Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Mae’r Offeryn Statudol hwn wedi ei gyhoeddi yn lle’r OS o’r un rhif nad oedd yn adlewyrchu’r fersiwn a lofnodwyd gan un o Weinidogion Cymru oherwydd camgymeriadau wrth rifo paragraffau yn rheoliadau 5 a 6. Mae hefyd yn cywiro’r ffaith fod yr ail bennawd pwnc ar dudalennau 1 a 2 wedi ei hepgor, ac yn mewnosod y cyfieithiadau Cymraeg a hepgorwyd o’r diffiniadau yn rheoliadau 5(2)(b) a 6(4) o’r testun Saesneg. Mae hefyd yn cynnwys troednodiadau ychwanegol yn rheoliad 5. Caiff ei ddyroddi’n rhad ac am ddim felly i bawb y gwyddys eu bod wedi cael yr Offeryn Statudol hwnnw.

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 456 (Cy. 109)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

18 Chwefror 2019

Gwnaed

4 Mawrth 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Mawrth 2019

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (mewn perthynas â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael.

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992

2.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992(2)

(a)hepgorer y diffiniad o “EEA State”;

(b)yn y diffiniad o “statutory undertaker”—

(i)yn lle’r geiriau “European licence” rhodder “railway undertaking licence”;

(ii)hepgorer y geiriau o “or pursuant” hyd at “a single European railway area (recast)”.

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005

3.  Yn rheoliad 13(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005(3)

(a)yn is-baragraff (c) hepgorer “drwy fynd ar drywydd yr amcanion hynny drwy’r rheolaethau a ddisgrifir yn Erthygl 13 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU”;

(b)yn lle is-baragraff (iii) o baragraff (ch) rhodder—

(iii)yn achos sefydliadau sy’n bodoli eisoes, i hwyluso ac annog gweithredwyr i gymryd pob mesur angenrheidiol i atal damweiniau mawr ac i gyfyngu ar eu canlyniadau ar gyfer iechyd dynol a’r amgylchedd.

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

4.  Yn Atodlen 4 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(4)

(a)yn y tabl, ym mharagraff (w), yn y golofn sy’n dwyn y pennawd “Disgrifiad o’r Datblygiad” yn is-baragraff (ii) yn lle’r geiriau o “sydd o fewn cwmpas” hyd at “2012/18/EU” rhodder “a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol hysbysu amdano o dan reoliad 6(6) o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 2015(5)”;

(b)o dan y pennawd Dehongli’r Tabl, yn lle paragraff (m)(i) rhodder—

(i)mae i’r ymadroddion “damwain fawr” a “sefydliad” fel y maent yn ymddangos yn y paragraff hwnnw yr un ystyron yn eu trefn â “major accident” ac “establishment” yn rheoliad 2 o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 2015.

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015

5.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb” ar ôl “sylweddau peryglus” mewnosoder “fel y cafodd effaith yn union cyn y diwrnod ymadael”;

(b)mewnosoder y diffiniadau canlynol yn y mannau priodol—

mae i “damwain fawr” yr ystyr a roddir i “major accident” yn Erthygl 3(13) o’r Gyfarwyddeb fel y cafodd effaith yn union cyn y diwrnod ymadael;;

ystyr “y Gyfarwyddeb AEA” (“the EIA Directive”) yw Cyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Rhagfyr 2011 ar yr asesiad o effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd fel y cafodd effaith yn union cyn y diwrnod ymadael;.

(3Yn rheoliad 6(1)(a)—

(a)Ym mharagraff (ii) yn lle’r geiriau o “neu ymgyngoriadau” hyd at ddiwedd y paragraff rhodder “(y mae i “asesiad effaith amgylcheddol cenedlaethol neu drawsffiniol” yr un ystyr â “national or transboundary environmental impact assessment” mewn unrhyw ddarpariaeth yng nghyfraith yr UE a ddargedwir a oedd yn gweithredu’r Gyfarwyddeb AEA)(7)”;

(b)ar ôl paragraff (ii) mewnosoder—

(iia)pan fo’n gymwys, y ffaith bod y prosiect y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef yn un y mae’n ofynnol i’r awdurdod COMAH cymwys ymgynghori ag unrhyw wlad yn unol â Rheoliad 20 o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Difrifol 2015(8);.

(4Yn rheoliad 10(3)(a)—

(a)ym mharagraff (ii) yn lle’r geiriau o “neu ymgyngoriadau” hyd at ddiwedd y paragraff rhodder “(y mae i “asesiad effaith amgylcheddol cenedlaethol neu drawsffiniol” yr un ystyr â “national or transboundary environmental impact assessment” mewn unrhyw ddarpariaeth yng nghyfraith yr UE a ddargedwir a oedd yn gweithredu’r Gyfarwyddeb AEA)”(9);

(b)ar ôl paragraff (ii) mewnosoder—

(iia)pan fo’n gymwys, y ffaith bod y prosiect y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef yn un y mae’n ofynnol i’r awdurdod COMAH cymwys ymgynghori ag unrhyw wlad yn unol â Rheoliad 20 o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Difrifol 2015;.

(5Yn rheoliad 26, ar ddiwedd paragraff (1)(b) mewnosoder “(gan ddarllen y cyfeiriad yn is-baragraff (c) o’r Erthygl honno at Erthygl 5 fel cyfeiriad at reoliad 5 o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 2015)”.

(6Yn rheoliad 27(4) yn y diffiniad o “cynllun neu raglen berthnasol” yn y ddau is-baragraff (a) a (b), ar ôl “yn unol ag” mewnosoder “unrhyw ddarpariaeth yng nghyfraith yr UE a ddargedwir a oedd yn gweithredu(10)”.

(7Yn rheoliad 28(2)(a)—

(a)ym mharagraff (ii) yn lle’r geiriau o “neu ymgyngoriadau” hyd at ddiwedd y paragraff rhodder “(y mae i “asesiad effaith amgylcheddol cenedlaethol neu drawsffiniol” yr un ystyr â “national or transboundary environmental impact assessment” mewn unrhyw ddarpariaeth yng nghyfraith yr UE a ddargedwir a oedd yn gweithredu’r Gyfarwyddeb AEA)(11)”;

(b)ar ôl paragraff (ii) mewnosoder—

(iia)pan fo’n gymwys, y ffaith bod y prosiect y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef yn un y mae’n ofynnol i’r awdurdod COMAH cymwys ymgynghori ag unrhyw wlad yn unol â Rheoliad 20 o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Difrifol 2015;.

Darpariaeth Drosiannol

6.—(1Am y cyfnod o 2 flynedd gan ddechrau ar y diwrnod ymadael, mae unrhyw gyfeiriad yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 at “railway undertaking licence” (trwydded ymgymeriad rheilffordd) yn unol â Rheoliadau 2005 yn cynnwys cyfeiriad at drwydded Ewropeaidd berthnasol.

(2Mae unrhyw weithred neu anweithred—

(a)mewn perthynas â thrwydded Ewropeaidd berthnasol, neu drwy ddibynnu arni, a

(b)sy’n cael effaith yn union cyn y diwrnod ymadael,

yn parhau i gael effaith ar neu ar ôl y diwrnod ymadael.

(3At ddibenion y rheoliad hwn—

mae i “DDdRhC” yr un ystyr ag “SNRP” yn Rheoliadau 2005(12);

ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Rheilffyrdd (Trwyddedu Ymgymeriadau Rheilffyrdd) 2005(13);

mae i “trwydded Ewropeaidd” yr un ystyr â “European licence” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2005 (fel y’u haddaswyd gan reoliad 35 o Reoliadau Rheilffyrdd (Trwyddedu Ymgymeriadau Rheilffyrdd) (Diwygio etc) (Ymadael â’r UE) 2019(14);

ystyr “trwydded Ewropeaidd berthnasol” (“relevant European licence”) yw trwydded Ewropeaidd, y mae gan ei deiliad DDdRhC dilys nad yw wedi ei atal dros dro na’i ddirymu.

Julie James

Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru.

4 Mawrth 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p.16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill yng nghyfraith yr UE a ddargedwir sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—

(a)Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992;

(b)Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005;

(c)Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012; a

(d)Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015.

Mae rheoliad 6 yn cynnwys darpariaeth drosiannol mewn perthynas â Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

O.S. 1992/666, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/3050, 2016/645. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(3)

O.S. 2005/2839 (Cy.203) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2015/1597. Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(4)

O.S. 2012/801 (Cy.110) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2016/59.

(5)

O.S. 2015/483, y mae diwygiadau iddo ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(6)

O.S. 2015/1597 (Cy.196), y mae diwygiadau iddo ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(7)

Gweithredwyd Cyfarwyddeb 2011/92/EU gan Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/567 (C.136)).

(8)

O.S. 2015/483 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2018/1370. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonnynt yn berthnasol.

(9)

Gweithredwyd Cyfarwyddeb 2011/92/EU gan Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/567 (C.136)).

(10)

Gweithredwyd Cyfarwyddeb 2012/18/EU gan Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1597 (C.196)).

(11)

Gweithredwyd Cyfarwyddeb 2011/92/EU gan Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/567 (C.136)).

(12)

Mae Rheoliad 2 o Reoliadau 2005 yn darparu mai ystyr “SNRP” yw datganiad o ddarpariaethau rheoleiddiol cenedlaethol, a ddyroddir yn unol â rheoliad 10 o’r Rheoliadau hynny.

(13)

O.S. 2005/3050, y mae diwygiadau iddo ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources