- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Gwnaed
6 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
10 Tachwedd 2020
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 11M(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
2.—(1) Mae rheoliad 2 o Reoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (3), yn lle’r testun a amnewidiwyd rhodder “i Brydain Fawr o wlad heblaw Gogledd Iwerddon neu Aelod-wladwriaeth”.
(3) Yn lle paragraff (4) rhodder—
“(4) Yn rheoliad 13(3)(b), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth neu Ogledd Iwerddon”.”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
6 Tachwedd 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 11M(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16). Mae’r Protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon yn y cytundeb ymadael yn ei gwneud yn ofynnol i ddeddfwriaeth yr UE a restrir yn Atodiad 2 i’r Protocol hwnnw gael ei gweithredu yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r Rheoliadau hyn, felly, yn diwygio Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/250 (Cy. 62)) er mwyn gweithredu’r Protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon ac at ddibenion ymdrin â materion sy’n codi o’r Protocol hwnnw neu sy’n gysylltiedig ag ef.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019, sy’n gwneud diwygiadau i Reoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019 (O.S. 2019/57 (Cy. 20)) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2018 p. 16; mewnosodwyd paragraff 11M o Atodlen 2 i Ddeddf 2018 gan adran 22 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1); mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Gweler adran 20(1) o Ddeddf 2018 am y diffiniad o “devolved authority”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: