Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth am y Gweithlu Ysgolion) (Cymru) 2017

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 940 (Cy. 233)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth am y Gweithlu Ysgolion) (Cymru) 2017

Gwnaed

20 Medi 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Medi 2017

Yn dod i rym

31 Hydref 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 114(1)(c), (2)(c), (3), (6) ac (8) a 120(2) o Ddeddf Addysg 2005(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth am y Gweithlu Ysgolion) (Cymru) 2017.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Hydref 2017.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir ac awdurdodau lleol yng Nghymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”) yw athro sydd wedi ei gymhwyso neu athrawes sydd wedi ei chymhwyso yn unol ag adran 132 o Ddeddf 2002;

mae i “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) yr ystyr a roddir iddo yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol;

ystyr “cyfnod allweddol” (“key stage”) yw unrhyw un o’r cyfnodau a nodir ym mharagraffau (b) i (d) o adran 103(1) o Ddeddf 2002;

ystyr “cyfnod y cyfrifiad” (“census period”) yw’r cyfnod a bennir mewn cais am wybodaeth a wneir o dan y Rheoliadau hyn;

mae “cyfnod sylfaen” (“foundation phase”) i gael ei ddehongli yn unol ag adran 102 o Ddeddf 2002;

ystyr “cyfrifiad CYBLD” (“PLASC census”) yw’r cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion a gwblheir gan awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag ysgolion yn eu hardal ac a gyflwynir i Weinidogion Cymru ar sail flynyddol yn unol ag adran 29 o Ddeddf 1996;

ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor y Gweithlu Addysg y parheir â’i fodolaeth gan adran 2 o Ddeddf 2014;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(2);

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002(3);

ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Addysg 2005;

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014(4);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(5) neu sy’n ŵyl gyhoeddus arall;

ystyr “dyddiad y cyfrifiad” (“census date”) yw’r dyddiad a bennir mewn cais am wybodaeth a wneir o dan y Rheoliadau hyn;

ystyr “y Ddogfen” (“the Document”) yw dogfen y gwneir darpariaeth, drwy gyfeirio ati, ar gyfer tâl ac amodau cyflogaeth eraill athrawon ysgol mewn gorchymyn a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 122 o Ddeddf 2002;

ystyr “gweinyddwr y Cynllun Pensiwn Athrawon” (“the administrator of the Teacher’s Pension Scheme”) yw’r person sy’n arfer, yn unol ag erthygl 3 o Orchymyn Contractio Allan (Gweinyddu’r Cynllun Pensiwn Athrawon) 2003(6), y swyddogaethau a nodir yn y Gorchymyn hwnnw;

ystyr “meysydd dysgu” (“areas of learning”) yw’r meysydd dysgu a nodir mewn gorchymyn a wneir o dan adran 108(2)(a) o Ddeddf 2002(7);

ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr a gedwir gan y Cyngor o dan adran 9 o Ddeddf 2014;

ystyr “pynciau” (“subjects”) yw’r pynciau a nodir yn adran 105(2) a (3) ac adran 106(2) a (3) o Ddeddf 2002.

Personau y caniateir cyflenwi gwybodaeth amdanynt

3.  Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys ond mewn cysylltiad â gweithiwr cymhwysol(8) a hyfforddai cymhwysol(9)

(a)sydd, ar ddyddiad y cyfrifiad, yn cael ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen fel arall i weithio yn yr ysgol; neu

(b)yn ystod cyfnod cyfan y cyfrifiad neu ran ohono—

(i)sy’n cael ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen fel arall neu sydd wedi cael ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen fel arall i weithio yn yr ysgol am o leiaf 28 o ddiwrnodau gwaith (“y Cyfnod”); neu

(ii)a fydd wedi cwblhau’r Cyfnod erbyn diwedd ei gontract.

Personau y gall fod yn ofynnol i berchennog ysgol neu awdurdod lleol gyflenwi gwybodaeth iddynt

4.  At ddibenion adran 114(2)(c) o Ddeddf 2005, mae awdurdod lleol yn berson rhagnodedig.

Darparu gwybodaeth i awdurdodau lleol gan ysgolion a gynhelir ganddynt

5.  Pan fydd yn cael cais oddi wrth awdurdod lleol, rhaid i berchennog(10) yr ysgol honno ddarparu i’r awdurdod lleol hwnnw yr wybodaeth honno a nodir yn yr Atodlen y gofynnir amdani mewn perthynas â—

(a)gweithiwr cymhwysol; neu

(b)hyfforddai cymhwysol.

Darparu gwybodaeth gan awdurdodau lleol i Weinidogion Cymru

6.  O fewn 27 o ddiwrnodau gwaith i gael cais oddi wrth Weinidogion Cymru, rhaid i awdurdod lleol ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth—

(a)sydd wedi ei gyflenwi i’r awdurdod lleol hwnnw o dan reoliad 5; neu

(b)sydd wedi ei nodi yn yr Atodlen y gofynnir amdani mewn perthynas ag—

(i)gweithiwr cymhwysol; neu

(ii)hyfforddai cymhwysol.

Personau y caniateir i Weinidogion Cymru gyflenwi gwybodaeth iddynt at ddibenion cymhwysol

7.—(1At ddibenion adran 114(3) o Ddeddf 2005, mae’r canlynol yn bersonau rhagnodedig—

(a)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;

(b)yr Ysgrifennydd Gwladol;

(c)gweinyddwr y Cynllun Pensiwn Athrawon;

(d)awdurdod lleol yng Nghymru;

(e)y Cyngor;

(f)perchennog ysgol yng Nghymru;

(g)swyddfa economeg y gweithlu(11); a

(h)personau sy’n cynnal gwaith ymchwil sy’n ymwneud â gweithwyr cymhwysol neu hyfforddeion cymhwysol y gellir disgwyl iddo fod o fudd i’r cyhoedd.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu’r wybodaeth honno y cyfeirir ati yn yr Atodlen mewn cysylltiad â phersonau sydd neu sydd wedi bod yn weithwyr cymhwysol neu’n hyfforddeion cymhwysol i unrhyw berson a ragnodir ym mharagraff (1).

Cyflenwi gwybodaeth gan Weinidogion Cymru i bersonau a oedd yn meddu ar yr wybodaeth honno yn gyfreithlon neu a allai fod wedi ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth honno gael ei chyflenwi

8.—(1At ddibenion adran 114(6) o Ddeddf 2005, mae’r canlynol yn bersonau rhagnodedig—

(a)awdurdod lleol yng Nghymru;

(b)perchennog yr ysgol lle—

(i)y mae’r gweithiwr cymhwysol yn gweithio neu i fod i ddechrau gweithio;

(ii)y mae’r hyfforddai cymhwysol yn hyfforddi neu i fod i ddechrau hyfforddi; ac

(c)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu unrhyw wybodaeth mewn cysylltiad â phersonau sydd neu sydd wedi bod yn weithwyr cymhwysol neu’n hyfforddeion cymhwysol i unrhyw berson a ragnodir ym mharagraff (1).

Gwahardd datgelu pellach

9.  Ni chaiff unrhyw berson y cyflenwir gwybodaeth iddo yn rhinwedd y Rheoliadau hyn ddatgelu’r wybodaeth honno ymhellach ac eithrio yn unol â gorchymyn llys, deddfiad neu reol gyfreithiol.

Kirsty Williams

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru

20 Medi 2017

Rheoliad 5

YR ATODLENDarparu Gwybodaeth gan Ysgolion ac Awdurdodau Lleol

1.  Yr wybodaeth a ganlyn am y person—

(a)rhyw;

(b)dyddiad geni;

(c)rhif yswiriant gwladol;

(d)enw llawn;

(e)grŵp ethnig (os yw’n hysbys);

(f)a oes gan y person anabledd o fewn ystyr “disability” yn adran 6(1) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(12) (os yw’n hysbys); ac

(g)cyfeirnod swyddogol a neilltuwyd gan y Cyngor, pan fo cyfeirnod o’r fath ar gael(13).

2.  Swydd y person a’r rôl neu’r rolau a gyflawnir gan y person.

3.  A yw’r person wedi cyrraedd y safonau sy’n ofynnol ar gyfer cynorthwywyr addysgu lefel uwch a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd(14).

4.  Mewn cysylltiad â’r contract cyflogaeth neu’r contract am wasanaethau—

(a)a yw’r person wedi ei gymryd ymlaen o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau (“y Contract”);

(b)y dyddiad y dechreuodd y Contract;

(c)yr oriau a’r wythnosau (os oes rhai) y pennodd y Contract y mae rhaid eu gweithio; a

(d)pan fo’n gymwys, y dyddiad y daeth y Contract hwnnw i ben neu y mae i fod i ddod i ben.

5.  Pan fo’r person wedi ei gymryd ymlaen ar gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau er dyddiad y cyfrifiad blaenorol neu er diwedd cyfnod y cyfrifiad blaenorol, manylion cyflogaeth neu fel arall y person hwnnw yn union cyn y dechrau hwnnw, os ydynt yn hysbys.

6.  Pan fo’r person wedi ei gyflogi neu yn cael ei gyflogi, neu wedi ei gymryd ymlaen neu yn cael ei gymryd ymlaen i weithio, mewn cyfnod o gyflogaeth ddi-dor, y dyddiad y dechreuodd y cyfnod hwnnw.

7.  Tâl y person gan gynnwys, pan fo’n gymwys—

(a)y cyflog blynyddol;

(b)yr ystod cyflog(15) sy’n gymwys i’r person hwnnw;

(c)safle’r cyflog blynyddol ar unrhyw ystod cyflog gymwys;

(d)a yw unrhyw ran o’r cyflog blynyddol wedi ei diogelu o fewn ystyr Rhan 5 o’r Ddogfen;

(e)a yw cyfradd cyflog ddyddiol yn daladwy(16); ac

(f)unrhyw daliadau ychwanegol(17) y darperir ar eu cyfer gan—

(i)y Ddogfen; neu

(ii)cod sy’n cyfleu’r wybodaeth honno.

8.  Mewn perthynas â’r addysgu a gyflawnir gan y person (“P”)—

(a)y meysydd dysgu neu’r pynciau a addysgir gan P;

(b)a yw P yn addysgu’r cyfnod sylfaen;

(c)a yw P yn addysgu’r cyfnodau allweddol ac os felly, pa gyfnodau allweddol;

(d)a yw P yn addysgu meysydd dysgu neu bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg ac eithrio maes dysgu datblygu’r Gymraeg neu’r Gymraeg fel pwnc;

(e)blwyddyn ysgol y cwricwlwm cenedlaethol a addysgir gan P;

(f)yr enw a roddir i’r dosbarth ysgol gynradd gan y pennaeth at ddiben nodi’r dosbarth hwnnw ac sy’n cael ei gynnwys yn y cyfrifiad CYBLD a pha ddosbarth a addysgir gan P; ac

(g)faint o ddysgu y mae P wedi ei ddarparu neu y disgwylir iddo ei ddarparu yn yr ystafell ddosbarth yn ystod y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau ar y dydd Llun yn union cyn dyddiad y cyfrifiad.

9.  Pan fo’r person yn absennol ar ddyddiad y cyfrifiad, y ffaith ei fod yn absennol.

10.  Mewn cysylltiad â phob achlysur y bu person yn absennol o’r gwaith ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod y cyfrifiad neu ar ddyddiad y cyfrifiad—

(a)y rheswm dros yr absenoldeb; a

(b)ar gyfer y cyfnod absenoldeb hwnnw, y diwrnod cyntaf a, phan fo’n gymwys, y dyddiad olaf yr oedd y person yn absennol a nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd.

11.  Pan fo contract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau y person (“P”) wedi ei derfynu yn ystod cyfnod y cyfrifiad—

(a)y rheswm dros y terfyniad hwnnw;

(b)os yw’n hysbys, a yw P wedi sicrhau cyflogaeth bellach, ac os felly, ei lleoliad a’i math:

(c)blynyddoedd ysgol y cwricwlwm cenedlaethol a addysgwyd gan P yn ystod y cyfnod cyfrifiad hwnnw; a

(d)os yw’n hysbys, nifer y blynyddoedd o brofiad addysgu a enillwyd gan P er dod yn athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig ar yr adeg y terfynwyd swydd P.

12.  Pa un a yw’r person yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ai peidio.

13.  Lefel sgiliau Cymraeg person.

14.  Mewn cysylltiad â phob swydd wag ar gyfer staff addysgu yn yr ysgol a hysbysebwyd yn ystod cyfnod y cyfrifiad—

(a)a yw’r swydd wag wedi ei llenwi;

(b)os yw’r swydd wag wedi ei llenwi, y dyddiad y penodwyd person i’r swydd;

(c)os nad yw’r swydd wag wedi ei llenwi, y rheswm pam na chafodd ei llenwi;

(d)teitl y swydd ar gyfer y swydd wag;

(e)y meysydd dysgu y bydd yn ofynnol i ymgeisydd llwyddiannus eu haddysgu;

(f)y pynciau y bydd yn ofynnol i ymgeisydd llwyddiannus eu haddysgu;

(g)y cyfnodau allweddol y bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus eu haddysgu;

(h)blwyddyn ysgol y cwricwlwm cenedlaethol y bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus ei haddysgu;

(i)a yw’r gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd wag;

(j)nifer y ceisiadau a gafwyd am y swydd wag; a

(k)y dyddiad y cafodd y swydd wag ei hysbysebu gyntaf.

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru i gyflenwi gwybodaeth sy’n ymwneud â gweithwyr cymhwysol neu hyfforddeion cymhwysol (fel y diffinnir “qualifying worker” a “qualifying trainee” yn adran 113(2) a (3) o Ddeddf Addysg 2005 (“Deddf 2005”)).

Mae adran 114(1) o Ddeddf 2005 yn darparu bod rhaid i’r wybodaeth y caniateir awdurdodi iddi gael ei chyflenwi neu y caniateir ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei chyflenwi fod at ddiben cymhwysol. Mae adran 114(5) o Ddeddf 2005 yn diffinio diben cymhwysol fel gwybodaeth a gyflenwir at ddibenion gwerthuso, cynllunio, ymchwil neu ystadegol neu at unrhyw ddiben rhagnodedig arall. Nid yw’r Rheoliadau hyn yn nodi unrhyw ddibenion rhagnodedig eraill ar gyfer adran 114(5)(b) o Ddeddf 2005. Bydd yr wybodaeth y caniateir ei gwneud yn ofynnol yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn cael ei defnyddio at ddiben cymhwysol.

Effaith rheoliad 4 yw bod awdurdod lleol yn cael ei ychwanegu at y rhestr o bersonau a chyrff y gall fod yn ofynnol i berchennog ysgol gyflenwi gwybodaeth iddynt. Yn unol â hynny, mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir, pan fydd yn cael cais ysgrifenedig oddi wrth awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol, gyflenwi i’r awdurdod lleol hwnnw yr wybodaeth honno y cyfeirir ati yn yr Atodlen y gofynnir amdani. Mae dyletswydd debyg yn rheoliad 6 sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyflenwi i Weinidogion Cymru wybodaeth y maent wedi gofyn amdani.

Mae rheoliad 7 yn rhagnodi’r personau y mae Gweinidogion Cymru, at ddibenion adran 114(3) o Ddeddf 2005, wedi eu hawdurdodi i rannu’r wybodaeth â hwy. Dim ond at ddiben cymhwysol fel y’i pennir yn adran 114(5) o Ddeddf 2005 y caniateir defnyddio’r wybodaeth.

Mae rheoliad 8 yn rhagnodi’r personau y mae Gweinidogion Cymru, at ddibenion adran 114(6) o Ddeddf 2005, wedi eu hawdurdodi i rannu’r wybodaeth â hwy.

Mae rheoliad 9 yn gwahardd datgelu gwybodaeth ymhellach gan unrhyw bersonau y cyflenwyd gwybodaeth iddynt o dan y Rheoliadau hyn, yn ddarostyngedig i’r eithriadau pan fo’r wybodaeth wedi ei chyflenwi yn unol â gorchymyn llys, neu o dan ddarpariaethau Deddf neu offeryn statudol, neu fel rheol gyfreithiol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Uned Strategaeth y Gweithlu yn yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2005 p. 18. Mae adran 114(10) o Ddeddf 2005 yn diffinio “prescribed” a “regulations”. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(7)

Y Gorchymyn presennol yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1996 (Cy. 198)).

(8)

Fel y diffinnir “qualifying worker” yn adran 113(2) o Ddeddf 2005.

(9)

Fel y diffinnir “qualifying trainee” yn adran 113(3) o Ddeddf 2005.

(10)

Mae i’r term “perchennog” yr ystyr a roddir i “proprietor” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996. Mae’r adran honno yn darparu mai ystyr “proprietor”, mewn perthynas ag ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, neu ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig, neu ysgol feithrin a gynhelir, yw’r corff llywodraethu. Mae’r diffiniad o “proprietor” yn Neddf 1996 i gael ei ddarllen fel pe bai wedi ei gynnwys yn Neddf 2005 yn rhinwedd adran 122(2) o Ddeddf 2005. Nid oes unrhyw ysgolion arbennig sefydledig yng Nghymru.

(11)

Corff anadrannol yw hwn a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU. Fe’i hariennir gan yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau.

(13)

Neilltuir y cyfeirnod swyddogol i berson cofrestredig gan Gyngor y Gweithlu Addysg ac mae’n cael ei gofnodi gan y Cyngor yn y gofrestr yn rhinwedd paragraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015. Cynhelir y gofrestr gan Gyngor y Gweithlu Addysg yn unol ag adran 9 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014.

(14)

Cyhoeddwyd y canllawiau cyfredol ym mis Medi 2011 ac maent wedi eu cynnwys yng nghylchlythyr 020/2011 sy’n dwyn y teitl “Safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru”. Mae copi o’r canllawiau ar gael yn www.learning.gov.wales.

(15)

Mae’r ystodau cyflog cymwys presennol ar gyfer athrawon ysgol wedi eu nodi yn y Ddogfen, sef yr ystod cyflog arwain (gweler adran 9 o’r Ddogfen), y brif ystod cyflog (gweler adran 13 o’r Ddogfen), yr ystod cyflog uwch (gweler adran 14 o’r Ddogfen), yr ystod cyflog ar gyfer ymarferwyr arweiniol (gweler adran 16 o’r Ddogfen) neu’r ystod cyflog ar gyfer athrawon heb gymhwyso (gweler adran 17 o’r ddogfen). Mewn cysylltiad â gweithwyr cymorth dysgu ysgolion bydd yr ystod cyflog yn cael ei phennu gan y cyflogwr, sef naill ai’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol, neu gorff llywodraethu’r ysgol lle y mae’r person yn gweithio.

(16)

Mae paragraff 43 o’r Ddogfen a gyhoeddwyd gan yr Adran Addysg ym mis Medi 2016 yn datgan bod rhaid talu athrawon sy’n cael eu cyflogi o ddydd i ddydd neu ar sail byr rybudd arall yn unol â darpariaethau’r Ddogfen ar sail ddyddiol a gyfrifir ar y rhagdybiaeth bod blwyddyn waith lawn yn 195 o ddiwrnodau, ac y cyfrifir cyfnodau cyflogaeth o lai na diwrnod ar sail pro rata. Mae’r Ddogfen yn cael ei diweddaru gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn flynyddol.

(17)

Mae paragraff 26 o’r Dogfen a gyhoeddwyd gan yr Adran Addysg ym mis Medi 2016 yn gwneud darpariaeth ynghylch taliadau ychwanegol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources