- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Bwyd, Cymru
Gofynion sifftio wedi eu bodloni
18 Chwefror 2019
Gwnaed
4 Mawrth 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
5 Mawrth 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(3)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1) a chan adran 16(1)(a) ac (e) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(2).
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau a Labelu Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
2.—(1) Mae Rheoliadau Bwyd (Marcio Lotiau) 1996(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, hepgorer y diffiniad o “first seller established within the European Union”.
(3) Yn rheoliad 3(2)(a), yn lle “European Union” rhodder “United Kingdom”.
3.—(1) Mae Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a)hepgorer y diffiniad o “darpariaeth UE”;
(b)yn y lle priodol, mewnosoder—
“ystyr “darpariaeth benodedig” (“specified provision”) yw darpariaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2);”.
(3) Yn rheoliad 5, yn lle “UE” rhodder “penodedig”.
(4) Yn rheoliad 6—
(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “UE” rhodder “benodedig”;
(b)ym mharagraff (2), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “UE” rhodder “penodedig”.
(5) Yn rheoliad 7(2), yn lle “UE” rhodder “penodedig”.
4.—(1) Mae Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a)hepgorer y diffiniad o “Rheoliadau’r UE”.
(b)yn y lle priodol, mewnosoder—
“ystyr “y Rheoliadau penodedig” (“the specified Regulations”) yw Rheoliad 1224/2009, Rheoliad 404/2011 a Rheoliad 1379/2013;”.
(c)ym mharagraff (2)(a), yn lle “o Reoliadau’r UE” rhodder “o’r Rheoliadau penodedig” ac yn lle “at Reoliadau’r UE” rhodder “at y Rheoliadau penodedig” ac ym mharagraff (2)(b), yn lle “o Reoliadau’r UE” rhodder “o’r Rheoliadau penodedig” ac yn lle “yn Rheoliadau’r UE” rhodder “yn y Rheoliadau penodedig”.
(3) Yn rheoliad 4—
(a)ym mharagraff (3), yn lle “a (5)”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “, (5) i (7) a (9)”;
(b)ym mharagraff (7), yn lle “na’r hyn sy’n cyfateb i 50 ewro y diwrnod mewn sterling” rhodder “na £45 y diwrnod”.
(4) Yn rheoliad 5(3), yn y diffiniad o “operator”, yn lle “EU” rhodder “specified”.
5. Yn Atodlen 5 i Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014(7), yn Rhan 2, hepgorer y cofnodion sy’n dwyn y rhifau 33 a 34.
6. Yn Rheoliadau Mêl (Cymru) 2015(8), ar ôl rheoliad 18 mewnosoder—
18A. Wrth gyflawni ei rwymedigaethau o dan reoliad 18, rhaid i awdurdod bwyd, pryd bynnag y bo’n bosibl, ddefnyddio dull dadansoddi a gymeradwyir gan y Codex Alimentarius, neu ddull dadansoddi arall sydd wedi ei ddilysu ac a gydnabyddir yn rhyngwladol, i wirio cydymffurfedd â darpariaethau’r Rheoliadau hyn.”
7. Yn rheoliad 3(a) o Reoliadau Gwlad Tarddiad Cigoedd Penodol (Cymru) 2015(9), yn lle “aelod-wladwriaeth neu drydedd wlad” rhodder “wlad unigol”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliad 6, wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae rheoliad 6 wedi ei wneud o dan adran 16 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p. 16) i ddiwygio Rheoliadau Mêl (Cymru) 2015 i osod y dull dadansoddi y mae’n rhaid i awdurdodau bwyd ei ddefnyddio i wirio cydymffurfedd â gofynion y Rheoliadau hynny.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n gymwys yng Nghymru ym maes cyfansoddiad a labelu bwyd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1990 p. 16. Diwygiwyd adran 16(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”). Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a’u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 1996/1502, a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043 ac O.S. 2014/2303 (Cy. 227).
O.S. 2008/1341 (Cy. 141), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2013/2139 (Cy. 209), a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/3079 (Cy. 304); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2014/2303 (Cy. 227), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: