Offerynnau Statudol Cymru
2019 Rhif 51 (Cy. 16)
Aer Glân, Cymru
Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Dosbarthau Esempt ar Leoedd Tân) (Cymru) 2019
Gwnaed
15 Ionawr2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
16 Ionawr 2019
Yn dod i rym
6 Chwefror 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 21(5) o Ddeddf Aer Glân 1993(1).
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y gellir defnyddio’r lleoedd tân a esemptir gan y Gorchymyn hwn i losgi tanwydd nad yw’n danwydd awdurdodedig heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg.
1993 p. 11. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 21(5), i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Mae’r swyddogaeth honno yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.