- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Trydan, Cymru
Gwnaed
11 Mehefin 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
13 Mehefin 2019
Yn dod i rym
5 Gorffennaf 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 36(8A) a 36C(2) a (6) o Ddeddf Trydan 1989(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 5 Gorffennaf 2019.
2.—(1) Mae Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ceisiadau am Gydsyniad) (Cymru) 2019(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5, ym mharagraffau (2) a (4), yn lle “Adran yr Amgylchedd”, rhodder “unrhyw gyngor dosbarth”.
(3) Yn rheoliad 7(1)(b), yn lle “cenedlaethol” rhodder “sy’n cylchredeg yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon”.
3.—(1) Mae Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Amrywio Cydsyniadau) (Cymru) 2019(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “awdurdod cynllunio perthnasol” ym mharagraff (b), yn lle “Adran yr Amgylchedd” rhodder “cyngor dosbarth”.
(3) Yn rheoliad 5(5)(c), yn lle “cenedlaethol” rhodder “sy’n cylchredeg yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon”.
4.—(1) Mae Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2019(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 16—
(a)ym mharagraff (1) ar ôl y gair “hysbysiad” mewnosoder “drwy hysbyseb leol”;
(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Rhaid i’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad o dan baragraff (1) gyntaf fod yn ddim llai na dwy wythnos sy’n dod i ben â’r diwrnod cyn y dyddiad a bennir ar gyfer dechrau’r ymchwiliad.”;
(c)hepgorer paragraff (2);
(d)ym mharagraff (3), yn lle “pharagraffau (1) a (2)” rhodder “pharagraff (1)”.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
11 Mehefin 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ceisiadau am Gydsyniad) (Cymru) 2019 (“y Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad”), Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2019 (“y Rheoliadau Gweithdrefn Ymchwiliadau”) a Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Amrywio Cydsyniadau) (Cymru) 2019 (“y Rheoliadau Amrywio Cydsyniadau”).
Mae rheoliadau 2 a 3 yn diwygio’r Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad a’r Rheoliadau Amrywio Cydsyniadau, yn y drefn honno. Maent yn rhoi cyfeiriadau at “cyngor dosbarth” yn lle “Adran yr Amgylchedd” yng Ngogledd Iwerddon er mwyn adlewyrchu newidiadau a wnaed gan Ddeddf Cynllunio (Gogledd Iwerddon) 2011 a oedd yn trosglwyddo’r mwyafrif o swyddogaethau cynllunio a chyfrifoldebau gwneud penderfyniadau i gynghorau dosbarth. Maent hefyd yn rhoi’r geiriau “sy’n cylchredeg yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon” yn lle “cenedlaethol”.
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 16 o’r Rheoliadau Gweithdrefn Ymchwiliadau er mwyn diffinio “drwy hysbyseb leol” ac er mwyn rhagnodi pryd y mae rhaid cyhoeddi gyntaf yr hysbysiad am yr ymchwiliad sy’n ofynnol gan reoliad 16(1). Gwneir mân ddiwygiadau eraill i reoliad 16.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1989 p. 29. Mewnosodwyd adran 36(8A) gan adran 69(1) a pharagraff 47 o Atodlen 6 i Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) (“Deddf 2017”). Mewnosodwyd adran 36C gan adran 20(1) a (2) o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27). Diwygiwyd adran 36C(6) gan adran 39(12) o Ddeddf 2017. Mae diwygiadau eraill i adran 36C nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: