- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Iechyd Anifeiliaid
Gofynion sifftio wedi eu bodloni
14 Ionawr 2019
Gwnaed
21 Ionawr 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
24 Ionawr 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Da Byw (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), ym mharagraff (a) o’r diffiniad o “pasbort gwartheg” yn lle “yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban o dan Erthygl 6(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000” rhodder “o dan Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn, neu’r mesur cyfatebol yn Lloegr neu’r Alban”.
(3) Yn rheoliad 10(3)(f), yn lle “â chynrychiolydd o’r Comisiwn Ewropeaidd neu unrhyw berson arall” rhodder “ag unrhyw berson”.
(4) Yn Atodlen 1, hepgorer paragraff 8.
(5) Ym mharagraff 4 o Atodlen 2, yn y teitl ac yn is-baragraff (1), hepgorer “arall”.
3.—(1) Mae Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 8(2)(c), yn lle “masnachu neu allforio o fewn y Gymuned” rhodder “allforio”.
(3) Yn erthygl 10, yn lle “masnachu neu allforio o fewn y Gymuned” rhodder “allforio”.
4.—(1) Mae Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015(4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2(1), yn y diffiniadau o “allforio”, “marc adnabod” a “dull adnabod”, hepgorer “arall”.
(3) Yn erthygl 32, yn y teitl ac ym mharagraffau (1) a (2), hepgorer “arall”.
(4) Yn erthygl 38(1)(g), hepgorer “â chynrychiolydd o’r Comisiwn Ewropeaidd gydag ef sy’n gweithredu at ddibenion Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor, neu fynd”.
(5) Yn erthygl 41(d), hepgorer “arall”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
21 Ionawr 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio is-ddeddfwriaeth, sy’n gymwys o ran Cymru, ym meysydd cofnodi, adnabod a symud da byw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2007/842 (Cy. 74), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/821 (Cy. 97); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2011/2830 (Cy. 303), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: