr wedi ymrestru ar unrhyw gyrsiau neu raglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol a ddarperir gan y sefydliad achrededig;
(c)mae’r sefydliad achrededig yn hysbysu’r Cyngor nad yw bellach yn dymuno bod yn sefydliad achrededig;
(d)y mae’r Cyngor yn tynnu achrediad sefydliad achrededig yn ôl am beidio â chydymffurfio â’r meini prawf achredu; neu
(e)31 Awst 2023.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn mae unrhyw gyfeiriad ar Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn rheoliad 7(3) o Reoliadau 2012 i gael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at y Cyngor.
4.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru o bryd i’w gilydd bennu meini prawf ar gyfer—
(a)achrediad cyrsiau neu raglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol; a
(b)tynnu achrediad cyrsiau neu raglenni astudio hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol yn ôl.
(2) Cyn pennu meini prawf o dan baragraff (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Cyngor.
5.—(1) Rhaid i’r Cyngor ddirprwyo i bwyllgor sydd i gael ei alw y pwyllgor achredu hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol y swyddogaethau o—
(a)achredu cyrsiau neu raglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol;
(b)monitro cydymffurfedd cyrsiau neu raglenni achrededig hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol â’r meini prawf achredu; ac
(c)tynnu achrediad cyrsiau neu raglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol yn ôl.
(2) Ni chaiff y Pwyllgor a sefydlir o dan baragraff (1) ond—
(a)achredu cwrs neu raglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol sy’n bodloni’r meini prawf achredu a bennir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd; neu
(b)tynnu achrediad cwrs neu raglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol yn ôl yn unol â’r meini prawf achredu a bennir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd.
6.—(1) Rhaid i’r Pwyllgor gael 1 cadeirydd a 2 ddirprwy gadeirydd.
(2) Mae cadeirydd a dirprwy gadeiryddion cyntaf y Pwyllgor i gael eu penodi gan Weinidogion Cymru.
(3) Mae pob cadeirydd a dirprwy gadeirydd wedi hynny i gael eu penodi gan y Cyngor yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru.
(4) Mae aelodau eraill y Pwyllgor i gael eu penodi gan y Cyngor ar ôl ymgynghori ar y penodiadau arfaethedig â’r rhai a ganlyn—
(a)Gweinidogion Cymru; a
(b)cadeirydd a dirprwy gadeiryddion y Pwyllgor.
(5) Ni chaiff y rhai a ganlyn fod yn aelod o’r Pwyllgor—
(a)aelod o’r Cyngor;
(b)y prif swyddog; neu
(c)person a gyflogir gan y Cyngor.
(6) Mae’r telerau ac amodau arfaethedig ar gyfer penodi aelodau’r Pwyllgor (ac unrhyw delerau ac amodau diwygiedig)—
(a)i gael eu penderfynu gan y Cyngor; a
(b)yn cael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
7. Rhaid i’r Cyngor ddirprwyo i bwyllgor apelau i gael ei alw y pwyllgor apelau achredu hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol y swyddogaeth o ystyried apêl mewn cysylltiad â phenderfyniad o’r Pwyllgor a wneir o dan reoliad 5.
8.—(1) Ni chaiff y Pwyllgor Apelau gynnwys dim mwy na 5 aelod gan gynnwys 1 cadeirydd.
(2) Mae’r cadeirydd ac aelodau eraill y Pwyllgor Apelau i gael eu penodi gan y Cyngor.
(3) Mae’r telerau ac amodau y mae aelodau’r Pwyllgor Apelau yn cael eu penodi arnynt (ac unrhyw delerau ac amodau diwygiedig)—
(a)i gael eu penderfynu gan y Cyngor; a
(b)yn cael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
(4) Ni chaiff y rhai a ganlyn fod yn aelod o’r Pwyllgor Apelau—
(a)unrhyw berson a fu’n aelod o’r Pwyllgor a ystyriodd y cais achredu sy’n destun yr apêl;
(b)aelod o’r Cyngor;
(c)y prif swyddog; a
(d)person a gyflogir gan y Cyngor.
9.—(1) Mae aelodau’r Pwyllgor a’r Pwyllgor Apelau i gael eu penodi o blith personau—
(a)sydd ar hyn o bryd yn gweithio, neu a fu’n gweithio o fewn y 2 flynedd ddiwethaf, ym maes darparu addysg;
(b)sydd â phrofiad o reoli ysgolion neu sefydliadau addysg bellach;
(c)sydd â phrofiad o weithio mewn awdurdodau lleol;
(d)sydd â phrofiad o gyflenwi neu ddarparu hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol;
(e)sydd wedi eu cofrestru yng nghategori athro neu athrawes ysgol yn y Gofrestr(7);
(f)unrhyw bersonau eraill y mae’r Cyngor yn ystyried eu bod yn briodol gan roi sylw i’w harbenigedd a’u profiad.
(2) Nid yw unrhyw berson yn gymwys i gael ei benodi i’r Pwyllgor neu i’r Pwyllgor Apelau—
(a)pan fo’r person wedi ei wahardd rhag cyflawni gweithgaredd rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(8);
(b)pan fo’r person wedi ei wahardd rhag addysgu yn rhinwedd cyfarwyddyd o dan adran 142(1)(a) o Ddeddf 2002(9);
(c)pan fo’r person wedi ei wahardd rhag cael ei gyflogi fel athro neu athrawes yn rhinwedd gorchymyn gwahardd o dan adran 141B o Ddeddf 2002;
(d)pan fo gorchymyn disgyblu wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r person o dan Atodlen 2 i Ddeddf 1998 a bod y person yn dod yn anghymwys i gael ei gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998(10) yn rhinwedd y gorchymyn disgyblu hwnnw;
(e)pan fo gorchymyn disgyblu wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r person o dan adran 26 o Ddeddf 2014 a bod y person yn dod yn anghymwys i gael ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 yn rhinwedd y gorchymyn disgyblu hwn;
(f)pan fo’r person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei gyflogi fel athro neu athrawes mewn unrhyw ysgol yn rhinwedd gorchymyn sydd wedi ei wneud—
(i)gan Dribiwnlys Ysgolion Annibynnol o dan adran 470 o Ddeddf 1996(11), neu
(ii)gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru o dan adran 471 o Ddeddf 1996(12); neu
(g)pan fo’r person yn anghymwys i gael ei gofrestru fel athro neu athrawes, neu wedi ei anghymhwyso rhag bod yn athro neu athrawes mewn unrhyw ysgol neu sefydliad addysg bellach mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig.
10. Mae hawl gan y personau a ganlyn i fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod Pwyllgor neu Bwyllgor Apelau—
(a)y prif swyddog neu gynrychiolydd enwebedig y person hwnnw, a
(b)unrhyw bersonau eraill y mae’r Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau yn penderfynu arnynt.
11.—(1) Cyn penderfynu ar gais i achredu cwrs neu raglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol rhaid i’r Pwyllgor ystyried yr holl dystiolaeth ysgrifenedig, y sylwadau a’r deunydd arall a gyflwynir iddo gan y ceisydd fel rhan o’r cais.
(2) Caiff y Pwyllgor ganiatáu i geisydd gyflwyno sylwadau ar lafar iddo.
(3) Caiff y Pwyllgor benderfynu—
(a)achredu’r cwrs neu’r rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol;
(b)peidio ag achredu’r cwrs neu’r rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol; neu
(c)achredu’r cwrs neu’r rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae’r Pwyllgor yn ystyried eu bod yn briodol.
(4) Caiff y Pwyllgor achredu cwrs neu raglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol o dan baragraff (3)(a) neu (c) am unrhyw gyfnod y mae’n ystyried ei fod yn briodol ond ni chaiff fod yn llai na blwyddyn na mwy na 5 mlynedd.
(5) Caiff y Pwyllgor—
(a)gofyn i’r ceisydd ddarparu unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth arall (“yr wybodaeth ychwanegol”) y mae’n ystyried ei bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu ar y cais; a
(b)gohirio ei benderfyniad ar y cais hyd nes y darperir yr wybodaeth ychwanegol.
(6) Rhaid i’r Pwyllgor roi hysbysiad ysgrifenedig i’r ceisydd o’i benderfyniad o dan baragraff (3) o fewn 15 niwrnod gwaith i’r penderfyniad hwnnw.
(7) Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (6) gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)y rhesymau dros y penderfyniad ac, os ydynt yn gymwys, y meini prawf achredu nad yw’r ceisydd wedi eu bodloni,
(b)bod hawl gan y ceisydd i apelio yn erbyn y penderfyniad,
(c)y person y mae rhaid i’r ceisydd roi unrhyw hysbysiad o apêl iddo,
(d)bod rhaid i unrhyw hysbysiad o apêl gynnwys y sail dros yr apêl, ac
(e)y dyddiad olaf y caniateir i apêl gael ei gwneud.
(8) Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson at ddibenion y rheoliad hwn gael ei gyflwyno yn unol â rheoliad 15.
12.—(1) Ni chaiff y Pwyllgor benderfynu tynnu achrediad cwrs neu raglen astudio hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol yn ôl ond yn unol â’r meini prawf achredu a bennir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd.
(2) Rhaid i’r Pwyllgor roi hysbysiad ysgrifenedig i’r darparwr o’i benderfyniad o dan baragraff (1) o fewn 15 niwrnod gwaith i’r penderfyniad hwnnw.
(3) Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (2) gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)y rhesymau dros y penderfyniad ac yn benodol y meini prawf achredu nad yw’r darparwr bellach yn eu bodloni,
(b)bod hawl gan y darparwr i apelio yn erbyn y penderfyniad,
(c)y person y mae rhaid i’r darparwr roi unrhyw hysbysiad o apêl iddo,
(d)bod rhaid i unrhyw hysbysiad o apêl gynnwys y sail dros yr apêl, ac
(e)y dyddiad olaf y caniateir i apêl gael ei gwneud.
(4) Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson at ddibenion y rheoliad hwn gael ei gyflwyno yn unol â rheoliad 15.
13.—(1) Cyn penderfynu ar apêl yn erbyn penderfyniad o’r Pwyllgor o dan reoliadau 11 neu 12, rhaid i’r Pwyllgor Apelau ystyried yr holl dystiolaeth ysgrifenedig, y sylwadau a’r deunydd arall a gyflwynir iddo gan y ceisydd fel rhan o’r apêl.
(2) Os yw’r Pwyllgor Apelau yn penderfynu caniatáu’r apêl rhaid iddo atgyfeirio’r mater yn ôl i’r Pwyllgor i ailystyried y cais.
(3) Ni chaniateir unrhyw apelau pellach i’r Pwyllgor Apelau—
(a)os yw’r Pwyllgor Apelau yn penderfynu gwrthod yr apêl; neu
(b)os yw’r Pwyllgor yn penderfynu peidio ag achredu’r cwrs neu’r rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol ar ôl iddo ailystyried y cais yn unol â pharagraff (2).
(4) Ni chaiff unrhyw berson a fu’n aelod o’r Pwyllgor a ystyriodd y cais achredu sy’n destun yr apêl fod yn aelod o’r Pwyllgor i ailystyried y cais.
(5) Rhaid i’r Pwyllgor Apelau roi hysbysiad ysgrifenedig i’r ceisydd o’i benderfyniad o fewn 20 niwrnod gwaith i’r penderfyniad hwnnw.
(6) Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (5) nodi’r rhesymau dros y penderfyniad.
(7) Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson at ddibenion y rheoliad hwn gael ei gyflwyno yn unol â rheoliad 15.
14.—(1) Yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn caiff y Cyngor wneud unrhyw ddarpariaeth y gwêl yn addas o ran gweithdrefn y Pwyllgor a’r Pwyllgor Apelau.
(2) Nid yw trafodion Pwyllgor neu Bwyllgor Apelau yn cael eu hannilysu gan y canlynol—
(a)unrhyw swydd wag ymhlith eu haelodau; neu
(b)unrhyw ddiffygion o ran penodi unrhyw aelod o’r Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau.
(3) Y cworwm ar gyfer cyfarfod o’r Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o’r fath yw 3.
(4) Mae pob cwestiwn sydd i gael ei benderfynu mewn cyfarfod o’r Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau i gael ei benderfynu gan fwyafrif pleidleisiau aelodau’r Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau (fel y bo’n briodol) sy’n bresennol ac sy’n pleidleisio ar y cwestiwn.
(5) Pan fo’r pleidleisiau yn gyfartal, mae gan y person sy’n gweithredu fel cadeirydd y Pwyllgor neu’r Pwyllgor Apelau at ddibenion y cyfarfod ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
15.—(1) Caniateir cyflwyno hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson (“P”) o dan y Rheoliadau hyn drwy—
(a)ei ddanfon at P yn bersonol;
(b)y post i’r cyfeiriad a roddir i’r Cyngor gan P; neu
(c)post electronig, pan fo P yn gofyn am hynny.
(2) Bernir bod hysbysiad a gyflwynir yn unol â’r rheoliad hwn wedi ei gyflwyno—
(a)yn achos ei gyflwyno o dan baragraff (1)(a) ar y diwrnod y cafodd ei ddanfon;
(b)yn achos ei gyflwyno o dan baragraff (1)(b) ar y diwrnod gwaith nesaf; ac
(c)yn achos ei gyflwyno o dan baragraff (1)(c) ar y diwrnod y cafodd ei anfon.
16.—(1) Mae Rheoliadau 2012 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 —
(a)ar ôl y diffiniad o “coleg dinasol” mewnosoder—
“ystyr “cwrs neu raglen astudio achrededig” (“accredited course or programme of study”) yw cwrs neu raglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol wedi ei achredu neu ei hachredu gan y Cyngor o dan ei swyddogaethau yng Ngorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017;”; a
(b)yn y diffiniad o “y Cyngor” yn lle “Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru” rhodder “Cyngor y Gweithlu Addysg y parheir â’i fodolaeth gan adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014”.
(3) Yn rheoliad 8(4) ar ôl “sefydliad achrededig” mewnosoder “neu ddarparwr cwrs neu raglen astudio achrededig”.
(4) Yn Atodlen 2—
(a)ym mharagraff 1(b) ar ôl “sefydliad achrededig” mewnosoder “neu wedi cwblhau cwrs neu raglen astudio achrededig yn llwyddiannus”;
(b)ym mharagraff 1(ch) ar ôl “sefydliad achrededig” mewnosoder “neu ddarparwr cwrs neu raglen astudio achrededig”; ac
(c)ym mharagraff 2(b) ar ôl “sefydliad achrededig” mewnosoder “neu ddarparwr cwrs neu raglen astudio achrededig”.
17. Ym mharagraff 1 o Atodlen 3 i Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015(13), yn y diffiniad o “sefydliad achrededig” yn lle “Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7 o Reoliadau 2004” rhodder “Gyngor y Gweithlu Addysg”(14).
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
15 Chwefror 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Parhawyd â bodolaeth Cyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”) gan adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). Mae adran 4 o Ddeddf 2014 yn nodi prif swyddogaethau’r Cyngor. Mae adran 5 o Ddeddf 2014 yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi swyddogaethau ychwanegol i’r Cyngor neu osod swyddogaethau ychwanegol arno. Yn unol â hynny, mae Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017 (“Gorchymyn 2017”) yn rhoi’r swyddogaethau ychwanegol a ganlyn i’r Cyngor (“y Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017 (“Swyddogaethau Achredu a Chydymffurfedd”)—
(a)achredu cyrsiau neu raglenni astudio hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol;
(b)monitro cydymffurfedd cyrsiau neu raglenni astudio achrededig hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol â’r meini prawf achredu;
(c)tynnu achrediad cyrsiau neu raglenni astudio hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol yn ôl; a
(d)codi ffioedd mewn cysylltiad â darparu’r gwasanaethau ym mharagraffau (a) i (c).
Roedd y Swyddogaethau Achredu a Chydymffurfedd yn cael eu harfer gynt gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“CCAUC”) o dan reoliad 7 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012 (“Rheoliadau 2012”). Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu rheoliad 7 o Reoliadau 2012 (rheoliad 3(1)).
Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau cyffredinol gan gynnwys darpariaethau dirymu, arbed a throsiannol. O dan reoliad 7 o Reoliadau 2012 roedd gan CCAUC y swyddogaeth o achredu sefydliad ar gyfer darparu cyrsiau neu raglenni astudio hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol ond nid yw’n achredu’r union gwrs neu raglen astudio a ddarperir. Yn hytrach, o dan Orchymyn 2017 bydd gan y Cyngor y swyddogaeth o achredu cyrsiau neu raglenni astudio hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol ac nid y sefydliadau sy’n darparu’r cyrsiau neu’r rhaglenni astudio. Mae rheoliad 3(1) o’r Rheoliadau hyn yn darparu bod rheoliad 7 o Reoliadau 2012 wedi ei ddirymu ond mae’n ddarostyngedig i’r ddarpariaeth arbed. Gan y bydd rhai sefydliadau yn parhau i fod wedi eu hachredu gan CCAUC am beth amser mae angen y ddarpariaeth arbed. Diben y ddarpariaeth arbed yw sicrhau bod rheoliad 7 o Reoliadau 2012 yn parhau i gael effaith ar ôl ei ddirymu ond dim ond hyd nes nad yw unrhyw sefydliad sydd wedi ei achredu o dan reoliad 7 o Reoliadau 2012 wedi ei achredu bellach (“y cyfnod trosiannol”).
Mae rheoliad 3(3) o’r Rheoliadau hyn yn darparu y bydd sefydliadau sydd wedi eu hachredu gan CCAUC yn parhau i fod wedi eu hachredu hyd nes y bydd y cynharaf o’r amgylchiadau a nodir yn y rheoliad hwnnw yn digwydd. Mae’r ddarpariaeth hon yn gymwys i fyfyrwyr sydd wedi ymrestru ar gwrs neu raglen astudio hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym. Mae’r ddarpariaeth wedi ei dylunio i sicrhau nad yw’r myfyrwyr hynny yn cael eu niweidio’n annheg o ganlyniad i dynnu achrediad y sefydliad sy’n darparu’r cwrs neu’r rhaglen astudio yn ôl cyn diwedd y cwrs neu raglen astudio. Gan nad CCAUC fydd â’r swyddogaeth o achredu sefydliadau bellach mae rheoliad 3(4) o’r Rheoliadau hyn yn darparu bod unrhyw gyfeiriad at CCAUC yn rheoliad 7(3) o Reoliadau 2012 i gael ei ddarllen fel cyfeiriad at y Cyngor. Yr effaith yw y caiff y Cyngor dynnu achrediad sefydliad achrededig yn ôl am beidio â chydymffurfio â’r meini prawf achredu (a ddiffinnir yn rheoliad 2) yn ystod y cyfnod trosiannol.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn rhoi’r swyddogaeth o bennu meini prawf achredu i Weinidogion Cymru. Nodwyd y swyddogaeth hon gynt yn rheoliad 7(2) a (3) o Reoliadau 2012. Yn ddarostyngedig i eithriadau penodol sydd wedi eu nodi yn Rheoliadau 2012 mae cwblhau cwrs neu raglen astudio o’r fath yn llwyddiannus yn angenrheidiol er mwyn cael statws athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor ddirprwyo swyddogaethau achredu, monitro cydymffurfedd â’r meini prawf achredu a thynnu achrediad yn ôl (“y Gwasanaethau”) i bwyllgor sydd i gael ei alw y pwyllgor achredu hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol (“y Pwyllgor”) (rheoliad 5), ac yn gwneud darpariaeth ynghylch aelodaeth y Pwyllgor hwnnw (rheoliad 6). Nid yw’n ofynnol i’r Cyngor ddirprwyo codi ffioedd am ddarparu’r Gwasanaethau i’r Pwyllgor.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaeth i sefydliad apelio yn erbyn penderfyniad o’r Pwyllgor i bwyllgor apelau sydd i gael ei alw y pwyllgor apelau achredu hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol (“y Pwyllgor Apelau”) (rheoliad 7), ac yn gwneud darpariaeth ynghylch aelodaeth y Pwyllgor Apelau hwnnw (rheoliad 8).
Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodion y Pwyllgor a’r Pwyllgor Apelau.
Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliadau eraill o ganlyniad i ddyfodiad y Rheoliadau hyn i rym.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
I gael y diffiniad o “Cofrestr” gweler adran 41 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014.
2002 p. 32. Diddymwyd adran 142(1)(a) gan Atodlen 10 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.
Diddymwyd adran 3 ac Atodlen 2 gan Dabl 2 ym mharagraff 3 o Ran 2 o Atodlen 3 i Ddeddf Addysg (Cymru) 2014.
Diddymwyd gan adran 215(2) o Ddeddf Addysg 2002 a Rhan 3 o Atodlen 22 iddi.
Diddymwyd gan adran 215(2) o Ddeddf Addysg 2002 a Rhan 3 o Atodlen 22 iddi.
Gall sefydliad fod wedi ei achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012 (O.S. 2012/724 (Cy. 96)) (“Rheoliadau 2012”) neu yn dilyn dirymru rheoliad 7 o Reoliadau 2012 gan Gyngor y Gweithlu Addysg o dan reoliad 3(4) o’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: