Search Legislation

Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Datganiadau Breinio) (Cymru) 2017

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 362 (Cy. 88)

Caffael Tir, Cymru

Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Datganiadau Breinio) (Cymru) 2017

Gwnaed

8 Mawrth 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Mawrth 2017

Yn dod i rym

6 Ebrill 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 2(1), 4 a 6 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981(2), ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Datganiadau Breinio) (Cymru) 2017, a deuant i rym ar 6 Ebrill 2017.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran prynu tir yn orfodol yng Nghymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “deddfiad arbennig” (“special enactment”) yw—

(a)

Deddf leol neu breifat sy’n awdurdodi prynu tir yn orfodol a nodwyd yn benodol yn y Ddeddf honno, neu

(b)

darpariaeth sydd—

(i)

wedi ei chynnwys mewn Deddf ac eithrio Deddf leol neu breifat, a

(ii)

yn awdurdodi prynu tir yn orfodol a nodwyd yn benodol yn y Ddeddf honno;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981; ac

ystyr “gorchymyn perthnasol” (“relevant order”) yw gorchymyn sy’n darparu bod y Ddeddf i fod yn gymwys i brynu tir yn orfodol y mae’n ei awdurdodi fel petai’r gorchymyn yn orchymyn prynu gorfodol.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae pryniant gorfodol wedi ei awdurdodi—

(a)gan orchymyn prynu gorfodol, ar y diwrnod y caiff y gorchymyn ei gadarnhau gan Weinidog neu Weinidogion Cymru neu awdurdod arall, neu ei wneud gan Weinidog neu Weinidogion Cymru;

(b)gan orchymyn o dan adran 1 neu 3 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992(4), ar y diwrnod y mae’r Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru yn penderfynu gwneud y gorchymyn o dan adran 13(1) o’r Ddeddf honno;

(c)gan orchymyn adolygu harbwr, gorchymyn grymuso harbwr neu orchymyn cau harbwr o dan Ddeddf Harbyrau 1964(5), ar y diwrnod y gwneir y gorchymyn gan y Gweinidog priodol(6) neu Weinidogion Cymru neu berson sydd wedi ei ddynodi mewn gorchymyn a wnaed o dan adran 42A(7) o’r Ddeddf honno;

(d)gan unrhyw orchymyn perthnasol arall, ar y diwrnod y gwneir y gorchymyn gan Weinidog neu Weinidogion Cymru; neu

(e)gan ddeddfiad arbennig(8), ar y diwrnod y deddfir y deddfiad arbennig.

Ffurfiau rhagnodedig mewn cysylltiad â datganiadau breinio cyffredinol

3.—(1Mewn perthynas â phrynu tir yn orfodol a awdurdodir ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017 —

(a)at ddibenion adran 4(1) o’r Ddeddf, ffurf ragnodedig datganiad breinio cyffredinol yw Ffurflen 1;

(b)at ddibenion adran 6(1) o’r Ddeddf, ffurf ragnodedig hysbysiad sy’n pennu’r tir ac sy’n datgan effaith datganiad breinio cyffredinol yw Ffurflen 2.

(2Mae’r cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at ffurflen â rhif yn gyfeiriadau at y ffurflen sy’n dwyn y rhif hwnnw yn yr Atodlen neu at ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.

Dirymu ac arbed

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Datganiadau Breinio) 1990(9) wedi eu dirymu o ran Cymru.

(2Mae’r Rheoliadau a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â phrynu tir yn orfodol a awdurdodir cyn ^ Ebrill 2017.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

8 Mawrth 2017

ATODLEN 1

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi ffurfiau at ddibenion Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 (p. 66) (“Deddf 1981”) a deuant i rym ar 6 Ebrill 2017. Maent yn gymwys i brynu tir yn orfodol yng Nghymru.

Mae’r ffurfiau a ragnodir yn adlewyrchu’r newidiadau i’r weithdrefn datganiad breinio cyffredinol a wnaed gan Ran 7 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22).

Mae rheoliad 3(1)(a) yn darparu mai ffurf datganiad breinio cyffredinol, at ddibenion adran 4(1) o Ddeddf 1981, yw Ffurflen 1 yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn (neu ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi).

Mae rheoliad 3(1)(b) yn darparu mai ffurf hysbysiad sy’n pennu’r tir ac yn datgan effaith datganiad breinio cyffredinol, at ddibenion adran 6(1) o Ddeddf 1981, yw Ffurflen 2 yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn (neu ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi).

Mae rheoliad 4 yn dirymu gydag arbediad Reoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Datganiadau Breinio) 1990 (O.S. 1990/497) yng Nghymru.

Ni luniwyd asesiad effaith ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector preifat na’r sector gwirfoddol.

(1)

Gweler y diffiniad o “prescribed” yn is-adran (1).

(2)

1981 p. 66. Diwygiwyd adran 4(1) gan adran 184 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22). Diwygiwyd adran 6(1) gan adran 183 o’r Ddeddf honno, a pharagraffau 4 a 7 o Atodlen 15 iddi.

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler yr eitem yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(4)

1992 p. 42. Gall gorchymyn a wneir o dan adran 1 neu 3 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 awdurdodi caffael tir yn orfodol, gweler adran 5 o’r Ddeddf honno, a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi. Trosglwyddwyd swyddogaethau gwneud gorchmynion o dan adrannau 1 a 3 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac eithrio pan fyddai unrhyw orchymyn o’r fath yn cael effaith yng Nghymru a Lloegr, gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, a’r eitem ar gyfer Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 yn Atodlen 1 iddi. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(5)

1964 p. 40. Gall gorchymyn o dan Ddeddf Harbyrau 1964 awdurdodi caffael tir yn orfodol, gweler adrannau 14 ac 16 o’r Ddeddf honno.

(6)

I gael y diffiniad o “the appropriate Minister” gweler adrannau 14(7) a 15(3) o Ddeddf Harbyrau 1964. Mae swyddogaethau o dan y Ddeddf honno yn arferadwy gan Weinidogion Cymru i’r graddau y maent yn ymwneud â harbyrau pysgodfeydd, gweler yr eitem ar gyfer y Ddeddf honno yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Diwygiwyd yr eitem honno gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) a pharagraff 1 o Atodlen 3 iddi. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(7)

Mewnosodwyd adran 42A gan adran 315 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23), a pharagraffau 1 a 3(1) o Atodlen 21 iddi.

(8)

Caiff deddfiad arbennig ddarparu bod y Ddeddf yn gymwys fel petai’r deddfiad yn orchymyn prynu gorfodol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources