- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
Rheoliad 4(1)
1.—(1) Penderfynir ar “blwyddyn academaidd”, mewn cysylltiad â chwrs, fel a ganlyn—
(a)nodi’r cyfnod yng Ngholofn 2 o Dabl 1 y mae’r flwyddyn academaidd yn dechrau ynddo mewn gwirionedd;
(b)y flwyddyn academaidd yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar y dyddiad a bennir yn y cofnod yng Ngholofn 1 o’r Tabl sy’n cyfateb i’r cyfnod a nodir yng Ngholofn 2.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at “blwyddyn academaidd” yn gyfeiriad at flwyddyn y penderfynir arni yn unol ag is-baragraff (1).
Colofn 1 Dyddiad dechrau’r flwyddyn academaidd at ddibenion y Rheoliadau hyn | Colofn 2 Y cyfnod y mae’r flwyddyn academaidd yn dechrau ynddo |
---|---|
1 Medi | Ar neu ar ôl 1 Awst ond cyn 1 Ionawr |
1 Ionawr | Ar neu ar ôl 1 Ionawr ond cyn 1 Ebrill |
1 Ebrill | Ar neu ar ôl 1 Ebrill ond cyn 1 Gorffennaf |
1 Gorffennaf | Ar neu ar ôl 1 Gorffennaf ond cyn 1 Awst |
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr “sefydliad a gyllidir gan Gymru” yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weinidogion Cymru;
(b)ystyr “sefydliad a gyllidir gan yr Alban” yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weinidogion yr Alban;
(c)ystyr “sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon” yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon;
(d)ystyr “sefydliad rheoleiddiedig Seisnig” yw sefydliad Seisnig cofrestredig sy’n ddarostyngedig i amod terfyn ffioedd o dan adran 10 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017(1);
(e)ystyr “sefydliad Seisnig cofrestredig” yw sefydliad sydd wedi ei gofrestru gan y Swyddfa Fyfyrwyr(2) yn y gofrestr;
(f)ystyr “darparwr cynllun Seisnig” yw sefydliad Seisnig cofrestredig sydd â chynllun mynediad a chyfranogiad a gymeradwywyd gan y Swyddfa Fyfyrwyr o dan adran 29 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 ac sy’n parhau mewn grym.
(2) Yn y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad at y gofrestr yn gyfeiriad at y gofrestr a sefydlwyd ac a gynhelir gan y Swyddfa Fyfyrwyr o dan adran 3 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “aelod o’r lluoedd arfog” (“member of the armed forces”) yw aelod o lynges, byddin neu lu awyr rheolaidd y Goron;
ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”), mewn perthynas â sefydliad, yw’r corff llywodraethu neu gorff arall a chanddo swyddogaethau corff llywodraethu ac mae’n cynnwys person sy’n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;
ystyr “blwyddyn academaidd gyfredol” (“current academic year”) yw blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth ynddi;
ystyr “bwrsari gofal iechyd” (“healthcare bursary”) yw bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg o dan adran 63(6) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968(3) neu Erthygl 44 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(4);
ystyr “carcharor” (“prisoner”) yw person sy’n bwrw dedfryd mewn carchar yn y Deyrnas Unedig gan gynnwys person sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn sefydliad troseddwyr ifanc (ac mae “carchar” i’w ddehongli yn unol â hynny);
ystyr “carcharor cymwys” (“eligible prisoner”) yw carcharor—
sy’n dechrau cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Awst 2019,
sydd wedi ei awdurdodi gan Lywodraethwr neu Gyfarwyddwr y carchar neu gan awdurdod priodol arall i astudio’r cwrs dynodedig, ac
y mae ei ddyddiad rhyddhau cynharaf o fewn 4 blynedd i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig;
[F1ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);]
ystyr “cronfeydd cyhoeddus” (“public funds”) yw arian a ddarperir gan Senedd y Deyrnas Unedig gan gynnwys cronfeydd a ddarperir gan Weinidogion Cymru;
ystyr “cwrs” (“course”), oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw rhaglen astudio a gaiff ei haddysgu, rhaglen ymchwil, neu gyfuniad o’r ddwy, ac a gaiff gynnwys un neu ragor o gyfnodau o brofiad gwaith, ac sy’n arwain, ar ôl eu cwblhau’n llwyddiannus, at ddyfarnu gradd feistr ôl-raddedig;
ystyr “cwrs dysgu o bell” (“distance learning course”) yw cwrs nad yw’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr sy’n ymgymryd â’r cwrs fod yn bresennol mewn perthynas ag ef, ac eithrio i fodloni unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad—
at ddiben cofrestru, ymrestru neu unrhyw arholiad, neu
ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau;
ystyr “cyfnodau o brofiad gwaith” (“periods of work experience”) yw—
cyfnodau o brofiad diwydiannol, proffesiynol neu fasnachol sy’n gysylltiedig â’r cwrs dynodedig mewn sefydliad, ond mewn man y tu allan i’r sefydliad hwnnw;
cyfnodau pan fydd myfyriwr yn cael ei gyflogi ac yn preswylio mewn gwlad y mae ei hiaith yn un y mae’r myfyriwr yn ei hastudio ar gyfer cwrs dynodedig y myfyriwr hwnnw (ar yr amod bod y cyfnod preswylio yn y wlad honno yn un o ofynion cwrs y myfyriwr hwnnw a bod astudio un neu ragor o ieithoedd modern yn cyfrif am ddim llai na hanner cyfanswm yr amser a dreulir yn astudio ar y cwrs);
ystyr “cymhwyster cyfatebol neu uwch” (“equivalent or higher qualification”) yw cymhwyster y penderfynir yn unol â pharagraff (2) ei fod yn gymhwyster cyfatebol neu uwch;
ystyr “cymorth” (“support”), ac eithrio pan nodir fel arall, yw cymorth ariannol ar ffurf grant neu fenthyciad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan—
y Rheoliadau hyn, neu
unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
ystyr “Cynllun KESS 2” (“KESS 2 Scheme”) yw Cynllun Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth 2 a gyllidir, yn rhannol, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop(5);
ystyr “dyfarndal statudol” (“statutory award”) yw unrhyw ddyfarndal a roddir, unrhyw grant a delir, neu unrhyw gymorth arall a ddarperir, yn rhinwedd Deddf 1998 neu Ddeddf Addysg 1962(6), neu unrhyw ddyfarndal, grant neu gymorth arall cyffelyb, mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs sy’n cael ei dalu o gronfeydd cyhoeddus;
ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990(7), Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990(8), Deddf Addysg (Yr Alban) 1980(9) a rheoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny neu’r Gorchymyn hwnnw, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(10) a rheoliadau a wneir o dan y Gorchymyn hwnnw neu Ddeddf 1998 a rheoliadau a wneir o dan Ddeddf 1998;
mae i “ffioedd” (“fees”) yr ystyr a roddir yn adran 57(1) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(11);
ystyr “gwladolyn UE” (“EU national”) yw gwladolyn o Aelod-wladwriaeth o’r UE;
mae “gwybodaeth” (“information”) yn cynnwys dogfennau;
ystyr “perthynas agos” (“close relative”) (mewn perthynas â pherson (“P”)) yw—
priod neu bartner sifil P;
person sy’n byw fel arfer gyda P fel pe bai’r person yn briod neu’n bartner sifil i P;
rhiant P, pan fo P o dan 25 oed;
plentyn P, pan fo P yn ddibynnol ar y plentyn hwnnw.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu bod cymhwyster yn gymhwyster cyfatebol neu uwch—
(a)os oes gan fyfyriwr cymwys gymhwyster uwch o unrhyw sefydliad pa un a yw yn y Deyrnas Unedig ai peidio, a
(b)os yw’r cymhwyster y cyfeirir ato ym mharagraff (a) yn radd feistr ôl-raddedig o sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu os yw o lefel academaidd sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn cyfateb i gymhwyster y mae’r cwrs dynodedig yn arwain ato neu’n uwch na’r cymhwyster hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 1 para. 3(1) wedi eu mewnosod (1.9.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 (O.S. 2020/918), rhlau. 1(2), 2(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
Rheoliad 9(1)(a)
1.—(1) Person—
(a)sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
(i)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac eithrio am y rheswm ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol, a
(ii)yn preswylio fel arfer yng Nghymru,
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac
(c)na fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (b), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 11(2)).
(2) Person—
[F2(a)sydd naill ai—
(i)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd ennill yr hawl i breswylio’n barhaol, neu
(ii)yn dod o fewn Erthygl 18(2) neu (3) o’r cytundeb ymadael â’r UE, Erthygl 17(2) neu (3) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE neu Erthygl 16(2) neu (3) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, ond dim ond pan fyddai’r person hwnnw wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â hawl y person hwnnw i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu,]
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F3Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
Diwygiadau Testunol
F2Atod. 2 para. 1(2)(a) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(2)(a)
F3Geiriau yn Atod. 2 para. 1(2)(d) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(2)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
2.—(1) Person—
(a)sy’n ffoadur,
(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r person gael ei gydnabod yn ffoadur, ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i ffoadur,
(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches,
(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig, a
(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)sy’n blentyn i ffoadur neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur,
(b)ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches, a oedd yn blentyn i’r ffoadur neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad hwnnw,
(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches,
(d)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig, ac
(e)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
2A.—(1) Person—
(a)y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,
(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person, ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,
(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)(i)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, a
(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,
(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn—
(a)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person gais am ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig sy’n arwain at berson yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;
(b)ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo.]
Diwygiadau Testunol
F4Atod. 2 para. 2A wedi ei fewnosod (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 60
3.—[F5(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.]
(2) Person—
(a)(i)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, a
(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, [F6a]
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs[F7.]
F8(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(3) Person—
(a)(i)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, a
(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth,
(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, [F9ac]
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs[F10.]
F11(d). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(4) Yn y paragraff hwn—
(a)ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” yw person—
(i)y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo, a
(ii)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;
(b)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth gais i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo.
Diwygiadau Testunol
F5Atod. 2 para. 3(1) wedi ei amnewid (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 61(a)
F6Gair yn Atod. 2 para. 3(2)(a)(ii) wedi ei fewnosod (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 61(b)
F7Atod. 2 para. 3(2)(b): atalnod llawn wedi ei amnewid ar gyfer gair (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 61(c)
F8Atod. 2 para. 3(2)(c) wedi ei hepgor (28.1.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 61(d)
F9Gair yn Atod. 2 para. 3(3)(b) wedi ei fewnosod (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 61(e)
F10Atod. 2 para. 3(3)(c): atalnod llawn wedi ei amnewid ar gyfer gair (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 61(f)
F11Atod. 2 para. 3(3)(d) wedi ei hepgor (28.1.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 61(g)
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
4.—(1) Person—
(a)sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros,
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros,
(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros,
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy’n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros,
(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw,
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw person (“P”)—
(a)sydd—
(i)wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn cymhwyso i gael ei gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail [F12caniatâd] yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny,
(ii)heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny,
[F13(iia)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;]
(iii)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo,
(iv)wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn cymhwyso i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat [F14neu deuluol] o dan y rheolau mewnfudo, fod P wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau(12) ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol,
(b)nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben, neu y mae’r cyfnod hwnnw wedi ei adnewyddu ac nad yw’r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben, neu y mae apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(13)) mewn cysylltiad â’i ganiatâd i ddod i mewn neu i aros, ac
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i P gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros.
(5) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.
Diwygiadau Testunol
F12Geiriau yn Atod. 2 para. 4(4)(a)(i) wedi eu hepgor (28.1.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 62
F13Atod. 2 para. 4(4)(a), (iia) wedi ei fewnosod (9.9.2019) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau i Gymhwystra Myfyrwyr) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1192), rhlau. 1(2), 9(2)(a)
F14Geiriau yn Atod. 2 para. 4(4)(a)(iv) wedi eu mewnosod (9.9.2019) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau i Gymhwystra Myfyrwyr) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1192), rhlau. 1(2), 9(2)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
5.—(1) Person—
(a)sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67, [F15a]
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs[F16.]
F17(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(2) Person—
(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67,
(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67, [F18ac]
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs[F19.]
F20(d). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(3) Yn y paragraff hwn—
(a)ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” yw person—
(i)y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016(14) ac yn unol â’r rheolau mewnfudo, a
(ii)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;
(b)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig.
Diwygiadau Testunol
F15Gair yn Atod. 2 para. 5(1)(a) wedi ei fewnosod (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 63(a)
F16Atod. 2 para. 5(1)(b): atalnod llawn wedi ei amnewid ar gyfer gair (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 63(b)
F17Atod. 2 para. 5(1)(c) wedi ei hepgor (28.1.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 63(c)
F18Gair yn Atod. 2 para. 5(2)(b) wedi ei fewnosod (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 63(d)
F19Atod. 2 para. 5(2)(c): atalnod llawn wedi ei amnewid ar gyfer gair (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 63(e)
F20Atod. 2 para. 5(2)(d) wedi ei hepgor (28.1.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 63(f)
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
6.—(1) Person—
(a)sy’n un o’r canlynol—
(i)gweithiwr mudol AEE neu berson hunangyflogedig AEE, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(ii)person cyflogedig Swisaidd neu berson hunangyflogedig Swisaidd, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(iii)aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii), sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(iv)gweithiwr trawsffiniol AEE neu berson hunangyflogedig trawsffiniol AEE;
(v)person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu berson hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd;
(vi)aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v), a
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F21Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F22Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac
(c)sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ryddid gweithwyr i symud o fewn yr Undeb, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE(15).
[F23(2A) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan is-baragraff (2) yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.]
(3) Yn is-baragraff (1)—
ystyr “aelod o deulu” (“family member”) yw—
mewn perthynas â gweithiwr trawsffiniol AEE, gweithiwr mudol AEE, person hunangyflogedig trawsffiniol AEE neu berson hunangyflogedig AEE—
priod y person neu ei bartner sifil,
disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person sydd o dan 21 oed neu sy’n 21 oed a throsodd ac sy’n ddibynyddion y person neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person, neu
perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person;
mewn perthynas â pherson cyflogedig trawsffiniol Swisaidd, person cyflogedig Swisaidd, person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu berson hunangyflogedig Swisaidd—
priod y person neu ei bartner sifil, neu
plentyn y person neu blentyn priod neu bartner sifil y person;
ystyr “gweithiwr mudol AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn AEE sy’n weithiwr, ac eithrio gweithiwr trawsffiniol AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “gweithiwr trawsffiniol AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn AEE sydd—
yn weithiwr yng Nghymru, a
yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE F24... ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—
yn berson cyflogedig yng Nghymru, a
yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE F24... ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “person hunangyflogedig AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn AEE sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig trawsffiniol AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person hunangyflogedig trawsffiniol AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn AEE sydd—
yn berson hunangyflogedig yng Nghymru, a
yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE F24... ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—
yn berson hunangyflogedig yng Nghymru, a
yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE F24... ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos.
(4) At ddibenion is-baragraff (3)—
ystyr “gweithiwr” yw “worker” o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;
ystyr “gwladolyn AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth AEE F25...;
ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw—
mewn perthynas â gwladolyn AEE, person sy’n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd, neu
mewn perthynas â gwladolyn Swisaidd, person sy’n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir.
Diwygiadau Testunol
F21Geiriau yn Atod. 2 para. 6(1)(b) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(3)(a)
F22Geiriau yn Atod. 2 para. 6(2)(b) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(3)(a)
F23Atod. 2 para. 6(2A) wedi ei fewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(3)(b)
F24Geiriau yn Atod. 2 para. 6(3) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(3)(c)
F25Geiriau yn Atod. 2 para. 6(4) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(3)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
7.—(1) Person—
(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig,
(b)a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn ymadael â’r Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio [F26cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu],
(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod y mae’r cwrs yn dechrau,
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F27Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac
(e)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (d), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F28Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (d).
(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw is-baragraff (3) neu (4) yn gymwys i’r person.
(3) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson sydd—
(a)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig,
(b)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir), neu
(c)yn berson [F29yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol],
sydd wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson (“P”)—
(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig [F30ac yr oedd ganddo’r hawl] i breswylio’n barhaol, a
(b)[F31sydd wedi mynd] i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir y mae P yn wladolyn ohoni neu y mae’r person y mae P yn aelod o deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn ohoni.
(5) At ddibenion is-baragraff (4), mae P yn aelod o deulu person arall (“Q”) os yw P—
(a)yn briod neu’n bartner sifil i Q,
(b)yn ddisgynnydd uniongyrchol Q neu’n ddisgynnydd uniongyrchol priod neu bartner sifil Q a bod P—
(i)o dan 21 oed, neu
(ii)yn 21 oed neu drosodd ac yn ddibynnydd Q neu’n ddibynnydd priod neu bartner sifil Q, neu
(c)pan fo Q yn wladolyn UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38, yn berthynas uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol Q neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil Q.
[F32(6) At ddibenion y paragraff hwn, roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.]
Diwygiadau Testunol
F26Geiriau yn Atod. 2 para. 7(1)(b) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(4)(a)
F27Geiriau yn Atod. 2 para. 7(1)(d) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(4)(b)
F28Geiriau yn Atod. 2 para. 7(1)(e) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(4)(b)
F29Geiriau yn Atod. 2 para. 7(3)(c) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(4)(c)
F30Geiriau yn Atod. 2 para. 7(4)(a) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(4)(d)(i)
F31Geiriau yn Atod. 2 para. 7(4)(b) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(4)(d)(ii)
F32Atod. 2 para. 7(6) wedi ei fewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(4)(e)
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
8.—(1) Person—
[F33(a)sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
(i)yn wladolyn UE,
(ii)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio, neu
(iii)yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii),]
(b)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F34Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d)na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F35Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 11(2)).
[F36(1A) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan is-baragraff (1) yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.]
(2) Person—
(a)sy’n wladolyn UE F37... ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F38Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(3) Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o’r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad yn is-baragraff (1)(a) neu (2)(a) fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.
[F39(4) At ddibenion is-baragraff (1)(a), mae gwladolyn o’r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw wedi preswylio yn Gibraltar neu wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.]
(5) At ddibenion is-baragraff (1)(a), mae person (“P”) yn aelod o deulu person arall (“Q”) os yw—
(a)P yn briod neu’n bartner sifil i Q,
(b)P yn ddisgynnydd uniongyrchol Q neu’n ddisgynnydd uniongyrchol priod neu bartner sifil Q a bod P—
(i)o dan 21 oed, neu
(ii)yn 21 oed neu drosodd ac yn ddibynnydd Q neu’n ddibynnydd priod neu bartner sifil Q, neu
(c)mewn achos pan fo Q yn wladolyn UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38, P yn berthynas uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol Q neu yn llinell esgynnol priod neu bartner sifil Q.
Diwygiadau Testunol
F33Atod. 2 para. 8(1)(a) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(5)(a)
F34Geiriau yn Atod. 2 para. 8(1)(c) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(5)(b)
F35Geiriau yn Atod. 2 para. 8(1)(d) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(5)(b)
F36Atod. 2 para. 8(1A) wedi ei fewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(5)(c)
F37Geiriau yn Atod. 2 para. 8(2)(a) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(5)(d)
F38Geiriau yn Atod. 2 para. 8(2)(d) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(5)(e)
F39Atod. 2 para. 8(4) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(5)(f)
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
[F409.—(1) Person—
(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir,
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.]
Diwygiadau Testunol
F40Atod. 2 para. 9 wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(6)
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
10.—(1) Person—
(a)sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd,
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F41Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “gweithiwr Twrcaidd” yw gwladolyn Twrcaidd—
(a)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, a
(b)sy’n cael, neu sydd wedi cael, ei gyflogi’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig.
Diwygiadau Testunol
F41Geiriau yn Atod. 2 para. 10(1)(c) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(7)
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
11.—(1) At ddiben yr Atodlen hon, mae person sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu’r Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o’r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd—
(a)â’r cwrs dynodedig, neu
(b)gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, â chwrs yr ymgymerodd y person ag ef yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig,
i’w ystyried yn berson sy’n preswylio fel arfer yn y lle y mae’r person wedi symud ohono.
(2) At ddiben yr Atodlen hon, mae person (“P”) i’w drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F42Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE, y Swistir a Thwrci pe bai P wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—
(a)P,
(b)priod neu bartner sifil P,
(c)rhiant P, neu
(d)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn P neu briod neu bartner sifil plentyn P,
yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r [F42Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE, y Swistir a Thwrci.
(3) At ddibenion is-baragraff (2), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r [F42Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE, y Swistir a Thwrci yn cynnwys—
(a)yn achos aelodau o’r lluoedd arfog, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;
(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r [F42Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;
(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r [F42Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath.
(4) At ddibenion yr Atodlen hon, mae myfyriwr cymwys sy’n garcharor i’w ystyried fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y rhan o’r Deyrnas Unedig lle yr oedd y carcharor yn preswylio cyn cael ei ddedfrydu.
(5) At ddibenion yr Atodlen hon, mae ardal [F43ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar]—
(a)nad oedd gynt yn rhan o’r UE neu’r AEE, ond
(b)sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn dod yn rhan o’r naill neu’r llall, neu o’r ddwy, o’r tiriogaethau hyn,
i’w hystyried fel pe bai bob amser wedi bod yn rhan o’r AEE.
Diwygiadau Testunol
F42Geiriau yn Atod. 2 para. 11 wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(8)(a)
F43Geiriau yn Atod. 2 para. 11(5) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(8)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
12.—(1) Caiff person sy’n ymadael â gofal ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig hyd yn oed os yw’r person sy’n ymadael â gofal, ar y diwrnod hwnnw—
(a)yn derbyn gofal y tu allan i Gymru (mewn achos pan fo rheoliad 29(c)(i) yn gymwys i’r myfyriwr), neu
(b)yn preswylio y tu allan i Gymru o dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig (mewn achos pan fo rheoliad 29(c)(ii) yn gymwys i’r myfyriwr),
o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol Cymreig.
(2) Ym mharagraff (1)—
ystyr “awdurdod lleol Cymreig” (“Welsh local authority”) yw awdurdod lleol o fewn yr ystyr a roddir gan adran 197(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
mae i “derbyn gofal” (“looked after”) yr ystyr a roddir yn adran 74 o’r Ddeddf honno;
mae i “person sy’n ymadael â gofal” (“care leaver”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 29.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
13. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “AEE” (“EEA”) yw’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, sef y diriogaeth a ffurfir gan y Gwladwriaethau AEE;
ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ddyddiedig 29 Ebrill 2004 ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o’u teuluoedd i symud a phreswylio’n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau(16);
[F44mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;]
[F44mae i “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE” yr ystyr a roddir i “EEA EFTA separation agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;]
ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw’r Cytundeb rhwng yr UE a’i Aelod-wladwriaethau, o’r naill ran, a Chydffederasiwn y Swistir, o’r rhan arall, ar Symudiad Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(17) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;
ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabyddir gan lywodraeth Ei Mawrhydi yn ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy’n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(18) fel y’i hestynnwyd gan ei Brotocol 1967(19);
[F45ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw, mewn perthynas â pherson (“A”), hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad sy’n codi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ond dim ond pan fyddai A, pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â phenderfynu hawl A i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi ennill hawl o’r fath o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;]
ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron Senedd y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971(20);
[F44mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;]
mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal am blentyn ac mae “plentyn” i’w ddehongli yn unol â hynny;
mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(21);
ystyr “Ynysoedd” (“Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Diwygiadau Testunol
F44Geiriau yn Atod. 2 para. 13 wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(9)(a)
F45Geiriau yn Atod. 2 para. 13 wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 40(9)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
Rheoliad 28
1.—(1) Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn.
(2) Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys at ddibenion penderfynu ar swm y grant cyfrannu at gostau sy’n daladwy i’r myfyriwr.
(3) Mae Rhan 3 yn nodi ystyr “incwm trethadwy”, sy’n ofynnol er mwyn cyfrifo incwm gweddilliol person.
(4) Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm gweddilliol pan fo—
(a)Pennod 1 yn nodi sut i gyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys at ddibenion cyfrifo incwm aelwyd y myfyriwr, a
(b)Pennod 2 yn nodi sut i gyfrifo incwm gweddilliol rhiant myfyriwr cymwys, partner myfyriwr cymwys neu bartner rhiant myfyriwr cymwys at ddibenion cyfrifo incwm aelwyd y myfyriwr.
(5) Mae Rhan 5 yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn yr Atodlen hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
2. Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Mae incwm aelwyd myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—
Os nad yw’r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys annibynnol (gweler paragraff 4), cyfrifo cyfanred incwm gweddilliol y personau a restrir yn Rhestr A.
Os yw’r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys annibynnol, cyfrifo cyfanred incwm y personau a restrir yn Rhestr B.
Rhestr A
Y personau yw—
y myfyriwr cymwys, plws
naill ai—
pob un o rieni’r myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i baragraff 5), neu
pan fo rhieni’r myfyriwr wedi gwahanu, y rhiant a ddewisir o dan baragraff 6(3) a phartner y rhiant hwnnw (os oes un gan y rhiant hwnnw), (yn ddarostyngedig i baragraff 7).
Rhestr B
y myfyriwr cymwys annibynnol, plws
partner y myfyriwr (os oes un gan y myfyriwr), (yn ddarostyngedig i baragraffau 7 ac 8).
Cyfrifo swm cymwys didyniad plentyn dibynnol (gweler is-baragraffau (2) i (4)) a didynnu hynny o’r cyfanswm cyfanredol a gyfrifir o dan Gam 1.
Y canlyniad yw incwm aelwyd y myfyriwr cymwys.
(2) Mae didyniad plentyn dibynnol yn ddidyniad a wneir mewn cysylltiad â phob plentyn sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar—
(a)y myfyriwr cymwys,
(b)partner y myfyriwr cymwys,
(c)rhiant y myfyriwr cymwys, neu
(d)partner rhiant y myfyriwr cymwys,
pan fo incwm y person hwnnw yn cael ei ystyried at ddiben cyfrifo incwm yr aelwyd.
(3) Ond nid oes didyniad i’w wneud mewn cysylltiad â phlentyn—
(a)rhiant y myfyriwr cymwys, neu
(b)partner rhiant y myfyriwr cymwys,
os y myfyriwr cymwys yw’r plentyn.
(4) Yn Nhabl 2, mae Colofn 2 yn nodi swm y didyniad plentyn dibynnol mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Swm y didyniad plentyn dibynnol |
---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 | £1,130 |
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
4.—(1) Mae myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys annibynnol os yw un o’r achosion a ganlyn yn gymwys—
Mae’r myfyriwr yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol.
Mae’r myfyriwr yn briod neu mewn partneriaeth sifil cyn dechrau diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol, pa un a yw’r briodas neu’r bartneriaeth sifil yn parhau i fod ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio.
Nid oes gan y myfyriwr riant sy’n fyw.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—
(a)na ellir dod o hyd i’r naill na’r llall o rieni’r myfyriwr, neu
(b)nad yw’n rhesymol ymarferol cysylltu â’r naill na’r llall o rieni’r myfyriwr.
Naill ai—
(a)nid yw’r myfyriwr wedi cyfathrebu â’r naill na’r llall o’i rieni am gyfnod o flwyddyn neu fwy sy’n dod i ben ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol, neu
(b)ym marn Gweinidogion Cymru, mae’r myfyriwr wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni ar seiliau eraill fel nad oes modd cymodi.
Mae rhieni’r myfyriwr yn preswylio y tu allan i’r [F46Deyrnas Unedig, Gibraltar a’r] Undeb Ewropeaidd ac mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—
(a)y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at incwm y rhieni yn gosod y rhieni hynny mewn perygl, neu
(b)na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r rhieni anfon arian i’r Deyrnas Unedig at ddibenion rhoi cymorth i’r myfyriwr.
Pan fo paragraff 6 (rhieni yn gwahanu) yn gymwys, mae’r rhiant a ddewisir gan Weinidogion Cymru o dan is-baragraff (3) o’r paragraff hwnnw wedi marw, ni waeth a oedd gan y rhiant hwnnw bartner ai peidio.
Ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol, mae gan y myfyriwr ofal dros berson sydd o dan 18 oed.
Mae’r myfyriwr wedi cael ei gefnogi gan enillion y myfyriwr am unrhyw gyfnod o dair blynedd (neu gyfnodau sydd, gyda’i gilydd, yn dod i gyfanred o dair blynedd o leiaf) sy’n dod i ben cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig.
Mae’r myfyriwr yn berson sy’n ymadael â gofal o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 29.
(2) At ddibenion Achos 9, mae myfyriwr cymwys yn cael ei drin fel pe bai’n cael ei gefnogi gan enillion y myfyriwr os, yn ystod y cyfnod neu’r cyfnodau y cyfeirir ato neu atynt yn Achos 9, yw un o’r seiliau a ganlyn yn gymwys—
Roedd y myfyriwr cymwys yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi personau di-waith o dan gynllun a weithredir, a noddir neu a gyllidir gan gorff cyhoeddus.
Roedd y myfyriwr cymwys yn cael budd-dal sy’n daladwy gan gorff cyhoeddus mewn cysylltiad â pherson sydd ar gael ar gyfer cyflogaeth ond sy’n ddi-waith.
Roedd y myfyriwr cymwys ar gael ar gyfer cyflogaeth ac wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad cofrestru gan gorff cyhoeddus fel amod o hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddiant neu i gael budd-daliadau.
Roedd gan y myfyriwr cymwys efrydiaeth wladol neu ddyfarndal cyffelyb.
Roedd y myfyriwr cymwys yn cael pensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd, anaf neu salwch y myfyriwr neu am reswm sy’n gysylltiedig â geni plentyn.
Diwygiadau Testunol
F46Geiriau yn Atod. 3 para. 4(1) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 41(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
5.—(1) Pan fo—
(a)rhiant myfyriwr cymwys yn marw cyn y flwyddyn academaidd gyfredol, a
(b)incwm y rhiant wedi, neu y byddai incwm y rhiant wedi, cael ei ystyried at ddibenion penderfynu ar incwm yr aelwyd,
dim ond incwm gweddilliol y rhiant sydd wedi goroesi a gyfrifir yn gyfanred at ddibenion Cam 1 ym mharagraff 3(1).
(2) Pan fo’r rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, incwm gweddilliol rhieni’r myfyriwr cymwys, at ddibenion Cam 1 ym mharagraff 3(1), yw cyfanred—
(a)incwm gweddilliol y ddau riant ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys wedi ei luosi ag X/52, a
(b)incwm gweddilliol y rhiant sydd wedi goroesi ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys wedi ei luosi ag Y/52,
pan—
X yw nifer yr wythnosau yn y flwyddyn academaidd gyfredol pan oedd y ddau riant yn fyw, ac
Y yw nifer yr wythnosau sy’n weddill yn y flwyddyn academaidd gyfredol.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
6.—(1) Pan fo rhieni’r myfyriwr cymwys wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn academaidd gyfredol, dim ond incwm gweddilliol y rhiant a ddewisir o dan is-baragraff (3) sy’n cael ei gyfrifo’n gyfanred at ddibenion Cam 1 ym mharagraff 3(1).
(2) Pan fo rhieni’r myfyriwr wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, incwm gweddilliol rhieni’r myfyriwr cymwys, at ddibenion Cam 1 ym mharagraff 3(1), yw cyfanred—
(a)incwm gweddilliol y ddau riant ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys wedi ei luosi ag X/52, a
(b)incwm gweddilliol y rhiant a ddewisir o dan is-baragraff (3) ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys wedi ei luosi ag Y/52,
pan—
X yw nifer yr wythnosau yn y flwyddyn academaidd gyfredol pan nad oedd y rhieni wedi gwahanu, ac
Y yw nifer yr wythnosau yn y flwyddyn academaidd gyfredol pan oedd y rhieni wedi gwahanu.
(3) Pan fo is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru ddewis y rhiant a chanddo’r incwm gweddilliol sydd fwyaf priodol ei ystyried o dan yr amgylchiadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
7.—(1) Pan fo—
(a)rhiant myfyriwr cymwys, neu
(b)myfyriwr cymwys annibynnol,
wedi gwahanu o’i bartner drwy gydol y flwyddyn academaidd gyfredol, nid yw incwm y partner yn cael ei gyfrifo’n gyfanred o dan Gam 1 ym mharagraff 3(1).
(2) Pan fo—
(a)rhiant y myfyriwr cymwys, neu
(b)myfyriwr cymwys annibynnol,
wedi gwahanu o’i bartner yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, cyfrifir swm incwm gweddilliol y partner sydd i’w gyfrifo’n gyfanred o dan Gam 1 drwy gymhwyso’r fformiwla yn is-baragraff (3).
(3) Y fformiwla sydd i’w chymhwyso yw—
Pan—
X yw incwm gweddilliol—
partner rhiant y myfyriwr cymwys, pan fo Rhestr A o Gam 1 yn gymwys, neu
partner y myfyriwr cymwys annibynnol, pan fo Rhestr B o Gam 1 yn gymwys,
ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys;
C yw nifer wythnosau cyflawn y flwyddyn academaidd gyfredol pan nad oedd—
rhiant y myfyriwr cymwys a’i bartner, neu
y myfyriwr cymwys annibynnol a phartner y myfyriwr,
wedi gwahanu.
(4) Pan fo gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae’r paragraff hwn a Cham 1 o baragraff 3(1) yn gymwys mewn perthynas â phob partner.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
8. Pan fo—
(a)myfyriwr cymwys annibynnol (“A”) neu bartner y myfyriwr cymwys annibynnol (“PA”) yn rhiant i fyfyriwr cymwys (“M”), a
(b)dyfarndal statudol sy’n daladwy i M wedi ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm gweddilliol A neu PA, neu’r ddau,
nid yw incwm gweddilliol PA yn cael ei gyfrifo’n gyfanred o dan Restr B o Gam 1 ym mharagraff 3(1) at ddibenion cyfrifo incwm aelwyd A.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
9.—(1) Yn yr Atodlen hon, ystyr incwm trethadwy person yw—
(a)cyfanred—
(i)cyfanswm yr incwm y codir treth incwm ar y person amdano o dan Gam 1 o adran 23 o Ddeddf Treth Incwm 2007(22), a
(ii)os nad ydynt eisoes yn elfen o gyfanswm yr incwm o dan is-baragraff (i), daliadau a budd-daliadau eraill a bennir yn adran 401(1) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003(23) a geir gan y person neu sy’n cael eu trin fel pe baent wedi eu cael gan y person (ond diystyrir adran 401(2) o’r Ddeddf honno at ddibenion yr is-baragraff hwn), neu
(b)pan fo deddfwriaeth treth incwm [F47Aelod-wladwriaeth] yn gymwys i incwm y person, gyfanswm incwm y person o bob ffynhonnell fel y’i penderfynir at ddibenion deddfwriaeth treth incwm yr Aelod-wladwriaeth honno.
[F48(2) At ddibenion is-baragraff (1)(b), pan fo deddfwriaeth treth incwm—
(a)y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Aelod-wladwriaethau, neu
(b)mwy nag un Aelod-wladwriaeth,
yn gymwys i’r person mewn cysylltiad â’r flwyddyn sydd o dan ystyriaeth, cyfanswm incwm y person o bob ffynhonnell yw’r swm sy’n deillio o’r penderfyniad sy’n arwain at swm mwyaf cyfanswm yr incwm, gan gynnwys unrhyw incwm y mae’n ofynnol ei ystyried o dan baragraff 18.]
(3) Ond nid yw incwm trethadwy person yn cynnwys incwm a delir i berson arall o dan orchymyn trefniadau pensiwn.
Diwygiadau Testunol
F47Geiriau yn Atod. 3 para. 9(1)(b) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 41(3)(a)
F48Atod. 3 para. 9(2) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 41(3)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
10. At ddibenion cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys o dan Ran 2, cyfrifir incwm gweddilliol y myfyriwr fel a ganlyn—
Incwm trethadwy’r myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfredol.
Plws
Incwm sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o dan orchymyn trefniadau pensiwn yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, ar ôl didynnu treth incwm.
Minws
Cyfanred y didyniadau a nodir ym mharagraff 11 (oni bai eu bod eisoes wedi eu didynnu at ddibenion penderfynu ar incwm trethadwy’r myfyriwr).
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
11. At ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, y didyniadau yw—
Tâl a roddir i’r myfyriwr cymwys yn y flwyddyn academaidd gyfredol am waith a wneir yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd o’r cwrs, ond nid tâl mewn cysylltiad ag—
(a)unrhyw gyfnod o absenoldeb a gymerir gan y myfyriwr, neu
(b)unrhyw gyfnod arall pan fydd y myfyriwr wedi ei ryddhau o ddyletswydd i fod yn bresennol yn y gwaith,
fel y caiff y myfyriwr ymgymryd â’r cwrs.
Swm gros unrhyw bremiwm neu swm a delir gan y myfyriwr cymwys yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol mewn perthynas â phensiwn—
(a)y rhoddir rhyddhad mewn cysylltiad ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(24), neu
(b)pan fo incwm y myfyriwr yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm [F49Aelod-wladwriaeth], y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth yn y Deddfau Treth Incwm,
ond nid yw’n cynnwys unrhyw swm a delir fel premiwm o dan bolisi aswiriant bywyd.
Diwygiadau Testunol
F49Geiriau yn Atod. 3 para. 11 wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 41(4)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
12.—(1) Pan fo’r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfred ac eithrio sterling, gwerth yr incwm yw—
(a)swm y sterling y mae’r myfyriwr cymwys yn ei gael ar gyfer yr incwm, neu
(b)pan na fo’r myfyriwr yn troi’r incwm yn sterling, gwerth y sterling y byddai’r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio cyfradd gyfnewid CThEM.
(2) Cyfradd gyfnewid CThEM(25) yw’r gyfradd a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer y mis sy’n cyfateb i’r mis y ceir yr incwm ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
13. Mae’r Bennod hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo incwm gweddilliol person (“P”) pan fo P yn golygu’r canlynol—
(a)rhiant y myfyriwr cymwys,
(b)partner y myfyriwr cymwys, neu
(c)partner rhiant y myfyriwr cymwys,
yn ôl y digwydd, a phan fo incwm P yn cael ei gyfrifo’n gyfanred o dan Gam 1 ym mharagraff 3(1) at ddiben cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
14. Cyfrifir incwm gweddilliol P fel a ganlyn—
Incwm trethadwy P ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys.
Plws
Incwm sy’n daladwy i P o dan orchymyn trefniadau pensiwn yn ystod y flwyddyn ariannol gymwys, ar ôl didynnu treth incwm.
Minws
Cyfanred y didyniadau a nodir ym mharagraff 15 (oni bai eu bod eisoes wedi eu didynnu at ddibenion penderfynu ar incwm trethadwy P).
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
15.—(1) At ddiben cyfrifo incwm gweddilliol P, y didyniadau yw—
Swm gros unrhyw bremiwm neu swm a delir gan P mewn cysylltiad â phensiwn yn ystod y flwyddyn ariannol gymwys—
(a)y rhoddir rhyddhad mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu
(b)pan fo incwm P yn cael ei gyfrifiannu at ddiben deddfwriaeth treth incwm [F50Aelod-wladwriaeth], y byddai rhyddhad wedi cael ei roi mewn perthynas ag ef pe bai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth yn y Deddfau Treth Incwm,
ond nid yw’n cynnwys unrhyw swm a delir fel premiwm o dan bolisi aswiriant bywyd.
Pan fo paragraff 18 yn gymwys, swm sy’n cyfateb i Ddidyniad A ar yr amod nad yw’r swm hwn yn fwy na’r didyniadau a fyddai’n cael eu gwneud pe bai holl incwm P yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm mewn gwirionedd.
£1,130, pan fo P—
(a)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfredol ond hefyd yn rhiant myfyriwr cymwys, neu
(b)wedi cael dyfarndal statudol mewn cysylltiad â’r un cyfnod.
Diwygiadau Testunol
F50Geiriau yn Atod. 3 para. 15 wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 41(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
16.—(1) Mae’r paragraff hwn yn pennu’r flwyddyn ariannol gymwys at ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol P.
(2) Oni bai bod is-baragraff (3) yn gymwys, y flwyddyn ariannol gymwys yw BF-1.
[F51(3) Y flwyddyn ariannol gymwys yw BG os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—
(a)pan fo P yn un o ddau berson y cyfrifir cyfanred eu hincwm gweddilliol o dan baragraff (b)(i) neu (ii) o Restr A ym mharagraff 3(1), fod cyfanred incymau gweddilliol P a’r person arall ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai na chyfanred incymau gweddilliol P a’r person arall ar gyfer BF-1, neu
(b)mewn unrhyw achos arall, fod incwm gweddilliol P ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm gweddilliol P ar gyfer BF-1.]
Diwygiadau Testunol
F51Atod. 3 para. 16(3) wedi ei amnewid (2.3.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/142), rhlau. 1(2), 8
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
17.—(1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan—
(a)y flwyddyn ariannol gymwys at ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol P yw BF-1, a
(b)bo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm P yn deillio’n gyfan gwbl neu’n bennaf o elw busnes neu broffesiwn a gynhelir gan P.
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, incwm gweddilliol P yw ei incwm ar gyfer y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy’n dod i ben yn BF-1 y cedwir cyfrifon mewn cysylltiad ag ef sy’n ymwneud â busnes neu broffesiwn P.
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
18.—(1) Mae is-baragraff (3) yn gymwys pan fo P yn cael unrhyw incwm nad yw, am unrhyw un neu ragor o’r rhesymau a nodir yn is-baragraff (2), yn ffurfio rhan o incwm P at ddiben y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm [F52Aelod-wladwriaeth].
(2) Y rhesymau yw—
Rheswm 1
(a)nid yw P yn preswylio nac wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu
(b)cyfrifiennir incwm P at ddibenion deddfwriaeth treth incwm [F52Aelod-wladwriaeth] ac nid yw P yn preswylio nac wedi ymgartrefu yn yr Aelod-wladwriaeth honno.
Rheswm 2
(a)nid yw incwm P yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu
(b)nid yw incwm P yn codi yn yr Aelod-wladwriaeth y cyfrifiennir incwm P ynddi at ddibenion deddfwriaeth treth incwm y Wladwriaeth honno.
Rheswm 3
Mae’r incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae’r incwm ohoni neu ohono yn esempt rhag treth.
(3) Mae incwm trethadwy P i’w gymryd i gynnwys yr incwm a ddisgrifir yn is-baragraff (1) fel pe bai’n rhan o incwm P at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm [F52Aelod-wladwriaeth], yn ôl y digwydd.
Diwygiadau Testunol
F52Geiriau yn Atod. 3 para. 18 wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 41(4)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
19.—(1) Pan fo incwm P wedi ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm [F53Aelod-wladwriaeth], mae incwm gweddilliol P i’w gyfrifo yn unol â’r Rhan hon yn arian cyfred yr Aelod-wladwriaeth honno ac i’w gymryd fel gwerth sterling yr incwm hwnnw a benderfynir yn unol â chyfradd berthnasol CThEM.
(2) Cyfradd berthnasol CThEM yw’r gyfradd gyfnewid ar gyfartaledd a ddyroddir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer y flwyddyn galendr sy’n dod i ben yn union cyn diwedd BF-1.
Diwygiadau Testunol
F53Geiriau yn Atod. 3 para. 19(1) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 41(4)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 3 para. 19 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
20.—(1) Yn yr Atodlen hon, ystyr unrhyw gyfeiriad at bartner person (“A”) yw—
(a)priod neu bartner sifil A, neu
(b)person sy’n byw fel arfer gydag A fel pe bai’r person yn briod neu’n bartner sifil A.
(2) Yn yr Atodlen hon—
ystyr “BF” (“PY”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn BG;
ystyr “BF-1” (“PY-1”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn BF;
ystyr “BG” (“CY”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol;
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y cyfrifiennir incwm person mewn cysylltiad ag ef at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy’n gymwys iddo;
ystyr “blwyddyn ariannol gymwys” (“applicable financial year”) yw’r flwyddyn ariannol y penderfynir arni yn unol â pharagraff 16;
ystyr “corff cyhoeddus” (“public body”) yw awdurdod neu asiantaeth i’r wladwriaeth, boed yn genedlaethol, yn rhanbarthol neu’n lleol;
ystyr “gorchymyn trefniadau pensiwn” (“pension arrangements order”) yw gorchymyn y mae person yn talu odano fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn i berson arall o dan—
adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973(26) sy’n cynnwys darpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 25B(4) (a chan gynnwys gorchymyn o’r fath fel y caiff effaith yn rhinwedd adran 25E(3) o’r Ddeddf honno)(27), neu
Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004(28) sy’n cynnwys darpariaeth a wneir yn rhinwedd Rhan 6 o’r Atodlen honno (a chan gynnwys gorchymyn o’r fath fel y caiff effaith yn rhinwedd Rhan 7 o’r Atodlen honno).
Gwybodaeth Cychwyn
I36Atod. 3 para. 20 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
Rheoliad 4(2)
1. Mae Tabl 3 yn rhestru ymadroddion sydd wedi eu diffinio neu sydd wedi eu hesbonio fel arall yn y Rheoliadau hyn.LL+C
Ymadrodd | Wedi ei ddiffinio, neu y cyfeirir ato, yn... |
---|---|
“AEE” | Atodlen 2, paragraff 13 |
“aelod o deulu” | Atodlen 2, paragraff 6(3) |
“aelod o’r lluoedd arfog” | Atodlen 1, paragraff 3(1) |
“awdurdod academaidd” | Atodlen 1, paragraff 3(1) |
“awdurdod lleol Cymreig” | Atodlen 2, paragraff 12(2) |
“benthyciad” (at ddibenion Eithriadau 1 a 2 yn rheoliad 10(1)) | Rheoliad 10(2) |
“benthyciad cyfrannu at gostau” | Rheoliad 30 |
“BF” | Atodlen 3, paragraff 20(2) |
“BF–1” | Atodlen 3, paragraff 20(2) |
“BG” | Atodlen 3, paragraff 20(2) |
“blwyddyn academaidd” | Atodlen 1, paragraff 1 |
“blwyddyn academaidd gyfredol” | Atodlen 1, paragraff 3(1) |
“blwyddyn ariannol” | Atodlen 3, paragraff 20(2) |
“blwyddyn ariannol gymwys” | Atodlen 3, paragraff 20(2) |
“bwrsari gofal iechyd” | Atodlen 1, paragraff 3(1) |
“carcharor” a “carchar” | Atodlen 1, paragraff 3(1) |
“carcharor cymwys” | Atodlen 1, paragraff 3(1) |
“cofrestr” | Atodlen 1, paragraff 2(2) |
“corff cyhoeddus” | Atodlen 3, paragraff 20(2) |
[F54“coronafeirws” | Atodlen 1, paragraff 3(1)] |
“cronfeydd cyhoeddus” | Atodlen 1, paragraff 3(1) |
“cwrs” | Atodlen 1, paragraff 3(1) |
“cwrs dynodedig” | Pennod 1 o Ran 4 |
“cwrs dysgu o bell” | Atodlen 1, paragraff 3(1) |
“cwrs newydd” | Rheoliad 17(1) |
“Cyfarwyddeb 2004/38” | Atodlen 2, paragraff 13 |
“cyfnod cymhwystra” | Rheoliad 11 |
“cyfnodau o brofiad gwaith” | Atodlen 1, paragraff 3(1) |
“cymhwyster cyfatebol neu uwch” | Atodlen 1, paragraff 3(1) |
“cymorth” | Atodlen 1, paragraff 3(1) |
“Cynllun KESS 2” | Atodlen 1, paragraff 3(1) |
“Cytundeb y Swistir” | Atodlen 2, paragraff 13 |
“darparwr cynllun Seisnig” | Atodlen 1, paragraff 2(1)(f) |
“Deddf 1998” | Rheoliad 5 |
“derbyn gofal” | Atodlen 2, paragraff 12(2) |
“dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” (at ddiben penderfynu a yw person yn aelod o deulu person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth) | Atodlen 2, paragraff 3(4)(b) |
“dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” (at ddiben penderfynu a yw person yn blentyn i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67) | Atodlen 2, paragraff 5(3)(b) |
“dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” (at ddiben penderfynu a yw person yn aelod o deulu person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros) | Atodlen 2, paragraff 4(5) |
“dyfarndal statudol” | Atodlen 1, paragraff 3(1) |
“y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” | Atodlen 1, paragraff 3(1) |
“ffioedd” | Atodlen 1, paragraff 3(1) |
“ffoadur” | Atodlen 2, paragraff 13 |
“gorchymyn trefniadau pensiwn” | Atodlen 3, paragraff 20(2) |
“grant cyfrannu at gostau” | Rheoliad 24 |
“grant sylfaenol” | Rheoliad 24 |
“gweithiwr” | Atodlen 2, paragraff 6(4) |
“gweithiwr mudol AEE” | Atodlen 2, paragraff 6(3) |
“gweithiwr trawsffiniol AEE” | Atodlen 2, paragraff 6(3) |
“gweithiwr Twrcaidd” | Atodlen 2, paragraff 10(2) |
“gwladolyn AEE” | Atodlen 2, paragraff 6(4) |
“gwladolyn UE” | Atodlen 1, paragraff 3(1) |
“gwybodaeth” | Atodlen 1, paragraff 3(1) |
“hawl i breswylio’n barhaol” | Atodlen 2, paragraff 13 |
“incwm aelwyd” | Atodlen 3, Rhan 2 |
“incwm gweddilliol” | Atodlen 3, Rhan 4 |
“incwm trethadwy” | Atodlen 3, paragraff 9 |
“myfyriwr cymwys” | Rheoliad 9(1) |
“myfyriwr cymwys annibynnol” | Atodlen 3, paragraff 4 |
“partner” | Atodlen 3, paragraff 20(1) |
“person cyflogedig” | Atodlen 2, paragraff 6(4) |
“person cyflogedig Swisaidd” | Atodlen 2, paragraff 6(3) |
“person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd” | Atodlen 2, paragraff 6(3) |
“person hunangyflogedig” | Atodlen 2, paragraff 6(4) |
“person hunangyflogedig AEE” | Atodlen 2, paragraff 6(3) |
“person hunangyflogedig Swisaidd” | Atodlen 2, paragraff 6(3) |
“person hunangyflogedig trawsffiniol AEE” | Atodlen 2, paragraff 6(3) |
“person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd” | Atodlen 2, paragraff 6(3) |
“person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” | Atodlen 2, paragraff 5(3)(a) |
“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” | Atodlen 2, paragraff 4(4) |
“person sy’n ymadael â gofal” | Rheoliad 29 |
“person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” | Atodlen 2, paragraff 3(4)(a) |
“perthynas agos” | Atodlen 1, paragraff 3(1) |
“rheolau mewnfudo” | Atodlen 2, paragraff 13 |
“Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol 2018” | Rheoliad 7(c) |
“Rheoliadau Benthyciadau at Radd Feistr 2017” | Rheoliad 2(3) |
“Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2017” | Rheoliad 7(a) |
“Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2018” | Rheoliad 7(b) |
“rhiant” a “plentyn” (at ddibenion penderfynu ar gategori person o dan Atodlen 2) | Atodlen 2, paragraff 13 |
“sefydliad a gyllidir gan yr Alban” | Atodlen 1, paragraff 2(1)(b) |
“sefydliad a gyllidir gan Gymru” | Atodlen 1, paragraff 2(1)(a) |
“sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon” | Atodlen 1, paragraff 2(1)(c) |
“sefydliad rheoleiddiedig Seisnig” | Atodlen 1, paragraff 2(1)(d) |
“sefydliad Seisnig cofrestredig” | Atodlen 1, paragraff 2(1)(e) |
“wedi setlo” | Atodlen 2, paragraff 13 |
“Ynysoedd” | Atodlen 2, paragraff 13 |
Diwygiadau Testunol
F54Geiriau yn Atod. 4 Table 3 wedi eu mewnosod (1.9.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 (O.S. 2020/918), rhlau. 1(2), 2(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I37Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 27.5.2019, gweler rhl. 1(2)
Mae’r Swyddfa Fyfyrwyr yn gorff corfforedig a sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017.
Mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop wedi ei sefydlu o dan Erthygl 162 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.
1962 p. 12 (a ddiddymwyd bellach).
Fe’i diddymwyd gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), Atodlen 4, gydag arbedion gweler Gorchymyn Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/2004) (C. 46).
O.S. 1990/1506 (G.I. 11), a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/274 (G.I. 1), Atodlen 5 Rhan 2, O.S. 1996/1918 (G.I. 15), Erthygl 3 a’r Atodlen ac O.S. 1998/258 (G.I. 1), Erthyglau 3 i 6 ac a ddirymwyd, gydag arbedion, gan Rh.St. (G.I.) 1998 Rhif 306.
O.S. 1998/1760 (G.I. 14) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Mae paragraff 276BE(2) o’r Rheolau Mewnfudo yn cyfeirio at hyn.
2002 p. 41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr etc.) 2004 (p. 19), Atodlenni 2 a 4, Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p. 13), adran 9, O.S. 2010/21, Deddf Mewnfudo 2014 (p. 22), Atodlen 9.
OJ Rhif L141, 27.05.2011, t. 1.
OJ Rhif L158, 30.04.2004, t. 77-123.
Gorch. 4904 ac OJ Rhif L114, 30.04.02, t. 6.
Gorchmn. 9171.
Gorchmn. 3906, daeth y Protocol i rym ar 4 Hydref 1967.
1971 p. 77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61).
2007 p. 3; diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Cyllid 2009 (p. 10), Atodlen 1, paragraff 6(o)(i), Deddf Cyllid 2013 (p. 29), Atodlen 3, paragraff 2(2) a Deddf Cyllid 2014 (p. 26), Atodlen 17, paragraff 19.
2003 p. 1; diwygiwyd adran 401 gan O.S. 2005/3229, O.S. 2011/1037 ac O.S. 2014/211.
2004 p. 12; diwygiwyd adran 188 gan Ddeddf Cyllid 2007 (p. 11), adrannau 68 a 114 ac Atodlenni 18, 19 a 27, Deddf Cyllid 2013 (p. 29), adran 52 a Deddf Cyllid 2014 (p. 26), Atodlen 7.
Gweler https://www.gov.uk/government/collections/exchange-rates-for-customs-and-vat.
1973 p. 18; diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder 1982 (p. 53), adran 16.
Mewnosodwyd adran 25B gan Ddeddf Pensiynau 1995 (p. 20), adran 166(1) ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 4. Mewnosodwyd adran 25E gan Ddeddf Pensiynau 2004 (p. 35), adran 319(1), Atodlen 12, paragraff 3 ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Pensiynau 2008 (p. 30), Atodlen 6, paragraffau 1 a 6 ac Atodlen 11, Rhan 4.
2004 p. 33; addaswyd paragraff 25 o Atodlen 5 gan O.S. 2006/1934 a diwygiwyd paragraff 30 o Atodlen 5 gan Ddeddf Pensiynau 2008 (p. 30), Atodlenni 6 ac 11.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: