Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2019

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 6 Chwefror 2019.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Tanwyddau awdurdodedig at ddibenion Rhan III o Ddeddf Aer Glân 1993

2.  Datgenir bod glo caled, glo lled-galed, trydan, nwy, gloeau stêm isel eu hanweddolrwydd a’r tanwyddau a ddisgrifir yn yr Atodlen yn danwyddau awdurdodedig at ddibenion Rhan III o Ddeddf Aer Glân 1993.

Dirymu

3.  Mae Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2017(1) wedi eu dirymu.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

15 Ionawr 2019