Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 16/05/2017.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017, RHAN 4.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
14.—(1) Caiff person sy’n bwriadu gwneud cais AEA ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddatgan ei farn o ran cwmpas a manylder yr wybodaeth i’w darparu yn y datganiad amgylcheddol (“barn gwmpasu”).
(2) Rhaid i’r gofyniad o dan baragraff (1) gynnwys—
(a)mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio—
(i)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;
(ii)disgrifiad byr o natur a diben y datblygiad, gan gynnwys ei leoliad a’i gapasiti technegol;
(iii)ei effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd; a
(iv)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno;
(b)mewn perthynas â chais dilynol—
(i)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;
(ii)digon o wybodaeth i alluogi’r awdurdod cynllunio perthnasol i ganfod unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd i’r datblygiad mewn cysylltiad â chais dilynol sydd wedi ei wneud;
(iii)disgrifiad o’r effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd na chanfuwyd ar yr adeg y rhoddwyd y caniatâd cynllunio; a
(iv)unrhyw wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno.
(3) Os nad yw awdurdod sy’n cael cais o dan baragraff (1) yn ystyried ei fod wedi cael ei ddarparu â digon o wybodaeth i fabwysiadu barn sgrinio, rhaid iddo roi gwybod i’r person sy’n gwneud y cais am y pwyntiau lle y mae angen gwybodaeth ychwanegol arnynt.
(4) Rhaid i awdurdod beidio â mabwysiadu barn gwmpasu mewn ymateb i gais o dan baragraff (1) hyd nes ei fod wedi ymgynghori â’r ymgynghoreion, ond rhaid iddo, yn ddarostyngedig i baragraff (5), fabwysiadu barn gwmpasu ac anfon copi at y person a wnaeth y cais o fewn 8 wythnos yn dechrau â’r dyddiad y ceir y cais neu unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno yn ysgrifenedig â’r person a wnaeth y cais.
(5) Pan fo person wedi gofyn i’r awdurdod am farn o dan baragraff (1) uchod ar yr un pryd â gwneud cais am farn sgrinio o dan reoliad 6(1), ac mae’r awdurdod wedi mabwysiadu barn sgrinio i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA, rhaid i’r awdurdod fabwysiadu barn gwmpasu ac anfon copi at y person a wnaeth y cais o fewn 8 wythnos yn dechrau â’r dyddiad y mabwysiadwyd y farn sgrinio honno neu unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno yn ysgrifenedig â’r person a wnaeth y cais.
(6) Cyn mabwysiadu barn gwmpasu, rhaid i’r awdurdod gymryd y canlynol i ystyriaeth—
(a)unrhyw wybodaeth a ddarperir gan y ceisydd ynghylch y datblygiad arfaethedig;
(b)nodweddion neilltuol y datblygiad penodol;
(c)nodweddion neilltuol y datblygiad o’r math dan sylw; a
(d)y nodweddion amgylcheddol y mae’r datblygiad yn debygol o effeithio’n sylweddol arnynt.
(7) Pan fo awdurdod yn methu â mabwysiadu barn gwmpasu o fewn y cyfnod perthnasol a grybwyllir ym mharagraff (4) neu (5), caiff y person a ofynnodd am y farn ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd o dan reoliad 15(1) ynghylch yr wybodaeth sydd i’w darparu yn y datganiad amgylcheddol (“cyfarwyddyd cwmpasu”).
(8) Mae paragraff (7) yn gymwys hyd yn oed os nad yw’r awdurdod wedi cael gwybodaeth ychwanegol y mae wedi ei cheisio o dan baragraff (3).
(9) Nid oes unrhyw beth yn atal awdurdod sydd wedi mabwysiadu barn gwmpasu rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person a wnaeth y cais ddarparu gwybodaeth ychwanegol.
(10) Ystyr “gwybodaeth ychwanegol” (“additional information”) ym mharagraff (9) yw gwybodaeth mewn cysylltiad ag unrhyw ddatganiad y caniateir ei gyflwyno gan y person hwnnw fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio neu gais dilynol ar gyfer yr un datblygiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 14 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)
15.—(1) Rhaid i ofyniad a wneir o dan y paragraff hwn yn unol â rheoliad 14(7) gynnwys—
(a)copi o’r gofyniad i’r awdurdod cynllunio perthnasol o dan reoliad 14(1);
(b)copi o unrhyw hysbysiad perthnasol o dan reoliad 14(3) ac o unrhyw ymateb;
(c)copi o unrhyw farn sgrinio berthnasol a gafwyd gan y person sy’n gwneud y gofyniad ac unrhyw ddatganiad o’r rhesymau sy’n dod gyda’r farn; a
(d)unrhyw sylwadau y dymuna’r person sy’n gwneud y gofyniad eu gwneud.
(2) Rhaid i berson sy’n gwneud gofyniad anfon copi o’r gofyniad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol, ond nid oes angen i’r copi hwnnw gynnwys y materion a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) i (c).
(3) Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â pharagraff (1) yn ddigonol er mwyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r person sy’n gwneud y cais.
(4) Rhaid i’r hysbysiad nodi unrhyw bwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gall ar unrhyw rai o’r pwyntiau hynny.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)ymgynghori â’r ymgynghoreion cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu mewn ymateb i ofyniad o dan baragraff (1), a
(b)gwneud cyfarwyddyd ac anfon copi at y person sy’n gwneud y gofyniad ac i’r awdurdod cynllunio perthnasol, o fewn y 5 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir y gofyniad hwnnw neu unrhyw gyfnod hwy a all fod yn rhesymol ofynnol.
(7) Cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu rhaid i Weinidogion Cymru ystyried y materion a bennir yn rheoliad 14(6).
(8) Nid oes dim yn atal Gweinidogion Cymru, (ar ôl iddynt wneud cyfarwyddyd cwmpasu) na’r awdurdod cynllunio perthnasol rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gwneud y gofyniad ddarparu gwybodaeth ychwanegol.
(9) Ystyr “gwybodaeth ychwanegol” (“additional information”) ym mharagraff (8) yw gwybodaeth mewn cysylltiad ag unrhyw ddatganiad y caniateir ei gyflwyno gan y person hwnnw fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio neu gais dilynol ar gyfer yr un datblygiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 15 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)
16.—(1) Caiff unrhyw berson sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn roi hysbysiad i’r awdurdod hwnnw neu i Weinidogion Cymru o dan y paragraff hwn.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) gynnwys yr wybodaeth sy’n angenrheidiol er mwyn adnabod y tir a natur a diben y datblygiad, a rhaid iddo ddangos y prif ganlyniadau amgylcheddol y mae’r person sy’n rhoi’r hysbysiad yn bwriadu cyfeirio atynt yn y datganiad amgylcheddol.
(3) Rhaid i dderbynnydd—
(a)hysbysiad o’r math a grybwyllir ym mharagraff (1); neu
(b)datganiad neu gadarnhad a wneir yn unol â rheoliad 11(4)(a), 12(6) neu 13(7)—
(i)hysbysu’r ymgynghoreion am enw a chyfeiriad y person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol a’r ddyletswydd a osodir ar yr ymgynghoreion gan baragraff (4) er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r person hwnnw; a
(ii)hysbysu’r person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol o enwau a chyfeiriadau’r ymgynghoreion a hysbyswyd felly.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i awdurdod cynllunio perthnasol ac unrhyw ymgynghorai a hysbysir yn unol â pharagraff (3), ymgynghori â’r person, os bydd y person hwnnw sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol yn gofyn am hynny, er mwyn penderfynu a oes gan yr awdurdod neu’r ymgynghorai unrhyw wybodaeth yn eu meddiant y mae’r person hwnnw, neu y maent hwy, yn ei hystyried yn berthnasol ar gyfer llunio’r datganiad amgylcheddol. Os oes ganddynt, rhaid i’r awdurdod neu’r ymgynghorai sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael i’r person hwnnw.
(5) Rhaid i awdurdod cynllunio perthnasol neu ymgynghorai sy’n cael gofyniad am wybodaeth o dan baragraff (4) ei drin fel gofyniad am wybodaeth o dan reoliad 5(1) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 16 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: