Search Legislation

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 674 (Cy. 130)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Iechyd Planhigion, Cymru

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gwnaed

8pm ar 19 Mawrth 2019

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—

(a)mewn perthynas â Rhan 1, y pwerau a grybwyllir ym mharagraffau (b) ac (c);

(b)mewn perthynas â Rhan 2, adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1);

(c)mewn perthynas â Rhannau 3 i 5, paragraff 1(1) o Atodlen 2, a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(2).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(3) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol â pharagraff 2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.

(2Deuant i rym fel a ganlyn—

(a)o ran y Rhan hon a Rhan 2, drannoeth y diwrnod y’u gwneir;

(b)o ran y gweddill, ar y diwrnod ymadael.

(3Maent yn gymwys o ran Cymru.

RHAN 2Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018

2.  Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018(4) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

3.  Ym mharagraff 3 o Atodlen 13, yn lle “Caiff hysbysiad o dan erthygl 32 ei gwneud yn ofynnol” rhodder “Rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiad o dan erthygl 32 sy’n ei gwneud yn ofynnol”.

4.  Yn Atodlen 14—

(a)hepgorer paragraff 1;

(b)yn lle paragraff 2 rhodder—

Yn yr Atodlen hon—

ystyr “bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible bulbs”) yw bylbiau, cloron neu risomau, a dyfir mewn pridd ac a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio’r rhai y mae tystiolaeth ar eu deunydd pecynnu, neu drwy ddulliau eraill, eu bod wedi eu bwriadu ar gyfer eu gwerthu i ddefnyddwyr terfynol nad ydynt yn ymwneud â chynhyrchu blodau wedi eu torri yn broffesiynol, Allium ascalonicum L., Allium cepa L., Dahlia spp., Gladiolus Tourn. Ex L., Hyacinthus spp., Iris spp., Lilium spp., Narcissus L. neu Tulipa L.;

ystyr “cae” (“field”) yw ardal sydd wedi ei ddarnodi yn gae at ddibenion Erthygl 3 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC(5);

ystyr “cae wedi ei heigio” (“infested field”) yw cae sydd wedi ei gofnodi yn gae wedi ei heigio yn unol â pharagraff 2B;

ystyr “deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible material”) yw planhigion cynhaliol, bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau;

ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad o dan erthygl 32;

ystyr “planhigion cynhaliol” (“host plants”) yw planhigion gyda gwreiddiau Capsicum spp., Solanum lycopersicum L. neu Solanum melongena L.;

ystyr “planhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible plants”) yw planhigion gyda gwreiddiau Allium porrum L., Asparagus officinalis L., Beta vulgaris L., Brassica spp. neu Fragaria L.;;

(c)ar ôl paragraff 2, mewnosoder—

Ymchwiliadau swyddogol ac arolygon swyddogol

2A.  Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod ymchwiliadau swyddogol yn cael eu cynnal yn unol ag Erthyglau 4 a 5 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC am bresenoldeb Llyngyr tatws mewn caeau lle y mae tatws hadyd neu ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, a fwriedir ar gyfer cynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu, i’w plannu neu eu storio;

(b)bod arolygon swyddogol yn cael eu cynnal yn unol ag Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC am bresenoldeb Llyngyr tatws mewn caeau a ddefnyddir i gynhyrchu tatws, ac eithrio’r rhai a fwriedir ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd.

Cofnodion swyddogol

2B.  Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod canlyniadau pob ymchwiliad swyddogol neu arolwg swyddogol a gynhelir yn unol â pharagraff 2A yn cael eu cofnodi i nodi pa un a ganfuwyd Llyngyr tatws yn y cae yn ystod yr ymchwiliad neu’r arolwg.

2C.  Pan fo’r mesurau a gymeradwywyd yn swyddogol a nodir yn adran 3(C) o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2007/33/EC wedi eu gweithredu mewn cae a gofnodwyd yn gae sydd wedi ei heigio yn unol â pharagraff 2B ac, yn dilyn cwblhau gweithredu’r mesurau hynny, nad yw presenoldeb Llyngyr tatws yn cael ei gadarnhau, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y cofnod yn cael ei ddiweddaru yn unol â hynny.

(d)ym mharagraff 3—

(i)hepgorer y pennawd;

(ii)yn lle’r geiriau o “y cae”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, hyd at y diwedd, rhodder “gae wedi ei heigio sy’n pennu terfynau’r cae”;

(e)ym mharagraff 4, yn lle’r geiriau o “yn unol â’r” hyd at “Gyfarwyddeb 2007/33/EC,” rhodder “yn unol â pharagraff 2C”;

(f)ar ôl paragraff 4, mewnosoder—

Dynodiad swyddogol

4A.  Rhaid i arolygydd, drwy hysbysiad, ddynodi yn halogedig unrhyw datws neu ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n dod o gae sydd wedi ei gofnodi yn swyddogol yn gae sydd wedi ei heigio o dan baragraff 2B neu unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sydd wedi bod mewn cyffyrddiad â phridd y canfuwyd Llyngyr tatws ynddo.;

(g)ym mharagraff 5—

(i)yn is-baragraff (a)—

(aa)hepgorer “mewn cae sydd wedi ei ddarnodi”;

(bb)ar ôl “tatws hadyd” mewnosoder “mewn cae wedi ei heigio”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle’r geiriau o “mewn” hyd at y diwedd rhodder “unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a fwriedir ar gyfer ei blannu mewn cae wedi ei heigio”;

(h)ym mharagraff 6, yn lle’r geiriau o “mewn” hyd at y diwedd rhodder “bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau mewn cae wedi ei heigio”;

(i)ym mharagraff 8—

(i)hepgorer “mewn cae sydd wedi ei ddarnodi”;

(ii)yn lle’r geiriau o “oni bai” hyd at y diwedd rhodder “mewn cae wedi ei heigio oni bai ei fod wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd”;

(j)ar ôl paragraff 8 mewnosoder—

8A.  Rhaid i awdurdodiad o dan baragraff 8 fod drwy hysbysiad ac ni chaniateir ei roi oni bai bod yr arolygydd wedi ei fodloni bod yr holl gamau rhesymol i atal Llyngyr tatws yn y cae hwnnw wedi eu cymryd yn unol â’r rhaglen reolaeth swyddogol a fabwysiadwyd ar gyfer atal Llyngyr tatws.;

(k)ym mharagraff 9, yn lle’r geiriau o “a restrir” hyd at “gae sydd wedi ei ddarnodi”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “cynhaliol a ddynodwyd yn blanhigion halogedig yn unol â pharagraff 4A”;

(l)ar ôl paragraff 10 mewnosoder—

Rheolaethau ar datws ar gyfer prosesu diwydiannol neu raddio diwydiannol

10A.  Ni chaiff unrhyw berson symud unrhyw datws sydd wedi eu dynodi yn datws halogedig yn unol â pharagraff 4A ac a fwriedir ar gyfer prosesu diwydiannol neu raddio diwydiannol, oni bai ei fod wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd.

10B.  Rhaid i awdurdodiad o dan baragraff 10A fod drwy hysbysiad, a rhaid iddo ei wneud yn ofynnol i’r tatws gael eu danfon i safle prosesu neu raddio sydd â gweithdrefnau gwaredu gwastraff priodol a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg o ledaenu Llyngyr tatws.;

(m)ym mharagraff 11, yn lle’r geiriau o “blanhigion” hyd at y diwedd rhodder “fylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a ddynodwyd yn rhai halogedig yn unol â pharagraff 4A, oni bai y buont yn destun y mesurau a nodir yn adran 3(A) o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2007/33/EC a bod arolygydd wedi cadarnhau drwy hysbysiad nad ydynt yn halogedig mwyach”;

(n)hepgorer paragraff 12;

(o)ar y diwedd mewnosoder—

Ymchwiliadau pellach

13.  Os yw unrhyw achos a amheuir o Lyngyr tatws neu unrhyw achos o bresenoldeb Llyngyr tatws a gadarnhawyd yn deillio o fethiant neu newid o ran effeithiolrwydd amrywogaeth datws sydd ag ymwrthedd sy’n ymwneud â newid eithriadol o ran cyfansoddiad rhywogaethau nematodau, pathofathau neu grwpiau gwenwyndra, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cynhelir drwy ddulliau priodol ymchwiliad i’r rhywogaeth o Lyngyr tatws dan sylw a, phan fo’n gymwys, y pathofath a’r grŵp gwenwyndra dan sylw, a’u bod yn cael eu cadarnhau drwy ddulliau priodol.

5.  Yn Atodlen 15—

(a)ym mharagraff 1—

(i)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “profion swyddogol” (“official testing”) yw cynnal profion mewn labordy swyddogol neu labordy sydd o dan oruchwyliaeth swyddogol;;

(ii)yn y diffiniad o “hysbysiad”, ar ôl ““hysbysiad” (“notice”) mewnosoder “yn Rhan A i C”;

(b)ar ôl paragraff 1 mewnosoder—

RHAN A

Arolygon swyddogol a phrofion swyddogol

1A.  Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cynhelir arolygon swyddogol systematig ar gyfer Pydredd cylch tatws ar gloron Solanum tuberosum L. a, phan fo’n briodol, ar blanhigion Solanum tuberosum L., sy’n tarddu o Gymru yn unol ag Erthygl 2(1) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC(6).

1B.  Pan amheuir bod Pydredd cylch tatws yn bresennol mewn deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod profion swyddogol yn cael eu cynnal gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC ac yn unol â’r amodau a bennir ym mhwynt 1 o Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC i gadarnhau ei fod yn bresennol neu beidio;

(b)bod y pethau a ganlyn yn cael eu cadw, ac y cymerir camau priodol i’w diogelu hyd nes cwblheir y profion swyddogol—

(i)yr holl gloron a samplwyd, a phan fo’n bosibl, yr holl blanhigion a samplwyd;

(ii)unrhyw rin a deunydd paratoi ychwanegol ar gyfer y profion sgrinio;

(iii)yr holl ddogfennaeth berthnasol; ac

(c)hyd nes y cadarnheir ei fod yn bresennol neu beidio, pan fo symptomau gweledol diagnostig sy’n peri amheuaeth ynghylch presenoldeb Pydredd cylch tatws wedi eu gweld, neu symptomau Pydredd cylch tatws wedi eu canfod gan brawf imiwnofflworoleuedd cadarnhaol neu brawf cadarnhaol priodol arall—

(i)bod symudiad yr holl lotiau neu lwythi y cymerwyd y samplau ohonynt, ac eithrio’r rhai sydd o dan reolaeth swyddogol, wedi ei wahardd, ac eithrio pan gadarnhawyd nad oes dim risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd cylch tatws;

(ii)bod camau yn cael eu cymryd i olrhain tarddiad yr achos a amheuir; a

(iii)bod camau rhagofalus priodol ychwanegol sy’n seiliedig ar lefel y risg dybiedig yn cael eu cymryd i atal y pla planhigion rhag lledaenu.

1C.  Caiff hysbysiad gynnwys mesurau at ddibenion paragraff 1B(c)(i) i (iii).

RHAN B

Mesurau i’w cymryd yn dilyn cadarnhau presenoldeb Pydredd cylch tatws

1D.  Os yw presenoldeb Pydredd cylch tatws yn cael ei gadarnhau mewn sampl o ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn dilyn profion swyddogol a gynhelir yn unol â pharagraff 1B(a) neu 1E, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, y llwyth neu’r lot ac unrhyw wrthrych y cymerwyd y sampl ohono a, phan fo’n briodol, y man cynhyrchu a’r cae y cynaeafwyd y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ohonynt, yn cael eu dynodi yn halogedig gan arolygydd;

(b)bod arolygydd yn canfod graddau’r halogi tebygol drwy gyffyrddiad cyn neu ar ôl cynaeafu neu drwy unrhyw gysylltiad cynhyrchu ag unrhyw beth a ddynodir yn halogedig o dan is-baragraff (a), gan ystyried y darpariaethau ym mhwynt 1 o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

(c)bod parth yn cael ei ddarnodi gan arolygydd ar sail y dynodiad a wneir o dan is-baragraff (a), gan ystyried y darpariaethau ym mhwynt 2 o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC.

1E.  Pan fo deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau wedi ei ddynodi yn halogedig o dan baragraff 1D(a), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cynhelir profion ar stociau tatws sy’n perthyn drwy glonio i’r deunydd hwnnw sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn y dull a bennir ym mharagraff 1B er mwyn canfod prif ffynhonnell debygol yr haint, a graddau’r halogi tebygol.

1F.  Rhaid cynnal unrhyw brofion o’r fath ar faint bynnag o ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ag sy’n angenrheidiol i ganfod prif ffynhonnell debygol yr haint, a graddau’r halogi tebygol.

1G.  Rhaid i unrhyw ddynodiad gan arolygydd o dan y Rhan hon gael ei wneud drwy hysbysiad.

1H.  Pan fo arolygydd yn canfod o dan baragraff 1D(b) bod unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, neu unrhyw wrthrych, yn halogedig o bosibl, rhaid i’r arolygydd ddynodi drwy hysbysiad bod y deunydd hwnnw neu’r gwrthrych hwnnw yn halogedig o bosibl.

RHAN C;

(c)ym mharagraff 3—

(i)yn lle’r geiriau cyn is-baragraff (a) rhodder “Pan fo deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrych wedi ei ddynodi yn halogedig neu’n halogedig o bosibl o dan Ran B, rhaid i arolygydd ddyroddi hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol”;

(ii)yn is-baragraff (a)—

(aa)yn lle “bod” ar y dechrau rhodder “yn achos”

(bb)ar ôl “glefydau” mewnosoder “, fod y deunydd”;

(iii)yn is-baragraff (b)—

(aa)yn lle “bod” ar y dechrau rhodder “yn achos”

(bb)ar ôl “glefydau” mewnosoder “, fod y deunydd”;

(iv)yn is-baragraff (c)—

(aa)yn y geiriau cyn paragraff (i), yn lle “bod” ar y dechrau rhodder “yn achos” ac ar ôl “o bosibl” mewnosoder “, fod y gwrthrych”;

(bb)ym mharagraff (ii), yn lle “o ledaenu Pydredd cylch tatws” rhodder “bod Pydredd cylch tatws yn goroesi neu’n lledaenu”;

(d)ym mharagraff 5—

(i)yn y pennawd, hepgorer “y caniateir eu gwneud yn ofynnol”;

(ii)yn y geiriau cyn is-baragraff (a), yn lle “Caiff” rhodder “Rhaid i”;

(e)ym mharagraff 6(c), ar y diwedd mewnosoder “, a bod y cloron a gynaeafir yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC”;

(f)ym mharagraff (7)(c)—

(i)yn lle “tatws” yn yr ail le y mae’n digwydd rhodder “hadyd neu datws”;

(ii)ar y diwedd mewnosoder “, a bod y cloron a gynaeafir yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC”;

(g)ym mharagraff 8—

(i)yn is-baragraff (a)—

(aa)ar y dechrau, mewnosoder “pan fo arolygydd wedi ei fodloni bod y risg o blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws wedi ei dileu,”;

(bb)ym mharagraff (iii), hepgorer y geiriau o “a bod” hyd at y diwedd;

(ii)yn is-baragraff (d), ar y diwedd, mewnosoder “a gofyniad bod profion swyddogol yn cael eu cynnal ar gloron a gynaeafir ym mhob cae gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC”;

(h)ym mharagraff 9, yn lle “Caniateir” rhodder “Ac eithrio pan fo Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi hysbysiad o dan Ran D, rhaid”;

(i)ar ôl paragraff 10 mewnosoder—

10A.  Pan fo arolygydd yn cyflwyno hysbysiad sy’n cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cynhelir arolwg swyddogol mewn perthynas â’r cae a grybwyllir ym mharagraff 6(d) yn unol ag Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 93/85/EEC.

(j)ym mharagraff 12(a), ar ôl “Pydredd cylch tatws” mewnosoder “ac i symud ymaith yr holl blanhigion cynhaliol”;

(k)ar ôl paragraff 13 mewnosoder—

RHAN D

Darnodi parthau i reoli Pydredd cylch tatws

14.  Mae’r Rhan hon yn gymwys pan fo arolygydd wedi darnodi parth yn unol â pharagraff 1D(c).

15.  Caiff Gweinidogion Cymru bennu, drwy hysbysiad—

(a)am ba hyd y mae’r parth i barhau i fod wedi ei ddarnodi; a

(b)y mesurau sy’n gymwys yn y parth sydd wedi ei ddarnodi.

16.  Mewn perthynas â hysbysiad o dan baragraff 15—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)rhaid iddo ddisgrifio hyd a lled y parth sydd wedi ei ddarnodi;

(c)rhaid iddo bennu’r dyddiad y mae pob mesur yn cael effaith;

(d)rhaid iddo gael ei gyhoeddi mewn dull sy’n briodol i’w ddwyn i sylw’r cyhoedd; ac

(e)caniateir ei ddiwygio, ei atal dros dro neu ei ddirymu, yn llwyr neu’n rhannol, drwy hysbysiad pellach.

17.  Rhaid trin unrhyw fangre sy’n rhannol o fewn parth sydd wedi ei ddarnodi ac yn rhannol y tu allan i’r parth hwnnw fel pe bai o fewn y parth hwnnw at ddibenion yr Atodlen hon, ac eithrio pan na fo’r rhan sydd y tu allan i’r parth sydd wedi ei ddarnodi yng Nghymru.

18.  Mae hysbysiad a gyhoeddir yn unol â pharagraff 16 i’w drin fel pe bai wedi ei gyflwyno i—

(a)unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am unrhyw fangre o fewn y parth sydd wedi ei ddarnodi; a

(b)unrhyw berson sy’n gweithredu peiriannau neu’n cyflawni unrhyw weithgaredd arall mewn perthynas â chynhyrchu tatws o fewn y parth sydd wedi ei ddarnodi.

19.  Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff 15 bennu—

(a)bod rhaid glanhau a diheintio mewn dull priodol unrhyw beiriannau neu storfeydd mewn mangre o fewn y parth sydd wedi ei ddarnodi a ddefnyddir i gynhyrchu tatws er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy bod Pydredd cylch tatws yn goroesi neu’n lledaenu;

(b)yn ystod y cyfnod penodedig, mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfir o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu, a rhaid cynnal profion swyddogol, ar ôl eu cynaeafu, ar unrhyw datws hadyd sydd wedi eu tyfu mewn man cynhyrchu sydd wedi ei halogi o bosibl;

(c)yn ystod y cyfnod penodedig, bod rhaid trafod tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu ar wahân i’r holl datws eraill mewn mangre o fewn y parth neu fod rhaid gweithredu system lanhau a, phan fo’n briodol, ddiheintio rhwng trafod tatws hadyd a thatws bwyta.

20.  Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau, yn ystod y cyfnod penodedig—

(a)bod mangreoedd sy’n tyfu, yn storio neu’n trafod cloron tatws a mangreoedd sy’n gweithredu peiriannau tatws o dan gontract yn cael eu goruchwylio gan arolygydd;

(b)bod arolwg swyddogol yn cael ei gynnal yn unol ag Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

(c)bod rhaglen yn cael ei sefydlu, pan fo’n briodol, i amnewid yr holl stociau tatws hadyd dros gyfnod priodol o amser.

21.  At ddibenion paragraffau 19 ac 20, ystyr y “cyfnod penodedig” yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, a rhaid i’r cyfnod hwnnw fod o leiaf dri thymor tyfu ar ôl y flwyddyn y darnodwyd y parth perthnasol ynddi..

6.  Yn Atodlen 16—

(a)ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “hysbysiad” yn lle “Rhan A” rhodder “Rhannau A i C”;

(b)Ar ôl pennawd Rhan A mewnosoder—

Arolygon swyddogol a phrofion swyddogol

1A.  Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod arolygon swyddogol systematig blynyddol yn cael eu cynnal i nodi presenoldeb Pydredd coch tatws ar ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n tarddu o Gymru yn unol ag Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 98/57/EC (7).

1B.  Pan amheuir bod Pydredd coch tatws yn bresennol, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod profion swyddogol yn cael eu cynnal i gadarnhau pa un a yw’n bresennol ai peidio—

(i)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC ac yn unol â’r amodau a bennir ym mhwynt 1 o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(ii)mewn unrhyw achos arall, gan ddefnyddio unrhyw ddull a gymeradwywyd yn swyddogol;

(b)hyd nes y cadarnheir ei fod yn bresennol neu beidio, pan fo symptomau gweledol diagnostig sy’n peri amheuaeth o bresenoldeb Pydredd coch tatws wedi eu gweld, ac y cafwyd canlyniad cadarnhaol mewn prawf sgrinio cyflym, neu y cafwyd canlyniad cadarnhaol yn y prawf sgrinio a bennir ym mhwynt 2 o adran 1 ac adran 3 o Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC—

(i)bod symud yr holl blanhigion a’r holl gloron o’r holl gnydau, yr holl lotiau neu’r holl lwythi y cymerwyd y samplau ohonynt, ac eithrio’r rhai sydd o dan reolaeth swyddogol, wedi ei wahardd, ac eithrio pan gadarnhawyd nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws;

(ii)bod camau yn cael eu cymryd i olrhain tarddiad yr achos a amheuir; a

(iii)bod mesurau rhagofalus priodol ychwanegol sy’n seiliedig ar lefel y risg dybiedig yn cael eu gweithredu er mwyn atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.

1C.  Caiff hysbysiad gynnwys mesurau at ddibenion paragraff 1B(b)(i) i (iii).

RHAN B

Mesurau i’w cymryd yn dilyn cadarnhau presenoldeb Pydredd coch tatws

1D.  Os yw presenoldeb Pydredd coch tatws yn cael ei gadarnhau yn dilyn profion swyddogol a gynhelir yn unol â pharagraff 1B, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y rhoddir y camau gweithredu a bennir ym mharagraffau 1E i 1G ar waith yn unol ag egwyddorion gwyddonol cadarn, bioleg Pydredd coch tatws a systemau cynhyrchu, marchnata a phrosesu perthnasol planhigion cynhaliol Pydredd coch tatws.

1E.  Yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, y camau gweithredu yw—

(a)cynnal ymchwiliad gan arolygydd i ganfod graddau’r halogi a phrif ffynonellau’r halogi yn unol ag Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(b)cynnal profion swyddogol pellach, gan gynnwys cynnal profion ar yr holl stociau tatws hadyd sy’n perthyn drwy glonio;

(c)dynodi gan arolygydd bod y pethau a ganlyn wedi eu halogi—

(i)y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a’r llwyth neu’r lot y cymerwyd y sampl ohono neu ohoni;

(ii)unrhyw wrthrychau sydd wedi dod i gyffyrddiad â’r sampl honno;

(iii)unrhyw uned gynhyrchu cnwd dan orchudd neu gae cynhyrchu cnwd dan orchudd ac unrhyw fan cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y cymerwyd y sampl ohoni neu ohono;

(d)penderfyniad gan arolygydd ynghylch graddau’r halogi tebygol drwy ddod i gyffyrddiad cyn neu ar ôl cynaeafu, drwy gysylltiadau cynhyrchu, dyfrhau neu chwistrellu neu drwy berthynas drwy glonio;

(e)darnodi parth gan arolygydd ar sail y dynodiad o dan is-baragraff (c), y penderfyniad a wneir o dan is-baragraff (d) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws yn unol â phwynt 2(i) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC.

1F.  Yn achos planhigion cynhaliol, ac eithrio deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, pan fo arolygydd yn nodi bod cynhyrchu deunydd o’r fath yn wynebu risg, y camau gweithredu yw—

(a)cynnal ymchwiliad gan arolygydd i ganfod graddau’r halogi a phrif ffynonellau’r halogi yn unol ag Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(b)dynodi gan arolygydd bod planhigion cynhaliol y cymerwyd y sampl ohonynt yn halogedig;

(c)penderfyniad gan arolygydd o ran yr halogi tebygol;

(d)darnodi parth gan arolygydd ar sail y dynodiad o dan is-baragraff (b), y penderfyniad a wnaed o dan is-baragraff (c) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws yn unol â phwynt 2(i) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC.

1G.  Yn achos dŵr wyneb a phlanhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt cysylltiedig, pan fo arolygydd yn nodi bod cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn wynebu risg oherwydd dyfrhau, chwistrellu neu lifogydd dŵr wyneb, y camau gweithredu yw—

(a)cynnal ymchwiliad gan arolygydd i ganfod graddau’r halogi, sy’n cynnwys cynnal arolygon swyddogol, ar adegau priodol, o ddŵr wyneb ac, os ydynt yn bresennol, planhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt;

(b)dynodi dŵr wyneb y cymerwyd y sampl ohono gan arolygydd, i’r graddau sy’n briodol ac ar sail yr ymchwiliad o dan is-baragraff (a);

(c)penderfyniad gan arolygydd o ran yr halogi tebygol ar sail y dynodiad a wnaed o dan is-baragraff (b);

(d)darnodi parth gan arolygydd ar sail y dynodiad o dan is-baragraff (b), y penderfyniad a wnaed o dan is-baragraff (c) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws yn unol â phwynt 2(ii) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC.

RHAN C;

(c)ym mharagraff 3—

(i)yn lle’r geiriau cyn is-baragraff (a) rhodder “Pan fo deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu unrhyw wrthrych wedi ei ddynodi yn halogedig neu’n halogedig o bosibl o dan Ran B, rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol”;

(ii)yn is-baragraff (a)—

(aa)yn lle “bod” ar y dechrau rhodder “yn achos”;

(bb)ar ôl “glefydau” mewnosoder “, fod y deunydd”;

(iii)yn is-baragraff (b)—

(aa)yn lle “bod” ar y dechrau rhodder “yn achos”

(bb)ar ôl “glefydau” mewnosoder “, fod y deunydd”;

(iv)yn is-baragraff (c)—

(aa)yn y geiriau cyn paragraff (i), yn lle “bod” ar y dechrau rhodder “yn achos” ac ar ôl “o bosibl” mewnosoder “, fod y gwrthrych”;

(bb)ym mharagraff (ii), yn lle “o ledaenu Pydredd coch tatws” rhodder “bod Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu”;

(d)ym mharagraff 5—

(i)yn lle “Caiff” rhodder “Rhaid i”;

(ii)Yn lle “erthygl 39(4)”, rhodder “Rhan B”;

(e)ym mharagraff (6)(c)—

(i)ar ôl “tatws”, yn y trydydd lle y mae’n digwydd, mewnosoder “neu domatos”;

(ii)ar ôl “mochlysaidd,” mewnosoder “yn ystod arolygiadau swyddogol”;

(iii)ar y diwedd mewnosoder “, a bod y cloron neu blanhigion tomato a gynaeafir yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC”;

(f)ym mharagraff 7(b)—

(i)ym mharagraff (ii), ar y dechrau mewnosoder “yn ystod y bedwaredd a’r pumed flwyddyn dyfu,”

(ii)ym mharagraff (iii), ar y diwedd mewnosoder “, ar yr amod y canfuwyd bod y cae neu’r uned yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol, planhigion tomato gwirfoddol a phlanhigion cynhaliol eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, yn ystod arolygiadau swyddogol ar gyfer Pydredd coch tatws, am o leiaf y ddwy flwyddyn dyfu olynol cyn plannu, a bod y cloron neu blanhigion tomato a gynaeafir yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC”;

(g)ym mharagraff 8—

(i)yn is-baragraff (a), ar ôl “gyntaf” mewnosoder “nid yw unrhyw blanhigion cynhaliol Pydredd coch tatws i’w plannu neu”;

(ii)yn is-baragraff (f), ar y diwedd, mewnosoder—

;

(g)arolygon swyddogol ar adegau priodol o gnydau sy’n tyfu a chynnal profion swyddogol ar datws a gynaeafir yn unol â’r dull a nodir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(h)ym mharagraff 9, yn lle’r geiriau cyn is-baragraff (a) rhodder “Ac eithrio pan fo Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi hysbysiad o dan Ran D, rhaid i hysbysiad mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig”;

(i)ym mharagraff 12(a) ar ôl “Pydredd coch tatws” mewnosoder “ac i symud ymaith holl blanhigion cynhaliol Pydredd coch tatws”;

(j)ar ôl paragraff 13, yn lle “RHAN B” rhodder “RHAN D”;

(k)ym mharagraff 14, yn lle “erthygl 39(4)” rhodder “Rhan B”;

(l)ym mharagraff 19—

(i)yn lle’r geiriau cyn is-baragraff (a) rhodder “Rhaid i hysbysiad o dan baragraff 15 bennu”;

(ii)yn is-baragraff (a), yn lle “storfeydd” rhodder “gyfleusterau storio”;

(iii)yn is-baragraff (b), ar ôl “cnydau tatws,” mewnosoder “yn ystod y cyfnod penodedig”;

(iv)yn is-baragraff (c), ar y dechrau, mewnosoder “yn ystod y cyfnod penodedig”;

(v)yn is-baragraff (d), ar ôl “cnydau tomatos,” mewnosoder “yn ystod y cyfnod penodedig”;

(m)ar ôl paragraff 20 mewnosoder—

21.  Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau, yn ystod y cyfnod penodedig—

(a)bod mangreoedd sy’n tyfu, yn storio neu’n trafod cloron tatws a mangreoedd sy’n gweithredu peiriannau tatws o dan gontract yn cael eu goruchwylio gan arolygwyr;

(b)bod arolwg swyddogol yn cael ei gynnal yn unol ag Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(c)bod rhaglen yn cael ei sefydlu, pan fo’n briodol, i amnewid yr holl stociau tatws hadyd dros gyfnod priodol o amser.

22.  At ddibenion paragraffau 19 ac 21, ystyr “y cyfnod penodedig” yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, a rhaid i’r cyfnod hwnnw fod o leiaf dri thymor tyfu ar ôl y flwyddyn y darnodwyd y parth perthnasol ynddi.

RHAN 3Diwygio ymhellach Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018: ymadael â’r Undeb Ewropeaidd

7.  Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

8.  Yn erthygl 2—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “ardal sy’n rhydd rhag plâu” (“pest free area”) yw’r rhan honno o ardal yn y DU sy’n rhydd rhag plâu sydd yng Nghymru neu, pan fo’r ardal yn y DU sy’n rhydd rhag plâu yn cynnwys dwy neu ragor o rannau o Gymru ar wahân, pob rhan o’r fath;

ystyr “ardal yn y DU sy’n rhydd rhag plâu” (“UK pest free area”) yw ardal yn y Deyrnas Unedig a sefydlwyd yn ardal sy’n rhydd rhag plâu yn unol ag ISPM Rhif 4;

ystyr “awdurdod iechyd planhigion priodol y DU” (“appropriate UK plant health authority”) yw—

(a)

o ran Cymru, Gweinidogion Cymru;

(b)

mewn perthynas â phren a phlâu coedwigoedd yn Lloegr, y Comisiynwyr Coedwigaeth;

(c)

fel arall o ran Lloegr, yr Ysgrifennydd Gwladol;

(d)

o ran yr Alban, Gweinidogion yr Alban;

(e)

o ran Gogledd Iwerddon, yr Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig;

ystyr “EPPO PM 7/21” yw’r safon sy’n disgrifio protocol diagnostig ar gyfer Ralstonia solanacearum, R. pseudosolanacearum a R. syzygii a gymeradwywyd gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor (8);

ystyr “EPPO PM 7/59” yw’r safon sy’n disgrifio protocol diagnostig ar gyfer Clavibacter michiganensis subsp. sepedonicus a gymeradwywyd gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor(9);

ystyr “pasbort planhigion y DU” (“UK plant passport”) yw label a, phan fo hynny’n briodol, dogfen sy’n mynd gydag ef, sy’n bodloni’r gofynion perthnasol a nodir yn Rhan A neu B o Atodlen 9, a ddyroddir gan sefydliad iechyd planhigion priodol y DU, neu gyda’i awdurdod, ac mae’n cynnwys unrhyw basbort planhigion amnewid;

ystyr “pla planhigion a reoleiddir” (“regulated plant pest”) yw—

(a)

pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A, B neu D o’r rhestr o blâu planhigion gwaharddedig;

(b)

pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Rhan C o’r rhestr o blâu planhigion gwaharddedig sy’n ymwneud ag ardal sy’n rhydd rhag plâu;

(c)

pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A, B neu D o’r rhestr o ddeunydd wedi ei heigio gwaharddedig;

(d)

pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran C o’r rhestr o ddeunydd wedi ei heigio gwaharddedig sy’n ymwneud ag ardal sy’n rhydd rhag plâu;

ystyr “y Rheoliadau Iechyd Planhigion” (“the Plant Health Regulations”) yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ymadael â’r UE) 2019;

ystyr “y rhestr o blâu planhigion gwaharddedig” (“the list of prohibited plant pests”) yw Atodlen 1 i’r Rheoliadau Iechyd Planhigion;

ystyr “y rhestr o ddeunydd a reoleiddir” (“the list of regulated material”) yw Atodlen 4 i’r Rheoliadau Iechyd Planhigion;

ystyr “y rhestr o ddeunydd a reolir” (“the list of controlled material”) yw Atodlen 6 i’r Rheoliadau Iechyd Planhigion;

ystyr “y rhestr o ddeunydd a reolir mewn ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu” (“the list of pest free area controlled material”) yw Atodlen 7 i’r Rheoliadau Iechyd Planhigion;

ystyr “y rhestr o ddeunydd gwaharddedig” (“the list of prohibited material”) yw Atodlen 3 i’r Rheoliadau Iechyd Planhigion;

ystyr “y rhestr o ddeunydd wedi ei heigio gwaharddedig” (“the list of prohibited infested material”) yw Atodlen 2 i’r Rheoliadau Iechyd Planhigion;

ystyr “tiriogaeth y DU” (“UK territory”) yw Cymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;;;

(ii)Hepgorer y diffiniadau o “Atodiad II Rhan B” i “Atodiad IV Rhan B”;

(iii)yn y diffiniad o “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yn lle paragraffau (a) a (b) rhodder—

(a)mewn perthynas â phasbort planhigion y DU, arolygydd sy’n gweithredu o dan awdurdod yr awdurdod iechyd planhigion priodol yn y DU; neu

(b)mewn perthynas â thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio, cynrychiolydd awdurdodedig sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol y wlad y dyroddir ynddi dystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio neu gyfieithiad o dystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio, neu swyddog cyhoeddus sy’n gweithredu o dan awdurdod sefydliad o’r fath;

(iv)hepgorer y diffiniad o “ffrwythau sitrws ar gyfer eu prosesu”;

(v)yn lle’r diffiniad o “llwyth” rhodder—

ystyr “llwyth” (“consignment”) yw nifer o nwyddau sydd wedi eu cwmpasu gan un ddogfen sy’n ofynnol ar gyfer tollau neu fesurau ffurfiol eraill;

(vi)hepgorer y diffiniadau o “Penderfyniad 2002/757/EC” i “Penderfyniad (EU) 2017/198”;

(vii)hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2000/29/EEC”;

(viii)hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2008/61/EC”;

(ix)hepgorer y diffiniadau o “ardal Ewrop a Môr y Canoldir”, “cytundeb tramwy UE”, “Ewrop” a “nwyddau tramwy yr UE”;

(x)yn y diffiniad o “yr Undeb Ewropeaidd” (“European Union”), hepgorer “gan gynnwys Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel,”;

(xi)hepgorer y diffiniad o “ffrwythau”;

(xii)yn y diffiniad o “mewnforiwr” (“importer”), yn lle “lanio” rhodder “anfon”;

(xiii)hepgorer y diffiniad o “wedi ei lanio”;

(xiv)yn y diffiniad o “sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol” (“national plant protection organisation”), yn lle “i’r Comisiwn Ewropeaidd”, rhodder “i sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol y Deyrnas Unedig”;

(xv)hepgorer y diffiniadau o “Gogledd America” a “meithrinfa”;

(xvi)yn y diffiniad o “swyddogol” (“official”), yn lle “gorff swyddogol cyfrifol” rhodder “awdurdod iechyd planhigion priodol y DU”;

(xvii)hepgorer y diffiniad o “dogfennaeth swyddogol”;

(xviii)yn y diffiniad o “label swyddogol” (“official label”), yn lle’r geiriau o “gorff” hyd at y diwedd rhodder “awdurdod iechyd planhigion priodol y DU”;

(xix)yn y diffiniad o “datganiad swyddogol” (“official statement”), ar ôl “planhigion” mewnosoder “y DU”;

(xx)hepgorer y diffiniadau o “gwiriad iechyd planhigion” a “dogfen symud iechyd planhigion”;

(xxi)yn lle’r diffiniad o “plannu” rhodder—

ystyr “plannu” (“planting”) yw unrhyw weithrediad ar gyfer gosod planhigion er mwyn sicrhau eu twf, eu hatgynhyrchiad neu eu lluosogiad wedi hynny;;

(xxii)hepgorer y diffiniadau o “pasbort planhigion” a “planhigyn neu lwyn mewn meithriniad meinwe”;

(xxiii)yn lle’r diffiniad o “cynnyrch planhigion” rhodder—

ystyr “cynnyrch planhigion” (“plant product”) yw cynnyrch sy’n dod o blanhigyn ac na chafodd ei brosesu neu a gafodd ei baratoi’n syml i’r graddau nad planhigyn ydyw;;

(xxiv)hepgorer y diffiniad o “parth gwarchod”;

(xxv)hepgorer y diffiniad o “Rheoliad (EC) Rhif 690/2008”;

(xxvi)hepgorer y diffiniad o “corff swyddogol cyfrifol”;

(xxvii)hepgorer y diffiniadau o “De America” a “pasbort planhigion y Swistir”;

(xxviii)yn y diffiniad o “trydedd wlad” (“third country”), yn lle “yr Undeb Ewropeaidd”, rhodder “y Deyrnas Unedig”;

(xxix)hepgorer y diffiniad o “UDA”;

(b)ym mharagraff (3), yn lle “Mae unrhyw” rhodder “Oni ddarperir yn benodol fel arall, mae unrhyw”;

(c)hepgorer paragraff (5);

(d)ar y diwedd mewnosoder—

(6) Mae i eiriau ac ymadroddion nad ydynt wedi eu diffinio yn y Gorchymyn hwn ac sy’n ymddangos yn y Rheoliadau Iechyd Planhigion yr un ystyr yn y Gorchymyn hwn ag sydd iddynt yn y Rheoliadau Iechyd Planhigion..

9.  Yn erthygl 3—

(a)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “deunydd hysbysedig yr UE” (“notified EU material”) yw unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy sy’n tarddu o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir y bwriedir ei draddodi, neu sydd wedi ei draddodi, i’r Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir drwy fan cyrraedd yng Nghymru, ac y mae Gweinidogion Cymru wedi eu hysbysu am hynny yn unol ag erthygl 6(1);

ystyr “deunydd tramwy yr UE” (“EU transit material”) yw unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy o drydedd wlad, ac eithrio gwlad neu diriogaeth yn yr Undeb Ewropeaidd, a draddodir i’r Deyrnas Unedig drwy’r Undeb Ewropeaidd ac nad oedd, wrth gyrraedd yr Undeb Ewropeaidd, yn ddarostyngedig i—

(a)

y mesurau ffurfiol a ddisgrifir yn Erthygl 13a o Gyfarwyddeb 2000/29/EC; neu

(b)

rheolaethau swyddogol tebyg eraill o dan Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor, fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE;

ystyr “dogfennau masnach” (“trade documents”) mewn perthynas â llwyth o ddeunydd perthnasol hysbysadwy, yw’r anfoneb, y nodyn danfon, y nodyn traddodi neu ddogfen debyg sy’n mynd gyda’r llwyth;

ystyr “gofynion rhagnodedig” (“prescribed requirements”), mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy, yw’r gofynion a bennir mewn cysylltiad â’r deunydd yn erthygl 5;

ystyr “Gorchymyn Iechyd Planhigion perthnasol” (“relevant Plant Health Order”) yw—

(a)

mewn perthynas â deunydd perthnasol y bwriedir iddo fynd i Gymru, Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018 neu Orchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005 o ran ei gymhwyso i Gymru;

(b)

mewn perthynas â deunydd perthnasol y bwriedir iddo fynd i Loegr, Gorchymyn Iechyd Planhigion (Lloegr) 2015 neu Orchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005 o ran ei gymhwyso i Loegr;

(c)

mewn perthynas â deunydd perthnasol y bwriedir iddo fynd i’r Alban, Gorchymyn Iechyd Planhigion (Yr Alban) 2005 neu Orchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005 o ran ei gymhwyso i’r Alban;

(d)

mewn perthynas â deunydd perthnasol y bwriedir iddo fynd i Ogledd Iwerddon, Gorchymyn Iechyd Planhigion (Gogledd Iwerddon) 2018;

ystyr “tystysgrif ffytoiechydol gywir” (“correct phytosanitary certificate”), mewn perthynas â deunydd perthnasol hysbysadwy, yw’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio a ddyroddir—

(a)

yn y dull a bennir yn erthygl 7(2) i (6); a

(b)

mewn cysylltiad â’r gofynion rhagnodedig;;

(b)yn y diffiniad o “man arolygu cymeradwy” (“approved place of inspection”), ar y diwedd mewnosoder “neu mewn perthynas â thiriogaethau eraill y DU, awdurdod iechyd planhigion priodol y DU o dan ddarpariaethau cyfatebol y Gorchymyn Iechyd Planhigion perthnasol”;

(c)hepgorer y diffiniad o “ardal rheolaeth iechyd planhigion” (“area of plant health control”);

(d)hepgorer y diffiniad o “y Cod Tollau” (“the Customs Code”);

(e)yn y diffiniad o “deunydd perthnasol hysbysadwy” (“notifiable relevant material”), yn lle paragraffau (a) a (b) rhodder—

(a)o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 5 i’r Rheoliadau Iechyd Planhigion;

(b)o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 7 i’r Rheoliadau Iechyd Planhigion, sy’n tarddu o drydedd wlad;;

(f)hepgorer y diffiniad o “corff swyddogol y gyrchfan”;

(g)yn y diffiniad o “man cyrraedd” (“point of entry”)—

(i)ar ddiwedd paragraff (a) mewnosoder “yn y Deyrnas Unedig”;

(ii)ym mharagraff (b), yn lle “; neu” rhodder “yn y Deyrnas Unedig;”;

(iii)ar ddiwedd paragraff (c) mewnosoder “yn y Deyrnas Unedig”;

(iv)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(d)yn achos deunydd perthnasol sy’n cyrraedd ar y ffordd, cyrchfan gyntaf y deunydd ar ôl iddo gyrraedd y Deyrnas Unedig;.

10.  Yn lle erthygl 4 rhodder—

4.  Mae’r Rhan hon yn gymwys i blâu planhigion a deunydd perthnasol a ddygir i Gymru o drydedd wlad, pa un ai’n uniongyrchol neu drwy un o diriogaethau eraill y DU..

11.  Yn erthygl 5—

(a)yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Ni chaiff unrhyw berson ddod ag unrhyw un o’r pethau a ganlyn i Gymru—

(a)unrhyw bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A, B neu D o’r rhestr o blâu planhigion gwaharddedig;

(b)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A, B neu D o’r rhestr o ddeunydd wedi ei heigio gwaharddedig sy’n cario, neu wedi ei heintio â, phla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod cyfatebol mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3;

(c)unrhyw bla planhigion, er nad yw wedi ei bennu yn Rhan A, B neu D o’r rhestr o blâu planhigion gwaharddedig, nac yng ngholofn 3 o Ran A, B neu D o’r rhestr o ddeunydd wedi ei heigio gwaharddedig, nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac sy’n debygol o fod yn niweidiol i blanhigion ym Mhrydain Fawr;

(d)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A neu B o’r rhestr o ddeunydd gwaharddedig sy’n tarddu o drydedd wlad a bennir yn y cofnod cyfatebol mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3;

(e)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A neu D o’r rhestr o ddeunydd a reoleiddir, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion cyfatebol mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3;

(f)yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol y bwriedir iddo fynd i ardal sy’n rhydd rhag plâu, unrhyw bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran C o’r rhestr o blâu planhigion gwaharddedig sy’n ymwneud â’r ardal honno sy’n rhydd rhag plâu;

(g)yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol y bwriedir iddo fynd i ardal sy’n rhydd rhag plâu a bennir yng ngholofn 4 o Ran C o’r rhestr o ddeunydd wedi ei heigio gwaharddedig, unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o Ran C o’r rhestr honno sy’n cario neu wedi ei heigio â phla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3;

(h)yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol y bwriedir iddo fynd i ardal sy’n rhydd rhag plâu a bennir yng ngholofn 4 o Ran C o’r rhestr o ddeunydd a reoleiddir, unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Rhan honno, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion cyfatebol mewn cysylltiad â’r deunydd perthnasol hwnnw yng ngholofn 3.;

(b)ym mharagraff (4), yn lle “ac (f)” rhodder “, (g) ac (h)”;

(c)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(5) Nid yw’r gwaharddiadau ym mharagraff (1)(b) i (h) yn gymwys i ddeunydd perthnasol sy’n cyrraedd man cyrraedd sydd wedi ei leoli yn un o diriogaethau eraill y DU ac a ollyngir yn y diriogaeth honno yn unol ag erthygl 12 o’r Gorchymyn Iechyd Planhigion perthnasol..

12.  Yn erthygl 6—

(a)yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Ni chaiff unrhyw berson ddod ag unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy i fan cyrraedd a leolir yng Nghymru, oni bai y rhoddir hysbysiad yn unol â’r erthygl hon.;

(b)ym mharagraff (2)(c), yn lle “i’r deunydd perthnasol gael ei lanio”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “iddo gyrraedd”;

(c)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Yn achos tatws hadyd sy’n tarddu o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir, rhaid cynnwys yr wybodaeth a ganlyn o dan eitem 13 o’r hysbysiad a nodir yn Atodlen 11—

(a)y defnydd arfaethedig ohonynt;

(b)eu cyrchfan arfaethedig;

(c)eu hamrywogaeth a’u nifer;

(d)rhif adnabod cynhyrchydd y tatws.

(3A) Yn achos planhigion Castanea Mill, Fraxinus L., Olea europaea L., Pinus L., Platanus L., Prunus L., Quercus L. neu Ulmus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir, rhaid cynnwys yr wybodaeth a ganlyn o dan eitem 13 o’r hysbysiad a nodir yn Atodlen 11—

(a)eu cyrchfan arfaethedig;

(b)eu genws, eu rhywogaeth a’u nifer;

(c)rhif adnabod cyflenwr y planhigion.;

(d)ym mharagraff (5), yn lle “, 16 a 30(3)” rhodder “ac 16”.

13.  Ar ôl erthygl 6 mewnosoder—

Deunydd tramwy yr UE

6A.(1) Ni chaiff unrhyw berson ddod ag unrhyw ddeunydd tramwy yr UE i mewn i borthladd gyrru mewn ac allan a leolir yng Nghymru oni fwriedir i’r deunydd hwnnw fynd i un man arolygu cymeradwy.

(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i erthygl 8(1).

(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “porthladd gyrru mewn ac allan” yw—

(a)lleoliad rhestredig gyrru mewn ac allan o fewn ystyr rheoliad 130 o Reoliadau Tollau (Tollau Mewnforio) (Ymadael â’r UE) 2018; neu

(b)os nad yw hysbysiad wedi ei gyhoeddi yn unol â rheoliad 130(1) o’r Rheoliadau hynny, man cyrraedd—

(i)sydd yn bennaf yn gwasanaethu fferïau gyrru mewn ac allan sy’n gweithredu rhwng Cymru ac Aelod-wladwriaeth; a

(ii)sydd wedi ei restru mewn hysbysiad a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd..

14.  Yn erthygl 7—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle “lanio unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy” rhodder “ddod ag unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy i fan cyrraedd a leolir yng Nghymru” ;

(ii)yn lle “, fel a bennir” rhodder “sy’n ardystio bod y deunydd yn bodloni’r gofynion rhagnodedig ac yn bodloni’r gofynion”;

(b)hepgorer paragraff (4);

(c)ym mharagraff (7)(a), yn lle “Undeb Ewropeaidd”, rhodder “Deyrnas Unedig”;

(d)ym mharagraff (8), yn lle “erthyglau 8(1) a 30(1) a (2)” rhodder “erthygl 8(1)”.

15.  Yn erthygl 8(1)—

(a)yn y geiriau cyn is-baragraff (a)—

(i)yn lle “gyflwynir” rhodder “ddygir”;

(ii)ar ôl “arall” mewnosoder “sy’n dod o unrhyw drydedd wlad, ac eithrio unrhyw wlad neu diriogaeth yn yr Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir,”;

(b)yn is-baragraff (a), yn lle “(f)” rhodder “(h)”;

(c)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(ba)erthygl 6A(1);.

16.  Yn erthygl 9—

(a)yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Rhaid i’r dogfennau a ganlyn gael eu danfon i arolygydd gan fewnforiwr llwyth o ddeunydd perthnasol hysbysadwy o fewn tri diwrnod i’r dyddiad y mae’n cyrraedd Cymru—

(a)unrhyw dystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio y mae’n ofynnol o dan erthygl 7 iddi fynd gyda’r llwyth o ddeunydd perthnasol hysbysadwy; a

(b)yn achos deunydd hysbysedig yr UE, y dogfennau masnach sy’n mynd gyda’r llwyth.;

(b)ym mharagraff (5), yn lle’r geiriau o “un” hyd at y diwedd, rhodder “weithdrefn Dollau o fewn ystyr adran 3(3) o Ddeddf Trethiant (Masnach Trawsffiniol) 2018”;

(c)ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(6) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy sydd wrthi’n cael ei draddodi i fan arolygu cymeradwy yn un o diriogaethau eraill y DU..

17.  Yn erthygl 10—

(a)ar y dechrau, mewnosoder—

(A1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i ddeunydd perthnasol hysbysadwy, ac eithrio deunydd hysbysedig yr UE, a ddygir i fan cyrraedd a leolir yng Nghymru.

(A2) Ni chaiff unrhyw berson symud unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy na pheri i unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy gael ei symud o’i fan cyrraedd oni bai bod y deunydd yn cael ei symud i ardal rheolaeth iechyd planhigion ddynodedig neu fan arolygu cymeradwy.

(b)ym mharagraff (1), yn lle “ardal rheolaeth iechyd planhigion” rhodder “fan cyrraedd, neu pan fo’r deunydd yn cael ei symud i ardal rheolaeth iechyd planhigion ddynodedig neu fan arolygu cymeradwy yng Nghymru, yr ardal rheolaeth iechyd planhigion ddynodedig neu’r man arolygu cymeradwy,”.

18.  Yn erthygl 11—

(a)yn is-baragraff (b), yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”;

(b)hepgorer is-baragraff (d).

19.  Yn erthygl 12—

(a)ar y dechrau mewnosoder—

(A1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy, ac eithrio deunydd hysbysedig yr UE, a ddygir i fan cyrraedd a leolir yng Nghymru, ac nad yw wrthi’n cael ei draddodi i fan arolygu cymeradwy yn un o diriogaethau eraill y DU.;

(b)ym mharagraff (1)—

(i)yn y geiriau cyn is-baragraff (a), yn lle “ardal rheolaeth iechyd planhigion” rhodder “fan cyrraedd, ardal rheolaeth iechyd planhigion ddynodedig neu fan arolygu cymeradwy yng Nghymru”;

(ii)yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)bod y deunydd yn bodloni’r gofynion rhagnodedig;;

(iii)hepgorer is-baragraffau (b) i (g);

(iv)yn is-baragraff (h), ar y diwedd mewnosoder “a oedd yn mynd gyda’r deunydd wrth iddo gyrraedd”;

(v)yn is-baragraff (i), yn lle’r geiriau o “neu’r” i “planhigion,” rhodder “gywir”;

(c)ym mharagraff (2), hepgorer “i (g)”;

(d)hepgorer paragraffau (4) a (5);

(e)ym mharagraff (6)—

(i)yn y geiriau cyn is-baragraff (a), yn lle “ardal rheolaeth iechyd planhigion” rhodder “fan cyrraedd, ardal rheolaeth iechyd planhigion ddynodedig neu fan arolygu cymeradwy”;

(ii)yn is-baragraff (a), yn lle “a’r dyddiad y darparwyd y dystysgrif yn unol ag erthygl 9(1)” rhodder “a nodi’r dyddiad arni.”;

(iii)hepgorer is-baragraff (b) a’r “; a” sy’n ei ragflaenu;

(f)ym mharagraff (7), yn lle “gwiriad iechyd planhigion” rhodder “archwiliad o dan baragraff (2)”;

(g)ym mharagraff (8)(b), yn lle “mae i “lot” yr un ystyr ag a roddir i “lot” yn Erthygl 2(1)(o) o Gyfarwyddeb 2000/29/EC” rhodder “ystyr “lot” (“lot”) yw nifer o unedau o un nwydd, y gellir ei adnabod drwy gydrywiaeth ei gyfansoddiad a’i darddiad, sy’n ffurfio rhan o lwyth”.

20.  Ar ôl erthygl 12 mewnosoder—

Gofynion sy’n gymwys i ddeunydd hysbysedig yr UE

12A.(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i ddeunydd hysbysedig yr UE a ddygir i fan cyrraedd a leolir yng Nghymru.

(2) Rhaid i arolygydd gynnal archwiliad o—

(a)y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n mynd gyda llwyth o ddeunydd hysbysedig yr UE i gadarnhau bod y dystysgrif ffytoiechydol gywir yn mynd gyda’r llwyth; a

(b)y dogfennau masnach sy’n mynd gyda’r llwyth i gadarnhau bod y dogfennau hynny yn cyfateb i’r disgrifiad o’r deunydd perthnasol yn y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio.

21.  Yn erthygl 14(1), yn lle “o dan oruchwyliaeth tollau yn unol ag Erthygl 134 o’r Cod Tollau” rhodder “yn ddarostyngedig i reolaeth swyddog Cyllid a Thollau o fewn ystyr Atodlen 1 i Ddeddf Trethiant (Masnach Trawsffiniol) 2018”.

22.  Yn erthygl 15—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn is-baragraff (b), hepgorer “gorff swyddogol cyfrifol neu”;

(ii)yn is-baragraff (d), yn lle “un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd”, rhodder “Saesneg”;

(iii)hepgorer is-baragraff (e);

(iv)yn is-baragraff (f), yn lle “Plant Protection Organisations of the Member States of the European Union”, rhodder “Plant Protection Organisation of the United Kingdom”;

(b)ym mharagraff (2)—

(i)yn lle’r geiriau o “neu C o Atodlen 4” hyd at “honno”, rhodder “, C neu D o’r rhestr o ddeunydd a reoleiddir, mwy nag un set o ofynion mynediad wedi eu pennu yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3 o Ran A, C neu D o’r rhestr honno”;

(ii)yn lle “ofyniad penodol”, rhodder “set penodol o ofynion”;

(iii)hepgorer y geiriau o “gan gyfeirio” hyd at y diwedd.

23.  Yn erthygl 16—

(a)yn y pennawd, hepgorer “nwyddau tramwy yr UE neu”.

(b)yn lle paragraff (1), rhodder—

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i ddeunydd perthnasol hysbysadwy, ac eithrio deunydd hysbysedig yr UE, y bwriedir iddo fynd i fan arolygu cymeradwy.;

(c)ym mharagraff (2)—

(i)yn y geiriau cyn is-baragraff (a), yn lle “unrhyw fan arall o fewn yr Undeb Ewropeaidd, oni bai” rhodder “fan arolygu cymeradwy yn un o diriogaethau eraill y DU, oni bai bod copi o’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio a oedd yn mynd gyda’r deunydd wrth iddo gyrraedd y Deyrnas Unedig yn mynd gyda’r deunydd ac”;

(ii)yn is-baragraff (b), ar y dechrau mewnosoder “pan fwriedir i’r deunydd fynd i fan arolygu cymeradwy yng Nghymru,”;

(d)ym mharagraff (3)—

(i)yn y geiriau cyn is-baragraff (a)—

(aa)yn lle’r geiriau o “mae’r” hyd at “Ewropeaidd,” rhodder “y bwriedir iddo fynd i fan arolygu cymwys yng Nghymru”;

(bb)yn lle “phum” rhodder “thri”;

(ii)yn is-baragraff (a)—

(aa)hepgorer “neu’r ardal rheolaeth iechyd planhigion ddynodedig”;

(bb)hepgorer y geiriau o “neu, os nad” hyd at y diwedd;

(iii)yn is-baragraff (b), yn lle’r geiriau “man y cyfeirir ato yn is-baragraff (a)” rhodder “man arolygu cymeradwy”;

(iv)hepgorer is-baragraffau (c) a (d);

(v)yn is-baragraff (f), yn lle “erthygl 7” rhodder “y Gorchymyn Iechyd Planhigion perthnasol”.

24.  Yn erthygl 17—

(a)ym mharagraff (1), yn lle’r geiriau o “man”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, hyd at y diwedd, rhodder “mangreoedd nad ydynt wedi eu lleoli mewn man cyrraedd neu nad ydynt yn rhan o ardal rheolaeth iechyd planhigion ddynodedig yn fan lle y caniateir i arolygydd gynnal gwiriadau priodol mewn cysylltiad â deunydd perthnasol hysbysadwy, ac eithrio deunydd hysbysedig yr UE”;

(b)ym mharagraff (3), hepgorer “neu â nwyddau tramwy yr UE,”;

(c)ym mharagraff (4), yn lle’r geiriau o “man”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, hyd at y diwedd rhodder “mangre yn fan arolygu cymeradwy mewn cysylltiad â deunydd perthnasol hysbysadwy, ac eithrio deunydd hysbysedig yr UE, os yw’r fangre wedi ei dynodi neu wedi ei chymeradwyo gan Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi at y diben hwnnw”;

(d)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(4A) Yn achos unrhyw fangre arall, caiff Gweinidogion Cymru ond gymeradwyo’r fangre honno yn fan arolygu cymeradwy at ddiben cynnal gwiriadau priodol mewn cysylltiad â deunydd tramwy yr UE.

(4B) Yn yr erthygl hon, ystyr “gwiriadau priodol”, mewn cysylltiad â llwyth o ddeunydd perthnasol, yw—

(a)archwilio’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n mynd gyda’r llwyth i ganfod pa un ai’r dystysgrif ffytoiechydol gywir ydyw;

(b)archwilio’r llwyth i ganfod pa un a yw’n cyfateb i’r disgrifiad ohono yn y dogfennau masnach sy’n mynd gyda’r llwyth;

(c)archwilio’r llwyth a’i ddeunydd pecynnu, a, phan fo hynny’n angenrheidiol, y cerbyd sy’n cludo’r llwyth, i ganfod pa un a yw’n bodloni’r gofynion rhagnodedig.;

(e)hepgorer paragraff (5), y pennawd i baragraff (6) a pharagraff (6).

25.  Yn Rhan 3, yn y pennawd, hepgorer “yr UE”.

26.  Hepgorer erthyglau 18 a 19.

27.  Yn erthygl 20—

(a)ym mharagraff 1, yn lle is-baragraffau (a) i (g), rhodder—

(a)unrhyw bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A, B neu D o’r rhestr o blâu planhigion gwaharddedig;

(b)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A, B neu D o’r rhestr o ddeunydd wedi ei heigio gwaharddedig sy’n cario pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3, neu sydd wedi ei heintio â phla o’r fath;

(c)unrhyw bla planhigion, er nad yw wedi ei bennu yn Rhan A, B neu D o’r rhestr o blâu planhigion gwaharddedig, nac yng ngholofn 3 o Ran A, B neu D o’r rhestr o ddeunydd wedi ei heigio gwaharddedig, nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac sy’n debygol o fod yn niweidiol i blanhigion ym Mhrydain Fawr;

(d)unrhyw ddeunydd perthnasol sy’n tarddu o drydedd wlad a ddygir i Gymru yn groes i erthygl 5(1)(d) neu (e);

(e)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran B neu E o’r rhestr o ddeunydd a reoleiddir sy’n tarddu o Brydain Fawr, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion cyfatebol mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3;

(f)unrhyw ddeunydd perthnasol sy’n tarddu o drydedd wlad ac a draddodir o ran arall o’r Deyrnas Unedig a fyddai wedi bod yn groes i erthygl 5(1)(d) neu (e) pe bai wedi ei ddwyn i fan cyrraedd a leolir yng Nghymru;

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Mae paragraff 1B yn gymwys i ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu.

(1B) Ni chaiff unrhyw berson gadw, storio, plannu, gwerthu na symud y pethau a ganlyn yn fwriadol, na pheri na chaniatáu yn fwriadol i’r canlynol gael eu cadw, eu storio, eu plannu, eu gwerthu na’u symud—

(a)unrhyw bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran C o’r rhestr o blâu planhigion gwaharddedig sy’n ymwneud ag ardal sy’n rhydd rhag plâu;

(b)yn achos unrhyw ardal sy’n rhydd rhag plâu sy’n ardal yn y DU sy’n rhydd rhag plâu a bennir yng ngholofn 4 o Ran C o’r rhestr o ddeunydd wedi ei heigio gwaharddedig, neu sydd wedi ei chynnwys mewn ardal o’r fath, unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Rhan honno sy’n cario neu wedi ei heigio â phla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3;

(c)unrhyw ddeunydd perthnasol sy’n tarddu o drydedd wlad a ddygir i ardal sy’n rhydd rhag plâu yn groes i erthygl 5(1)(h);

(d)yn achos unrhyw ardal sy’n rhydd rhag plâu sy’n ardal yn y DU sy’n rhydd rhag plâu a bennir yng ngholofn 4 o Ran C o’r rhestr o ddeunydd a reoleiddir, neu sydd wedi ei chynnwys mewn ardal o’r fath, unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Rhan honno sy’n tarddu o’r Deyrnas Unedig, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion cyfatebol mewn cysylltiad â’r deunydd perthnasol hwnnw yng ngholofn 3;

(e)unrhyw ddeunydd perthnasol sy’n tarddu o drydedd wlad ac a draddodir o ran arall o’r Deyrnas Unedig a fyddai wedi bod yn groesi i erthygl 5(1)(h) pe bai wedi ei ddwyn i fan cyrraedd a leolir yng Nghymru.;

(c)ym mharagraff (2), ar ôl “mharagraff (1)” mewnosoder “a (1B)”;

(d)ym mharagraff (3), yn lle “(f)” rhodder “(1B)(d)”.

28.  Yn erthygl 21—

(a)yn y pennawd, ar ôl “basbortau planhigion” mewnosoder “y DU”;

(b)yn lle paragraffau (1) i (6) rhodder —

(1) Ni chaiff unrhyw berson symud dim o’r deunydd perthnasol a ganlyn i Gymru, nac o fewn Cymru, oni bai bod pasbort planhigion y DU yn mynd gyda’r deunydd—

(a)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn y rhestr o ddeunydd a reoleiddir sy’n tarddu o’r Deyrnas Unedig;

(b)unrhyw ddeunydd perthnasol a ollyngir o dan erthygl 12 ac sydd o ddisgrifiad a bennir yn y rhestr o ddeunydd a reoleiddir.

(2) Ni chaiff unrhyw berson symud unrhyw un neu ragor o’r deunydd perthnasol a ganlyn i ardal sy’n rhydd rhag plâu, na’i symud o fewn ardal o’r fath, oni bai bod pasbort planhigion y DU sy’n ddilys ar gyfer yr ardal honno sy’n rhydd rhag plâu, neu ardal yn y DU sy’n rhydd rhag plâu y mae’r ardal honno yn rhan ohoni, yn mynd gyda’r deunydd hwnnw—

(a)unrhyw ddeunydd perthnasol sy’n tarddu o’r Deyrnas Unedig sydd o ddisgrifiad a bennir yn y rhestr o ddeunydd a reoleiddir mewn ardal sy’n rhydd rhag plâu mewn cysylltiad â’r ardal berthnasol yn y DU sy’n rhydd rhag plâu;

(b)unrhyw ddeunydd perthnasol a ollyngir o dan erthygl 12 ac sydd o ddisgrifiad a bennir yn y rhestr o ddeunydd a reoleiddir mewn ardal sy’n rhydd rhag plâu mewn cysylltiad â’r ardal berthnasol yn y DU sy’n rhydd rhag plâu.

(3) Ni chaiff unrhyw berson draddodi o Gymru i unrhyw un o diriogaethau eraill y DU unrhyw un neu ragor o’r deunydd perthnasol a ganlyn sy’n tarddu o Gymru, oni bai bod pasbort planhigion y DU yn mynd gyda ef—

(a)yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol y bwriedir iddo fynd i Ogledd Iwerddon neu Loegr, unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn y rhestr o ddeunydd a reoleiddir;

(b)yn achos deunydd perthnasol y bwriedir iddo fynd i fan yng Ngogledd Iwerddon neu Loegr sydd o fewn ardal yn y DU sy’n rhydd rhag plâu, unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn y rhestr o ddeunydd a reoleiddir mewn ardal sy’n rhydd rhag plâu mewn cysylltiad â’r ardal honno yn y DU sy’n rhydd rhag plâu;

(c)yn achos deunydd perthnasol y bwriedir iddo fynd i’r Alban, unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A o Atodlen 6 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Yr Alban) 2005;

(d)yn achos deunydd perthnasol y bwriedir iddo fynd i fan yn yr Alban sydd o fewn ardal yn y DU sy’n rhydd rhag plâu, unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B o Atodlen 6 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Yr Alban) 2005 mewn cysylltiad â’r ardal honno yn y DU sy’n rhydd rhag plâu.

(4) Yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol sy’n tarddu o fan cynhyrchu yng Nghymru, ni chaniateir dyroddi pasbort planhigion y DU mewn perthynas â’r deunydd hwnnw ond pan fu’r deunydd yn destun arolygiad boddhaol yn y man cynhyrchu.;

(c)hepgorer paragraffau (7) ac (8);

(d)ar ôl paragraff (8) mewnosoder—

(8A) Nid yw’r gofynion ym mharagraffau (1)(b) a (2)(b) yn gymwys i unrhyw ddeunydd hysbysedig yr UE sy’n symud o’i fan cyrraedd i’w gyrchfan gyntaf yn y Deyrnas Unedig os yw copi o’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio a oedd yn mynd gyda’r deunydd wrth iddo gyrraedd y Deyrnas Unedig yn mynd gyda’r deunydd.;

(e)ym mharagraff (9), yn lle “(1), (2), (5) a (6)” rhodder “(1)(a), (2)(a) a (3)”;

(f)ym mharagraff (10), yn lle “Mae paragraffau (2) a (4)” rhodder “Mae paragraff (2) yn”.

29.  Yn erthygl 22—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)hepgorer is-baragraffau (a) a (b);

(ii)yn is-baragraff (c) yn lle “(f)” rhodder “(1B)(d)”;

(iii)yn is-baragraff (d) yn lle “(1), (2), (5) a (6)” rhodder “(1)(a), (2)(a) a (3)(a) neu (c)”;

(b)hepgorer paragraffau (3) a (4);

(c)ym mharagraff (5), yn lle “(1) neu (2)” rhodder “(1)(a) neu (2)(a)”.

30.  Yn erthygl 23—

(a)ym mharagraff (1), yn lle’r geiriau o “Rhan B” hyd at y diwedd rhodder “y rhestr o ddeunydd a reoleiddir mewn ardal sy’n rhydd rhag plâu sy’n ymwneud ag ardal sy’n rhydd rhag plâu ac a symudir drwy’r ardal honno i gyrchfan y tu allan i’r ardal berthnasol yn y DU sy’n rhydd rhag plâu”;

(b)ym mharagraff (2)—

(i)yn y geiriau cyn is-baragraff (a), hepgorer “a (4)”;

(ii)yn is-baragraff (a) yn lle “o Brydain Fawr” rhodder “o’r tu allan i’r ardal berthnasol yn y DU sy’n rhydd rhag plâu”;

(iii)ar ddiwedd is-baragraff (a), yn lle “neu” rhodder “a”;

(iv)yn is-baragraff (b)—

(aa)yn lle “i Gymru”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, rhodder “i’r ardal sy’n rhydd rhag plâu”;

(bb)yn lle “i Gymru”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “i’r ardal berthnasol yn y DU sy’n rhydd rhag plâu”, ac yn lle “drwy Gymru”, rhodder “drwy’r ardal berthnasol yn y DU sy’n rhydd rhag plâu”;

(c)ym mharagraff (3)—

(i)yn is-baragraff (a), hepgorer “y mae Cymru yn barth gwarchod mewn perthynas ag ef”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “drwy Gymru” rhodder “drwy’r ardal sy’n rhydd rhag plâu”;

(d)ar y diwedd mewnosoder—

(4) Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “ardal berthnasol yn y DU sy’n rhydd rhag plâu” (“relevant UK pest free area”), mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn y rhestr o ddeunydd a reoleiddir mewn ardal sy’n rhydd rhag plâu, yw’r ardal sy’n rhydd rhag plâu sy’n ardal yn y DU sy’n rhydd rhag plâu a ddynodir mewn cysylltiad â’r deunydd hwnnw, neu sy’n rhan o’r ardal honno;

(b)ystyr “pla planhigion perthnasol” (“relevant plant pest”), mewn perthynas ag ardal yn y DU sy’n rhydd rhag plâu, yw’r pla planhigion y dynodwyd ardal yn y DU sy’n rhydd rhag plâu mewn cysylltiad ag ef..

31.  Yn erthygl 24—

(a)yn y pennawd, ar ôl “planhigion” mewnosoder “y DU”;

(b)ym mharagraffau (1) i (5), ar ôl “pasbort planhigion” a “basbort planhigion”, ym mhob lle y maent yn digwydd, rhodder “y DU”;

(c)ym mharagraff (4)(b)—

(i)ar ôl “bla planhigion”, mewnosoder “a reoleiddir”;

(ii)hepgorer y geiriau o “o ddisgrifiad” hyd at y diwedd.

32.  Yn Rhan 4, yn y pennawd, ar ôl “pasbortau planhigion” mewnosoder “y DU”.

33.  Yn erthygl 25, hepgorer paragraff (2).

34.  Yn erthygl 28—

(a)ym mharagraff (3)(c), yn lle “manylion a bennir yn Erthygl 10(4) o Benderfyniad (EU) 2015/789” rhodder “manylion a bennir”;

(b)ym mharagraff (4)—

(i)cyn is-baragraff (a) mewnosoder—

(za)ystyr “ardal sydd wedi ei darnodi” (“demarcated area”) yw ardal sydd wedi ei darnodi o dan baragraff 5 o Atodlen 15 i’r Rheoliadau Iechyd Planhigion neu, o ran yr Alban, o dan ddarpariaethau cyfatebol yng Ngorchymyn Iechyd Planhigion (Yr Alban) 2005 neu Orchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005;;

(ii)yn is-baragraff (a), yn lle “mae i “gweithredwr proffesiynol” yr ystyr a roddir i “professional operator” yn Erthygl 1(d) o Benderfyniad (EU) 2015/789” rhodder “ystyr “gweithredwr proffesiynol” (“professional operator”) yw unrhyw berson sydd, wrth ei waith o fasnachu, rhedeg busnes neu broffesiwn, yn ymwneud â phlannu, bridio, cynhyrchu, mewnforio, marchnata neu ddosbarthu planhigion”;

(iii)ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(ab)ystyr “manylion a bennir” (“specified details”), mewn perthynas â lot, yw ei tharddiad, ei thraddodwr, ei thraddodai, ei chyrchfan, ei rhif cyfresol neu wythnosol unigol neu rif swp unigol pasbort planhigion y DU, ei manylion adnabod a’i nifer;;

(iv)yn is-baragraff (b)—

(aa)yn lle’r geiriau ym mharagraff (i) rhodder “planhigion a bennir ym mharagraff 13 o Ran E o’r rhestr o ddeunydd a reoleiddir sydd wedi eu tyfu am o leiaf ran o’u bywyd mewn ardal sydd wedi ei darnodi, neu wedi eu symud drwy ardal o’r fath”;

(bb)ym mharagraff (ii), yn lle’r geiriau o “a sefydlwyd” hyd at y diwedd rhodder “a ddarnodwyd”.

35.  Yn erthygl 29—

(a)yn y pennawd ac ym mharagraffau (1), (4), (5), (6) a (7), ar ôl “pasbortau planhigion” a “pasbort planhigion” ym mhob lle y maent yn digwydd, mewnosoder “y DU”;

(b)ym mharagraff (4)(a), yn lle “perthnasol”, yn yr ail le y mae’n digwydd rhodder “a reoleiddir”;

(c)ym mharagraff (6)(a), yn lle “perthnasol”, yn yr ail le y mae’n digwydd rhodder “a reoleiddir”;

(d)hepgorer paragraff (8).

36.  Hepgorer Rhan 5.

37.  Yn erthygl 31—

(a)ym mharagraff (1)(c), ar ôl “pasbortau planhigion” mewnosoder “y DU”;

(b)ym mharagraff (10), hepgorer y geiriau “, gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd,”.

38.  Ar ôl erthygl 31 mewnosoder—

Mesurau brys

31A.(1) Pan ganfyddir bod pla planhigion a reoleiddir yn bresennol yng Nghymru, caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad—

(a)darnodi ardal mewn perthynas â’r heigiad hwnnw at ddiben dileu neu atal y pla planhigion hwnnw; a

(b)pennu’r gwaharddiadau a’r cyfyngiadau sydd i fod yn gymwys yn yr ardal sydd wedi ei darnodi at y diben hwnnw.

(2) Mewn perthynas â hysbysiad o dan baragraff (1)—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)rhaid iddo ddisgrifio hyd a lled yr ardal sydd wedi ei ddarnodi;

(c)rhaid iddo bennu’r dyddiad y mae unrhyw waharddiadau neu gyfyngiadau o’r fath i gychwyn;

(d)rhaid iddo gael ei gyhoeddi mewn dull sy’n briodol i’w ddwyn i sylw’r cyhoedd; ac

(e)caniateir ei ddiwygio neu ei ddirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, drwy hysbysiad pellach..

39.  Yn erthygl 32—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “gyflwyno” rhodder “ddwyn”;

(b)ym mharagraff (2)(b), yn lle “cael ei lanio” rhodder “cyrraedd”;

(c)ym mharagraff (3)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “glanio” rhodder “dwyn i mewn”;

(ii)yn is-baragraff (b)—

(aa)yn lle “i’w lanio” rhodder “i’w ddwyn i mewn”;

(bb)yn lle “wrth lanio” rhodder “wrth gyrraedd”;

(d)ym mharagraff (7)—

(i)yn is-baragraff (a)—

(aa)yn lle’r geiriau ym mharagraff (i) rhodder “pla planhigion a reoleiddir”;

(bb)hepgorer paragraff (iii) a’r “neu” sy’n ei ragflaenu;

(ii)yn is-baragraff (b)(ii), hepgorer “neu 18”.

40.  Yn erthygl 33—

(a)ym mharagraff (5), hepgorer “, gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd,”;

(b)yn lle’r geiriau ym mharagraff (8)(a)(i), rhodder “pla planhigion a reoleiddir”.

41.  Yn erthygl 37(5), hepgorer “, gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd,”.

42.  Yn erthygl 39—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “ac eithrio’r” rhodder “gwlad neu diriogaeth yn yr Undeb Ewropeaidd neu’r”;

(b)ym mharagraff (2)—

(i)yn is-baragraff (a), ar ôl “swyddogol yn” mewnosoder “y Deyrnas Unedig,”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “Atodiad II i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “EPPO PM 7/21”;

(iii)yn is-baragraff (c), yn lle “Atodiad I i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “EPPO PM 7/59”;

(c)hepgorer paragraff (4).

43.  Yn erthygl 40—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle “cyflwyno” rhodder “mewnforio”;

(ii)yn lle’r geiriau o “Weinidogion Cymru—” hyd at y diwedd rhodder “Weinidogion Cymru drwy arfer unrhyw randdirymiad a ganiateir gan Atodlen 8 i’r Rheoliadau Iechyd Planhigion”;

(b)ym mharagraff (2), yn lle “(1)(b)” rhodder “(1)”;

(c)hepgorer paragraff (3).

44.  Yn erthygl 41—

(a)yn y pennawd, hepgorer y geiriau “a ganiateir gan Gyfarwyddeb 2008/61/EC”;

(b)ym mharagraff (1)—

(i)yn y geiriau cyn is-baragraff (a), yn lle “cyflwyno”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “mewnforio”;

(ii)yn is-baragraff (a), yn lle “Erthygl 1(2) o Gyfarwyddeb 2008/61/EC”, rhodder “Rhan A o Atodlen 16A”;

(iii)yn is-baragraff (b), yn lle “Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno”, rhodder “Rhan B o Atodlen 16A”;

(c)ym mharagraff (2)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “osodir yn Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb 2008/61/EC”, rhodder “bennir yn Rhan C o Atodlen 16A”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle’r geiriau o “sy’n pennu” hyd at y diwedd, rhodder “fel y caiff Gweinidogion Cymru bennu mewn perthynas â mesurau cwarantin y drwydded sy’n briodol mewn cysylltiad â’r gweithgareddau hynny”;

(d)ym mharagraff (4)—

(i)yn y geiriau cyn is-baragraff (a), yn lle “y mae’r drwydded a roddir o dan baragraff (1) yn ymwneud â hwy” rhodder “trwyddedig”;

(ii)yn is-baragraff (a), yn lle “gweithgareddau” rhodder “gweithgaredd trwyddedig”;

(iii)yn is-baragraff (b), yn lle “gweithgareddau” rhodder “gweithgaredd trwyddedig”;

(e)ym mharagraff (5), yn lle “plâu planhigion a bennir yn Atodlen 1 ac yng ngholofn 3 o Atodlen 2” rhodder “y plâu planhigion a reoleiddir”;

(f)hepgorer paragraff (6);

(g)yn lle paragraff (7) rhodder—

(7) Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “mesurau cwarantin priodol” (“appropriate quarantine measures”) yw—

(i)pan fo’n gymwys, mesurau cwarantin sy’n cyfateb i’r rhai a bennir yn Rhan A o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/61/EC sy’n pennu’r amodau lle caniateir i organeddau niweidiol penodol, planhigion niweidiol penodol, cynhyrchion planhigion niweidiol penodol a gwrthrychau penodol eraill a restrir yn Atodiadau I i V i Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC gael eu cyflwyno i’r Gymuned neu eu symud o fewn y Gymuned neu barthau gwarchod penodol ohoni, at ddibenion treialu neu ddibenion gwyddonol neu ar gyfer gwaith ar ddetholiadau amrywogaethol(10);

(ii)yn unrhyw achos arall, unrhyw fesurau cwarantin, gan gynnwys cynnal profion, a bennir gan Weinidogion Cymru;

(b)ystyr “mesurau cwarantin y drwydded” (“licence quarantine measures”) yw’r mesurau a bennir yn Rhan D o Atodlen 16A;

(c)ystyr “gweithgaredd trwyddedig” (“licensed activity”) yw unrhyw weithgaredd at ddibenion treialu neu ddibenion gwyddonol neu ar gyfer gwaith ar ddetholiadau amrywogaethol a awdurdodir gan un drwydded o dan baragraff (1)..

45.  Yn erthygl 42, ym mharagraff (3)—

(a)yn is-baragraff (a)—

(i)yn lle’r geiriau ym mharagraff (i), rhodder “pla planhigion a reoleiddir”;

(ii)hepgorer paragraff (ii);

(iii)ym mharagraff (iii), yn lle “o Atodlen 2”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “o’r rhestr o ddeunydd wedi ei heigio gwaharddedig”;

(iv)ym mharagraff (iv), yn lle “yw o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1 na 2,” rhodder “yw’n bla planhigion a reoleiddir”;

(b)yn is-baragraff (b)(iii)—

(i)yn lle “o Atodlen 2”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, rhodder “o’r rhestr o ddeunydd wedi ei heigio gwaharddedig”;

(ii)yn lle “o Atodlen 2”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “o’r rhestr honno”.

46.  Yn erthygl 43(3)(b)—

(a)yn lle’r geiriau ym mharagraff (i) rhodder “pla planhigion a reoleiddir”;

(b)ym mharagraff (ii), yn lle “yw wedi ei bennu yn Atodlen 1 na 2” rhodder “yw’n bla planhigion a reoleiddir”;

(c)ym mharagraff (iii)—

(i)yn lle “o Atodlen 3” rhodder “o’r rhestr o ddeunydd gwaharddedig”;

(ii)yn lle “yr Atodlen honno” rhodder “y rhestr honno”.

47.  Yn erthygl 44—

(a)ym mharagraff (3), ar ôl “pasbort planhigion,” mewnosoder “y DU”;

(b)ym mharagraff (4)(b)—

(i)yn lle’r geiriau ym mharagraff (i) rhodder “pla planhigion a reoleiddir”;

(ii)ym mharagraff (ii) yn lle “yw wedi ei bennu yn Atodlen 1 na 2” rhodder “yw’n bla planhigion a reoleiddir”.

48.  Yn erthygl 46—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)ar ôl is-baragraff (a)(i), mewnosoder—

(ia)erthygl 6A;;

(ii)yn is-baragraff (b), ar ôl “person” mewnosoder “, gwaharddiad neu gyfyngiad mewn hysbysiad a ddyroddir gan Weinidogion Cymru”;

(b)ym mharagraff (2), ar ôl “pasbort planhigion”, yn y ddau le y mae’n digwydd, mewnosoder “y DU”;

(c)ym mharagraff (3), ar ôl “pasbort planhigion”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “y DU”.

49.  Ar ôl erthygl 49 mewnosoder—

Darpariaeth drosiannol: Pasbortau planhigion y DU

49A.(1) Mae awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion sydd wedi ei roi ac sy’n cael effaith yn union cyn y diwrnod ymadael yn parhau i gael effaith ar ôl y diwrnod ymadael fel pe bai’n awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion y DU.

(2) Yn achos unrhyw basbort planhigion a ddyroddir mewn cysylltiad ag unrhyw ddeunydd perthnasol cyn y diwrnod ymadael at ddibenion symud y deunydd hwnnw sy’n digwydd cyn y diwrnod ymadael ac ar ôl hynny, mae’r pasbort planhigion i’w drin fel pe bai’n basbort planhigion y DU, ac mae cyfeiriadau at basbort planhigion y DU i’w dehongli yn unol â hynny..

50.  Hepgorer Atodlenni 1 i 8.

51.  Yn Atodlen 9—

(a)yn y pennawd i Atodlen 9, ar ôl “planhigion” mewnosoder “y DU”;

(b)yn Rhan A, yn y pennawd—

(i)ar ôl “planhigion” mewnosoder “y DU”;

(ii)yn lle “ar gyfer unrhyw ddeunydd perthnasol yn Atodlen 6 neu 7” rhodder “mewn perthynas â deunydd perthnasol”;

(c)ym mharagraffau 1 i 3, ar ôl “planhigion”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “y DU”;

(d)ym mharagraff 4—

(i)yn y geiriau cyn is-baragraff (a), yn lle “y pasbort planhigion” rhodder “pasbort planhigion y DU”;

(ii)yn is-baragraff (a), yn lle “EU-plant” rhodder “UK plant”;

(iii)hepgorer is-baragraff (b);

(iv)yn is-baragraff (c), yn lle’r geiriau o “corff swyddogol” hyd at y diwedd rhodder “awdurdod iechyd planhigion priodol y DU”;

(v)yn is-baragraff (d), ar ôl “pasbort planhigion”, yn y ddau le y mae’n digwydd, mewnosoder “y DU”;

(vi)yn is-baragraffau (e), (f), ac (g), ar ôl “pasbort planhigion”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “y DU”;

(vii)yn is-baragraff (h)—

(aa)yn lle “parth gwarchod”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “ardal yn y DU sy’n rhydd rhag plâu”;

(bb)yn lle “ZP” rhodder “PFA”;

(viii)yn is-baragraff (j), yn lle “i Gymru” rhodder “i’r Deyrnas Unedig”;

(e)ym mharagraff (5)(c)(ii)—

(i)yn lle “yr Undeb Ewropeaidd”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, rhodder “y Deyrnas Unedig”;

(ii)yn lle’r geiriau o “y corff swyddogol” hyd at y diwedd rhodder “awdurdod iechyd planhigion priodol y DU”;

(f)ym mharagraff 6(1)(a), yn lle’r geiriau o “mewn o leiaf” hyd at y diwedd rhodder “yn Saesneg a caiff hefyd ei roi yn y Gymraeg”;

(g)ym mharagraff 7, ar ôl “pasbort planhigion” mewnosoder “y DU”;

(h)ym mharagraff 8, yn lle is-baragraffau (a) i (c) rhodder—

(a)mewn perthynas â deunydd planhigion llysieuol—

(i)a gynhyrchir ym Mhrydain Fawr, Rhan B o Atodlen 2 i Reoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995(11);

(ii)a gynhyrchir yng Ngogledd Iwerddon, Rhan B o Atodlen 2 i Reoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol (Gogledd Iwerddon) 1995(12);

(b)mewn perthynas â deunydd lluosogi planhigion addurniadol—

(i)a gynhyrchir yng Nghymru neu Loegr, yr Atodlen i Reoliadau Marchnata Deunydd Lluosogi Planhigion Addurniadol 1999(13);

(ii)a gynhyrchir yn yr Alban, Atodlen 1 i Reoliadau Marchnata Deunydd Lluosogi Planhigion Addurniadol 1999(14);

(iii)a gynhyrchir yng Ngogledd Iwerddon, yn yr Atodlen i Reoliadau Marchnata Deunydd Lluosogi Planhigion Addurniadol (Gogledd Iwerddon) 1999(15);

(i)Yn Rhan B, yn y pennawd—

(i)ar ôl “planhigion” mewnosoder “y DU”;

(ii)hepgorer “yn Atodlen 6 neu 7”;

(j)ym mharagraff 9, ar ôl “basbort planhigion”, yn y ddau le y mae’n digwydd, mewnosoder “y DU”;

(k)ym mharagraff 10—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “Erthygl 13(1)(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC ar farchnata tatws hadyd” rhodder—

(i)yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, yn Rhan 1 o Atodlen 2 i Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016(16);

(ii)yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn Lloegr, yn Rhan 1 o Atodlen 2 i Reoliadau Tatws Hadyd (Lloegr) 2015(17);

(iii)yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn yr Alban, yn Rhan 1 o Atodlen 5 i Reoliadau Tatws Hadyd (Yr Alban) 2015(18);

(iv)yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yng Ngogledd Iwerddon, yn Rhan 1 o Atodlen 2 i Reoliadau Tatws Hadyd (Gogledd Iwerddon) 2016(19);

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “EU-plant” rhodder “UK plant”;

(iii)yn is-baragraff (c)—

(aa)yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”;

(bb)yn lle “yn eitem 18.1 o Adran II o Atodiad IV Rhan A” rhodder “a bennir yn eitem 5 o Ran B o’r rhestr o ddeunydd a reoleiddir”;

(l)hepgorer paragraffau 11 a 12;

(m)ym mharagraff 13—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “Erthygl 10(1)(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant” rhodder—

(i)yn achos hadau a gynhyrchir yng Nghymru, Rhannau 2 a 3 o Atodlen 3 i Reoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012(20);

(ii)yn achos hadau a gynhyrchir yn Lloegr, Rhannau 2 a 3 o Atodlen 3 i Reoliadau Marchnata Hadau 2011(21);

(iii)yn achos hadau a gynhyrchir yn yr Alban, Rhan 2 o Atodlen 6 i Reoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffeibr (Yr Alban) 2004(22);

(iv)yn achos hadau a gynhyrchir yng Ngogledd Iwerddon, Rhannau 2 a 3 o Atodlen 3 i Reoliadau Marchnata Hadau (Gogledd Iwerddon) 2016(23);;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “EU-plant” rhodder “UK plant”;

(iii)yn is-baragraff (c)—

(aa)yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”;

(bb)yn lle “yn eitemau 28.1 a 28.2 o Adran II o Atodiad IV Rhan A” rhodder “a bennir yn eitemau 21 a 22 o Ran B o’r rhestr o ddeunydd a reoleiddir”.

52.  Hepgorer Atodlen 12.

53.  Yn Atodlen 14(24)

(a)ym mharagraff 2—

(i)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “EPPO PM 7/40” yw’r safon sy’n disgrifio protocol diagnostig ar gyfer Globodera rostochiensis a Globodera pallida a gymeradwyir gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor(25);

ystyr “EPPO PM 7/119” yw’r safon sy’n disgrifio’r gweithdrefnau ar gyfer echdynnu nematodau a gymeradwyir gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor(26);

ystyr “mesurau penodedig” (“specified measures”) yw—

(a)

at ddibenion paragraff 2C, ail-samplu swyddogol y cae a chynnal profion swyddogol ar y samplau, a gynhelir o leiaf bob tair blynedd ar ôl gweithredu mesurau rheolaeth priodol a gymeradwywyd yn swyddogol yn y cae neu, yn unrhyw achos arall, o leiaf bum mlynedd ar ôl y flwyddyn y canfuwyd Llyngyr tatws neu y tyfwyd tatws ddiwethaf yn y cae ynddi;

(b)

at ddibenion paragraffau 7 ac 11—

(i)

dadheigio’r bylbiau neu’r planhigion drwy ddulliau priodol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Llyngyr tatws;

(ii)

symud pridd oddi ar y bylbiau neu’r planhigion drwy eu golchi neu eu brwsio hyd nes eu bod yn rhydd rhag pridd i bob pwrpas, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Llyngyr tatws;

(ii)yn y diffiniad o “cae”, yn lle “Erthygl 3 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC” rhodder “yr Atodlen hon”;

(b)ar ôl paragraff 2 mewnosoder—

2ZA.  Rhaid cynnal unrhyw brofion swyddogol ar samplau at ddibenion yr Atodlen hon yn unol ag EPPO PM 7/40 ac EPPO PM 7/119.

(c)ym mharagraff 2A—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “ag Erthyglau 4 a 5 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC” rhodder “â’r Rhan hon”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “ag Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC” rhodder “â’r Rhan hon”;

(d)ar ôl paragraff 2A mewnosoder—

2AA.  Rhaid i ymchwiliad swyddogol i gae at ddibenion paragraff 2A(a) gael ei gynnal—

(a)cyn y plannu neu storio arfaethedig; a

(b)oni bai bod tystiolaeth ddogfennol o ymchwiliad swyddogol blaenorol sy’n cadarnhau na chanfuwyd unrhyw Lyngyr tatws yn ystod yr ymchwiliad ac nad oedd tatws na phlanhigion cynhaliol yn bresennol ar adeg yr ymchwiliad hwnnw ac nad ydynt wedi eu tyfu yn y cae ers yr ymchwiliad hwnnw, rhwng cynaeafu’r cnwd diwethaf yn y cae a’r gwaith arfaethedig o blannu tatws hadyd neu ddeunydd arall sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau.

2AB.  Yn achos cae lle y mae tatws hadyd neu blanhigion cynhaliol, y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu, i’w plannu neu eu storio, rhaid i ymchwiliad swyddogol at ddibenion paragraff 2A(a) gynnwys samplu pridd y cae ar y gyfradd samplu pridd briodol a chynnal profion swyddogol ar y samplau.

2AC.  Yn achos cae lle y mae bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu, i’w plannu neu eu storio, rhaid i ymchwiliad swyddogol at ddibenion paragraff 2A(a) gynnwys—

(a)samplu pridd y cae ar y gyfradd samplu pridd briodol a chynnal profion swyddogol ar y samplau; neu

(b)gwirio, ar sail canlyniadau profion priodol a gymeradwywyd yn swyddogol, na fu Llyngyr tatws yn bresennol yn y cae yn ystod y 12 mlynedd flaenorol neu wirio, ar sail hanes cnydio hysbys y cae, na thyfwyd unrhyw datws na phlanhigion cynhaliol yn y cae yn ystod y 12 mlynedd flaenorol.

2AD.  Rhaid i arolwg swyddogol at ddibenion paragraff 2A(b) gynnwys samplu pridd y cae ar y gyfradd samplu briodol ar o leiaf 0.5% o’r erwau a ddefnyddir i gynhyrchu tatws yn y flwyddyn berthnasol a chynnal profion swyddogol ar y samplau.

2AE.  Nid yw paragraff 2A(a) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi cadarnhau nad oes unrhyw risg o ledaenu Llyngyr tatws ac—

(a)bod unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y bwriedir ei ddefnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu i’w ddefnyddio o fewn yr un man cynhyrchu sydd wedi ei leoli o fewn ardal sydd wedi ei diffinio yn swyddogol;

(b)bod tatws hadyd i’w defnyddio o fewn yr un man cynhyrchu sydd wedi ei leoli o fewn ardal sydd wedi ei diffinio yn swyddogol; neu

(c)yn achos unrhyw fylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu, mae’r planhigion a gynaeafir i fod yn destun mesurau a gymeradwywyd yn swyddogol.

2AF.  At ddibenion paragraffau 2AB i 2AD—

(a)“y gyfradd samplu briodol”, mewn perthynas â chae, yw’r gyfradd samplu ofynnol a bennir yn y tabl a ganlyn—

ParagraffCaeY Gyfradd
2AB a 2ACCae ≤ 8 o hectarau1,500 ml o bridd fesul hectar a gesglir o 100 craidd/hectar o leiaf
Cae > 8 o hectarauYr 8 o hectarau cyntaf1,500 ml o bridd fesul hectar
Pob hectar ychwanegol400 ml o bridd fesul hectar
Cae ≤ 4 o hectarau sy’n bodloni un maen prawf ym mharagraff (b)400 ml o bridd fesul hectar
Cae > 4 o hectarau sy’n bodloni un maen prawf ym mharagraff (b)Y 4 o hectarau cyntaf400 ml o bridd fesul hectar
Pob hectar ychwanegol200 ml o bridd fesul hectar
2ADCae ≤ 4 o hectarauUnrhyw un neu ragor o’r cyfraddau a ganlyn:
—400 ml o bridd fesul hectar
—gwaith samplu wedi ei dargedu ar o leiaf 400 ml o bridd yn dilyn cynnal archwiliad gweledol o wreiddiau sydd â symptomau gweledol; neu
—pan fo’n bosibl olrhain y tatws a gynaeafwyd i’r cae lle y’u tyfwyd, 400 ml o bridd sy’n gysylltiedig â’r tatws a gynaeafwyd

(b)y meini prawf yw—

(i)bod tystiolaeth ddogfennol yn bodoli i ddangos nad yw tatws na phlanhigion cynhaliol wedi eu tyfu yn y cae yn y chwe mlynedd cyn yr ymchwiliad swyddogol, neu nad oeddent yn bresennol yn y cae yn ystod y cyfnod hwnnw;

(ii)nad oes unrhyw Lyngyr tatws wedi eu canfod yn ystod y ddau ymchwiliad swyddogol olynol diweddaraf mewn samplau o 1,500 ml o bridd/hectar, ac nad oes unrhyw datws na phlanhigion cynhaliol, ac eithrio’r rhai y mae’r ymchwiliad swyddogol yn ofynnol ar eu cyfer, wedi eu tyfu yn y cae ers y cyntaf o’r ddau ymchwiliad dan sylw;

(iii)nad oes unrhyw Lyngyr tatws na Llyngyr tatws heb gynnwys byw wedi eu canfod yn yr ymchwiliad swyddogol diweddaraf a oedd ar ffurf maint sampl o 1,500 ml o bridd/hectar o leiaf, ac nad oes unrhyw datws na phlanhigion cynhaliol, ac eithrio’r rhai y mae’r ymchwiliad swyddogol yn ofynnol ar eu cyfer, wedi eu tyfu yn y cae ers yr ymchwiliad swyddogol diweddaraf.;

(e)ym mharagraff 2C—

(i)yn lle “a gymeradwywyd yn swyddogol” rhodder “penodedig perthnasol”;

(ii)hepgorer “a nodir yn Adran III(C) o Atodiad III i Gyfarwyddeb 2007/33/EC”;

(f)ym mharagraff 7, yn lle “y mesurau a nodir yn Adran III(A) o Atodiad III i Gyfarwyddeb 2007/33/EC” rhodder “un o’r mesurau penodedig perthnasol”;

(g)ym mharagraff 11, yn lle “y mesurau a nodir yn Adran 3(A) o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2007/33/EC” rhodder “un o’r mesurau penodedig perthnasol”;

54.  Yn Atodlen 15—

(a)ym mharagraff 1—

(i)yn y diffiniad o “halogedig”, yn lle “at ddibenion Erthygl 5(1)(a) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “yn unol â pharagraff 1D(a)”;

(ii)yn y diffiniad o “blwyddyn dyfu gyntaf”, yn lle “at ddibenion Erthygl 5(1)(a) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “yn unol â pharagraff 1D(a)”;

(iii)yn y diffiniad o “halogedig o bosibl”, yn lle “at ddibenion Erthygl 5(1)(b) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “yn unol â pharagraff 1D(b)”;

(b)ym mharagraff 1A, hepgorer “yn unol ag Erthygl 2(1) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC”;

(c)ar ôl paragraff 1A mewnosoder—

1AA.  Yn achos cloron Solanum tuberosum L., rhaid i’r arolygon hynny gynnwys cynnal profion swyddogol ar datws hadyd a thatws eraill yn unol ag EPPO PM 7/59.

1AB.  Yn achos planhigion Solanum tuberosum L., rhaid cynnal yr arolygon hynny yn unol â dulliau priodol, a rhaid iddynt gynnwys cynnal profion swyddogol priodol ar samplau.

1AC.  Rhaid i’r gwaith o gasglu samplau at ddibenion paragraffau 1AA ac 1AB fod yn seiliedig ar egwyddorion gwyddonol ac ystadegol cadarn a bioleg Pydredd cylch tatws, ac ystyried systemau cynhyrchu tatws perthnasol.

(d)ym mharagraff 1B(a), yn lle’r geiriau o “Atodiad 1” hyd at “Gyfarwyddeb 93/85/EEC”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “EPPO PM 7/59”;

(e)ym mharagraff 1D—

(i)yn is-baragraff (b), yn lle “ystyried y darpariaethau ym mhwynt 1 o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder—

roi sylw i’r ffactorau a ganlyn—

(i)y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a dyfir yn y man cynhyrchu halogedig;

(ii)y mannau cynhyrchu sydd ag unrhyw gysylltiad cynhyrchu â’r deunydd hwnnw sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, gan gynnwys y rhai sy’n rhannu cyfarpar a chyfleusterau cynhyrchu yn uniongyrchol neu drwy gontractwr sy’n gyffredin rhyngddynt;

(iii)cynhyrchu deunydd arall sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn y man cynhyrchu halogedig, neu bresenoldeb deunydd o’r fath yn y man hwnnw;

(iv)y mangreoedd sy’n trafod tatws o’r man cynhyrchu halogedig a’r mannau cynhyrchu a grybwyllir ym mharagraff (ii);

(v)unrhyw wrthrych a allai fod wedi dod i gyffyrddiad â’r deunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau;

(vi)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a gaiff ei storio mewn unrhyw wrthrych cyn iddo gael ei ddiheintio, neu ddeunydd o’r fath sydd wedi dod i gyffyrddiad ag unrhyw wrthrych o’r fath;

(vii)y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n perthyn fel chwaer neu riant drwy glonio i’r deunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a mannau cynhyrchu’r deunydd hwnnw;

(ii)yn is-baragraff (c), yn lle “darpariaethau ym mhwynt 2 o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “agosrwydd mannau cynhyrchu eraill sy’n tyfu tatws neu blanhigion cynhaliol eraill a chynhyrchu a defnyddio stociau tatws hadyd ar y cyd”;

(f)ar ôl paragraff 1D mewnosoder—

1DA.  Wrth wneud dynodiad neu benderfyniad o dan baragraff 1D, rhaid i arolygydd roi sylw i egwyddorion gwyddonol cadarn, bioleg Pydredd cylch tatws a systemau cynhyrchu, marchnata a phrosesu perthnasol.;

(g)ym mharagraff 3—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “unrhyw fesur arall sy’n cydymffurfio â phwynt 1 o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “ddull gwaredu a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd cylch tatws”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “yn unol â phwynt 2 o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “mewn modd sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd cylch tatws”;

(h)ym mharagraff 4, yn lle “Cyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “yr Atodlen hon”;

(i)ym mharagraff 6(c), yn lle “Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “EPPO PM 7/59”;

(j)ym mharagraff 7(c), yn lle “Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “EPPO PM 7/59”;

(k)ym mharagraff 8(d), yn lle “Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “EPPO PM 7/59”;

(l)ym mharagraff 10A, yn lle “Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “EPPO PM 7/59”;

(m)ym mharagraff 20(b), yn lle “Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “EPPO PM 7/59”;

55.  Yn Atodlen 16—

(a)ym mharagraff 1—

(i)yn y diffiniad o “halogedig”, yn lle “at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(ii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “yn unol â pharagraff 1E(c)”;

(ii)yn y diffiniad o “blwyddyn dyfu gyntaf”, yn lle “at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(ii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “yn unol â pharagraff 1E(c)”;

(iii)yn y diffiniad o “halogedig o bosibl” yn lle “at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(iii) neu (c)(iii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “yn unol â pharagraff 1E(d)”;

(b)ym mharagraff 1A, hepgorer “yn unol ag Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 98/57/EC”;

(c)ar ôl paragraff 1A mewnosoder—

1AA.  Rhaid i’r arolygon hynny fod yn seiliedig ar asesiad risg i nodi ffynonellau halogi posibl eraill sy’n peryglu cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a chynnwys arolygon swyddogol wedi eu targedu mewn ardaloedd cynhyrchu, yn seiliedig ar yr asesiad risg perthnasol, i nodi presenoldeb Pydredd coch tatws ar—

(a)deunydd perthnasol, ac eithrio deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau;

(b)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau neu chwistrellu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau; ac

(c)gollyngiadau gwastraff hylifol o fangre brosesu neu becynnu diwydiannol sy’n trafod deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau.

1AB.  Rhaid i’r arolygon hynny hefyd fod yn seiliedig ar fioleg Pydredd coch tatws a’r systemau cynhyrchu perthnasol, a rhaid iddynt gynnwys—

(a)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n cynnwys planhigion Solanum tuberosum L., cynnal arolygiadau gweledol o’r cnwd sy’n tyfu, ar adegau priodol, neu samplu tatws hadyd a thatws eraill yn ystod y tymor tyfu neu wrth eu storio, a rhaid i hynny gynnwys cynnal arolygiad gweledol swyddogol o gloron drwy eu torri;

(b)yn achos tatws hadyd a, phan fo’n briodol, thatws eraill, cynnal profion swyddogol ar samplau gan ddefnyddio’r dull a nodir yn EPPO PM 7/21;

(c)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n cynnwys planhigion Solanum lycopersicum L., cynnal arolygiadau gweledol, ar adegau priodol, o leiaf o’r cnwd o blanhigion sy’n tyfu y bwriedir eu defnyddio i’w hailblannu at ddefnydd proffesiynol;

(d)ar gyfer planhigion cynhaliol, ac eithrio deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ac ar gyfer dŵr gan gynnwys gwastraff hylifol, cynnal profion swyddogol.

1AC.  Rhaid i’r gwaith o gasglu samplau at ddibenion paragraff 1AB fod yn seiliedig ar egwyddorion gwyddonol ac ystadegol cadarn a bioleg Pydredd coch tatws, ac ystyried systemau cynhyrchu tatws perthnasol o ran deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a phlanhigion cynhaliol eraill Pydredd coch tatws.

(d)ym mharagraff 1B(a)(i), yn lle’r geiriau o “Atodiad 2” hyd at y diwedd rhodder “EPPO PM 7/21”;

(e)ym mharagraff 1B(b), yn lle’r geiriau o “a bennir” hyd at “Cyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “y cyfeirir atynt yn EPPO PM 7/21”;

(f)ym mharagraff 1E—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “yn unol ag Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder—

sy’n cynnwys cynnal ymchwiliad i’r pethau a ganlyn—

(i)tatws sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sy’n perthyn drwy glonio i unrhyw datws halogedig;

(ii)tomatos sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sydd o’r un ffynhonnell ag unrhyw domatos halogedig;

(iii)tatws neu domatos sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sydd o dan reolaeth swyddogol ac yr amheuir eu bod wedi eu halogi â Phydredd coch tatws;

(iv)tatws sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sy’n perthyn drwy glonio i unrhyw datws a dyfwyd yn y man cynhyrchu halogedig;

(v)tatws neu domatos sy’n tyfu gerllaw’r man cynhyrchu halogedig, gan gynnwys y rhai sy’n rhannu cyfarpar a chyfleusterau cynhyrchu yn uniongyrchol neu drwy gontractwr sy’n gyffredin rhyngddynt;

(vi)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau a chwistrellu o unrhyw ffynhonnell y cadarnheir neu yr amheuir ei bod wedi ei halogi a Phydredd coch tatws;

(vii)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau a chwistrellu o ffynhonnell a ddefnyddir ar y cyd â’r mannau cynhyrchu halogedig a’r mannau cynhyrchu sy’n halogedig o bosibl;

(viii)mannau cynhyrchu sydd wedi eu gorlifo, neu a oedd wedi eu gorlifo, â dŵr wyneb halogedig neu ddŵr sy’n halogedig o bosibl;

(ix)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau neu chwistrellu’r man cynhyrchu halogedig neu gaeau sydd wedi eu gorlifo yn y man cynhyrchu halogedig;

(ii)yn is-baragraff (e), yn lle “yn unol â phwynt 2(i) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “gan ystyried y ffactorau perthnasol”;

(g)ym mharagraff 1F—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “yn unol ag Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “sy’n cynnwys cynnal ymchwiliad i’r pethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1E(a)(i) i (ix)”;

(ii)yn is-baragraff (d), yn lle “yn unol â phwynt 2(i) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “gan ystyried y ffactorau perthnasol”;

(h)ym mharagraff 1G(d), yn lle “yn unol â phwynt 2(ii) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “gan ystyried y ffactorau perthnasol”;

(i)ar ôl paragraff 1G mewnosoder—

1H.  Y “ffactorau perthnasol” yw—

(a)at ddibenion paragraffau 1E ac 1F—

(i)agosrwydd mannau cynhyrchu eraill sy’n tyfu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau;

(ii)cynhyrchu a defnyddio stociau tatws hadyd ar y cyd;

(iii)mannau cynhyrchu sy’n defnyddio dŵr wyneb i ddyfrhau neu chwistrellu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau pan fo risg o ddŵr wyneb ffo o’r man cynhyrchu halogedig;

(b)at ddibenion paragraff 1G—

(i)mannau cynhyrchu sy’n cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n gyfagos i ddŵr wyneb halogedig, neu sy’n wynebu risg o orlifo gan ddŵr o’r fath;

(ii)unrhyw fasn dyfrhau ar wahân sy’n gysylltiedig â’r dŵr wyneb halogedig;

(iii)crynofeydd dŵr sy’n gysylltiedig â’r dŵr wyneb halogedig, gan roi sylw i gyfeiriad a chyfradd llif y dŵr wyneb halogedig a phresenoldeb planhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt.;

(j)ym mharagraff 3—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “unrhyw fesur sy’n cydymffurfio â phwynt 1 o Atodiad VI i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “dull gwaredu a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “yn unol â phwynt 2 o Atodiad VI i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “drwy ddull gwaredu a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws”;

(k)ym mharagraff 4, yn lle “Cyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “yr Atodlen hon”;

(l)ym mharagraff 6(c), yn lle “Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “EPPO PM 7/21”;

(m)ym mharagraff 7(b)(iii), yn lle “Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “EPPO PM 7/21”;

(n)ym mharagraff 8(g), yn lle “Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “EPPO PM 7/21”;

(o)ym mharagraff 20—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “Erthygl 5(1)(a)(iv) o Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “paragraff 1E(e)”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “Erthygl 5(1)(c)(iii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “paragraff 1G(d)”;

(p)ym mharagraff 21(b), yn lle “Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “EPPO PM 7/21”;

56.  Ar ôl Atodlen 16, mewnosoder—

Erthygl 41

ATODLEN 16ATrwyddedau at ddibenion treialu neu ddibenion gwyddonol neu ar gyfer gwaith ar ddetholiadau amrywogaethol

1.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “gweithgaredd penodedig” (“specified activity”) yw unrhyw weithgaredd at ddibenion treialu neu ddibenion gwyddonol neu ar gyfer gwaith ar ddetholiadau amrywogaethol.

RHAN AYr wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn cais am drwydded wyddonol

2.  Enw a chyfeiriad y person sy’n gyfrifol am y gweithgaredd penodedig arfaethedig.

3.  Y manylion a ganlyn mewn perthynas â’r deunydd perthnasol a’r plâu planhigion sydd i’w defnyddio yn y gweithgaredd penodedig—

(a)ei enw gwyddonol neu eu henwau gwyddonol;

(b)y math o ddeunydd perthnasol;

(c)swm y deunydd perthnasol;

(d)tarddle’r deunydd perthnasol;

(e)y man lle y mae’r deunydd perthnasol i’w storio gyntaf neu ei blannu gyntaf ar ôl ei ollwng yn swyddogol (pan fo’n berthnasol);

(f)y dull arfaethedig o ddinistrio neu drin y deunydd perthnasol ar ôl cwblhau’r gweithgaredd perthnasol (pan fo’n berthnasol);

(g)yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol neu bla planhigion sydd i’w fewnforio o drydedd wlad, ei fan cyrraedd arfaethedig yn y Deyrnas Unedig.

4.  Yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol sydd i’w ddefnyddio yn y gweithgaredd penodedig, tystiolaeth ddogfennol briodol i gadarnhau ei darddle.

5.  Hyd, natur ac amcanion y gweithgaredd penodedig arfaethedig, gan gynnwys crynodeb o’r gwaith sydd i’w wneud a manyleb y gwaith hwnnw.

6.  Cyfeiriad y safle penodol neu’r safleoedd penodol lle y mae’r gweithgaredd penodedig arfaethedig i’w gynnal, a disgrifiad o’r safle hwnnw neu’r safleoedd hynny.

RHAN BYr amodau cyffredinol sydd i’w bodloni mewn perthynas â chais am drwydded wyddonol

7.  Bod natur ac amcanion y gweithgaredd penodedig yn cydymffurfio â’r cysyniad o dreialu neu ddibenion gwyddonol neu ar gyfer gwaith ar ddetholiadau amrywogaethol.

8.  Bod y fangre a’r cyfleusterau yn y safle neu’r safleoedd lle y mae’r gweithgaredd penodedig i’w gynnal yn bodloni unrhyw amodau perthnasol o ran ynysu o dan gwarantin.

9.  Bod y personél sy’n cynnal y gweithgaredd penodedig yn meddu ar gymwysterau gwyddonol a thechnegol priodol.

RHAN CYr amodau trwydded sy’n ymwneud ac unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol sydd i’w ddefnyddio mewn gweithgaredd penodedig

10.  At ddibenion erthygl 41(2)(a), yr amodau yw—

(a)yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol, bod llythyr awdurdodi a ddyroddir gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol ar sail tystiolaeth ddogfennol briodol o ran tarddle’r deunydd yn mynd gyda’r deunydd perthnasol wrth iddo gyrraedd y Deyrnas Unedig;

(b)yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 5 i’r Rheoliadau Iechyd Planhigion, bod tystysgrif ffytoiechydol a ddyroddwyd yn y wlad y mae’r deunydd perthnasol yn tarddu ohoni yn mynd gyda’r deunydd hwnnw pan fo’n bosibl sy’n—

(i)cadarnhau bod y deunydd yn rhydd rhag unrhyw bla planhigion a reoleiddir, ac eithrio unrhyw bla planhigion yr awdurdodir ei fewnforio gan y drwydded;

(ii)cynnwys y datganiad a ganlyn o dan y pennawd ‘Additional declaration’, ‘This material is imported under Article 41 of the Plant Health (Wales) Order 2018’; a

(iii)cynnwys enw unrhyw bla planhigion awdurdodedig;

(c)bod y deunydd perthnasol yn cael ei gadw o dan amodau cwarantin, ac ar ôl cyrraedd yn cael ei symud yn uniongyrchol ac ar unwaith i’r safle neu’r safleoedd a bennir yn y drwydded.

RHAN DMesurau cwarantin y drwydded

11.  Mesurau cwarantin y drwydded yw—

(a)yn achos y mangreoedd, y cyfleusterau â’r gweithdrefnau sy’n ymwneud â’r gweithgaredd penodedig:

(i)ynysu yn ffisegol unrhyw blâu planhigion neu ddeunydd perthnasol a ddefnyddir yn y gweithgaredd penodedig rhag yr holl blâu planhigion eraill a’r holl ddeunydd perthnasol arall, gan gynnwys rheoli llystyfiant yn yr ardaloedd oddi amgylch, pan fo’n briodol;

(ii)dynodi person cyswllt sy’n gyfrifol am y gweithgaredd penodedig;

(iii)gweithredu cyfyngiadau ar fynediad i’r mangreoedd a’r cyfleusterau a ddefnyddir mewn perthynas â’r gweithgaredd penodedig a, phan fo’n briodol, i’r ardaloedd oddi amgylch y mangreoedd a’r cyfleusterau hynny, i bersonél a enwir yn unig;

(iv)manylion adnabod priodol y mangreoedd a’r cyfleusterau a ddefnyddir, gan nodi’r mathau o weithgareddau a’r personél sy’n gyfrifol amdanynt;

(v)cadw cofrestr o’r gweithgareddau a gynhelir a llunio llawlyfr gweithdrefnau, gan gynnwys gweithdrefnau i’w rhoi ar waith pe bai plâu planhigion yn dianc o’r cyfleusterau ynysu;

(vi)cynnal systemau diogelwch a larymau priodol;

(vii)gweithredu—

(aa)mesurau rheoli priodol i atal cyflwyno plâu planhigion i’r mangreoedd a ddefnyddir ac atal y plâu rhag lledaenu o fewn y mangreoedd hynny;

(bb)gweithdrefnau a reolir ar gyfer samplu, ac ar gyfer trosglwyddo’r deunydd rhwng y mangreoedd a’r cyfleusterau a ddefnyddir;

(cc)rheolaethau ar gyfer gwaredu gwastraff, pridd a dŵr, fel y bo’n briodol;

(dd)gweithdrefnau a chyfleusterau hylendid a diheintio priodol ar gyfer personél, strwythurau a chyfarpar;

(ee)mesurau a chyfleusterau priodol ar gyfer gwaredu deunydd arbrofol; ac

(ff)cyfleusterau a gweithdrefnau mynegeio priodol (gan gynnwys cynnal profion); a

(b)mesurau cwarantin priodol eraill yn unol â bioleg ac epidemioleg penodol y math o ddeunydd dan sylw a’r gweithgareddau a gymeradwywyd, gan gynnwys—

(i)cynnal cyfleusterau sy’n hygyrch i bersonél awdurdodedig drwy ystafell ar wahân sydd â dau ddrws cydgloadol;

(ii)cynnal cyfleusterau o dan bwysedd aer negyddol,

(iii)defnyddio cynwysyddion sy’n atal plâu neu glefydau rhag dianc ohonynt, sydd â masgl o faint priodol a rhwystrau eraill;

(iv)cadw’r deunydd wedi ei ynysu rhag plâu planhigion eraill a deunyddiau eraill;

(v)cadw unrhyw ddeunydd ar gyfer bridio mewn cewyll bridio sydd â dyfeisiau trin;

(vi)gwahardd unrhyw ryngfridio rhwng y pla planhigion â mathau brodorol neu rywogaethau brodorol;

(vii)gweithredu rheolaethau ar feithriniad parhaus y pla planhigion;

(viii)cadw’r pla planhigion o dan amodau llym sy’n rheoli lluosogiad y pla planhigion;

(ix)rhoi gweithdrefnau ar waith i wirio purdeb meithriniadau’r pla planhigion er mwyn sicrhau ei fod yn rhydd rhag parasitiaid a phlâu planhigion eraill;

(x)gweithredu rhaglenni rheolaeth priodol mewn cysylltiad â’r deunydd er mwyn dileu fectorau posibl;

(xi)yn achos gweithgareddau in vitro, gweithredu rheolaethau ar drafod y deunydd o dan amodau sterilaidd;

(xii)cadw’r pla planhigion o dan amodau sy’n sicrhau nad yw’n gallu lledaenu drwy unrhyw fector; a

(xiii)ynysu’r deunydd yn dymhorol i sicrhau y cynhelir y gweithgareddau yn ystod cyfnodau o risg isel i iechyd planhigion..

RHAN 4Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018: Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd

57.  Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018(27) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

58.  Yn rheoliad 3—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “i Orchymyn 2018” rhodder “neu Atodlen 7 i’r Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ymadael â’r UE) 2019”;

(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Nid yw paragraff 2(b) i (d) yn gymwys i lwyth sy’n tarddu o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir..

(c)ym mharagraff (3)(b), yn lle “a gyflwynir i Gymru o drydedd wlad” rhodder—

(i)a ddygir i fan cyrraedd a leolir yng Nghymru ac nas bwriedir iddo fynd i fan arolygu cymeradwy yn un o diriogaethau eraill y DU; neu

(ii)a ddygir i fan cyrraedd a leolir yn un o diriogaethau eraill y DU ac y bwriedir iddo fynd i fan arolygu cymeradwy yng Nghymru;

(d)ar ôl paragraff (3), mewnosoder—

(4) Mae i eiriau ac ymadroddion nad ydynt wedi eu diffinio yn y rheoliad hwn ac sy’n ymddangos yng Ngorchymyn 2018 yr un ystyr yn y rheoliad hwn ag sydd iddynt yng Ngorchymyn 2018.;

59.  Yn rheoliad 4(6)(a), ar ôl “pasbortau planhigion” mewnosoder “y DU”.

60.  Yn rheoliad 6—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “paragraff 5 o’r Atodiad i’r Penderfyniad” rhodder “eitem 7 o Ran D o Atodlen 4 i’r Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ymadael â’r UE) 2019”;

(b)hepgorer paragraff (2).

61.  Hepgorer rheoliad 7.

62.  Yn rheoliad 8, ym mharagraffau (3) a (6), yn lle “yr Undeb” rhodder “y DU”.

63.  Yn Atodlen 5, yng ngholofn 1 o’r tabl, yn lle “yr Undeb”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “y DU”.

RHAN 5Dirymu

64.  Mae Rheoliadau Tatws sy’n Tarddu o’r Aifft (Cymru) 2004(28) wedi eu dirymu.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

19th Mawrth 2019 ar 8pm

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud, yn rhannol, drwy arfer y pwerau a roddir gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Rhan 2 yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018 i drosi darpariaethau penodol yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 69/464/EEC ynglŷn â rheoli Clefyd y Ddafaden Tatws (OJ Rhif L 323, 24.12.1969, t. 1), Cyfarwyddeb y Cyngor 93/85/EEC ynglŷn â rheoli pydredd cylch tatws (OJ Rhif L 259, 18.10.1993, t. 1), Cyfarwyddeb y Cyngor 98/57/EC ynglŷn â rheoli Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. (OJ Rhif L 235, 21.8.1998, t. 1), a Chyfarwyddeb y Cyngor 2007/33/EC ynglŷn â rheoli llyngyr tatws a diddymu Cyfarwyddeb 69/465/EEC (OJ Rhif L 156, 16.6.2007, t. 12).

Mae Rhannau 3 i 5 yn diwygio is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag iechyd planhigion er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill (yn benodol y diffygion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (d) ac (g) o adran 8(2) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018) sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Rhan 3 yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1064). Mae Rhan 4 yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1972 p. 68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7). Mae wedi ei diddymu yn rhagolygol gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) o’r diwrnod ymadael (gweler adran 20 o’r Ddeddf honno).

(2)

2018 p. 16. Gweler adran 20(1) o’r Ddeddf honno am ddiffiniad o “devolved authority” (“awdurdod datganoledig”).

(5)

OJ Rhif L 156, 16.6.2007, t. 12.

(6)

OJ Rhif L 259, 18.10.1993, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/56/EC (OJ Rhif L 182, 4.7.2006, t. 1).

(7)

OJ Rhif L 235, 21.8.1998, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/63/EC (OJ Rhif L 206, 27.7.2006, t. 36).

(8)

Cymeradwywyd am y tro cyntaf gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor ym mis Medi 2003, ac ar gael oddi wrth ei Ysgrifenyddiaeth yn 21 Boulevard Richard Lenoir, 75011, Paris, Ffrainc ac ar https://www.eppo.int/RESOURCES/eppo_standards/pm7_diagnostics.

(9)

Cymeradwywyd gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor ym mis Medi 2005, ac ar gael oddi wrth ei Ysgrifenyddiaeth yn 21 Boulevard Richard Lenoir, 75011, Paris, Ffrainc ac ar https://www.eppo.int/RESOURCES/eppo_standards/pm7_diagnostics.

(10)

OJ Rhif L 158, 18.6.2008, t. 41.

(11)

O.S. 1995/2652, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(12)

Rh.St. 1995 Rhif 415, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(13)

O.S. 1999/1801, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(14)

O.S. 1999/1801, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2018/284; mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

(15)

Rh.St. 1999 Rhif 502, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(16)

O.S. 2016/106 (Cy.52); fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2017/596 (Cy. 139).

(17)

O.S. 2015/1953, a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/288.

(18)

O.S.A. 2015/395, fel y’i diwygiwyd gan O.S.A. 2016/434.

(19)

Rh.St. 2016 Rhif 190, fel y’i diwygiwyd gan Rh.St. 2017 Rhif 155.

(21)

O.S. 2011/463, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2011/2992, 2012/3055.

(22)

O.S.A. 2004/317, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.A. 2009/223, 2016/434, 2016/68.

(24)

Fel y’i diwygiwyd gan Ran 2 o’r Rheoliadau hyn.

(25)

Cymeradwywyd am y tro cyntaf gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor ym mis Medi 2003, ac ar gael oddi wrth ei Ysgrifenyddiaeth yn 21 Boulevard Richard Lenoir, 75011, Paris, Ffrainc ac ar https://www.eppo.int/RESOURCES/eppo_standards/pm7_diagnostics.

(26)

Cymeradwywyd am y tro cyntaf gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor ym mis Medi 2013, ac ar gael oddi wrth ei Ysgrifenyddiaeth yn 21 Boulevard Richard Lenoir, 75011, Paris, Ffrainc ac ar https://www.eppo.int/RESOURCES/eppo_standards/pm7_diagnostics.

(28)

O.S. 2004/2245 (Cy. 209), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2014/1463 (Cy. 144).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources