Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 (Atodlenni yn unig)

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 17/12/2018

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 16/05/2017.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1LL+CDisgrifiadau o ddatblygiad at ddibenion y diffiniad o “datblygiad Atodlen 1”

DehongliLL+C

Yn yr Atodlen hon—

nid yw “gorsaf bŵer niwclear” (“nuclear power station”) ac “adweithydd niwclear arall” (“other nuclear reactor”) yn cynnwys gosodiad o safle lle mae pob tanwydd niwclear a deunyddiau wedi eu halogi’n ymbelydrol wedi eu symud oddi yno’n barhaol; a rhaid peidio â thrin datblygiad at ddiben datgymalu neu ddadgomisiynu gorsaf bŵer niwclear neu adweithydd niwclear arall fel datblygiad o ddisgrifiad a grybwyllir ym mharagraff 2(b) yr Atodlen hon;

ystyr “gwibffordd” yw ffordd sy’n cydymffurfio â’r diffiniad o “express road” yng Nghytundeb Ewrop ar Briffyrdd Traffig Rhyngwladol, 15 Tachwedd 1975(1);

ystyr “maes awyr” (“airport”) yw maes awyr sy’n cydymffurfio â’r diffiniad o “airport” yng Nghonfensiwn Chicago 1944 yn sefydlu’r Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol (Atodiad 14)(2).

Disgrifiadau o ddatblygiadLL+C

Cynnal datblygiad er mwyn darparu unrhyw rai o’r canlynol—

1.  Purfeydd olew crai (ac eithrio ymgymeriadau sy’n gweithgynhyrchu dim ond ireidiau o olew crai) a gosodiadau ar gyfer nwyeiddio a hylifo 500 tunnell neu fwy o lo neu olew siâl bitwminaidd y dydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

2.   LL+C

(a)Gorsafoedd pŵer thermal a gosodiadau ymlosgi eraill sy’n cynhyrchu 300 megawat o wres neu fwy; a

(b)Gorsafoedd pŵer niwclear ac adweithyddion niwclear eraill (ac eithrio gosodiadau ymchwil er mwyn cynhyrchu a thrawsnewid deunyddiau ymholltol a ffrwythlon, nad yw eu pŵer uchaf yn fwy na llwyth thermal parhaus o 1 cilowat).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

3.   LL+C

(a)Gosodiadau ar gyfer ailbrosesu tanwydd niwclear arbelydredig;

(b)Gosodiadau a gynlluniwyd—

(i)ar gyfer cynhyrchu neu gyfoethogi tanwydd niwclear;

(ii)ar gyfer prosesu tanwydd niwclear arbelydredig neu wastraff ymbelydrol lefel uchel;

(iii)ar gyfer cael gwared yn derfynol ar danwydd niwclear arbelydredig;

(iv)ar gyfer cael gwared yn derfynol ar wastraff ymbelydrol yn unig;

(v)ar gyfer storio (a gynllunnir am dros 10 mlynedd) tanwyddau niwclear arbelydredig neu wastraff ymbelydrol mewn safle gwahanol i’r safle lle eu cynhyrchir yn unig.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

4.   LL+C

(a)Gwaith integredig ar gyfer toddi cychwynnol haearn bwrw a dur;

(b)Gosodiadau ar gyfer cynhyrchu metelau crai anfferrus o fwyn, crynodiadau neu ddeunyddiau crau eilaidd drwy brosesau metelegol, cemegol neu electrolytig.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

5.  Gosodiadau ar gyfer echdynnu asbestos a phrosesu a thrawsnewid asbestos a chynhyrchion sy’n cynnwys asbestos—LL+C

(a)ar gyfer cynhyrchion asbestos-sment, sy’n cynhyrchu mwy na 20,000 tunnell o’r cynhyrchion gorffenedig y flwyddyn;

(b)ar gyfer deunydd ffrithiant, sy’n cynhyrchu mwy na 50 tunnell o’r cynhyrchion gorffenedig y flwyddyn; ac

(c)ar gyfer defnydd arall o asbestos, sy’n defnyddio mwy na 200 tunnell y flwyddyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

6.  Gosodiadau cemegol integredig, hynny yw, gosodiadau ar gyfer gweithgynhyrchu sylweddau drwy ddefnyddio prosesau trawsnewid cemegol ar raddfa ddiwydiannol, lle y cyfosodir nifer o unedau a’u cysylltu’n weithredol â’i gilydd ac sydd—LL+C

(a)ar gyfer cynhyrchu cemegau organig sylfaenol;

(b)ar gyfer cynhyrchu cemegau anorganig sylfaenol;

(c)ar gyfer cynhyrchu gwrtaith y mae ffosfforws, nitrogen neu botasiwm yn sylfaen iddo (gwrteithiau syml neu gyfansawdd);

(d)ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion iechyd planhigion sylfaenol a bywleiddiaid;

(e)ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion fferyllol sylfaenol drwy ddefnyddio proses gemegol neu fiolegol;

(f)ar gyfer cynhyrchu ffrwydron.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

7.   LL+C

(a)Adeiladu rheilffyrdd ar gyfer traffig rheilffordd pellter hir a meysydd awyr sydd â hyd rhedfa sylfaenol o 2,100 metr neu fwy;

(b)Adeiladu traffyrdd a gwibffyrdd;

(c)Adeiladu ffordd newydd o bedair lôn neu fwy, neu adlinio a/neu ledu ffordd bresennol o ddwy lôn neu lai er mwyn darparu pedair neu fwy o lonydd, pan fyddai ffordd newydd o’r fath, neu ran wedi ei hadlinio a/neu ei lledu o ffordd yn 10 cilometr neu fwy mewn hyd parhaus.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

8.   LL+C

(a)Dyfrffyrdd mewndirol a phorthladdoedd ar gyfer traffig dyfrffyrdd mewndirol sy’n caniatáu hynt llongau dros 1,350 tunnell;

(b)Porthladdoedd masnachu, pierau ar gyfer llwytho a dadlwytho sydd wedi eu cysylltu i dir a thu allan i borthladdoedd (ac eithrio pierau fferi) a all dderbyn llongau sydd dros 1,350 tunnell.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

9.  Gosodiadau gwaredu gwastraff ar gyfer llosgi, trin yn gemegol (fel y’i diffinnir yn Atodiad IIA i Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC(3) o dan bennawd D9), neu dirlenwi gwastraff peryglus fel y’i diffinnir yn rheoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(4).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

10.  Gosodiadau gwaredu gwastraff ar gyfer llosgi neu drin yn gemegol (fel y’i diffinnir yn Atodiad IIA i Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC o dan bennawd D9) gwastraff nad yw’n beryglus gyda chynhwysedd o dros 100 tunnell y dydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

11.  Cynlluniau tynnu dŵr daear neu ail-lenwi dŵr daear artiffisial pan fo cyfaint blynyddol y dŵr a dynnir neu a ail-lenwir yn cyfateb i neu’n fwy na 10 miliwn metr ciwbig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

12.   LL+C

(a)Gwaith ar gyfer trosglwyddo adnoddau dŵr, heblaw dŵr yfed a bibellir, rhwng basnau afon pan mai nod y trosglwyddiad yw atal prinder dŵr posibl a phan fo swm y dŵr a drosglwyddir yn fwy na 100 miliwn metr ciwbig y flwyddyn;

(b)Ym mhob achos arall, gwaith ar gyfer trosglwyddo adnoddau dŵr, heblaw dŵr yfed a bibellir, rhwng basnau afon pan fo llif cyfartalog aml-flynyddol y basn y tynnir y dŵr ohono yn fwy na 2,000 miliwn metr ciwbig y flwyddyn a phan fo swm y dŵr a drosglwyddir yn fwy na 5% o’r llif hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

13.  Gweithfeydd trin dŵr gwastraff gyda chynhwysedd sy’n fwy na chyfwerth â 150,000 o boblogaeth fel y’i diffinnir yn Erthygl 2 pwynt (6) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/271/EEC(5).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

14.  Echdynnu petrolewm a nwy naturiol at ddibenion masnachol pan fo’r swm a echdynnir yn fwy na 500 tunnell y dydd yn achos petrolewm a 500,000 metr ciwbig y dydd yn achos nwy.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

15.  Argloddiau a gosodiadau eraill a gynlluniwyd er mwyn dal dŵr yn ôl neu storio dŵr yn barhaol, pan fo swm newydd neu swm ychwanegol o ddŵr a ddelir yn ôl neu a gaiff ei storio yn fwy na 10 miliwn metr ciwbig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

16.  Piblinellau sydd â diamedr o fwy na 800 milimetr a hyd o fwy na 40 cilometr:LL+C

  • ar gyfer cludo nwy, olew, cemegau, neu

  • ar gyfer cludo ffrwd carbon deuocsid er mwyn ei storio’n ddaearegol, gan gynnwys gorsafoedd atgyfnerthu cysylltiedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

17.  Gosodiadau ar gyfer magu dofednod neu foch yn ddwys gyda mwy na—LL+C

(a)85,000 o leoedd ar gyfer brwyliaid neu 60,000 o leoedd ar gyfer ieir;

(b)3,000 o leoedd ar gyfer moch cynhyrchu (dros 30 kg); neu

(c)900 o leoedd ar gyfer hychod.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

18.  Gweithfeydd diwydiannol ar gyfer—LL+C

(a)cynhyrchu pwlp o goed neu ddeunyddiau ffibrog tebyg;

(b)cynhyrchu papur a bwrdd gyda’r lle i gynhyrchu dros 200 tunnell y dydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

19.  Chwareli a chloddio glo brig pan fo arwyneb y safle yn fwy na 25 hectar, neu echdynnu mawn pan fo arwyneb y safle yn fwy na 150 hectar.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

20.  Gosodiadau ar gyfer storio petroliwm, cynhyrchion petrocemegol neu gemegol gyda lle i 200,000 tunnell neu fwy.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

21.  Safleoedd storio yn unol â Chyfarwyddeb 2009/31/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 23 Ebrill 2009 ar storio carbon deuocsid yn ddaearegol(6).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

22.  Gosodiadau ar gyfer dal ffrydiau carbon deuocsid at ddibenion eu storio’n ddaearegol yn unol â Chyfarwyddeb 2009/31/EC o osodiadau a gynhwysir yn yr Atodlen hon, neu pan fo cyfanswm o 1.5 megaton neu fwy o garbon deuocsid y flwyddyn yn cael ei ddal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

23.  Unrhyw newid i ddatblygiad neu estyniad ohono a restrir yn yr Atodlen hon pan fo newid neu estyniad o’r fath ynddo’i hun yn bodloni trothwyon, os oes rhai, neu ddisgrifiad o ddatblygiad a nodir yn yr Atodlen hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 2LL+CDisgrifiadau o ddatblygiad a throthwyon a meini prawf cymwys at ddibenion y diffiniad o “datblygiad Atodlen 2”

1.  Yn y tabl isod—LL+C

mae “arwynebedd gwaith” (“area of the works”) yn cynnwys unrhyw arwynebedd lle mae aparatws, cyfarpar, peiriannau, deunyddiau, offer, tomen rwbel neu gyfleusterau eraill neu storfeydd y mae eu hangen ar gyfer adeiladu neu osod;

ystyr “arwynebedd llawr” (“floorspace”) yw arwynebedd y lloriau mewn adeilad neu adeiladau.

mae i “dyfroedd a reolir” yr un ystyr ag a roddir i “controlled waters” yn Neddf Adnoddau Dŵr 1991(7).

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

2.  Mae’r tabl isod yn nodi disgrifiadau o ddatblygiad a throthwyon a meini prawf cymwys at ddiben dosbarthu datblygiad yn ddatblygiad Atodlen 2.LL+C

Colofn 1

Disgrifiad o ddatblygiad

Colofn 2

Trothwyon a meini prawf cymwys

Cynnal datblygiad ar gyfer darparu unrhyw un o’r canlynol—
1 Amaethyddiaeth a dyframaethu
(a) Prosiectau ar gyfer defnyddio tir heb ei drin neu arwynebau lled-naturiol at ddibenion amaethyddol dwys;Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar.
(b) Prosiectau rheoli dŵr ar gyfer amaethyddiaeth, gan gynnwys prosiectau dyfrhau a draenio tir;Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.
(c) Gosodiadau da byw dwys (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);Mae’r arwynebedd llawr newydd yn fwy na 500 metr sgwâr.
(d) Ffermio pysgod dwys;Mae’r gosodiad a gyfyd o’r datblygiad wedi ei gynllunio i gynhyrchu mwy na 10 tunnell o bwysau pysgod marw y flwyddyn.
(e) Adennill tir o’r môr.Pob datblygiad.
2 Diwydiant echdynnol

(a) Chwareli, cloddio glo brig ac echdynnu mawn (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);

(b) Cloddio o dan y ddaear;

Pob datblygiad heblaw adeiladu adeiladau neu adeileddau ategol eraill lle nad yw’r arwyneb llawr yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
(c) Echdynnu mwynau drwy garthu afonol neu forol;Pob datblygiad.

(d) Driliadau dwfn, yn enwedig—

(i) drilio geothermol;

(ii) drilio ar gyfer storio deunydd gwastraff niwclear;

(iii) drilio ar gyfer cyflenwadau dŵr;

ac eithrio driliadau ar gyfer ymchwilio i sefydlogrwydd y pridd;

(i) Mewn perthynas ag unrhyw fath o ddrilio, mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar; neu

(ii) mewn perthynas â drilio geothermol a drilio ar gyfer storio deunydd gwastraff niwclear, mae’r drilio o fewn 100 metr oddi wrth unrhyw ddyfroedd a reolir.

(e) Gosodiadau diwydiannol ar yr wyneb ar gyfer echdynnu glo, petrolewm, nwy a mwynau naturiol, yn ogystal â siâl bitwminaidd.Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar.
3 Diwydiant ynni
(a) Gosodiadau diwydiannol ar gyfer cynhyrchu trydan, stêm a dŵr poeth (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar.
(b) Gosodiadau diwydiannol ar gyfer cludo nwy, stêm a dŵr poeth;Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.

(c) Storio nwy naturiol ar yr wyneb;

(d) Storio nwyon hylosg o dan y ddaear;

(e) Storio tanwydd ffosil ar yr wyneb;

(i) Mae arwynebedd unrhyw adeilad, gwaddod neu adeiledd newydd yn fwy na 500 metr sgwâr; neu

(ii) adeilad, gwaddod neu adeiledd newydd sydd i’w leoli o fewn 100 metr oddi wrth unrhyw ddyfroedd a reolir.

(f) Cynhyrchu brics o lo a lignit ar raddfa ddiwydiannol;Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
(g) Gosodiadau ar gyfer prosesu a storio gwastraff ymbelydrol (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);(i) Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr; neu (ii) bydd yn ofynnol i’r gosodiad sy’n deillio o’r datblygiad gael trwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010(8) mewn perthynas â gweithgaredd sylweddau ymbelydrol a ddisgrifir ym mharagraff 11(2)(b), (2)(c) neu (4) o Ran 2 o Atodlen 23 i’r Rheoliadau hynny, neu amrywiad o drwydded o’r fath.
(h) Gosodiadau ar gyfer cynhyrchu ynni hydrodrydanol;Mae’r gosodiad wedi ei gynllunio i gynhyrchu mwy na 0.5 megawat.
(i) Gosodiadau ar gyfer defnyddio pŵer y gwynt er mwyn cynhyrchu ynni (ffermydd gwynt);

(i) Mae’r datblygiad yn golygu gosod mwy na 2 dyrbin; neu

(ii) mae uchder canol unrhyw dyrbin neu uchder unrhyw adeiledd arall yn fwy na 15 metr.

(j) Gosodiadau ar gyfer dal ffrydiau carbon deuocsid at ddibenion storio daearegol yn unol â Chyfarwyddeb 2009/31/EC o osodiadau nad ydynt wedi eu cynnwys yn Atodlen 1.Pob datblygiad.
4 Cynhyrchu a phrosesu metelau

(a) Gosodiadau ar gyfer cynhyrchu haearn crai neu ddur (prif ymdoddiad neu ymdoddiad eilaidd) gan gynnwys castio parhaus;

(b) Gosodiadau ar gyfer prosesu metelau fferrus—

(i) melinau rholio poeth;

(ii) gofaniaeth gyda

morthwylion;

(iii) araenu gyda haenau

metel ymdoddedig

amddiffynnol;

(c) Ffowndrïau metel fferrus;

(d) Gosodiadau ar gyfer toddi, gan gynnwys aloieiddio, metelau anfferrus, ac eithrio metelau gwerthfawr, gan gynnwys cynhyrchion wedi eu hadfer, (coethi, castio ffowndri, etc.);

(e) Gosodiadau ar gyfer trin arwynebedd metelau a deunyddiau plastig drwy ddefnyddio proses electrolytig neu gemegol;

(f) Gweithgynhyrchu a chydosod cerbydau modur a gweithgynhyrchu peiriannau cerbydau modur;

(g) Ierdydd llongau;

(h) Gosodiadau ar gyfer adeiladu a thrwsio awyrennau;

(i) Gweithgynhyrchu offer rheilffordd;

(j) Swagio gyda ffrwydron;

(k) Gosodiadau ar gyfer rhostio a sintro mwynau metelig.

Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
5 Diwydiant mwynol

(a) Ffyrnau golosg (distyllu glo sych);

(b) Gosodiadau ar gyfer gweithgynhyrchu sment;

(c) Gosodiadau ar gyfer cynhyrchu asbestos a gweithgynhyrchu cynhyrchion sy’n seiliedig ar asbestos (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);

(d) Gosodiadau ar gyfer gweithgynhyrchu gwydr gan gynnwys gwydrffibr;

(e) Gosodiadau ar gyfer mwyndoddi sylweddau mwynol gan gynnwys cynhyrchu ffibrau mwynol;

(f) Gweithgynhyrchu cynhyrchion ceramig drwy losgi, yn enwedig teils to, briciau, briciau gwrthsafol, teils, crochenwaith caled neu borslen.

Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
6 Diwydiant cemegol (oni bai ei fod wedi ei gynnwys yn Atodlen 1)

(a) Trin rhan-gynhyrchion a chynhyrchu cemegau;

(b) Cynhyrchu plaleiddiaid a chynhyrchion fferyllol, paent a farneisiau, elastomerau a pherocsidau;

Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr
(c) Cyfleusterau storio ar gyfer petrolewm, cynhyrchion petrocemegol a chemegol.

(i) Mae arwynebedd unrhyw adeilad neu strwythur newydd yn fwy na 0.05 hectar; neu

(ii) bydd mwy na 200 tunnell o betrolewm, cynhyrchion petrocemegol neu gemegol yn cael eu storio ar unrhyw un adeg.

7 Diwydiant bwyd

(a) Gweithgynhyrchu olew a braster llysiau ac anifeiliaid;

(b) Pacio a chanio cynhyrchion anifeiliaid a llysiau;

(c) Gweithgynhyrchu cynnyrch llaeth;

(d) Bragu a bragio;

(e) Gweithgynhyrchu melysion a surop;

(f) Gosodiadau ar gyfer cigydda anifeiliaid;

(g) Gosodiadau gweithgynhyrchu startsh diwydiannol;

(h) Ffatrïoedd pysg mâl ac olew pysgod;

(i) Ffatrïoedd siwgr.

Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
8 Diwydiannau tecstil, lledr, pren a phapur

(a) Gwaith diwydiannol ar gyfer cynhyrchu papur a bwrdd (oni bai ei fod wedi ei gynnwys yn Atodlen 1);

(b) Gweithfeydd ar gyfer rhagdriniaeth (gweithrediadau megis golchi, cannu, sgleinio) neu liwio ffibrau neu decstilau;

(c) Gweithfeydd ar gyfer trin lledr a chroen;

(d) Gosodiadau prosesu a chynhyrchu seliwlos.

Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
9. Y diwydiant rwber
Gweithgynhyrchu a thrin cynhyrchion sy’n seiliedig ar elastomer.Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
10. Prosiectau seilwaith
(a) Prosiectau datblygu ystad ddiwydiannol;Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 5 hectar.
(b) Prosiectau datblygu trefol, gan gynnwys adeiladu canolfannau siopa a meysydd parcio, stadiymau chwaraeon, canolfannau hamdden a sinemâu aml-sgrîn;

(i) Mae’r datblygiad yn cynnwys mwy nag 1 hectar o ddatblygiad trefol nad yw’n ddatblygiad tai annedd; neu

(ii) mae’r datblygiad yn cynnwys mwy na 150 o dai annedd; neu

(iii) mae arwynebedd cyffredinol y datblygiad yn fwy na 5 hectar.

(c) Adeiladu cyfleusterau trawslwytho rhyngfoddol a therfynellau rhyngfoddol (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);

Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar.
(d) Adeiladu rheilffyrdd (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.
(e) Adeiladu meysydd glanio (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);

(i) Mae’r datblygiad yn cynnwys estyniad i redfa; neu

(ii) mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.

(f) Adeiladu ffyrdd (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.
(g) Adeiladu harbyrau a gosodiadau porthladd gan gynnwys harbyrau pysgota (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.

(h) Adeiladu dyfrffordd fewndirol nad ydyw wedi ei chynnwys yn Atodlen 1, gwaith camlesu a lleddfu llifogydd;

(i) Argloddiau a gosodiadau eraill sydd wedi eu cynllunio i ddal dŵr neu ei storio yn yr hir dymor (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);

(j)Tramffyrdd, rheilffyrdd uwch ben a thanddaearol, leiniau crog neu leiniau tebyg o fath penodol, a ddefnyddir i gludo teithwyr yn unig neu’n bennaf;

Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.

(k)  Gosodiadau piblinellau olew a nwy a phiblinellau i gludo ffrydiau carbon deuocsid at ddibenion storio daearegol (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);

(l) Gosodiadau traphontydd dŵr pellter hir;

(i) Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar; neu,

(ii) yn achos piblinell nwy, bod gan y gosodiad bwysedd cynllun gweithredu sy’n fwy na medrydd 7 bar.

(m) Gwaith arfordirol er mwyn mynd i’r afael ag erydiad a gwaith morol a all addasu’r arfordir drwy adeiladu, er enghraifft argloddiau, morgloddiau, glanfeydd a gwaith arall sy’n amddiffyn rhag y môr, ac eithrio cynnal a chadw ac ailadeiladu gwaith o’r fath;Pob datblygiad.

(n) Cynlluniau tynnu dŵr daear ac ail-lenwi dŵr daear artiffisial nad ydynt wedi eu cynnwys yn Atodlen 1;

(o) Gwaith ar gyfer trosglwyddo adnoddau dŵr rhwng basnau afonydd nad ydyw wedi ei gynnwys yn Atodlen 1;

Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.
(p) Mannau gwasanaeth traffyrdd.Mae arwynebedd y gwaith yn fwy na 0.5 hectar.
11. Prosiectau eraill
(a) Traciau rasio a phrofi cerbydau modur parhaol;Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.
(b) Gosodiadau ar gyfer cael gwared â gwastraff (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);

(i) Mae’r gwarediad yn digwydd drwy losgi; neu

(ii) mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar; neu

(iii) bydd y gosodiad yn cael ei leoli o fewn 100 metr i unrhyw ddyfroedd a reolir.

(c) Gweithfeydd trin dŵr gwastraff (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 1,000 metr sgwâr.

(d) Safleoedd gwaddodi llaid;

(e) Storio haearn sgrap, gan gynnwys cerbydau sgrap;

(i) Mae arwynebedd y gwaddod neu storio yn fwy na 0.5 hectar; neu

(ii) bydd gwaddod yn cael ei wneud neu sgrap yn cael ei storio o fewn 100 metr i unrhyw ddyfroedd a reolir.

(f) Meinciau arbrofi ar gyfer peiriannau, tyrbinau neu adweithyddion;

(g) Gosodiadau ar gyfer gweithgynhyrchu ffibrau mwynol artiffisial;

(h) Gosodiadau ar gyfer adfer neu ddinistrio deunyddiau ffrwydrol;

(i) Ierdydd naceriaid.

Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
12 Twristiaeth a hamdden
(a) Llethrau sgïo, lifftiau sgïo a cheir cebl a datblygiadau cysylltiedig;

(i) Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar; neu

(ii) mae uchder unrhyw adeilad neu adeiledd arall yn fwy na 15 metr.

(b) Marinas;Mae arwynebedd y dŵr amgaeedig yn fwy na 1,000 metr sgwâr.

(c) Pentrefi gwyliau a chyfadeiladau gwestai y tu allan i ardaloedd trefol a datblygiadau cysylltiedig;

(d) Parciau thema;

Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar.
(e) Meysydd carafanau a safleoedd gwersylla parhaol;Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 1 hectar.
(f) Cyrsiau golff a datblygiadau cysylltiedig.Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 1 hectar.
13 Newidiadau ac estyniadau
(a) Unrhyw newid neu estyniad i ddatblygiad o ddisgrifiad a restrir yn Atodlen 1 (heblaw newid neu estyniad sy’n dod o fewn paragraff 23 o’r Atodlen honno) pan fo’r datblygiad wedi ei awdurdodi, ei weithredu neu yn y broses o gael ei weithredu eisoes.Gall y datblygiad fel y’i newidir neu y’i hestynnir gael effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

(b) Unrhyw newid neu estyniad i ddatblygiad o ddisgrifiad a restrir ym mharagraffau 1 i 12 o golofn 1 o’r tabl hwn, pan fo’r datblygiad wedi ei awdurdodi, ei weithredu neu yn y broses o gael ei weithredu eisoes.

(a) Bodlonir neu rhagorir ar y trothwyon a’r meini prawf yn y rhan gyfatebol o Golofn 2 o’r tabl hwn sy’n gymwys i’r datblygiad fel y’i newidir neu y’i hestynnir; a

(b) mewn achos o’r fath gall y datblygiad fel y’i newidir neu y’i hestynnir gael effaith andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

(c) Datblygiad o ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 1 a wneir ar gyfer datblygu a phrofi dulliau neu gynhyrchion newydd yn unig neu’n bennaf ac nad ydyw wedi ei ddefnyddio am fwy na dwy flynedd.

Pob datblygiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau 5(8), (9), (13), 6(4) ac 31(3)

ATODLEN 3LL+CMeini prawf dethol ar gyfer sgrinio datblygiad Atodlen 2

Nodweddion y datblygiadLL+C

1.  Rhaid ystyried nodweddion y datblygiad gan roi sylw yn benodol i—

(a)maint a dyluniad y datblygiad;

(b)y cyfuniad â datblygiad arall presennol a/neu ddatblygiad a gymeradwyir;

(c)y defnydd o adnoddau naturiol, yn enwedig tir, pridd, dŵr a bioamrywiaeth;

(d)cynhyrchu gwastraff;

(e)llygredd a niwsans;

(f)y perygl o ddamweiniau difrifol a/neu drychinebau sy’n berthnasol i’r datblygiad dan sylw, gan gynnwys y rheini a achosir gan newid yn yr hinsawdd, yn unol â gwybodaeth wyddonol;

(g)y risgiau i iechyd pobl (er enghraifft yn sgil halogi dŵr neu lygredd aer).

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Lleoliad y datblygiadLL+C

2.  Rhaid i sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio gan ddatblygiad gael ei ystyried, gan roi sylw, yn arbennig i’r canlynol—

(a)y defnydd presennol o’r tir a’r defnydd a gymeradwywyd o’r tir;

(b)digonedd cymharol, argaeledd, ansawdd a chapasiti atgynhyrchiol adnoddau naturiol (gan gynnwys pridd, tir, dŵr a bioamrywiaeth) yn yr ardal, gan gynnwys adnoddau tanddaearol;

(c)capasiti amsugnad yr amgylchedd naturiol, gan roi sylw arbennig i’r ardaloedd a ganlyn—

(i)gwlypdiroedd, ardaloedd glannau afonydd, ac aberoedd afonydd;

(ii)parthau arfordirol a’r amgylchedd morol;

(iii)ardaloedd mynyddoedd a choedwigoedd;

(iv)gwarchodfeydd natur a pharciau;

(v)safleoedd Ewropeaidd ac ardaloedd eraill a ddosberthir neu a warchodir o dan ddeddfwriaeth genedlaethol;

(vi)ardaloedd lle bu methiant eisoes i gyflawni’r safonau ansawdd amgylcheddol a nodir yn neddfwriaeth yr Undeb ac sy’n berthnasol i’r prosiect, neu ardaloedd lle ystyrir bod methiant o’r fath;

(vii)ardaloedd trwchus eu poblogaeth;

(viii)tirweddau a safleoedd o arwyddocâd hanesyddol, diwylliannol neu archaeolegol.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Mathau a nodweddion yr effaith bosiblLL+C

3.  Rhaid ystyried effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd mewn perthynas â’r meini prawf a nodir o dan baragraffau 1 a 2, gan roi sylw i effaith y datblygiad ar y ffactorau a bennir yn rheoliad 4(2), gan ystyried—

(a)maint a graddau gofodol yr effaith (er enghraifft yr arwynebedd daearyddol a maint y boblogaeth sy’n debygol o gael ei heffeithio);

(b)natur yr effaith;

(c)natur trawsffiniol yr effaith;

(d)dwysedd a chymhlethdod yr effaith;

(e)tebygolrwydd yr effaith;

(f)dechreuad, parhad, amledd a gwrthdroadwyedd disgwyliedig yr effaith;

(g)cyfuniad yr effaith ag effaith datblygiad arall presennol a/neu ddatblygiad a gymeradwywyd;

(h)y posibilrwydd o leihau’r effaith yn effeithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Rheoliad 17(3)

ATODLEN 4LL+CGwybodaeth i’w chynnwys mewn datganiadau amgylcheddol

1.  Disgrifiad o’r datblygiad, gan gynnwys yn benodol—LL+C

(a)disgrifiad o leoliad y datblygiad;

(b)disgrifiad o nodweddion ffisegol y datblygiad cyfan, gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, y gwaith dymchwel gofynnol a’r gofynion o ran y defnydd o’r tir yn ystod y cyfnod adeiladu a’r cyfnod gweithredol;

(c)disgrifiad o brif nodweddion cyfnod gweithredol y datblygiad (yn enwedig unrhyw brosesau cynhyrchu), er enghraifft, y galw am ynni a’r ynni a ddefnyddir; natur ac ansawdd y deunyddiau a’r adnoddau naturiol (gan gynnwys dŵr, tir, pridd a bioamrywiaeth) a ddefnyddir;

(d)amcangyfrifiad, yn ôl math ac ansawdd, o’r gweddillion a’r allyriadau (megis llygredd dŵr, llygredd aer, llygredd olew a llygredd isbridd, sŵn, dirgryniad, golau, gwres, ymbelydredd) a’r swm a’r mathau o wastraff a gynhyrchir yn ystod y cyfnod adeiladu a’r cyfnod gweithredol.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

2.  Disgrifiad o’r dewisiadau amgen rhesymol (er enghraifft o ran dyluniad, technoleg, lleoliad, maint a graddfa’r datblygiad) a astudiwyd gan y ceisydd neu’r apelydd sy’n berthnasol i’r datblygiad arfaethedig a’i nodweddion penodol a mynegiad o’r prif resymau dros y dewis a wnaed, gan gynnwys cymhariaeth o’r effeithiau amgylcheddol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

3.  Disgrifiad o’r agweddau perthnasol ar gyflwr presennol yr amgylchedd (senario waelodlin) ac amlinelliad o ddatblygiad tebygol y senario honno heb weithredu’r datblygiad i’r graddau y gellir asesu newidiadau naturiol o’r senario waelodlin gydag ymdrech resymol ar sail argaeledd gwybodaeth amgylcheddol a gwybodaeth wyddonol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

4.  Disgrifiad o’r ffactorau a bennir yn rheoliad 4(2) sy’n debygol o gael eu heffeithio’n sylweddol gan y datblygiad: poblogaeth, iechyd pobl, bioamrywiaeth (er enghraifft ffawna a fflora), tir (er enghraifft meddiannu tir) pridd (er enghraifft deunydd organig, erydiad, cywasgiad, selio), dŵr (er enghraifft newidiadau hydromorffolegol, swm ac ansawdd), aer, yr hinsawdd (er enghraifft allyriadau nwyon tŷ gwydr, effeithiau sy’n berthnasol i ymaddasu), asedau materol, treftadaeth ddiwylliannol, gan gynnwys agweddau pensaernïol ac archaeolegol, a’r dirwedd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

5.  Disgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd, o ganlyniad i, ymhlith eraill—LL+C

(a)y gwaith adeiladu a bodolaeth y datblygiad, gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, y gwaith dymchwel;

(b)y defnydd o adnoddau naturiol, yn enwedig tir, pridd, dŵr a bioamrywiaeth, gan ystyried i’r graddau y bo’n bosibl argaeledd cynaliadwy’r adnoddau hyn;

(c)allyriad llygryddion, sŵn, dirgryniadau, golau, gwres ac ymbelydredd, creu niwsans a gwaredu gwastraff a’i adfer;

(d)y risgiau i iechyd pobl, treftadaeth ddiwylliannol neu’r amgylchedd (er enghraifft o ganlyniad i ddamweiniau neu drychinebau);

(e)cyfuniad yr effeithiau â phrosiectau eraill presennol a/neu brosiectau eraill a gymeradwywyd, gan ystyried unrhyw broblemau amgylcheddol presennol sy’n ymwneud ag ardaloedd o bwysigrwydd amgylcheddol arbennig sy’n debygol o gael eu heffeithio neu’r defnydd o adnoddau naturiol;

(f)effaith y prosiect ar yr hinsawdd (er enghraifft natur a graddau allyriadau nwyon tŷ gwydr) ac i ba raddau y mae newid yn yr hinsawdd yn peryglu’r prosiect;

(g)y technolegau a’r sylweddau a ddefnyddir.

Dylai’r disgrifiad o’r effeithiau sylweddol tebygol ar y ffactorau a bennir yn rheoliad 4(2) gwmpasu’r effeithiau uniongyrchol ac unrhyw effeithiau anuniongyrchol, effeithiau eilaidd, effeithiau cynyddol, effeithiau trawsffiniol, effeithiau byr dymor, tymor canolig a hirdymor, effeithiau parhaol a thros dro ac effeithiau cadarnhaol a negyddol y datblygiad. Dylai’r disgrifiad hwn ystyried yr amcanion diogelu’r amgylchedd a sefydlwyd ar lefel yr Undeb Ewropeaidd neu lefel yr Aelod Wladwriaeth sy’n berthnasol i’r prosiect, gan gynnwys yn benodol y rheini a sefydlwyd o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC(9) a Chyfarwyddeb 2009/147/EC(10).

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

6.  Disgrifiad o’r dulliau darogan neu’r dystiolaeth a ddefnyddir i nodi ac asesu’r effeithiau ar yr amgylchedd, gan gynnwys manylion anawsterau (er enghraifft diffygion technegol neu ddiffyg gwybodaeth) a gododd wrth grynhoi’r wybodaeth ofynnol a’r prif ffactorau sy’n peri ansicrwydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

7.  Disgrifiad o’r mesurau a ragwelir i osgoi, atal, lleihau neu, os yw’n bosibl, gwrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd a nodwyd a, phan fo’n briodol, disgrifiad o unrhyw drefniadau monitro arfaethedig (er enghraifft llunio dadansoddiad ar ôl y prosiect). Dylai’r disgrifiad hwnnw esbonio i ba raddau y mae effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd wedi eu hosgoi, eu hatal, eu lleihau neu eu gwrthbwyso, a dylai gynnwys y cyfnod adeiladu yn ogystal â’r cyfnod gweithredol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

8.  Disgrifiad o effeithiau andwyol sylweddol disgwyliedig y datblygiad ar yr amgylchedd sy’n deillio o’r graddau y mae’r datblygiad yn agored i’r perygl o ddamweiniau difrifol a/neu drychinebau sy’n berthnasol i’r prosiect dan sylw. Caniateir defnyddio gwybodaeth berthnasol sydd ar gael ac a gasglwyd drwy asesiadau risg yn unol â deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd megis Cyfarwyddeb 2012/18/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor neu Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/71/Euratom neu asesiadau perthnasol a gyflawnir yn unol â deddfwriaeth genedlaethol at y diben hwn ar yr amod y cyflawnir gofynion y Gyfarwyddeb. Pan fo’n briodol, dylai’r disgrifiad hwn gynnwys mesurau a ragwelir i atal neu liniaru effeithiau andwyol sylweddol digwyddiadau o’r fath ar yr amgylchedd a manylion y parodrwydd ar gyfer argyfyngau o’r fath a’r ymateb arfaethedig iddynt.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

9.  Crynodeb annhechnegol o’r wybodaeth a ddarperir o dan baragraffau 1 i 8.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

10.  Rhestr gyfeirio sy’n nodi manylion y ffynonellau a ddefnyddir ar gyfer y disgrifiadau a’r asesiadau a gynhwysir yn y datganiad amgylcheddol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Rheoliad 39(3)

ATODLEN 5LL+CGorchmynion Datblygu Lleol

1.  Mewn achos pan fo’r Atodlen hon yn cael effaith, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys, yn ddarostyngedig i’r addasiadau canlynol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

2.  Nid yw rheoliadau 3, 9, 10, 12, 13, 20, ac 21 yn gymwys.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

3.  Yn rheoliad 5LL+C

(a)nid yw paragraff (2)(a) yn gymwys;

(b)ym mharagraff (2)(b) a (5), yn lle “perthnasol” darllener “lleol”;

(c)darllener fel pe bai paragraffau (10) a (16) wedi eu hepgor.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

4.  Mae rheoliad 11 yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at—LL+C

(a)cais, neu gais am ganiatâd cynllunio, yn gyfeiriadau at orchymyn datblygu lleol arfaethedig;

(b)awdurdod cynllunio perthnasol, yn gyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio lleol a fyddai’n gyfrifol am wneud y gorchymyn datblygu lleol;

(c)y ceisydd, yn gyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio lleol sy’n bwriadu gwneud y gorchymyn; a

(d)y cais AEA, yn gyfeiriadau at orchymyn datblygu lleol arfaethedig ar gyfer datblygiad AEA.

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

5.  Mae rheoliad 14 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—LL+C

Barnau Cwmpasu

14.(1) Pan fo gorchymyn datblygu lleol arfaethedig yn ddatblygiad AEA, caiff yr awdurdod cynllunio lleol ddatgan ei farn ynghylch cwmpas a manylder yr wybodaeth sydd i’w darparu yn y datganiad amgylcheddol (“barn gwmpasu”).

(2) Cyn dyroddi barn gwmpasu o dan baragraff (1) rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol lunio—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad cryno o natur a diben y datblygiad gan gynnwys ei leoliad a’i gapasiti technegol;

(c)ei effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd; a

(d)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r awdurdod cynllunio lleol ddymuno ei darparu neu eu cyflwyno.

(3) Ni chaiff awdurdod cynllunio lleol fabwysiadu barn gwmpasu hyd nes ei fod wedi ymgynghori â’r ymgynghoreion.

(4) Cyn mabwysiadu barn sgrinio rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gymryd i ystyriaeth—

(a)yr wybodaeth a luniwyd gan yr awdurdod ynghylch y datblygiad arfaethedig yn unol â pharagraff (2);

(b)nodweddion penodol y datblygiad neilltuol;

(c)nodweddion penodol datblygiad o’r math dan sylw; a

(d)y nodweddion amgylcheddol sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y datblygiad.

(5) Caiff awdurdod cynllunio lleol ofyn i Weinidogion Cymru o dan reoliad 15(1) wneud cyfarwyddyd o ran yr wybodaeth sydd i’w darparu yn y datganiad amgylcheddol (“cyfarwyddyd cwmpasu”).

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

6.  Rhaid darllen rheoliad 15 fel pe bai’n darparu—LL+C

Cyfarwyddydau cwmpasu

15.(1) Rhaid i ofyniad o dan y paragraff hwn yn unol â rheoliad 14(5) gynnwys—

(a)yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 14(2)(a)(i) i (iii); a

(b)unrhyw sylwadau y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn dymuno eu cyflwyno.

(2) Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r wybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (1) yn ddigonol i wneud cyfarwyddyd cwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r awdurdod cynllunio lleol.

(3) Rhaid i’r hysbysiad nodi unrhyw bwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ymgynghori â’r ymgynghoreion cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu mewn ymateb i ofyniad o dan baragraff (1), a

(b)gwneud cyfarwyddyd ac anfon copi i’r awdurdod cynllunio lleol, o fewn 5 wythnos gan ddechrau â’r dyddiad y daeth y gofyniad hwnnw i law neu’r fath gyfnod hwy sy’n rhesymol ofynnol.

(5) Cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu rhaid i Weinidogion Cymru ystyried y materion a bennir yn rheoliad 14(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I44Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

7.  Rhaid darllen rheoliad 16 fel pe bai’n darparu—LL+C

Gweithdrefn i hwyluso llunio datganiadau amgylcheddol

16.(1) Caiff awdurdod cynllunio lleol sy’n bwriadu llunio datganiad amgylcheddol holi ymgynghorai ynghylch pa un a oes gan yr ymgynghorai unrhyw wybodaeth y mae’r ymgynghorai neu’r awdurdod cynllunio lleol yn ystyried ei fod yn berthnasol i lunio’r datganiad amgylcheddol.

(2) Os oes gan yr ymgynghorai y fath wybodaeth rhaid iddo drin yr ymholiad gan yr awdurdod fel pe bai’r awdurdod cynllunio lleol yn gofyn am wybodaeth o dan reoliad 5(1) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(11).

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

8.  Mae rheoliad 17 i’w ddarllen fel pe bai—LL+C

(a)paragraffau (1) a (2) wedi eu hepgor;

(b)ym mharagraff (3)(d), yn lle “y ceisydd neu’r apelydd” ei fod yn darllen “yr awdurdod cynllunio lleol”;

(c)ym mharagraff (4)—

(i)yn is-baragraff (a), “neu Weinidogion Cymru, fel y bo’n briodol,” wedi ei hepgor; a

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “y ceisydd” ei fod yn darllen “yr awdurdod cynllunio lleol”.

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

9.  Mae rheoliad 18 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—LL+C

Y weithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei lunio mewn perthynas â gorchymyn datblygu lleol

18.(1) Pan fo datganiad, y cyfeirir ato fel “datganiad amgylcheddol”, wedi ei lunio mewn perthynas â datblygiad AEA y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu rhoi caniatâd cynllunio iddo drwy orchymyn datblygu lleol, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol—

(a)anfon copi o’r datganiad at yr ymgynghoreion a’u hysbysu y cânt gyflwyno sylwadau; a

(b)hysbysu unrhyw berson penodol y mae’r awdurdod yn ymwybodol ohono, sy’n debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu sydd â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb leol, o gyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli, lle gellir cael copi o’r datganiad a’r cyfeiriad y caniateir anfon sylwadau iddo.

(2) Ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol wneud y gorchymyn datblygu lleol hyd nes y bydd 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad olaf y cyflwynwyd copi o’r datganiad yn unol â’r rheoliad hwn wedi dod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

10.  Mae rheoliad 19 i’w ddarllen fel pe bai—LL+C

(a)paragraff (1) wedi ei hepgor;

(b)paragraff (2) yn darllen—

(2) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gyhoeddi hysbysiad drwy hysbyseb leol sy’n datgan—

(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio lleol;

(b)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad y cyfeirir ato yn y gorchymyn datblygu lleol arfaethedig;

(c)bod copi o’r gorchymyn drafft ac unrhyw blan neu ddogfennau eraill sy’n mynd ynghyd ag ef, yn ogystal â chopi o’r datganiad amgylcheddol, ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arno ar bob adeg resymol;

(d)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle caiff y cyhoedd edrych ar y dogfennau hynny, a’r dyddiad olaf y maent ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(e)manylion gwefan a gynhelir gan yr awdurdod cynllunio perthnasol, neu ar ei ran, lle gellir gweld y datganiad amgylcheddol a’r dogfennau eraill, a’r dyddiad diweddaraf y byddant ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)cyfeiriad yn yr ardal leol (pa un a yw’r un cyfeiriad ag a roddir o dan is-baragraff (d) ai peidio) lle mae’r tir wedi ei leoli lle gellir cael copïau o’r datganiad;

(g)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(h)os codir tâl am gopi, swm y tâl; ac

(i)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am y gorchymyn eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol cyn y dyddiad diweddaraf a bennir yn unol ag is-baragraff (d) neu (e).;

(c)paragraff (3) wedi ei hepgor;

(d)ym mharagraff (4), bod “ceisydd” yn darllen “awdurdod cynllunio lleol”; ac

(e)paragraffau (6) i (8) wedi eu hepgor.

Gwybodaeth Cychwyn

I48Atod. 5 para. 10 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

11.  Mae rheoliad 22 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—LL+C

Argaeledd copïau o ddatganiadau amgylcheddol

22.  Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r datganiad y cyfeirir ato fel y datganiad amgylcheddol a luniwyd mewn perthynas â datblygiad AEA y mae’r awdurdod yn bwriadu rhoi caniatâd cynllunio ar ei gyfer drwy orchymyn datblygu lleol ar gael yn—

(a)ei brif swyddfa yn ystod oriau swyddfa arferol; a

(b)y fath leoedd eraill o fewn ei ardal fel yr ystyria yn briodol; ac

y gellir cyrchu’r datganiad amgylcheddol ar y wefan y cyfeirir ati yn yr hysbysiad sy’n ofynnol o dan reoliad 19(2)(e).

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 5 para. 11 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

12.  Mae rheoliad 24 i’w ddarllen fel pe bai—LL+C

(a)paragraff (1) yn darllen—

(1) Pan fo datganiad amgylcheddol wedi ei lunio a bod yr awdurdod cynllunio lleol o’r farn, er mwyn bodloni gofynion rheoliad 17(3), ei bod yn angenrheidiol ategu’r datganiad gyda gwybodaeth ychwanegol sy’n uniongyrchol berthnasol i ddod i gasgliad rhesymedig ar effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad arfaethedig er mwyn bod yn ddatganiad amgylcheddol, rhaid i’r awdurdod sicrhau bod gwybodaeth ychwanegol yn cael ei darparu, ac y cyfeirir at y fath wybodaeth yn y Rheoliadau hyn fel “gwybodaeth bellach” (“further information”).;

(b)paragraff (3) yn darllen—

(3) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gyhoeddi hysbysiad drwy hysbyseb leol sy’n nodi—

(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod;

(b)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad y cyfeirir ato yn y gorchymyn datblygu lleol arfaethedig;

(c)bod gwybodaeth bellach ar gael mewn perthynas â datganiad amgylcheddol sydd wedi ei ddarparu’n barod;

(d)bod copi o’r wybodaeth bellach ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arno ar bob adeg resymol;

(e)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle caiff y cyhoedd edrych ar yr wybodaeth bellach, a’r dyddiad olaf y mae ar gael i’w gweld (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)manylion gwefan a gynhelir gan yr awdurdod, neu ar ei ran, lle gellir gweld y datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill, a’r dyddiad diweddaraf y maent ar gael i’w cyrchu (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(g)cyfeiriad yn yr ardal leol (pa un a yw’r un cyfeiriad ag a roddir o dan is-baragraff (e) ai peidio) lle mae’r tir wedi ei leoli lle gellir cael copïau o’r wybodaeth bellach;

(h)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(i)os codir tâl am gopi, swm y tâl;

(j)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am yr wybodaeth bellach eu cyflwyno i’r awdurdod cyn y dyddiad diweddaraf a bennir yn unol ag is-baragraffau (e) ac (f);

(k)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.;

(c)paragraff (4) yn darllen—

(4) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol anfon copi o’r wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall at bob person, yn unol â’r Rheoliadau hyn, yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi ac at Weinidogion Cymru.;

(d)paragraffau (5) a (6) wedi eu hepgor;

(e)paragraff (7) yn darllen—

(7) Pan ddarperir gwybodaeth o dan baragraff (1) rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol beidio â gwneud y gorchymyn datblygu lleol cyn diwedd cyfnod o 30 o ddiwrnodau ar ôl y diweddaraf o blith—

(a)y dyddiad yr anfonwyd yr wybodaeth bellach at bob person yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi;

(b)y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad amdani mewn papur newydd lleol; neu

(c)y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad amdani ar wefan.;

(f)ym mharagraff (8)—

(i)yn lle “ceisydd neu’r apelydd sy’n darparu” ei fod yn darllen “awdurdod cynllunio lleol sy’n darparu”; a

(ii)yn is-baragraff (a), ar ôl “nifer rhesymol o gopïau o’r wybodaeth” ei fod yn darllen “bellach neu wybodaeth arall”.

Gwybodaeth Cychwyn

I50Atod. 5 para. 12 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

13.  Mae rheoliad 25 i’w ddarllen fel pe bai ym mharagraff (1) “ar gais neu apêl y cyflwynwyd datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef neu hi” i’w ddarllen “pa un ai i wneud gorchymyn datblygu lleol y cyflwynwyd datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 5 para. 13 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

14.  Mae rheoliad 27 i’w ddarllen fel pe bai paragraffau (1) a (2) yn darllen—LL+C

(1) Pan fo manylion gorchymyn datblygu lleol drafft yn cael eu gosod ar Ran 3 o’r gofrestr, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gymryd camau i sicrhau bod copi o unrhyw rai perthnasol o’r canlynol yn cael eu gosod ar y Rhan honno hefyd—

(a)barn sgrinio;

(b)cyfarwyddyd sgrinio;

(c)barn gwmpasu;

(d)cyfarwyddyd o dan reoliad 5(4) neu (5);

(e)datganiad y cyfeirir ato fel y datganiad amgylcheddol gan gynnwys unrhyw wybodaeth bellach;

(f)datganiad o resymau sy’n mynd ynghyd ag unrhyw rai o’r uchod.

(2) Pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol yn mabwysiadu barn sgrinio neu farn gwmpasu, neu’n cael copi o gyfarwyddyd sgrinio cyn y gwneir gorchymyn datblygu lleol, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gymryd camau i sicrhau bod copi o’r farn neu’r cyfarwyddyd ac unrhyw ddatganiad o resymau sy’n mynd ynghyd ag ef ar gael i’r cyhoedd gael edrych arno ar bob adeg resymol yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu’r adran berthnasol o’r gofrestr honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I52Atod. 5 para. 14 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

15.  Mae rheoliad 28 i’w ddarllen fel pe bai paragraff (1) yn darllen—LL+C

(1) Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn gwneud gorchymyn datblygu lleol sy’n rhoi caniatâd ar gyfer datblygiad AEA, rhaid iddo lunio datganiad sy’n nodi’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 5 para. 15 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

16.  Mae rheoliad 29 i’w ddarllen fel pe bai—LL+C

(a)ym mharagraff (1) yn lle “Pan fo cais AEA yn cael ei benderfynu gan awdurdod cynllunio lleol” ei fod yn darllen “Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu gorchymyn datblygu lleol sy’n rhoi caniatâd i ddatblygiad sy’n ddatblygiad AEA”;

(b)paragraff (2) wedi ei hepgor; ac

(c)ym mharagraff (3) y cyfeiriad at “awdurdod cynllunio perthnasol” yn darllen “awdurdod cynllunio lleol”.

Gwybodaeth Cychwyn

I54Atod. 5 para. 16 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

17.  Mae rheoliad 56 i’w ddarllen fel pe bai—LL+C

(a)paragraff (1)(a) yn darllen—

(a)y daw i sylw Gweinidogion Cymru bod datblygiad AEA y bwriedir ei gynnal yng Nghymru y mae awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu rhoi caniatâd cynllunio drwy orchymyn datblygu lleol ar ei gyfer yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall; neu; a

(b)ym mharagraffau (3) a (6), yn lle “cais” ei fod yn darllen “gorchymyn datblygu lleol arfaethedig”.

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 5 para. 17 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Rheoliad 40

ATODLEN 6LL+CGorchmynion adran 97 a 102 o dan Ddeddf 1990

1.  Mewn achos pan fo’r Atodlen hon yn cael effaith, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I56Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

2.  Nid yw rheoliadau 3, 7(2), 9, 10, 12(1), (2) ac (8), 13 ac 21 yn gymwys.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

3.  Yn yr Atodlen hon ac wrth gymhwyso’r Rheoliadau hyn gan yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at yr “awdurdod cynllunio perthnasol” yn gyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio lleol a fyddai’n gyfrifol am wneud y gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102, pa un ai hwy yw’r corff cychwyn ai peidio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

4.  Mae rheoliad 5 i’w ddarllen fel pe bai—LL+C

(a)paragraff (2)(a) heb fod yn gymwys;

(b)ym mharagraff (2)(b), yn lle “perthnasol” ei fod yn darllen “lleol”;

(c)paragraff (10) wedi ei hepgor.

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

5.  Mae rheoliadau 8, 11 a 12(3) i (8) yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at—LL+C

(a)cais neu gais am ganiatâd cynllunio yn gyfeiriadau at gynnig ar gyfer gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102;

(b)y ceisydd yn gyfeiriadau at y corff cychwyn; ac

(c)cais AEA, yn gyfeiriadau at gynnig ar gyfer gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 sy’n rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA neu’n addasu caniatâd o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I60Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

6.  Mae rheoliad 12(8) i’w ddarllen fel pe bai “drwy wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol” yn darllen “drwy wrthod gwneud neu gadarnhau’r gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I61Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

7.  Mae rheoliad 14 a’i bennawd i’w darllen fel pe baent yn darparu—LL+C

Barnau cwmpasu a chyfarwyddydau cwmpasu

14.(1) Pan fo gorchymyn adran 97 arfaethedig neu orchymyn adran 102 arfaethedig yn caniatáu datblygiad AEA neu’n gwneud datblygiad AEA yn ofynnol, caniateir i’r corff cychwyn ddatgan ei farn am gwmpas a manylder yr wybodaeth sydd i’w darparu yn y datganiad amgylcheddol.

(2) Cyn dyroddi barn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu o dan baragraff (1) rhaid i’r corff cychwyn gynnwys—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad byr o natur a diben y datblygiad gan gynnwys ei leoliad a’i gapasiti technegol;

(c)ei effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd; a

(d)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y mae’r corff cychwyn yn dymuno eu darparu neu eu cyflwyno.

(3) Rhaid i gorff cychwyn beidio â mabwysiadu barn gwmpasu na chyfarwyddyd cwmpasu hyd nes ei fod wedi ymgynghori â’r ymgynghoreion.

(4) Cyn mabwysiadu barn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu rhaid i’r corff cychwyn ystyried—

(a)yr wybodaeth a luniwyd gan y corff cychwyn am y datblygiad arfaethedig yn unol â pharagraff (2);

(b)nodweddion penodol y datblygiad penodol;

(c)nodweddion penodol datblygiad o’r math dan sylw; a

(d)y nodweddion amgylcheddol sy’n debygol o gael eu heffeithio arnynt gan y datblygiad.

(5) Caiff awdurdod cynllunio lleol ofyn i Weinidogion Cymru o dan reoliad 15(1) wneud cyfarwyddyd ynghylch yr wybodaeth sydd i’w darparu yn y datganiad amgylcheddol.

(6) Os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu o’u hewyllys eu hunain neu ar gais trydydd parti, rhaid iddynt anfon copi i’r awdurdod cynllunio lleol sydd wedi cychwyn y gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I62Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

8.  Mae rheoliad 15 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—LL+C

Cyfarwyddydau cwmpasu

15.(1) Rhaid i ofyniad a wneir o dan y paragraff hwn yn unol â rheoliad 14(5) gynnwys—

(a)yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 14(2); a

(b)unrhyw sylwadau y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn dymuno eu cyflwyno.

(2) Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r wybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (1) yn ddigonol i wneud cyfarwyddyd cwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r awdurdod cynllunio lleol.

(3) Rhaid i’r hysbysiad nodi unrhyw bwyntiau y mae’n ofynnol cael gwybodaeth ychwanegol amdanynt.

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ymgynghori â’r ymgynghoreion cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu mewn ymateb i ofyniad o dan baragraff (1), a

(b)gwneud cyfarwyddyd ac anfon copi i’r awdurdod cynllunio lleol, o fewn 5 wythnos gan ddechrau â’r dyddiad y ceir y gofyniad hwnnw neu’r fath gyfnod hwy a all fod yn rhesymol ofynnol.

(5) Cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu rhaid i Weinidogion Cymru ystyried y materion a bennir yn rheoliad 14(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

9.  Mae rheoliad 16 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—LL+C

16.(1) Caiff corff cychwyn sy’n bwriadu llunio datganiad amgylcheddol ymgynghori ag ymgynghorai er mwyn penderfynu pa un a oes gan yr ymgynghorai unrhyw wybodaeth y mae’r ymgynghorai neu’r corff cychwyn yn ystyried ei bod yn berthnasol i lunio’r datganiad amgylcheddol.

(2) Os oes gan yr ymgynghorai y fath wybodaeth, rhaid i’r ymgynghorai drin yr ymgynghoriad gan y corff cychwyn fel pe bai’r awdurdod cynllunio lleol yn gofyn am wybodaeth o dan reoliad 5(1) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(12).

Gwybodaeth Cychwyn

I64Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

10.  Mae rheoliad 17 i’w ddarllen fel pe bai—LL+C

(a)paragraff (1) wedi ei hepgor;

(b)ym mharagraff (3)(d), yn lle “ceisydd neu’r apelydd” ei fod yn darllen “corff cychwyn”;

(c)ym mharagraff (4)(b), yn lle “ceisydd neu’r apelydd” ei fod yn darllen “corff cychwyn”.

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 6 para. 10 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

11.  Mae rheoliad 18 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—LL+C

18.(1) Pan fo datganiad, y cyfeirir ato fel datganiad amgylcheddol, wedi ei lunio gan gorff cychwyn mewn perthynas â datblygiad sy’n ymwneud â gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102, rhaid i’r corff hwnnw—

(a)anfon copi o’r gorchymyn adran 97 drafft neu’r gorchymyn adran 102 drafft a’r datganiad at yr ymgynghoreion a’u hysbysu y cânt gyflwyno sylwadau; a

(b)hysbysu unrhyw berson penodol y mae’r corff yn ymwybodol ohono ac sy’n debygol o gael ei effeithio gan y gorchymyn drafft, neu sydd â diddordeb yn y gorchymyn drafft, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad safle neu drwy hysbyseb leol, o—

(i)cyfeiriad swyddfa’r corff cychwyn lle gellir cael copi o’r gorchymyn drafft a’r datganiad; a

(ii)y cyfeiriad y caniateir anfon sylwadau iddo.

(2) Ni chaiff y corff cychwyn wneud y gorchymyn hyd nes diwedd 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad diweddaraf y cyhoeddwyd copi o’r datganiad yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 19.

(3) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol yn llunio datganiad amgylcheddol, rhaid iddo anfon at Weinidogion Cymru, o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl anfon y datganiad at yr ymgynghoreion, un copi o bob un o unrhyw farn sgrinio, datganiad o resymau a gorchymyn drafft perthnasol yn electronig ac ar bapur oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I66Atod. 6 para. 11 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

12.  Mae rheoliad 19 i’w ddarllen fel pe bai—LL+C

(a)paragraff (1) wedi ei hepgor;

(b)paragraff (2) yn darllen—

(2) Rhaid i’r corff cychwyn gyhoeddi drwy hysbyseb leol hysbysiad sy’n nodi—

(a)enw a chyfeiriad y corff cychwyn;

(b)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad y cyfeirir ato yn y gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102 arfaethedig;

(c)bod copi o’r gorchymyn drafft ac unrhyw blan neu ddogfennau eraill sy’n dod gydag ag ef, yn ogystal â chopi o’r datganiad amgylcheddol ar gael i aelodau’r cyhoedd edrych arno ar bob adeg resymol;

(d)cyfeiriad swyddfa’r corff cychwyn lle mae’r dogfennau hynny ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt, a’r dyddiad diweddaraf y byddant ar gael i’w gweld (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(e)manylion gwefan a gynhelir gan neu ar ran yr awdurdod cynllunio perthnasol lle gellir gweld yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, a’r dyddiad diweddaraf y maent ar gael i’w cyrchu (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)cyfeiriad (pa un a yw’r un cyfeiriad a roddir o dan is-baragraff (d) ai peidio) swyddfa’r corff cychwyn lle gellir cael copïau o’r datganiad;

(g)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(h)os codir tâl am gopi, swm y tâl; ac

(i)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau ynglŷn â’r gorchymyn eu cyflwyno i’r corff cychwyn cyn y dyddiad a bennir yn unol ag is-baragraff (d).;

(c)paragraff (3) wedi ei hepgor;

(d)ym mharagraff (4), bod “ceisydd” yn darllen “corff cychwyn”; ac

(e)paragraffau (6) i (8) wedi eu hepgor.

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 6 para. 12 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

13.  Mae rheoliad 20 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—LL+C

20.  Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn cyflwyno gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau, rhaid i’r awdurdod hefyd gyflwyno un copi o unrhyw ddatganiad amgylcheddol ac unrhyw wybodaeth bellach.

Gwybodaeth Cychwyn

I68Atod. 6 para. 13 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

14.  Mae rheoliad 22 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—LL+C

22.(1) Pan mai’r awdurdod cynllunio lleol yw’r corff cychwyn, rhaid iddo sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r datganiad y cyfeirir ato fel y datganiad amgylcheddol a luniwyd mewn perthynas â’r datblygiad y mae’r awdurdod yn bwriadu gwneud gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 mewn perthynas ag ef ar gael—

(a)yn ei brif swyddfa yn ystod oriau swyddfa arferol; a

(b)yn y fath leoedd eraill o fewn ei ardal fel yr ystyria yn briodol.

(2) Pan mai Gweinidogion Cymru yw’r corff cychwyn, rhaid iddynt anfon copi o’r datganiad amgylcheddol a luniwyd mewn perthynas â’r gorchymyn arfaethedig i’r awdurdod cynllunio lleol a fyddai’n gyfrifol am benderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio mewn perthynas â’r datblygiad sy’n dod o dan y gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102 arfaethedig.

(3) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol yn cael copi o ddatganiad amgylcheddol yn unol â pharagraff (2), rhaid iddo sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r datganiad ar gael—

(a)yn ei brif swyddfa yn ystod oriau swyddfa arferol; a

(b)yn y fath leoedd eraill o fewn ei ardal fel yr ystyria yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I69Atod. 6 para. 14 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

15.  Rhaid darllen rheoliad 24 fel pe bai—LL+C

(a)paragraff (1) yn darllen—

(1) Pan fo—

(a)datganiad amgylcheddol wedi ei lunio; a gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 wedi ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau; a

(b)Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol i’r datganiad gynnwys gwybodaeth ychwanegol sy’n uniongyrchol berthnasol i ddod i gasgliad rhesymedig ar effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad er mwyn bod yn ddatganiad amgylcheddol,

rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r awdurdod cynllunio perthnasol; a rhaid i’r awdurdod hwnnw sicrhau bod yr wybodaeth ychwanegol yn cael ei darparu; a chyfeirir at wybodaeth ychwanegol o’r fath yn y Rheoliadau hyn fel “gwybodaeth bellach” (“further information”).;

(b)paragraff (3) yn darllen—

(3) Rhaid i’r corff cychwyn gyhoeddi drwy hysbyseb leol hysbysiad sy’n nodi—

(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol;

(b)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad y cyfeirir ato yn y gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102 arfaethedig;

(c)bod gwybodaeth bellach ar gael mewn perthynas â datganiad amgylcheddol sydd wedi ei ddarparu eisoes;

(d)y caiff aelodau’r cyhoedd edrych ar gopi o’r wybodaeth bellach ar bob adeg resymol;

(e)cyfeiriad swyddfa’r corff cychwyn lle caiff y cyhoedd edrych ar yr wybodaeth bellach, a’r dyddiad diweddaraf y bydd ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)manylion gwefan a gynhelir gan yr awdurdod, neu ar ei ran lle gellir gweld yr wybodaeth arall, a’r dyddiad diweddaraf y mae ar gael i’w cyrchu (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(g)cyfeiriad y corff cychwyn (pa un a yw’r un cyfeiriad ag a roddir o dan is-baragraff (e) ai peidio) lle y gellir cael yr wybodaeth bellach;

(h)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(i)os codir tâl am gopi, swm y tâl;

(j)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am yr wybodaeth bellach eu cyflwyno i’r awdurdod cyn y dyddiad diweddaraf a bennir yn unol ag is-baragraffau (e) ac (f);

(k)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.;

(c)paragraff (4) yn darllen—

(4) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol anfon copi o’r wybodaeth bellach at bob person yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi, yn unol â’r Rheoliadau hyn, ac at Weinidogion Cymru.;

(d)paragraffau (5) a (6) wedi eu hepgor;

(e)paragraff (7) yn darllen—

(7) Pan ddarperir gwybodaeth o dan baragraff (1) neu pan ddarperir unrhyw wybodaeth arall, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â chadarnhau gorchymyn adran 97 na gorchymyn adran 102 cyn diwedd 30 o ddiwrnodau ar ôl y diweddaraf o blith—

(a)y dyddiad yr anfonwyd yr wybodaeth bellach at bob person yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi;

(b)y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad amdani mewn papur newydd lleol; neu

(c)y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad amdani ar wefan.;

(f)ym mharagraff (8)—

(i)“ceisydd neu’r apelydd sy’n darparu” yn darllen “awdurdod cynllunio lleol sy’n darparu”; a

(ii)yn is-baragraff (a), ar ôl “nifer rhesymol o gopïau o’r wybodaeth” ei fod yn dweud “bellach”.

Gwybodaeth Cychwyn

I70Atod. 6 para. 15 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

16.  Mae rheoliad 25(1) i’w ddarllen fel pe bai—LL+C

(a)“ar gais neu apêl” yn darllen “pa un ai i wneud neu gadarnhau gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102”; a

(b)“cyflwynwyd datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef neu hi” yn darllen “lluniwyd datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef”.

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 6 para. 16 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

17.  Mae rheoliad 27 i’w ddarllen fel pe bai’n darllen—LL+C

27.(1) Rhaid i bob awdurdod cynllunio lleol gadw cofnod sy’n cynnwys copi o bob gorchymyn adran 97 a gorchymyn adran 102 sy’n ymwneud â’i ardal, ynghyd â datganiad o’r rhesymau dros wneud y gorchymyn; a rhaid i’r awdurdod gymryd camau i sicrhau bod copi’n cael ei roi ar y cofnod hwnnw hefyd o unrhyw un o’r canlynol sy’n berthnasol—

(a)barn sgrinio;

(b)cyfarwyddyd sgrinio;

(c)barn gwmpasu;

(d)cyfarwyddyd o dan reoliad 5(4) neu (5);

(e)datganiad y cyfeirir ato fel y datganiad amgylcheddol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth bellach;

(f)datganiad o resymau sy’n dod gydag unrhyw rai o’r uchod.

(2) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu barn sgrinio neu farn gwmpasu, neu’n cael copi o gyfarwyddyd sgrinio neu gyfarwyddyd cwmpasu cyn i orchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 gael ei wneud, rhaid i’r awdurdod gymryd camau i sicrhau bod copi o’r farn neu’r cyfarwyddyd ac unrhyw ddatganiad o resymau sy’n dod gydag ef neu hi ar gael i’r cyhoedd edrych arno ar bob adeg resymol yn y lle y cedwir y cofnod.

(3) Rhaid i gopïau o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) barhau i fod ar gael am gyfnod o ddwy flynedd o’r dyddiad y’u gosodir ar y cofnod.

Gwybodaeth Cychwyn

I72Atod. 6 para. 17 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

18.  Mae rheoliad 28 i’w ddarllen fel pe bai paragraff (1) yn darllen—LL+C

(1) Pan fo corff cychwyn yn gwneud gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 sy’n rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA, rhaid iddo lunio datganiad sy’n nodi’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 6 para. 18 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

19.  Mae rheoliad 29 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—LL+C

29.(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr “penderfyniad” (“decision”), mewn perthynas â gorchymyn sy’n cael effaith o dan adran 97(7) o Ddeddf 1990, yw’r penderfyniad i wneud y gorchymyn ac fel arall, y penderfyniad i gadarnhau’r gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102.

(2) Pan fo gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 sy’n caniatáu datblygiad AEA neu’n gwneud datblygiad AEA yn ofynnol yn cael effaith, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol perthnasol pan fo’r gorchymyn yn cael ei wneud neu ei gadarnhau; a

(b)ac eithrio mewn perthynas â gorchmynion adran 97 sy’n cael effaith heb gael eu cadarnhau gan Weinidogion Cymru(13), ddarparu datganiad sy’n cynnwys yr wybodaeth ym mharagraff (3)(c) i’r awdurdod.

(3) Pan fo gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 sy’n caniatáu datblygiad AEA neu’n gwneud datblygiad AEA yn ofynnol yn cael effaith, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol—

(a)hysbysu’r cyhoedd am y penderfyniad, drwy hysbyseb leol, neu drwy’r fath ddulliau eraill sy’n rhesymol o dan yr amgylchiadau; a

(b)sicrhau bod datganiad sy’n cynnwys y canlynol ar gael i’r cyhoedd edrych arno yn y lle y mae’r cofnod o orchmynion adran 97 a gorchmynion adran 102 yn cael eu cadw—

(i)cynnwys y penderfyniad ac unrhyw amodau cysylltiedig;

(ii)y prif resymau ac ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniad arnynt gan gynnwys, os yw’n berthnasol, gwybodaeth am gyfranogiad y cyhoedd;

(iii)disgrifiad, pan fo angen, o’r prif fesurau i osgoi, lleihau, ac os yn bosibl, wrthbwyso prif effeithiau andwyol y datblygiad a ganiateir gan y gorchymyn neu sy’n ofynnol gan y gorchymyn; a

(iv)gwybodaeth ynglŷn â’r hawl i herio dilysrwydd y penderfyniad a’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I74Atod. 6 para. 19 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

20.  Mae rheoliad 56 i’w ddarllen fel pe bai—LL+C

(a)“penderfyniad” â’r un ystyr ag yn rheoliad 29 fel y’i haddaswyd gan baragraff 19;

(b)paragraff (1)(a) yn darllen—

(a)y daw i sylw Gweinidogion Cymru bod datblygiad AEA y bwriedir ei gynnal yng Nghymru ac y mae corff cychwyn yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu drwy orchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102, yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall; neu ; ac

(c)ym mharagraffau (3) a (6), yn lle “cais” ei fod yn darllen “gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 arfaethedig”.

Gwybodaeth Cychwyn

I75Atod. 6 para. 20 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Rheoliad 41

ATODLEN 7LL+CSwyddogaethau o dan adran 141 o Ddeddf 1990

1.  Mewn achos pan fo’r Atodlen hon yn cael effaith, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I76Atod. 7 para. 1 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

2.  Nid yw rheoliadau 3, 7(2), 8 i 13, 18 nac 21 yn gymwys.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 7 para. 2 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

3.  Yn yr Atodlen hon, ac wrth gymhwyso rheoliadau eraill gan yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at—LL+C

(a)“y ceisydd” (“the applicant”) yn gyfeiriadau at—

(i)y ceisydd am ganiatâd cynllunio a benderfynwyd eisoes;

(ii)yr awdurdod cynllunio mwynau yn achos gorchymyn o dan baragraff 1 o Atodlen 9 i Ddeddf 1990;

(iii)y corff cychwyn mewn cysylltiad â gorchymyn adran 97 neu 102; neu

(iv)person y caniateir iddo wneud cais am ganiatâd cynllunio pe bai Gweinidogion Cymru yn arfer eu swyddogaethau o dan adran 141(3) o Ddeddf 1990;

(b)“y cais” (“the application”) yn gyfeiriadau at—

(i)y cynnig i roi caniatâd cynllunio neu addasu caniatâd cynllunio;

(ii)y cynnig ar gyfer gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102;

(iii)y cais am ganiatâd cynllunio a fyddai’n ofynnol ar gyfer y datblygiad dan sylw yn dilyn unrhyw gyfarwyddyd o dan adran 141(3) o Ddeddf 1990.

Gwybodaeth Cychwyn

I78Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

4.—(1Pan fo’n ymddangos i Weinidogion Cymru, wrth ystyried hysbysiad prynu—LL+C

(a)bod y cais perthnasol yn gais Atodlen 1 neu’n gais Atodlen 2, neu y byddai’n gais o’r fath; a

(b)mewn perthynas â’r datblygiad dan sylw—

(i)ni fu’n destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio; neu

(ii)bu’n destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio cyn y rhoddwyd caniatâd cynllunio neu cyn y’i haddaswyd i’r effaith nad yw’n ddatblygiad AEA; ac

(c)nad yw’r cais perthnasol yn dod gyda datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn mae paragraffau (3) a (4) o reoliad 7 yn gymwys fel pe bai’r gofyniad am gadarnhau’r hysbysiad prynu yn ofyniad gan y ceisydd yn unol â rheoliad 6(8).

(2Pan fo rheoliad 7(3) yn gymwys yn rhinwedd paragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru, pan fo’n angenrheidiol, ac i’r graddau y mae’n angenrheidiol i sicrhau bod y ceisydd wedi darparu, yn achos—

(a)ceisiadau pan na wnaed unrhyw farn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio, yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2); a

(b)ceisiadau eraill, yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(3),

ofyn am wybodaeth ychwanegol cyn dyroddi cyfarwyddyd sgrinio.

Gwybodaeth Cychwyn

I79Atod. 7 para. 4 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

5.  Pan fo’n ymddangos i Weinidogion Cymru bod y cais perthnasol yn gais AEA ac nad yw’n dod gyda datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid iddynt—LL+C

(a)hysbysu’r ceisydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol; a

(b)anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol (os nad yr awdurdod hwnnw yw’r ceisydd).

Gwybodaeth Cychwyn

I80Atod. 7 para. 5 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

6.—(1Pan fo’r ceisydd yn bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r ceisydd a’r cais perthnasol—LL+C

(a)fel y maent yn gymwys i apelyddion ac apelau, yn achos camau arfaethedig o dan adran 141 o Ddeddf 1990—

(i)i roi caniatâd cynllunio;

(ii)i ddirymu neu ddiwygio’r amodau sy’n gysylltiedig â chaniatâd cynllunio;

(iii)i roi cyfarwyddyd, pe bai cais am ganiatâd cynllunio yn cael ei wneud, bod rhaid rhoi’r caniatâd hwnnw; ac

(b)fel y maent yn gymwys i’r corff cychwyn a gorchymyn adran 97 arfaethedig neu orchymyn adran 102 arfaethedig, yn achos camau arfaethedig o dan adran 141 o Ddeddf 1990—

(i)i ddirymu neu ddiwygio amodau sy’n gysylltiedig â’r fath orchymyn;

(ii)i ddiwygio’r fath orchymyn.

(2Pan fo’r ceisydd yn bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol rhaid i’r ceisydd gydymffurfio â darpariaethau erthygl 12(7A)(14) o Orchymyn 2012 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio) fel pe bai’r datganiad amgylcheddol wedi ei gyflwyno mewn perthynas â chais cynllunio sy’n dod o fewn erthygl 12(2) o Orchymyn 2012 ac fel pe bai, yn erthygl 12(7A) o Orchymyn 2012, y cyfeiriadau at gais am ganiatâd cynllunio yn gyfeiriadau at fwriad i weithredu o dan adran 141(2) neu (3) o Ddeddf 1990.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio gan y cais, neu’n debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac yn annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy ddull cyhoeddiad electronig, hysbysiad safle neu drwy hysbyseb leol, rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.

(4Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad o dan baragraff 5 o’r Atodlen hon, o fewn 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad, gadarnhau yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru y darperir datganiad amgylcheddol.

(5Os nad yw’r ceisydd yn ysgrifennu yn unol â pharagraff (4), ar ddiwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau ni chaiff Gweinidogion Cymru weithredu o dan adran 141(2) neu (3) o Ddeddf 1990.

Gwybodaeth Cychwyn

I81Atod. 7 para. 6 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

7.  Pan—LL+C

(a)fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff 6(3), a

(b)nad yw’r ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol ac yn cydymffurfio â rheoliad 19(6),

ni chaiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar y mater ond drwy gadarnhau’r hysbysiad prynu neu wrthod cadarnhau’r hysbysiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I82Atod. 7 para. 7 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

8.  Pan fo’n ymddangos i Weinidogion Cymru bod yr wybodaeth amgylcheddol sydd eisoes ger eu bron—LL+C

(a)yn ddigonol i asesu effeithiau amgylcheddol y datblygiad sy’n destun y gweithredu arfaethedig o dan adran 141(2) neu (3) o Ddeddf 1990, rhaid iddynt gymryd yr wybodaeth honno i ystyriaeth wrth wneud eu penderfyniad;

(b)yn annigonol i asesu effeithiau amgylcheddol y datblygiad, rhaid iddynt gyflwyno hysbysiad yn gofyn am wybodaeth bellach yn unol â rheoliad 24(1); ac

mae rheoliadau 14 i 17 a 19 i 28 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r ceisydd a’r cais—

(i)fel y maent yn gymwys i apelyddion ac apelau yn achos—

(aa)cynnig i roi caniatâd cynllunio;

(bb)cynnig i ddirymu neu ddiwygio’r amodau sy’n gysylltiedig â chaniatâd cynllunio; neu

(cc)cynnig i roi cyfarwyddyd, pe bai cais am ganiatâd cynllunio yn cael ei wneud, bod rhaid rhoi’r caniatâd hwnnw; a

(ii)fel y maent yn gymwys i’r corff cychwyn a gorchymyn adran 97 arfaethedig neu orchymyn adran 102 arfaethedig yn achos—

(aa)cynnig i ddirymu neu ddiwygio amodau sy’n gysylltiedig â’r fath orchymyn; neu

(bb)cynnig i ddiwygio’r fath orchymyn; a

(iii)fel pe bai’r cyfeiriadau at yr “awdurdod cynllunio perthnasol” yn gyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio lleol a fyddai’n penderfynu ar unrhyw gais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad dan sylw pe bai cais o’r fath yn cael ei gyflwyno.

Gwybodaeth Cychwyn

I83Atod. 7 para. 8 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Rheoliad 55(2)

ATODLEN 8LL+CCeisiadau ROMP

Addasu darpariaethau ynglŷn â gwaharddiad ar roi caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynolLL+C

1.  Mae rheoliad 3 (gwaharddiad ar roi caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol heb ystyried gwybodaeth amgylcheddol) i’w ddarllen fel pe bai, ar ôl “datblygiad AEA” ei fod yn darllen “yn unol â chais ROMP”(15).

Gwybodaeth Cychwyn

I84Atod. 8 para. 1 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Addasu darpariaethau mewn cais i awdurdod cynllunio lleol heb ddatganiad amgylcheddolLL+C

2.  Yn achos cais ROMP, rhaid i reoliad 11(4) (cais a wnaed i awdurdod cynllunio lleol heb ddatganiad amgylcheddol) gael ei ddarllen fel pe bai—

(a)“21 o ddiwrnodau” yn darllen “6 wythnos”; a

(b)ar ôl “yr hysbysiad”, ei fod yn darllen “, neu o fewn cyfnod arall y cytunir arno gyda’r awdurdod yn ysgrifenedig”.

Gwybodaeth Cychwyn

I85Atod. 8 para. 2 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Datgymhwyso rheoliadau ac addasu darpariaethau ar gais a atgyfeiriwyd neu a apelwyd i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddolLL+C

3.—(1Yn achos cais ROMP, nid yw rheoliadau 11(6) ac (8), 12(7) ac (8), 13(8) a (9), a 61 yn gymwys.

(2Yn achos cais ROMP, rhaid darllen rheoliad 12(6) (cais a atgyfeiriwyd at Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol) a rheoliad 13(7) (apêl i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol) fel pe bai—

(a)“21 o ddiwrnodau” yn darllen “6 wythnos”; a

(b)ar ôl “yr hysbysiad” ei fod yn darllen “, neu o fewn unrhyw gyfnod arall y cytunir arno gyda Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig”.

Gwybodaeth Cychwyn

I86Atod. 8 para. 3 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Amnewid cyfeiriadau at hawl i apelio o dan adran 78 o Ddeddf 1990 ac addasiadau i ddarpariaethau wrth apelio i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddolLL+C

4.—(1Yn achos cais ROMP, yn rheoliadau 13(1) a 20(1)(b), yn lle’r cyfeiriadau at “adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath)” darllener—

baragraff 5(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 9(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl i apelio).

(2Yn achos cais ROMP, darllener rheoliad 13(2) (apêl i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol) fel pe bai “, ac eithrio drwy wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol” wedi ei hepgor.

Gwybodaeth Cychwyn

I87Atod. 8 para. 4 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Addasu darpariaethau ar lunio, cyhoeddusrwydd a gweithdrefnau wrth gyflwyno datganiadau amgylcheddolLL+C

5.—(1Yn achos cais ROMP, yn rheoliadau 14(10) a 15(9), yn lle’r geiriau “â chais am ganiatâd cynllunio neu gais dilynol ar gyfer” darllener “â chais ROMP sy’n ymwneud â chaniatâd cynllunio arall sy’n awdurdodi”.

(2Yn achos cais ROMP, yn rheoliad 18 (y weithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno i awdurdod cynllunio lleol) yn lle paragraff (4) darllener—

(4) Pan fo ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol i’r awdurdod yn unol â pharagraff (1), mae darpariaethau erthygl 12 o Orchymyn 2012 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio) ac Atodlen 3 iddo yn gymwys i gais ROMP o dan baragraff—

(a)2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, a

(b)6(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995(16),

fel y maent yn gymwys i gais cynllunio sy’n dod o fewn paragraff (3A)(17) o erthygl 12 o Orchymyn 2012 ac eithrio bod “benderfynu’r amodau y mae cais cynllunio i fod yn ddarostyngedig iddynt” yn cael ei roi yn lle’r cyfeiriadau at “ganiatâd cynllunio” yn yr hysbysiad yn Atodlen 3 i Orchymyn 2012 a bod rhaid i’r hysbysiad gyfeirio at ddarpariaethau perthnasol Deddf 1991 neu Ddeddf 1995 y gwneir y cais yn unol â hwy.

(3Yn achos cais ROMP, yn rheoliad 19 (cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunio)—

(a)ym mharagraff (2)(a) yn lle’r geiriau “bod cais yn cael ei wneud am ganiatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol” darllener—

bod cais yn cael ei wneud i benderfynu’r amodau y mae caniatâd cynllunio i fod yn ddarostyngedig iddynt, darpariaethau perthnasol Deddf 1991 neu Ddeddf 1995 y gwneir y cais yn unol â hwy ;

(b)yn lle paragraff (7) darllener—

(7) Pan fo ceisydd yn dynodi bod y ceisydd yn bwriadu darparu datganiad o’r fath ac o dan y fath amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (1), rhaid i’r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd, yn ôl y digwydd, ohirio ystyried y cais neu’r apêl hyd nes y dyddiad a bennir gan yr awdurdod neu gan Weinidogion Cymru ar gyfer cyflwyno’r datganiad amgylcheddol a chydymffurfio â pharagraff (6); a rhaid iddynt beidio â phenderfynu’r cais neu’r apêl yn ystod y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad diweddaraf y mae’r datganiad a’r dogfennau eraill a grybwyllir ym mharagraff (6) yn cael eu cyhoeddi yn unol â’r rheoliad hwn.

(4Yn achos cais ROMP, yn rheoliad 20(1) (darparu copïau o ddatganiadau amgylcheddol a gwybodaeth bellach i Weinidogion Cymru pe bai atgyfeiriad neu apelio)—

(a)yn is-baragraff (a) yn lle “adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol)” darllener “baragraff 7(1) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 13(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 8(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995”; a

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath)” darllener “baragraff 5(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1992, paragraff 11(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 9(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl apelio)”.

(5Yn achos cais ROMP, yn rheoliad 22 (argaeledd copïau o ddatganiadau amgylcheddol) ar ôl “Orchymyn 2012” darllener “(fel y’i cymhwysir gan reoliad 18(5) neu gan baragraff 9(5) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995),”.

(6Yn achos cais ROMP, yn rheoliad 24 (gwybodaeth bellach a thystiolaeth mewn cysylltiad â datganiadau amgylcheddol)—

(a)ym mharagraff (3)(a) yn lle’r geiriau “ceisydd am ganiatâd cynllunio neu am gydsyniad dilynol, neu’r apelydd (yn ôl y digwydd)” darllener—

person sydd wedi gwneud cais am benderfynu’r amodau y mae’r cais cynllunio i fod yn ddarostyngedig iddynt neu sydd wedi apelio mewn perthynas â hwy, darpariaethau perthnasol Deddf 1991 neu Ddeddf 1995 y gwneir y cais yn unol â hwy;

(b)ym mharagraff (7)(a) ar ôl y geiriau “cais neu’r apêl dros dro” darllener “hyd y dyddiad a bennir ganddynt ar gyfer cyflwyno’r wybodaeth bellach”.

(7Yn rheoliad 25 (ystyried pa un a ddylid rhoi caniatâd cynllunio), ym mharagraff (1)(d) darllener fel pe bai “os rhoddir caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol” wedi ei hepgor.

Gwybodaeth Cychwyn

I88Atod. 8 para. 5 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Addasu darpariaethau wrth wneud cais i Uchel Lys a rhoi cyfarwyddydauLL+C

6.—(1Yn achos cais ROMP, yn lle rheoliad 59 (cais i’r Uchel Lys) darllener—

Cais i’r Uchel Lys

59.  At ddibenion Rhan 12 o Ddeddf 1990 (dilysrwydd penderfyniadau penodol), rhaid cymryd bod y cyfeiriad yn adran 288 o Ddeddf 1990, fel y’i cymhwysir gan baragraff 9(3) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 16(4) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 9(4) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995, nad yw gweithredoedd Gweinidogion Cymru o fewn pwerau Deddf 1990, yn ymestyn i benderfynu cais ROMP gan Weinidogion Cymru yn groes i reoliad 3.

(2Mae’r pŵer i roi cyfarwyddyd yn erthygl 18(2) o Orchymyn 2012 yn gymwys i ddatblygiad ROMP fel y mae’n gymwys i ddatblygiad y gwneir cais cynllunio mewn cysylltiad ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I89Atod. 8 para. 6 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Atal datblygiad mwynau dros droLL+C

7.—(1Pan fo’r awdurdod, Gweinidogion Cymru neu arolygydd yn ymdrin â chais ROMP neu apêl sy’n codi o gais ROMP ac yn hysbysu’r ceisydd neu’r apeliwr, yn ôl y digwydd, ei bod—

(a)yn ofynnol dan reoliad 11(1), 12(3) neu 13(5) i gyflwyno datganiad amgylcheddol, yna mae’n rhaid i hysbysiad o’r fath bennu’r cyfnod y mae’r datganiad amgylcheddol a chydymffurfiad â rheoliad 19(6) yn ofynnol; neu

(b)y dylai datganiad gynnwys gwybodaeth ychwanegol o dan reoliad 24(1), yna mae’n rhaid i hysbysiad o’r fath bennu’r cyfnod y mae’n rhaid darparu’r wybodaeth ynddo.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff y caniatâd cynllunio y mae’r cais ROMP yn ymwneud ag ef ond awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau (heblaw bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl nad yw datblygiad ROMP yn ddatblygiad AEA) os yw’r ceisydd neu’r apelydd wedi—

(a)ysgrifennu at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru o fewn y 6 wythnos neu gyfnod arall y cytunir arno yn unol â rheoliadau 11(3) ac 11(4), 12(4) a 12(6) neu 13(7);

(b)cyflwyno datganiad amgylcheddol a chydymffurfio â rheoliad 19(6) o fewn y cyfnod a bennir gan yr awdurdod neu Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (1) neu o fewn unrhyw gyfnod estynedig y cytunir arno’n ysgrifenedig;

(c)darparu gwybodaeth ychwanegol o fewn y cyfnod a bennir gan yr awdurdod, Gweinidogion Cymru neu arolygydd yn unol â pharagraff (1) neu o fewn unrhyw gyfnod estynedig y cytunir arno’n ysgrifenedig; neu

(d)pan fo hysbysiad o dan reoliad 6(5), 7(3), 14(3) neu 15(3) wedi ei gael, ar yr amod bod yr wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani o fewn 21 o ddiwrnodau gan ddechrau â dyddiad yr hysbysiad, neu o fewn unrhyw gyfnod estynedig y cytunir arno’n ysgrifenedig.

(3Pan fo paragraff (2) yn gymwys, ni chaiff y caniatâd cynllunio awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd—

(a)y cyfnod perthnasol a bennir yn rheoliadau 11(3) a 11(4), 12(4) a 12(6) neu 13(7) neu gyfnod y cytunir arno yn unol â’r rheoliadau hynny; a

(b)y cyfnod a bennir neu y cytunir arno yn ysgrifenedig fel y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b), (c), a (d),

hyd nes bod y ceisydd wedi cydymffurfio â’r holl ddarpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) sy’n berthnasol i’r cais neu’r apêl dan sylw.

(4Rhaid i fanylion atal datblygiad mwynau dros dro a dyddiad y bydd yr ataliad hwnnw’n dod i ben gael eu nodi yn y rhan briodol o’r gofrestr(18) cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol.

(5Nid yw paragraff (2) yn effeithio ar unrhyw ddatblygiad mwynau a gynhelir o dan y caniatâd cynllunio cyn dyddiad atal y datblygiad mwynau dros dro.

(6At ddibenion paragraffau (2) i (5), ystyr “datblygiad mwynau” (“minerals development”) yw datblygiad sy’n cynnwys tynnu mwynau a gweithio ar fwynau, neu’n cynnwys gwaddodi gwastraff mwynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I90Atod. 8 para. 7 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Penderfynu ar amodau a hawl apelio wrth beidio â phenderfynuLL+C

8.—(1Pan mai cyfrifoldeb awdurdod cynllunio mwynau yw penderfynu ar gais Atodlen 1 neu gais Atodlen 2, nid yw paragraff 2(6)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 9(9) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 6(8) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 yn cael effaith fel bod yr awdurdod yn cael ei drin fel pe bai wedi penderfynu ar yr amodau y mae unrhyw ganiatâd cynllunio perthnasol i fod yn ddarostyngedig iddynt oni bai—

(a)bod yr awdurdod wedi mabwysiadu barn sgrinio; neu

(b)bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl nad yw’r datblygiad ROMP dan sylw yn ddatblygiad AEA;

(2Pan mai cyfrifoldeb awdurdod cynllunio mwynau neu Weinidogion Cymru yw penderfynu ar gais Atodlen 1 neu Atodlen 2—

(a)mae adran 69 o Ddeddf 1990 (cofrestr o geisiadau etc.), ac unrhyw ddarpariaethau o Orchymyn 2012 a wnaed yn rhinwedd yr adran honno, yn cael effaith gydag unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol fel pe bai cyfeiriadau at geisiadau am ganiatâd cynllunio yn cynnwys ceisiadau ROMP o dan baragraff 9(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 6(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995(19); a

(b)pan nad yr awdurdod yw’r awdurdod y mae’n ofynnol iddo gadw’r gofrestr, rhaid i’r awdurdod ddarparu’r awdurdod y mae’n ofynnol iddo ei chadw gyda dogfennau a gwybodaeth o’r fath y mae ar yr awdurdod eu hangen i gydymffurfio ag adran 69 o Ddeddf 1990 fel y’i cymhwysir gan baragraff (a), gyda rheoliad 27 fel y’i cymhwysir gan reoliad 55, a chyda paragraff 7(4) o’r Atodlen hon.

(3Pan mai cyfrifoldeb yr awdurdod cynllunio mwynol neu Weinidogion Cymru yw penderfynu ar gais AEA a wnaed o dan baragraff 2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 nid yw paragraff 4(4) o’r Atodlen honno yn gymwys.

(4Pan mai cyfrifoldeb yr awdurdod cynllunio mwynol yw penderfynu ar gais AEA, rhaid i’r awdurdod roi rhybudd o’i benderfyniad am y cais ROMP o fewn 16 wythnos gan ddechrau â’r dyddiad y y ceir cais ROMP gan yr awdurdod neu unrhyw gyfnod estynedig y cytunir arno’n ysgrifenedig rhwng y ceisydd a’r awdurdod.

(5At ddibenion paragraff (4), ceir cais ROMP gan awdurdod cynllunio mwynau pan fydd yn cael—

(a)dogfen y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn;

(b)unrhyw ddogfennau gofynnol i gyd-fynd â’r datganiad hwnnw; ac

(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae’r awdurdod wedi hysbysu’r ceisydd y dylai’r datganiad amgylcheddol ei chynnwys.

(6Pan fo paragraff (1) yn gymwys—

(a)mae paragraff 5(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl apelio) yn cael effaith fel pe bai hefyd hawl apelio i Weinidogion Cymru pan nad yw’r awdurdodd cynllunio mwynol wedi rhoi rhybudd o’i benderfyniad am y cais ROMP yn unol â pharagraff (4); a

(b)paragraff 5(5) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(2) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(2) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl apelio) yn cael effaith fel pe baent hefyd yn darparu ar gyfer hysbysiad am apêl i gael ei wneud o fewn 6 mis ar ôl i’r 16 wythnos ddod i ben neu gyfnod arall y cytunwyd arno yn unol â pharagraff (4).

(7Wrth benderfynu at ddibenion—

(a)paragraffau 2(6)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, 9(9) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a 6(8) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (penderfynu ar amodau); neu

(b)paragraff 5(5) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(2) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(2) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl apelio) fel y’u cymhwysir gan baragraff 8(6)(b) o’r Atodlen hon,

yr amser sydd wedi mynd heibio heb i’r awdurdod cynllunio mwynol hysbysu’r ceisydd am ei benderfyniad ynglŷn ag achos pan fo’r awdurdod wedi hysbysu ceisydd yn unol â rheoliad 11(1)bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol a bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd sgrinio mewn perthynas â’r datblygiad ROMP dan sylw, ni chaniateir ystyried unrhyw gyfnod cyn y dyroddwyd y cyfarwyddyd hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I91Atod. 8 para. 8 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Cais ROMP gan awdurdod cynllunio mwynolLL+C

9.—(1Pan fo awdurdod cynllunio mwynol yn bwriadu gwneud neu yn gwneud cais ROMP sy’n gais Atodlen 1 neu Atodlen 2 i Weinidogion Cymru o dan reoliad 11 (cydsyniadau eraill) o’r Rheoliadau Cyffredinol(20), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r cais neu’r cais arfaethedig hwnnw fel y maent yn gymwys i gais ROMP yr atgyfeiriwyd at Weinidogion Cymru o dan baragraff 7(1) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 13(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 8(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (atgyfeirio ceisiadau i Weinidogion Cymru) yn ddarostyngedig i’r addasiadau canlynol—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw rheoliadau 6 i 11, 13, 14, 15, 18 (ac eithrio at ddibenion rheoliadau 21(3) a (4)), 20 a 29(1) yn gymwys;

(b)yn rheoliad 5 (darpariaethau cyffredinol yn ymwneud â sgrinio), nid yw paragraffau (4) a (5) yn gymwys;

(c)mae rheoliad 12(3) (cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol), yn gymwys fel pe bai “a rhaid iddynt anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol” wedi ei hepgor;

(d)yn rheoliad 16 (gweithdrefn i hwyluso llunio datganiadau amgylcheddol)—

(i)ym mharagraff (3)(b) yn lle “11(4)(a), 12(6) neu 13(7)” darllener “12(6)”;

(ii)darllener paragraff (4) fel pe bai “awdurdod cynllunio perthnasol ac” ac “awdurdod neu’r” yn y ddau le y mae’n digwydd wedi eu hepgor;

(e)yn rheoliad 19(2) (cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunio)—

(i)yn is-baragraff (a) darllener fel pe bai “ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol” wedi ei hepgor;

(ii)darllener fel pe bai is-baragraff (b) yn darparu—

(b)y dyddiad y gwnaed y cais a’i fod wedi ei wneud i Weinidogion Cymru o dan reoliad 11 o’r Rheoliadau Cyffredinol;;

(f)darllener rheoliad 21(2) (y weithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru), fel pe bai “a’r awdurdod cynllunio perthnasol” wedi ei hepgor;

(g)yn rheoliad 24(3) (gwybodaeth bellach a thystiolaeth mewn cysylltiad â datganiadau amgylcheddol)—

(i)darllener is-baragraff (a) fel pe bai “ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol” wedi ei hepgor;

(ii)darllener is-baragraff (b) fel pe bai’n darparu—

(b)y dyddiad y gwnaed y cais a’i fod wedi ei wneud i Weinidogion Cymru o dan reoliad 11 o’r Rheoliadau Cyffredinol;; a

(h)rheoliadau 25 (ystyried pa un a ddylid rhoi caniatâd cynllunio), 27 (argaeledd barnau, cyfarwyddyd etc. i’w harchwilio), 28(1) (gwybodaeth i ddod gyda phenderfyniadau) a 29(2) (dyletswyddau i hysbysu’r cyhoedd a Gweinidogion Cymru am y penderfyniadau terfynol) yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at awdurdod cynllunio perthnasol yn gyfeiriadau at awdurdod cynllunio mwynol.

(2Caiff awdurdod cynllunio mwynol sy’n bwriadu gwneud cais ROMP i Weinidogion Cymru o dan reoliad 11 o’r Rheoliadau Cyffredinol ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio, ac mae paragraffau (3) i (6) o reoliad 7 yn gymwys i gais o’r fath fel y maent yn gymwys i gais a wneir yn unol â rheoliad 6(8) ac eithrio fel pe bai ym mharagraff (5) “, hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gall am unrhyw rai o’r pwyntiau hynny” wedi ei hepgor.

(3Rhaid i ofyniad o dan baragraff (2) ddod gyda’r canlynol—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad o natur a diben y datblygiad ROMP, gan gynnwys yn benodol—

(i)disgrifiad o nodweddion ffisegol y datblygiad cyfan a, phan fo’n berthnasol, y gwaith dymchwel;

(ii)disgrifiad o leoliad y datblygiad, gan roi sylw penodol i sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio;

(c)disgrifiad o’r agweddau ar yr amgylchedd sy’n debygol o gael eu heffeithio yn sylweddol gan y datblygiad;

(d)disgrifiad o unrhyw effeithiau sylweddol tebygol, i’r graddau bod gwybodaeth ar gael ar yr effeithiau hynny, y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd o ganlyniad i—

(i)y gwaddodion a’r allyriadau disgwyliedig a’r gwastraff a gynhyrchir, pan fo’n berthnasol; a

(ii)y defnydd o adnoddau naturiol, yn enwedig pridd, tir, dŵr a bioamrywiaeth; ac

(e)y fath wybodaeth arall y gallai’r awdurdod ddymuno ei darparu gan gynnwys unrhyw nodweddion y datblygiad arfaethedig neu unrhyw fesurau a ragwelir i osgoi neu atal yr hyn a allai fod wedi bod fel arall yn effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

(4Rhaid i awdurdod sy’n gwneud cais o dan baragraff (2) anfon at Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth ychwanegol y caniateir iddynt ofyn amdani i wneud cyfarwyddyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I92Atod. 8 para. 9 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Ceisiadau ROMP: dyletswydd i wneud gorchymyn gwahardd ar ôl atal caniatad dros dro am ddwy flyneddLL+C

10.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys, mewn perthynas â datblygiad mwynau—

(a)os yw’r cyfnod o 2 flynedd yn dechrau ar y dyddiad atal wedi mynd heibio, a

(b)os yw’r camau a bennir ym mharagraff 7(2) heb eu cymryd eto.

(2Y “dyddiad atal” yw’r dyddiad y mae atal y pŵer i awdurdodi datblygiad mwynau (o fewn ystyr paragraff 7(6)) yn dechrau.

(3Mae paragraff 3 o Atodlen 9 i Ddeddf 1990 (gwahardd ailddechrau gwaith mwynau) (21) yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw ran o safle fel y mae’n cael effaith mewn perthynas â’r safle cyfan.

(4Mae is-baragraff (1) o’r paragraff hwnnw yn cael effaith fel pe bai “the mineral planning authority may by order” i’r diwedd yn darllen—

the mineral planning authority—

(i)must by order prohibit the resumption of the winning and working or the depositing; and

(ii)may in the order impose, in relation to the site, any such requirement as is specified in sub-paragraph (3).

(5Yn is-baragraff (2)(a) a (b) o’r paragraff hwnnw, rhaid darllen cyfeiriadau at dynnu a gweithio neu waddodi fel cyfeiriadau at dynnu a gweithio neu waddodi lle nad yw caniatâd wedi ei atal yn unol â pharagraff 7(3).

(6Mae paragraff 4(7) o Atodlen 9 i Ddeddf 1990 yn cael effaith fel pe bai “have effect” yn darllen “authorise that development”.

Gwybodaeth Cychwyn

I93Atod. 8 para. 10 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Rheoliad 64

SCHEDULE 9LL+CDiwygiadau i offerynnau eraill

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012LL+C

1.—(1Mae Gorchymyn 2012 wedi ei ddiwygio yn unol â’r paragraff hwn.

(2Yn erthygl 2(1)—

(a)hepgorer y diffiniadau o “cais AEA” (“EIA application”), “datblygiad AEA” (“EIA development”), “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) a “gwybodaeth amgylcheddol” (“environmental information”);

(b)yn y lleoedd perthnasol, mewnosoder—

(i)mae i “unrhyw wybodaeth arall” (“any other information”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA,

(ii)mae i “cais AEA” (“EIA application”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA,

(iii)mae i “datblygiad AEA” (“EIA development”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA,

(iv)ystyr “Rheoliadau AEA” (“EIA Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017;

(v)mae i “gwybodaeth amgylcheddol” (“environmental information”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA;

(vi)mae i “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA;

(vii)mae i “gwybodaeth bellach” (“further information”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA,

(viii)mae i “datblygiad Atodlen 1” (“Schedule 1 development”) a “datblygiad Atodlen 2” (“Schedule 2 development”) yr ystyron a roddir yn y Rheoliadau AEA;

(ix)mae i “barn gwmpasu” (“scoping opinion”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA; a

(x)mae i “cyfarwyddyd cwmpasu” (“scoping direction”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA.

(3Yn erthygl 10(4), ar ôl “ganiatâd cynllunio”, mewnosoder “ac eithrio ceisiadau AEA”.

(4Yn erthygl 12(22)

(a)ym mharagraff (2), yn lle “Yn” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (3A), yn”;

(b)hepgorer paragraff (2)(a);

(c)ar ôl paragraff (3), mewnosoder—

(3A) Yn achos cais AEA, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol roi cyhoeddusrwydd i’r cais yn unol â gofynion paragraff (7A) a, phan fo’r datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno gyda’r cais, drwy roi hysbysiad gofynnol—

(a)drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ar neu gerllaw’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, am gyfnod o ddim llai na 30 diwrnod; a

(b)drwy gyhoeddi’r hysbysiad mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn y gymdogaeth lle mae’r tir yr ymwneir ag ef yn y cais.;

(d)ym mharagraff (4), yn lle “paragraff (4A)” rhodder “paragraff (3A) neu (4A)”;

(e)ym mharagraff (4A), yn lle “(2)(a) neu (c)” rhodder “(2)(c) neu (3A)”;

(f)ym mharagraff (5), ar ôl “paragraff (2),”, mewnosoder “paragraff (3A),”;

(g)ym mharagraff (6), ar ôl “neu (5)(a)”, mewnosoder “, neu cyn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau y cyfeirir ato ym mharagraff (3A)(a),”

(h)ym mharagraff (7), ar ôl “ganiatâd cynllunio”, mewnosoder “ac eithrio ceisiadau AEA”; ac

(i)ar ôl paragraff (7) mewnosoder—

(7A) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol sicrhau ei fod yn cynnal gwefan at ddiben rhoi cyhoeddusrwydd i geisiadau AEA a rhaid cyhoeddi’r wybodaeth a ganlyn ar y wefan—

(a)cyfeiriad neu leoliad y datblygiad arfaethedig;

(b)disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig;

(c)y ffaith bod y datblygiad yn ddarostyngedig i’r weithdrefn asesu effeithiau amgylcheddol;

(d)y datganiad amgylcheddol, unrhyw farn gwmpasu berthnasol neu gyfarwyddyd cwmpasu perthnasol ac unrhyw wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall;

(e)yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 1998, y prif adroddiadau a chyngor a ddyroddwyd i’r awdurdod ar yr adeg y cyhoeddir yr wybodaeth (os oes rhai);

(f)yn unol â Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(23), gwybodaeth heblaw am yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan unrhyw is-baragraff arall sy’n berthnasol i’r penderfyniad ac sydd ond yn dod ar gael ar ôl yr adeg y cyhoeddir yr wybodaeth sy’n ofynnol gan y paragraff hwn am y tro cyntaf;

(g)lle, pryd a thrwy ba ddull y gellir edrych ar y cais a’r datganiad amgylcheddol;

(h)sut y gellir cael copïau o’r datganiad amgylcheddol a chost y fath gopïau;

(i)y dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid cyflwyno unrhyw sylwadau am y cais, na chaiff fod cyn diwrnod olaf y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad diweddaraf y cyhoeddir y datganiad amgylcheddol naill ai ar y wefan, yn unol â pharagraff (3A) neu yn unol â rheoliad 19 o’r Rheoliadau AEA;

(j)manylion eraill y trefniadau ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd yn y weithdrefn gwneud penderfyniadau gan gynnwys disgrifiad o’r weithdrefn ar gyfer cyhoeddi unrhyw wybodaeth ychwanegol a gyflwynir wedi hynny gan y ceisydd;

(k)sut y caniateir cyflwyno sylwadau ynghylch y cais;

(l)manylion y person neu’r corff sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniad;

(m)yn achos cais deiliad tŷ neu gais masnachol bach, os digwydd bod apêl yn mynd rhagddi drwy’r weithdrefn hwylusach, bod unrhyw sylwadau a gyflwynir ynghylch y cais yn cael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru ac ni fydd cyfle i gyflwyno sylwadau pellach.

(5Yn erthygl 14(4)(b), yn lle “21 diwrnod” yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “30 diwrnod yn achos cais AEA neu 21 diwrnod mewn unrhyw achos arall”.

(6Yn erthgyl 15A(2)(24), ar ôl “21 diwrnod” mewnosoder “, neu 30 diwrnod yn achos cais AEA, yn y naill achos neu’r llall”.

(7Yn erthygl 15C ar ôl “21 diwrnod” mewnosoder “, neu 30 diwrnod yn achos cais AEA, yn y naill achos neu’r llall”.

(8Yn erthygl 16 ar ôl “14 diwrnod” yn y ddau le y mae’n digwydd, mewnosoder “, (neu 30 diwrnod yn achos cais AEA,)”.

(9Yn erthygl 18(2), yn lle “i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016”, rhodder “i’r Rheoliadau AEA”.

(10Yn erthygl 21—

(a)ym mharagraff (1)(a), ar ôl “21 diwrnod”, mewnosoder “, neu, yn achos cais AEA sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol 30 diwrnod, yn y naill achos neu’r llall”; a

(b)ym mharagraff (1)(c), ar ôl “14 diwrnod”, mewnosoder “, neu, yn achos cais AEA sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol 30 diwrnod, yn y naill achos neu’r llall”.

(11Yn erthygl 22—

(a)ym mharagraff (6)(a), ar ôl “21 diwrnod”, mewnosoder “neu, yn achos cais AEA sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol 30 diwrnod, yn y naill achos neu’r llall”; a

(b)ym mharagraff (6)(c), ar ôl “14 diwrnod”, mewnosoder “neu, yn achos cais AEA sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol 30 diwrnod, yn y naill achos neu’r llall”.

(12Hepgorer erthygl 24(2).

(13Yn erthygl 27—

(a)ym mharagraff (5)(b), yn lle “28 diwrnod”, rhodder “30 diwrnod”;

(b)ym mharagraff (6)(b)(iii) yn lle “28 diwrnod” rhodder “30 diwrnod”;

(c)ym mharagraff (6)(c)(iii), yn lle “28 diwrnod” rhodder “30 diwrnod”;

(d)ym mharagraff (7)(a) ac (c) yn lle “28 diwrnod” rhodder “30 diwrnod”; ac

(e)ym mharagraff (13)(b), yn lle “o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru) 2016”, rhodder “o’r Rheoliadau AEA”.

(14Yn Atodlen 3, yn yr hysbysiad o dan erthygl 12(3) o gais am ganiatâd cynllunio—

(a)ar ôl “ERTHYGL 12(3)” mewnosoder “NEU 12(3A)”;

(b)ar ôl “yn ystod unrhyw oriau rhesymol hyd at (dd)…” mewnosoder “(dda)” ac ar ddiwedd yr hysbysiad ar ôl nodyn (dd) mewnosoder y nodyn (dda) a ganlyn—

(dda)manylion y wefan lle gellir edrych ar y datganiad amgylcheddol ac unrhyw ddogfennau eraill;

(c)ar ôl “am dâl o (f)*…” mewnosoder “(fa)” ac ar ddiwedd yr hysbysiad ar ôl nodyn (f) mewnosoder y nodyn (fa) a ganlyn—

(fa)y wefan lle cyhoeddir unrhyw wybodaeth arall a gafwyd oddi wrth y ceisydd mewn cysylltiad â’r datblygiad arfaethedig; ac

(d)yn nodyn (dd) yn lle “dyddiad”, rhodder— “dyddiad:

(i)yn achos cais AEA, sy’n rhoi cyfnod o 30 diwrnod sy’n dechrau â’r diweddaraf o blith dyddiad arddangos yr hysbysiad am y tro cyntaf ar neu gerllaw’r safle, dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad am y tro cyntaf mewn papur newydd neu ddyddiad cyhoeddi’r wybodaeth y mae’n ofynnol ei chyhoeddi ar wefan yr awdurdod cynllunio lleol yn unol ag erthygl 12(7); neu

(ii)mewn unrhyw achos arall,.

Gwybodaeth Cychwyn

I94Atod. 9 para. 1 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016LL+C

2.—(1Mae Gorchymyn 2016 wedi ei ddiwygio yn unol â’r paragraff hwn.

(2Yn erthygl 2—

(a)yn y diffiniad o “y Rheoliadau AEA” (“EIA Regulations”), yn lle “2016”, rhodder “2017”; a

(b)yn y lleoedd perthnasol, mewnosoder—

(i)“mae i “datblygiad AEA” (“EIA development”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA;”;

(ii)“mae i “datblygiad Atodlen 1” (“Schedule 1 development”) a “datblygiad Atodlen 2” (“Schedule 2 development”) yr ystyron a roddir yn y Rheoliadau AEA;”;

(iii)“mae i “cyfarwyddyd cwmpasu” (“scoping direction”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA;”;

(iv)“mae i “barn gwmpasu” (“scoping opinion”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA;”.

(3Yn erthygl 18—

(a)ar ôl paragraff (3)(b), mewnosoder—

(ba)yn achos cais sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol—

(i)y ffaith bod y datblygiad yn ddarostyngedig i weithdrefn asesu effaith amgylcheddol;

(ii)y datganiad amgylcheddol, unrhyw gyfarwyddyd cwmpasu perthnasol, ac unrhyw wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall;

(iii)yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 1998, y prif adroddiadau a chyngor a ddyroddwyd i Weinidogion Cymru ar yr adeg y cyhoeddir yr wybodaeth (os oes rhai);

(iv)yn unol â Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(25), gwybodaeth heblaw am yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan unrhyw is-baragraff arall sy’n berthnasol i’r penderfyniad ac sydd ond yn dod ar gael ar ôl yr adeg y cyhoeddir yr wybodaeth sy’n ofynnol gan y paragraff hwn am y tro cyntaf;

(v)sut y gellir cael copïau o’r datganiad amgylcheddol a chost y fath gopïau;

(vi)manylion eraill y trefniadau ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd yn y weithdrefn gwneud penderfyniadau gan gynnwys disgrifiad o’r weithdrefn ar gyfer cyhoeddi unrhyw wybodaeth ychwanegol a gyflwynir wedi hynny gan y ceisydd;

(vii)manylion yr awdurdod sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniad;;

(b)ym mharagraff (3)(c), ar ôl “cais”, mewnosoder “, na chaiff, yn achos cais sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol, fod cyn diwrnod olaf y cyfnod o 30 diwrnod sy’n dechrau ar y dyddiad diweddaraf y rhoddwyd cyhoeddusrwydd i’r cais yn unol ag erthygl 18(2), (3) neu 19(2)”;

(c)ym mharagraff (4), yn y lle priodol, mewnosoder—

mae i “gwybodaeth bellach” (“further information”) ac “unrhyw wybodaeth arall” (“any other information”) yr un ystyron ag yn y Rheoliadau AEA;.

(4Yn erthygl 19—

(a)ym mharagraff (2), yn lle “21 diwrnod” rhodder “30 diwrnod, yn achos cais sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol, ac 21 diwrnod mewn unrhyw achos arall”;

(b)ym mharagraff (5), yn lle “21 diwrnod” rhodder “21 neu 30 diwrnod, fel y bo’n briodol,”.

(5Yn erthygl 22(4)(b), ar ôl “21 diwrnod” mewnosoder “, neu yn achos cais sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol, 30 diwrnod,”.

(6Yn erthygl 23(2)(a), yn lle “21 diwrnod”, rhodder “30 diwrnod, yn achos cais sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol, a 21 diwrnod mewn unrhyw achos arall, yn y naill achos neu’r llall”.

(7Yn erthygl 29, hepgorer paragraffau (4) a (5).

(8Yn y ffurflen yn Atodlen 4—

(a)ar ôl “+Mae’r cais wedi ei gyflwyno ynghyd â Datganiad Amgylcheddol”, mewnosoder “+Mae’r datblygiad arfaethedig yn debygol o gael effeithiau sylweddol mewn Gwladwriaeth AEE arall”;

(b)yn nodyn j)—

(i)yn lle “21” rhodder “30”; a

(ii)ar ôl “chyhoeddi”, mewnosoder “, neu yn achos cais nad yw’n ofynnol i ddatganiad amgylcheddol ddod gydag ef yn unol â’r Rheoliadau AEA, rhaid i’r cyfnod hwnnw fod yn 21 diwrnod”.

Gwybodaeth Cychwyn

I95Atod. 9 para. 2 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Rheoliad 66

ATODLEN 10LL+CDiwygiadau canlyniadol

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995LL+C

1.—(1Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(26) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 3—

(a)ym mharagraff (10), yn lle “2016”, rhodder “2017”; a

(b)ym mharagraffau (10) ac (11)—

(i)yn lle “regulation 4(8)” rhodder “regulation 5(11)”;

(ii)yn lle “regulation 6(6)” rhodder “regulation 7(6)”; a

(iii)yn lle “regulation 4(4)” rhodder “regulation 5(4)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I96Atod. 10 para. 1 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Gwaith Piblinellau Trawsgludo Nwy Cyhoeddus (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 1999LL+C

2.—(1Mae Rheoliadau Gwaith Piblinellau Trawsgludo Nwy Cyhoeddus (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 1999(27) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “the 2016 EIA Regulations” rhodder—

“the 2017 Regulations” means the Town and Country Planning (Environmental Impact Assessment) (Wales) Regulations 2017;.

(3Yn rheoliad 4(3)—

(a)yn is-baragraff (b), yn lle “regulation 6(6)”, rhodder “regulation 7(6)”; a

(b)yn lle “2016” (yn y ddau le y mae’n digwydd) rhodder “2017”.

Gwybodaeth Cychwyn

I97Atod. 10 para. 2 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Rheoliadau Cynllunio (Cyfarwyddiadau Diogelwch Gwladol a Chynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2006LL+C

3.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio (Cyfarwyddiadau Diogelwch Gwladol a Chynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2006(28) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn y diffiniad o “cais Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol” (“EIA application”) yn rheoliad 6(8), yn lle “2016”, rhodder “2017”.

Gwybodaeth Cychwyn

I98Atod. 10 para. 3 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

(1)

Gweler Papur Gorchymyn 6993.

(2)

Gweler Papur Gorchymyn 6614.

(3)

O.J. Rhif L 194, 25.7.1975, t. 39. Diwygiwyd Cyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC gan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/156/EEC (O.J. Rhif L 78, 26.3.1991, t. 32) a chan Benderfyniad y Comisiwn 94/3/EC (O.J. Rhif L 5, 7.1.1994, t. 15).

(5)

O.J. Rhif L 135, 30.5.1991, t. 40.

(6)

O.J. Rhif L 140, 5.6.2009, t. 114.

(7)

1991 p. 57. Gweler adran 104.

(9)

Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC dyddiedig 21 Mai 1992 ar warchod cynefinoedd naturiol a fflora a ffawna O.J. L 206, 22/07/1992 tt. 7-50.

(10)

Cyfarwyddeb 2009/147/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 30 Tachwedd 2009 ar warchod adar gwyllt O.J. L 20, 26/1/2010, tt. 7-25.

(13)

Gweler adran 99(7) o Ddeddf 1990 mewn perthynas â gorchmynion a gadarnhawyd gan Weinidogion Cymru.

(14)

Mewnosodir erthygl 12(7A) yng Ngorchymyn 2012 gan baragraff 1(3)(h) o Atodlen 9 i’r Rheoliadau hyn.

(15)

Ar gyfer ystyr “cais ROMP” a “ROMP” gweler rheoliad 55(1).

(16)

Mae darpariaethau Gorchymyn 2012 yn gymwys i geisiadau o dan baragraff 9(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 yn rhinwedd paragraff 9(5) o’r Atodlen honno.

(17)

Mewnosodir paragraff (3A) yng Ngorchymyn 2012 gan baragraff 1(3)(c) o Atodlen 9 i’r Rheoliadau hyn.

(18)

Gweler paragraff 8(2) o’r Atodlen hon.

(19)

Mae’r darpariaethau hyn yn gymwys i geisiadau o dan baragraff 2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 fel y’u cymhwysir gan baragraff 9 o Atodlen 2 i Ddeddf 1991.

(20)

Diwygiwyd rheoliad 11 gan O.S. 1999/1810 ac O.S. 1999/1892.

(21)

Diwygiwyd paragraff 3 gan Ddeddf 1991, Atodlen 1, paragraff 15(6).

(22)

Diwygiwyd erthygl 12 gan erthyglau 2 a 5(a) o O.S. 2015/1330 (Cy. 123) a chan erthyglau 2 a 10(2) o O.S. 2016/59 (Cy. 29).

(24)

Mewnosodwyd erthygl 15A(2) gan erthyglau 2 a 7 o O.S. 2015/1330 (Cy. 123). Fe’i digwygiwyd ymhellach gan erthyglau 2 a 10(5)(b) o O.S. 2016/59 (Cy. 29).

(26)

O.S. 1995/418 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources