Search Legislation

Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

32.  Ar ôl Atodlen 4 mewnosoder—

Rheoliad 26(2)

ATODLEN 5Cymhwyso Rhan 3, ei rhanddirymu a’u haddasu, mewn perthynas â thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i drefniadau mewnforio trosiannol arbennig

RHAN 1Rhagarweiniol
Cymhwyso

1.  Mae’r Atodlen hon yn gymwys i gynhyrchion ac anifeiliaid byw sy’n tarddu o’r canlynol—

(a)tiriogaeth sy’n ddarostyngedig i drefniadau mewnforio trosiannol arbennig; neu

(b)trydedd wlad heblaw tiriogaeth sy’n ddarostyngedig i drefniadau mewnforio trosiannol arbennig lle bo’r cynhyrchion neu’r anifeiliaid byw dan sylw, cyn cael eu mewnforio i Gymru—

(i)wedi eu cyflwyno i safle rheoli ar y ffin mewn Aelod-wladwriaeth a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru;

(ii)â DMIG yn cyd-fynd â hwy sydd wedi ei llenwi er boddhad yr awdurdod perthnasol; a

(iii)wedi eu rhaghysbysu.

Dehongli

2.  At ddibenion yr Atodlen hon—

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod heblaw dydd Sadwrn neu ddydd Sul nad yw’n ddydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ŵyl banc o dan adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(1);

ystyr “nwyddau perthnasol” (“relevant goods”) yw cynhyrchion ac anifeiliaid byw sy’n dod o fewn paragraff 1;

ystyr “rhaghysbysu” (“pre-notified”) yw hysbysu gan ddefnyddio’r system rheoli gwybodaeth gyfrifiadurol briodol;

ystyr “tiriogaeth sy’n ddarostyngedig i drefniadau mewnforio trosiannol arbennig” (“territory subject to special transitional import arrangements”) yw—

(a)

un o Aelod-wladwriaethau’r UE;

(b)

Ynysoedd Ffaröe;

(c)

Yr Ynys Las;

(d)

Gwlad yr Iâ;

(e)

Liechtenstein;

(f)

Norwy;

(g)

Y Swistir.

Cymhwyso Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn, ei rhanddirymu a’u haddasu

3.  Mae darpariaethau Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i nwyddau perthnasol gyda’r rhanddirymiadau a’r addasiadau a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen hon.

RHAN 2Rhanddirymu Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn a’i haddasu
Rhanddirymu rheoliad 13: lle mewnforio

4.(1) Nid yw rheoliad 13 yn gymwys i nwyddau perthnasol.

(2) Nid yw’n ofynnol i nwyddau perthnasol ddod i Gymru drwy safle rheoli ar y ffin a chaniateir iddynt ddod i Gymru drwy unrhyw bwynt mynediad.

Rhanddirymu rheoliad 14: amseru hysbysiad mewnforio

5.(1) Nid yw rheoliad 14 yn gymwys i nwyddau perthnasol.

(2) O 1 Ionawr 2021 ymlaen, rhaid i nwyddau perthnasol o’r disgrifiadau a ganlyn gael eu rhaghysbysu o leiaf un diwrnod gwaith cyn yr amser y disgwylir iddynt gyrraedd pwynt mynediad i Gymru—

(a)anifeiliaid byw;

(b)cynhyrchion eginol;

(c)sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy’n ffurfio—

(i)deunydd Categori 1;

(ii)deunydd Categori 2;

(iii)protein anifeiliaid wedi ei brosesu sy’n deillio o ddeunydd Categori 3,

(iv)ond pan all y mewnforiwr ddarparu tystiolaeth o gyfyngiad logistaidd sy’n atal hysbysiad o’r fath, caniateir i’r gofyniad hwnnw gael ei fodloni drwy hysbysu’r amser y disgwylir iddynt gyrraedd o leiaf bedair awr ymlaen llaw.

(3) O 1 Ebrill 2021 ymlaen, rhaid i nwyddau perthnasol sy’n cynnwys cynhyrchion sy’n tarddu o anifeiliaid gael eu rhaghysbysu o leiaf un diwrnod gwaith cyn yr amser y disgwylir iddynt gyrraedd pwynt mynediad i Gymru; ond pan all y mewnforiwr ddarparu tystiolaeth o gyfyngiad logistaidd sy’n atal hysbysiad o’r fath, caniateir i’r gofyniad hwnnw gael ei fodloni drwy hysbysu’r amser y disgwylir iddynt gyrraedd o leiaf bedair awr ymlaen llaw.

(4) At ddibenion y paragraff hwn—

(a)mae i “deunydd Categori 1”, “deunydd Categori 2” a “deunydd Categori 3” yr ystyr a roddir i “Category 1 material”, “Category 2 material” a “Category 3 material” yn Erthyglau 8 i 10 o Reoliad (EC) Rhif 1069/2009;

(b)mae i “protein anifeiliaid wedi ei brosesu” yr ystyr a roddir i “processed animal protein” ym mhwynt 5 o Atodiad 1 i Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011.

Rhanddirymu rheoliad 15: gweithdrefn wrth fewnforio

6.(1) Nid yw rheoliad 15 yn gymwys i nwyddau perthnasol ond—

(a)rhaid i reolaethau swyddogol ddigwydd yn y gyrchfan a nodir yn y dogfennau mewnforio cysylltiedig perthnasol ar hap neu ar sail y risg, ac yn unol â rheoliad 29 a 35;

(a)o 1 Ionawr 2021 ymlaen, o ran nwyddau perthnasol sy’n cynnwys—

(i)anifeiliaid byw neu gynhyrchion eginol ni chaniateir eu mewnforio i Gymru oni bai bod y dystysgrif iechyd briodol ar gyfer mewnforion o drydedd wlad yn cyd-fynd â hwy, ar y ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol;

(ii)cynhyrchion sy’n tarddu o anifeiliaid a sgil-gynhyrchion anifeiliaid rhaid iddynt gael dogfennau masnachol perthnasol yn cyd-fynd â hwy sydd o leiaf yn nodi’r fangre wreiddiol a’r gyrchfan ac sy’n cynnwys disgrifiad o’r cynnyrch a swm y cynnyrch; ac

(c)o 1 Ebrill 2021 ymlaen, ni chaniateir mewnforio nwyddau perthnasol sy’n cynnwys cynhyrchion sy’n tarddu o anifeiliaid i Gymru oni bai bod y dystysgrif iechyd briodol ar gyfer mewnforion o drydedd gwlad yn cyd-fynd â hwy, ar y ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol.

(2) Rhaid i’r dogfennau a ddisgrifir yn is-baragraff (1)(b) ac (c) gyd-fynd â’r llwyth o nwyddau perthnasol o dan sylw i’w gyrchfan.

Rhanddirymu rheoliad 19(a): llwythi heb eu gwirio

7.  Nid yw rheoliad 19(a) yn gymwys i nwyddau perthnasol sydd wedi dod i Gymru drwy bwynt mynediad heblaw safle rheoli ar y ffin yn unol â’r Atodlen hon.

Addasu rheoliad 20: gweithredu yn dilyn methiant gwiriadau neu yn dilyn cipio – cynhyrchion

8.  Mae rheoliad 20 yn gymwys fel pe bai—

(a)ym mharagraff (1), “neu, yn achos nwyddau perthnasol, nad yw’n cydymffurfio â darpariaethau Atodlen 5” wedi ei fewnosod ar ôl “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”;

(b)ym mharagraff (3)(b)—

(i)“o’r un safle rheoli ar y ffin” wedi ei hepgor;

(ii)“Cymru” wedi ei roi yn lle “y safle rheoli ar y ffin”.

Addasu rheoliad 23: gweithredu yn dilyn methiant gwiriadau neu yn dilyn cipio – anifeiliaid

9.  Mae rheoliad 23 yn gymwys fel pe bai, ym mharagraff (1), “neu, yn achos nwyddau perthnasol, nad yw’n cydymffurfio â darpariaethau Atodlen 5” wedi ei fewnosod ar ôl “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”.

Rhanddirymu rheoliad 27: ailfewnforio anifeiliaid a chynhyrchion

10.(1) Nid yw rheoliad 27 yn gymwys o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-baragraff .

(2) Nid yw’n ofynnol i gynhyrchion ac anifeiliaid byw sy’n tarddu o Gymru ac y gwrthodwyd iddynt fynd i’r Undeb Ewropeaidd mewn un o safleoedd rheoli’r Undeb Ewropeaidd ar y ffin ddod i mewn i Gymru eto drwy safle rheoli ar y ffin—

(a)yn achos cynhyrchion ac anifeiliaid byw nad ydynt yn peri risg uchel, os oes hysbysiad wedi ei roi i Weinidogion Cymru neu i’r Asiantaeth Safonau Bwyd eu bod yn dod i mewn i Gymru eto;

(b)yn achos cynhyrchion ac anifeiliaid byw sydd yn peri risg uchel, os yw Gweinidogion Cymru neu’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi rhoi awdurdod mewn ysgrifen iddynt ddod i mewn eto cyn eu bod i fod i ddod i mewn eto.

(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “risg uchel” yw yr amheuir bod y cynhyrchion neu’r anifeiliaid byw yn peri risg ddifrifol i iechyd pobl neu anifeiliaid neu i les anifeiliaid.

RHAN 3Rheolau ychwanegol mewn perthynas â nwyddau perthnasol sy’n anifeiliaid byw
Anifeiliaid byw

11.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â nwyddau perthnasol sy’n anifeiliaid byw.

(2) Rhaid i’r anifeiliaid byw barhau i gael eu symud dan gyfyngiadau yn y gyrchfan a nodir yn y dystysgrif iechyd hyd nes y bydd y dystysgrif iechyd wedi ei chwblhau ac wedi ei llofnodi wedi cael ei huwchlwytho i’r system rheoli gwybodaeth gyfrifiadurol briodol.

(3) Rhaid i’r person sy’n gyfrifol am gludo’r anifeiliaid byw i’r gyrchfan fod â’r awdurdod priodol ganddo yn unol â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources