- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
3.—(1) Mae trwydded i gael ei rhoi, ac mae hysbysiad ynglŷn â thrwydded i gael ei roi, drwy eu cyfathrebu i dderbynnydd priodol (“P”).
(2) Rhaid i drwydded gael ei chyfathrebu—
(a)drwy ei throsglwyddo’n bersonol i P;
(b)drwy ei phostio i P yng nghyfeiriad neu le busnes P;
(c)drwy ei gadael yng nghyfeiriad neu le busnes P, neu yn nwylo person yno; neu
(d)yn ddarostyngedig i baragraff (6), drwy ei thrawsyrru i P drwy gyfrwng cyfathrebiad electronig i gyfeiriad y mae P wedi ei bennu yn unol ag is-baragraff (b) o’r paragraff hwnnw.
(3) Rhaid i hysbysiad gael ei weithredu drwy ei gyfathrebu i P—
(a)mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir ym mharagraff (2);
(b)drwy ei gyhoeddi ar wefan, y nodir ei chyfeiriad ar y drwydded y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi; neu
(c)pan fo’r hysbysiad yn hysbysiad cyffredinol, drwy ei gyhoeddi mewn papur newydd.
(4) Rhaid i hysbysiad cyffredinol—
(a)darparu ei fod yn gymwys i bob trwydded pysgota môr; neu
(b)pennu’r trwyddedau pysgota môr hynny y mae’n ymwneud â hwy drwy gyfeirio at rywogaeth, ardal, dull, neu fath o drwydded, neu at unrhyw gyfuniad o’r materion hyn.
(5) Rhaid i hysbysiad heblaw hysbysiad cyffredinol bennu’r trwyddedau y mae’n ymwneud â hwy drwy gyfeirio at enw, llythrennau a rhif porthladd pob llestr y rhoddwyd trwydded o’r fath iddo.
(6) Dim ond os bodlonir yr amodau a ganlyn y caniateir cyfathrebu trwydded neu hysbysiad drwy gyfrwng cyfathrebiad electronig fel y’i disgrifir ym mharagraff (2)(d)—
(a)bod defnyddio cyfathrebiad electronig yn golygu bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y drwydded neu’r hysbysiad ar gael i P ym mhob agwedd berthnasol fel y byddai’n ymddangos mewn trwydded neu hysbysiad a roddid ar ffurf brintiedig; a
(b)bod P wedi pennu cyfeiriad er mwyn derbyn cyfathrebiadau o’r fath.
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “derbynnydd priodol” yw—
(a)mewn perthynas â thrwydded neu hysbysiad sy’n ymwneud â chwch pysgota Cymreig—
(i)perchennog neu siartrwr y cwch pysgota, neu
(ii)enwebai i’r perchennog neu’r siartrwr hwnnw; a
(b)mewn perthynas â thrwydded neu hysbysiad sy’n ymwneud ag unrhyw gwch pysgota arall, perchennog neu siartrwr y cwch pysgota.
(8) Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbysiad cyffredinol” yw hysbysiad sy’n ymwneud—
(a)â phob trwydded pysgota môr; neu
(b)â phob trwydded pysgota môr sy’n awdurdodi pysgota—
(i)am un neu ragor o ddisgrifiadau penodedig o bysgod môr,
(ii)mewn un neu ragor o ardaloedd penodedig,
(iii)drwy ddull neu ddulliau penodedig,
(iv)yn ôl y math o drwydded, neu
(v)drwy gyfeirio at gyfuniad o ddau neu ragor o’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (i) i (iv).
(9) Yn y rheoliad hwn, ystyr “trwyddedau pysgota môr” yw trwyddedau o dan adran 4 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: