Search Legislation

Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1612 (Cy. 337)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Iechyd Anifeiliaid, Cymru

Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020

Gwnaed

17 Rhagfyr 2020

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2(2) i’r Ddeddf honno, i’r graddau y daw’r Rheoliadau hyn i rym cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol.

Yn unol â pharagraff 1(9) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, mae drafft o’r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddi(3).

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020.

(2Daw Rhan 1 a Rhan 3 i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(3Daw Rhan 2 i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

RHAN 2Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

2.  Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

3.  Yn rheoliad 2—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

mae i “DMIG” (“CHED”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10;;

mae i “safle rheoli ar y ffin” (“border control post”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 11;;

ystyr “system rheoli gwybodaeth gyfrifiadurol briodol” (“appropriate computerised information management system”) yw’r system rheoli gwybodaeth gyfrifiadurol ar gyfer rheolaethau swyddogol y cyfeirir ati yn Erthygl 131 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol;;

ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw unrhyw wlad neu diriogaeth heblaw Ynysoedd Prydain.;

(ii)yn y diffiniad o “mewnforiwr” (“importer”), yn lle “i’r Deyrnas Unedig” rhodder “i Ynysoedd Prydain”;

(iii)yn y diffiniad o “rheolaethau swyddogol dwysach” (“intensified official controls”), yn lle “o Reoliad yr UE” rhodder “o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;

(iv)yn y diffiniad o “rheolaethau swyddogol” (“official controls”), yn lle “o Reoliad yr UE” rhodder “o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;

(v)yn y diffiniad o “cynnyrch” (“product”), yn lle “arolygfeydd ffin” rhodder “safleoedd rheoli ar y ffin”;

(b)hepgorer paragraff (2);

(c)ym mharagraff (3)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “mae “Rheoliad yr UE” (“the EU Regulation”)” rhodder “mae’r “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol” (“Official Controls Regulation”)”;

(ii)hepgorer is-baragraff (ch).

4.  Yn rheoliad 3—

(a)yn lle’r pennawd rhodder “Anifeiliaid anwes”;

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Yn ychwanegol at ofynion y Rheoliadau hyn, ni chaniateir symud cŵn, cathod a ffuredau sydd heb eu hesemptio gan baragraff (1) i Gymru o drydedd wlad oni bai eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion a nodir yn—

(a)pwyntiau (a) i (d) o Erthygl 10(1) o’r Rheoliad Anifeiliaid Anwes, yn ddarostyngedig i baragraff (1) o Erthygl 12 i’r Rheoliad hwnnw; a

(b)Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/294 yn nodi’r rhestr o diriogaethau a thrydydd gwledydd a awdurdodir o ran mewnforio cŵn, cathod a ffuredau a’r dystysgrif iechyd anifeiliaid enghreifftiol ar gyfer mewnforion o’r fath.

5.  Hepgorer rheoliad 4.

6.  Hepgorer Rhan 2.

7.  Yn rheoliad 9—

(a)yn lle “Mae’r Rhan hon” rhodder “Yn ddarostyngedig i reoliad 26, mae’r Rhan hon”;

(b)yn lle “o wlad sydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “o drydedd wlad”.

8.  Yn rheoliad 10(4), yn lle “o Reoliad yr UE” rhodder “o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”.

9.  Yn rheoliad 11—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “o Reoliad yr UE” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd hyd at y diwedd rhodder “o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;

(b)ym mharagraff (2), yn lle “o Reoliad yr UE” rhodder “o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;

(c)ym mharagraff (4), hepgorer “, a rhaid iddo hysbysu’r Comisiwn am yr ataliad dros dro a’r rheswm drosto”.

10.  Yn rheoliad 14—

(a)ym mharagraff (1), ar ôl “neu gynhyrchion” mewnosoder “, drwy’r system rheoli gwybodaeth gyfrifiadurol briodol,”;

(b)ym mharagraff (3), yn lle “DMMG” rhodder “DMIG”.

11.  Yn rheoliad 15—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle “â’r ddogfennaeth a bennir ar gyfer y llwyth hwnnw yn y ddeddfwriaeth berthnasol yn Atodlen 1” rhodder “â’r dystysgrif iechyd allforio berthnasol, yn y ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol, a dogfennaeth arall a bennir ar gyfer y llwyth hwnnw yng nghyfraith uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud â mewnforio”;

(ii)yn is-baragraff (a), yn lle “o Reoliad yr UE” rhodder “o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;

(b)ym mharagraff (4)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “yn y rhestri” hyd at y diwedd rhodder “mewn rhestr a lunnir yn unol â deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir ar gyfer y rhywogaeth dan sylw neu y gwaherddir mewnforion ohoni fel arall o dan y ddeddfwriaeth honno o drydydd gwledydd a gymeradwywyd, neu os gwaherddir mewnforion o’r wlad neu’r diriogaeth honno fel arall”;

(ii)yn is-baragraff (c), yn lle “yn neddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud â mewnforio”;

(iii)yn is-baragraff (d), yn lle “deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir”;

(c)ym mharagraff (5)(b), ar ôl “gynnyrch arall” mewnosoder “neu anifail byw”.

12.  Yn rheoliad 17—

(a)yn lle “yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth” rhodder “ym Mhrydain Fawr”;

(b)yn lle “hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith ei fod wedi cyrraedd” rhodder “hysbysu’r awdurdod priodol ar unwaith ei fod wedi cyrraedd, ac at y diben hwn ystyr “awdurdod priodol” (“appropriate authority”) yw Gweinidogion Cymru (o ran Cymru), yr Ysgrifennydd Gwladol (o ran Lloegr) a Gweinidogion yr Alban (o ran yr Alban)”.

13.  Yn rheoliad 18—

(a)ac eithrio yn y lle cyntaf y mae’n digwydd ym mharagraff (3), ym mhob lle arall, gan gynnwys yn y pennawd, yn lle “i’r Deyrnas Unedig” rhodder “i Brydain Fawr”;

(b)ym mharagraff (2)—

(i)yn lle “anifail a draddodir i gyrchfan y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “anifail a fewnforir”;

(ii)yn lle “y gyrchwlad” rhodder “y wlad neu’r diriogaeth a gyrchir”;

(c)ym mharagraff (3), yn lle “sy’n cyrraedd safle rheoli ar y ffin sydd â chyrchfan derfynol y tu allan i’r Deyrnas Unedig” rhodder “a fewnforir”;

(d)ym mharagraff (4)—

(i)yn lle “yn yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “yn Ynysoedd Prydain”;

(ii)yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i unrhyw un o diriogaethau Ynysoedd Prydain”.

14.  Yn rheoliad 19—

(a)ym mharagraff (a), yn lle “arolygfa ffin” rhodder “safle rheoli ar y ffin”;

(b)ym mharagraff (b), yn y testun Saesneg, ar ôl “CHED or” mewnosoder “without” .

15.  Yn rheoliad 20—

(a)ym mhob lle y mae’n digwydd, yn lle “o Reoliad yr UE” rhodder “o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;

(b)ym mharagraff (1), yn lle “yn Erthygl 1(2)” rhodder “ym Mhennod 5 o Deitl 2”;

(c)ym mharagraff (2)—

(i)ar ôl “gynrychiolydd y mewnforiwr,” mewnosoder “ac yn unol ag Erthygl 68(1)(b) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol,”;

(ii)yn lle “i’r Deyrnas Unedig” rhodder “i Gymru”;

(d)ym mharagraff (3)—

(i)yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “Caiff y milfeddyg” rhodder “Rhaid i’r milfeddyg”;

(ii)yn is-baragraff (a), yn lle “yn Erthygl 1(2)” rhodder “ym Mhennod 5 o Deitl 2”;

(iii)yn is-baragraff (b)—

(aa)yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”;

(bb)yn lle “i gyrraedd” rhodder “o ddyddiad yr hysbysiad swyddogol o benderfyniad yr awdurdod gorfodi ar ôl i’r llwyth gyrraedd”.

16.  Yn rheoliad 21, yn lle “o Reoliad yr UE” rhodder “o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”.

17.  Yn rheoliad 22—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle “i’r Deyrnas Unedig” rhodder “i Brydain Fawr”;

(ii)yn lle “mae’r rheoliad hwn yn gymwys” hyd at y diwedd rhodder “caiff yr awdurdod gorfodi ofyn am wiriadau ffisegol ychwanegol a chymryd samplau i’w profi neu i’w dadansoddi o lwythi dilynol o’r ffynhonnell dan sylw a chymryd mesurau priodol yn unol ag Adran 3 o Bennod 5 o Deitl 2 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;

(b)ym mharagraff (3), ar y diwedd mewnosoder “o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;

(c)yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Pan hysbysir y person sy’n gyfrifol am lwythi y bydd angen gwiriadau ychwanegol yn unol â pharagraff (1), rhaid i’r person hwnnw, cyn i lwythi yn y dyfodol gyrraedd unrhyw safle rheoli ar y ffin, gyflwyno blaendal neu warant i’r awdurdod gorfodi perthnasol sy’n ddigon i dalu’r holl gostau y bydd yr awdurdod gorfodi hwnnw’n mynd iddynt, gan gynnwys costau cymryd samplau a chynnal profion neu ddadansoddiadau.

18.  Yn rheoliad 23—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “yn Erthygl 1(2)” rhodder “ym Mhennod 5 o Deitl 2”;

(b)ym mhob lle y mae’n digwydd, yn lle “o Reoliad yr UE” rhodder “o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”.

19.  Yn rheoliad 26—

(a)yn y pennawd, ar ôl “Eithrio” mewnosoder “, rhanddirymu ac addasiadau”;

(b)daw’r testun presennol yn baragraff (1);

(c)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(2) Mae darpariaethau’r Rhan hon yn gymwys yn ddarostyngedig i’r rhanddirymiadau a’r addasiadau a nodir yn Atodlen 5.

(3) Mae paragraff (2) (ac Atodlen 5) yn cael effaith ac yn parhau mewn grym o’r adeg yn union ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu tan ddiwedd y dydd ar 31 Gorffennaf 2021.

20.  Yn rheoliad 27—

(a)ym mhob lle y mae’n digwydd, yn lle “o’r Undeb” rhodder “o Brydain Fawr”;

(b)hepgorer paragraff (1A);

(c)ym mharagraff (3)(a)—

(i)hepgorer “yn yr Aelod-wladwriaeth lle y dyroddwyd y dystysgrif”;

(ii)yn lle “yr arolygfa ffin” rhodder “y safle rheoli ar y ffin”.

21.  Yn lle rheoliad 28 rhodder—

Derbyn cynhyrchion i warysau gan gydymffurfio â gweithdrefnau’r Tollau a gweithdrefnau storio

28.  Ni chaiff neb ddod â llwyth o gynhyrchion i Brydain Fawr nad yw’n cydymffurfio â gofynion mewnforio’r Rheoliadau hyn a gweithdrefnau’r Tollau a’r gweithdrefnau storio ar gyfer mewnforion yn Neddf Trethiant (Masnach Drawsffiniol) 2018(5).

22.  Yn rheoliad 29—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle “i’r Deyrnas Unedig”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “i Brydain Fawr”;

(ii)yn is-baragraff (a), ar ôl “mewn gwlad” mewnosoder “neu diriogaeth”; ac ar ôl “o’r wlad”, yn y ddau le y mae’n digwydd, mewnosoder “neu’r diriogaeth”;

(iii)yn is-baragraff (b), yn lle “Reoliad yr UE” hyd at “Aelod-wladwriaeth” rhodder “y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol mewn perthynas â mewnforion”;

(b)ym mharagraff (2)—

(i)yn is-baragraff (a), ar ôl “wlad” mewnosoder “neu’r diriogaeth”;

(ii)yn is-baragraff (b)(ii)—

(aa)hepgorer “o’r Undeb Ewropeaidd”;

(bb)yn lle “Reoliad yr UE” rhodder “y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;

(cc)yn lle “gwledydd eraill” rhodder “trydydd gwledydd”.

23.  Yn rheoliad 32(4), yn lle “Erthygl 134 o Reoliad (EU) Rhif 952/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n nodi Cod Tollau’r Undeb” rhodder “Ddeddf Trethiant (Masnach Drawsffiniol) 2018”.

24.  Yn rheoliad 34(f), yn lle “Reoliad yr UE” rhodder “y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”.

25.  Yn rheoliad 35—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, yn lle “Weinidogion Cymru” rhodder “yr awdurdod gorfodi priodol”;

(ii)yn yr ail le y mae’n digwydd, yn lle “Weinidogion Cymru” rhodder “yr awdurdod gorfodi hwnnw”;

(b)ym mharagraff (3)—

(i)yn lle “Gweinidogion Cymru” rhodder “yr awdurdod gorfodi priodol”;

(ii)yn lle “Weinidogion Cymru” rhodder “yr awdurdod gorfodi hwnnw”;

(iii)yn lle “yn unol ag Erthygl 1(2) o Reoliad yr UE” rhodder “yn unol â Phennod 5 o Deitl 2 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;

(c)ym mharagraffau (4) i (6), ym mhob lle y mae’n digwydd, yn lle “Weinidogion Cymru” rhodder “yr awdurdod gorfodi”.

26.  Yn rheoliad 36, ym mhob lle y mae’n digwydd, yn lle “neu Reoliad yr UE” rhodder “neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”.

27.  Yn rheoliad 37(1), yn lle “i’r awdurdodau gorfodi yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon” rhodder “i awdurdod gorfodi mewn unrhyw un o diriogaethau Ynysoedd Prydain”.

28.  Yn rheoliad 38—

(a)yn lle “Weinidogion Cymru” rhodder “awdurdod gorfodi”;

(b)yn lle “o Reoliad yr UE” rhodder “o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”.

29.  Yn rheoliad 39, yn y tabl—

(a)hepgorer y rhesi ar gyfer “rheoliad 5(1) ac (1A)” hyd at “rheoliad 7” (gan gynnwys y cofnodion cyfatebol yn yr ail golofn);

(b)yn y rhesi ar gyfer “rheoliad 16(1)” a “rheoliad 16(2)”, yn y cofnodion cyfatebol yn yr ail golofn yn lle “DMMG” rhodder “DMIG”;

(c)yn y rhes ar gyfer “rheoliad 28”, yn lle’r cofnod cyfatebol yn yr ail golofn rhodder “Mewnforio cynnyrch nad yw’n cydymffurfio â gofynion mewnforio’r Rheoliadau hyn a gweithdrefnau’r Tollau a’r gweithdrefnau storio ar gyfer mewnforion yn Neddf Trethiant (Masnach Drawsffiniol) 2018”;

(d)yn yr adran ar gyfer Atodlen 2, hepgorer y rhesi ar gyfer “paragraff 5(1)” hyd at “paragraff 7” (gan gynnwys y cofnodion cyfatebol yn yr ail golofn);

(e)hepgorer y rhes ar gyfer “Atodlen 3 paragraff 4(3)” (gan gynnwys y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn).

30.  Yn Atodlen 2—

(a)yn lle’r cyfeirnod cwr tudalen, rhodder “Rheoliad 25”;

(b)hepgorer Rhan 1;

(c)yn Rhan 2, hepgorer paragraff 10.

31.  Yn Atodlen 3—

(a)yn lle’r cyfeirnod cwr tudalen rhodder “Rheoliad 26(1)”;

(b)ym mharagraff 2, yn lle “o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn” hyd at y diwedd rhodder “o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2122”;

(c)ym mharagraff 4—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “Reoliad (EU) Rhif 142/2011” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011”;

(ii)hepgorer is-baragraff (2);

(d)yn lle paragraff 5 rhodder—

Achos 4: Llwythi a gliriwyd ym Mhrydain Fawr

5.  Llwythi o anifeiliaid a chynhyrchion o drydydd gwledydd a gyflwynwyd i unrhyw safle rheoli ar y ffin ym Mhrydain Fawr ac a gliriwyd ar gyfer cylchrediad rhydd.;

(e)ym mharagraff 6(2)(ch), yn lle “mewn iaith swyddogol Aelod-wladwriaeth” rhodder “mewn Saesneg (p’un a yw’n ymddangos mewn unrhyw iaith arall ai peidio)”.

32.  Ar ôl Atodlen 4 mewnosoder—

Rheoliad 26(2)

ATODLEN 5Cymhwyso Rhan 3, ei rhanddirymu a’u haddasu, mewn perthynas â thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i drefniadau mewnforio trosiannol arbennig

RHAN 1Rhagarweiniol
Cymhwyso

1.  Mae’r Atodlen hon yn gymwys i gynhyrchion ac anifeiliaid byw sy’n tarddu o’r canlynol—

(a)tiriogaeth sy’n ddarostyngedig i drefniadau mewnforio trosiannol arbennig; neu

(b)trydedd wlad heblaw tiriogaeth sy’n ddarostyngedig i drefniadau mewnforio trosiannol arbennig lle bo’r cynhyrchion neu’r anifeiliaid byw dan sylw, cyn cael eu mewnforio i Gymru—

(i)wedi eu cyflwyno i safle rheoli ar y ffin mewn Aelod-wladwriaeth a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru;

(ii)â DMIG yn cyd-fynd â hwy sydd wedi ei llenwi er boddhad yr awdurdod perthnasol; a

(iii)wedi eu rhaghysbysu.

Dehongli

2.  At ddibenion yr Atodlen hon—

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod heblaw dydd Sadwrn neu ddydd Sul nad yw’n ddydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ŵyl banc o dan adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(6);

ystyr “nwyddau perthnasol” (“relevant goods”) yw cynhyrchion ac anifeiliaid byw sy’n dod o fewn paragraff 1;

ystyr “rhaghysbysu” (“pre-notified”) yw hysbysu gan ddefnyddio’r system rheoli gwybodaeth gyfrifiadurol briodol;

ystyr “tiriogaeth sy’n ddarostyngedig i drefniadau mewnforio trosiannol arbennig” (“territory subject to special transitional import arrangements”) yw—

(a)

un o Aelod-wladwriaethau’r UE;

(b)

Ynysoedd Ffaröe;

(c)

Yr Ynys Las;

(d)

Gwlad yr Iâ;

(e)

Liechtenstein;

(f)

Norwy;

(g)

Y Swistir.

Cymhwyso Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn, ei rhanddirymu a’u haddasu

3.  Mae darpariaethau Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i nwyddau perthnasol gyda’r rhanddirymiadau a’r addasiadau a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen hon.

RHAN 2Rhanddirymu Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn a’i haddasu
Rhanddirymu rheoliad 13: lle mewnforio

4.(1) Nid yw rheoliad 13 yn gymwys i nwyddau perthnasol.

(2) Nid yw’n ofynnol i nwyddau perthnasol ddod i Gymru drwy safle rheoli ar y ffin a chaniateir iddynt ddod i Gymru drwy unrhyw bwynt mynediad.

Rhanddirymu rheoliad 14: amseru hysbysiad mewnforio

5.(1) Nid yw rheoliad 14 yn gymwys i nwyddau perthnasol.

(2) O 1 Ionawr 2021 ymlaen, rhaid i nwyddau perthnasol o’r disgrifiadau a ganlyn gael eu rhaghysbysu o leiaf un diwrnod gwaith cyn yr amser y disgwylir iddynt gyrraedd pwynt mynediad i Gymru—

(a)anifeiliaid byw;

(b)cynhyrchion eginol;

(c)sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy’n ffurfio—

(i)deunydd Categori 1;

(ii)deunydd Categori 2;

(iii)protein anifeiliaid wedi ei brosesu sy’n deillio o ddeunydd Categori 3,

(iv)ond pan all y mewnforiwr ddarparu tystiolaeth o gyfyngiad logistaidd sy’n atal hysbysiad o’r fath, caniateir i’r gofyniad hwnnw gael ei fodloni drwy hysbysu’r amser y disgwylir iddynt gyrraedd o leiaf bedair awr ymlaen llaw.

(3) O 1 Ebrill 2021 ymlaen, rhaid i nwyddau perthnasol sy’n cynnwys cynhyrchion sy’n tarddu o anifeiliaid gael eu rhaghysbysu o leiaf un diwrnod gwaith cyn yr amser y disgwylir iddynt gyrraedd pwynt mynediad i Gymru; ond pan all y mewnforiwr ddarparu tystiolaeth o gyfyngiad logistaidd sy’n atal hysbysiad o’r fath, caniateir i’r gofyniad hwnnw gael ei fodloni drwy hysbysu’r amser y disgwylir iddynt gyrraedd o leiaf bedair awr ymlaen llaw.

(4) At ddibenion y paragraff hwn—

(a)mae i “deunydd Categori 1”, “deunydd Categori 2” a “deunydd Categori 3” yr ystyr a roddir i “Category 1 material”, “Category 2 material” a “Category 3 material” yn Erthyglau 8 i 10 o Reoliad (EC) Rhif 1069/2009;

(b)mae i “protein anifeiliaid wedi ei brosesu” yr ystyr a roddir i “processed animal protein” ym mhwynt 5 o Atodiad 1 i Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011.

Rhanddirymu rheoliad 15: gweithdrefn wrth fewnforio

6.(1) Nid yw rheoliad 15 yn gymwys i nwyddau perthnasol ond—

(a)rhaid i reolaethau swyddogol ddigwydd yn y gyrchfan a nodir yn y dogfennau mewnforio cysylltiedig perthnasol ar hap neu ar sail y risg, ac yn unol â rheoliad 29 a 35;

(a)o 1 Ionawr 2021 ymlaen, o ran nwyddau perthnasol sy’n cynnwys—

(i)anifeiliaid byw neu gynhyrchion eginol ni chaniateir eu mewnforio i Gymru oni bai bod y dystysgrif iechyd briodol ar gyfer mewnforion o drydedd wlad yn cyd-fynd â hwy, ar y ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol;

(ii)cynhyrchion sy’n tarddu o anifeiliaid a sgil-gynhyrchion anifeiliaid rhaid iddynt gael dogfennau masnachol perthnasol yn cyd-fynd â hwy sydd o leiaf yn nodi’r fangre wreiddiol a’r gyrchfan ac sy’n cynnwys disgrifiad o’r cynnyrch a swm y cynnyrch; ac

(c)o 1 Ebrill 2021 ymlaen, ni chaniateir mewnforio nwyddau perthnasol sy’n cynnwys cynhyrchion sy’n tarddu o anifeiliaid i Gymru oni bai bod y dystysgrif iechyd briodol ar gyfer mewnforion o drydedd gwlad yn cyd-fynd â hwy, ar y ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol.

(2) Rhaid i’r dogfennau a ddisgrifir yn is-baragraff (1)(b) ac (c) gyd-fynd â’r llwyth o nwyddau perthnasol o dan sylw i’w gyrchfan.

Rhanddirymu rheoliad 19(a): llwythi heb eu gwirio

7.  Nid yw rheoliad 19(a) yn gymwys i nwyddau perthnasol sydd wedi dod i Gymru drwy bwynt mynediad heblaw safle rheoli ar y ffin yn unol â’r Atodlen hon.

Addasu rheoliad 20: gweithredu yn dilyn methiant gwiriadau neu yn dilyn cipio – cynhyrchion

8.  Mae rheoliad 20 yn gymwys fel pe bai—

(a)ym mharagraff (1), “neu, yn achos nwyddau perthnasol, nad yw’n cydymffurfio â darpariaethau Atodlen 5” wedi ei fewnosod ar ôl “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;

(b)ym mharagraff (3)(b)—

(i)“o’r un safle rheoli ar y ffin” wedi ei hepgor;

(ii)“Cymru” wedi ei roi yn lle “y safle rheoli ar y ffin”.

Addasu rheoliad 23: gweithredu yn dilyn methiant gwiriadau neu yn dilyn cipio – anifeiliaid

9.  Mae rheoliad 23 yn gymwys fel pe bai, ym mharagraff (1), “neu, yn achos nwyddau perthnasol, nad yw’n cydymffurfio â darpariaethau Atodlen 5” wedi ei fewnosod ar ôl “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”.

Rhanddirymu rheoliad 27: ailfewnforio anifeiliaid a chynhyrchion

10.(1) Nid yw rheoliad 27 yn gymwys o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-baragraff .

(2) Nid yw’n ofynnol i gynhyrchion ac anifeiliaid byw sy’n tarddu o Gymru ac y gwrthodwyd iddynt fynd i’r Undeb Ewropeaidd mewn un o safleoedd rheoli’r Undeb Ewropeaidd ar y ffin ddod i mewn i Gymru eto drwy safle rheoli ar y ffin—

(a)yn achos cynhyrchion ac anifeiliaid byw nad ydynt yn peri risg uchel, os oes hysbysiad wedi ei roi i Weinidogion Cymru neu i’r Asiantaeth Safonau Bwyd eu bod yn dod i mewn i Gymru eto;

(b)yn achos cynhyrchion ac anifeiliaid byw sydd yn peri risg uchel, os yw Gweinidogion Cymru neu’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi rhoi awdurdod mewn ysgrifen iddynt ddod i mewn eto cyn eu bod i fod i ddod i mewn eto.

(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “risg uchel” yw yr amheuir bod y cynhyrchion neu’r anifeiliaid byw yn peri risg ddifrifol i iechyd pobl neu anifeiliaid neu i les anifeiliaid.

RHAN 3Rheolau ychwanegol mewn perthynas â nwyddau perthnasol sy’n anifeiliaid byw
Anifeiliaid byw

11.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â nwyddau perthnasol sy’n anifeiliaid byw.

(2) Rhaid i’r anifeiliaid byw barhau i gael eu symud dan gyfyngiadau yn y gyrchfan a nodir yn y dystysgrif iechyd hyd nes y bydd y dystysgrif iechyd wedi ei chwblhau ac wedi ei llofnodi wedi cael ei huwchlwytho i’r system rheoli gwybodaeth gyfrifiadurol briodol.

(3) Rhaid i’r person sy’n gyfrifol am gludo’r anifeiliaid byw i’r gyrchfan fod â’r awdurdod priodol ganddo yn unol â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005.

RHAN 3Diwygiadau canlyniadol i offerynnau statudol eraill

Diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003

33.  Yng Ngorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003(7), ym mharagraff 7 o Atodlen 1, hepgorer “a gymeradwywyd o dan Ran 1 o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011”.

Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

34.  Yn Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(8), hepgorer rheoliad 3.

Diwygio Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

35.  Yn Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(9), hepgorer rheoliad 3.

Diwygio Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019

36.  Yn Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019(10), hepgorer rheoliad 2.

Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020

37.  Yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020(11), hepgorer rheoliad 29.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

17 Rhagfyr 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i’r fasnach mewn anifeiliaid a chynhyrchion perthynol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2018 p. 16. Diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan baragraff 53 o Ran 2 o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1).

(2)

Diwygiwyd paragraff 4 o Atodlen 2 gan adran 27(7)(a) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1).

(3)

Mae’r cyfeiriad yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources