Search Legislation

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1639 (Cy. 344)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Amaethyddiaeth, Cymru

Anifeiliaid, Cymru

Iechyd Planhigion, Cymru

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

22 Rhagfyr 2020

Gosodwyd gerbon Senedd Cymru

29 Rhagfyr 2020

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, fod angen gwneud y Rheoliadau hyn heb osod drafft o’r offeryn gerbron Senedd Cymru, na chymeradwyo’r drafft hwnnw drwy benderfyniad ganddi.

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

RHAN 2Diwygio is-ddeddfwriaeth

Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

2.—(1Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 11 mewnosoder—

Amodau Mewnforio Arbennig

11A.(1) Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau osod amodau mewnforio arbennig mewn cysylltiad â mewnforion o drydydd gwledydd o gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl, gan roi sylw i’r sefyllfa o ran iechyd anifeiliaid yn y drydedd wlad neu yn y trydydd gwledydd dan sylw, a chânt at y diben hwnnw ddiwygio, addasu neu ddirymu unrhyw fân ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir a wnaed o dan Erthygl 8(4) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC(3).

(2) Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan y paragraff hwn—

(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;

(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol; ac

(c)yn cynnwys pŵer i wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, canlyniadol, darfodol, trosiannol neu ddarpariaeth arbed y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn briodol.

(3) Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wnaed o dan y paragraff hwn yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020

3.—(1Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn lle’r diffiniad o “Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder—

ystyr “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol” (“the Official Controls Regulations”) yw Rheoliad yr UE a’r Rheoliadau Gweithredu, y Rheoliadau Dirprwyedig a’r offerynnau statudol a wnaed oddi tano;;

(b)yn y diffiniad o “swyddog gorfodi”, yn lle “orfodi Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “orfodi’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”;

(c)yn y diffiniad o “deddfwriaeth berthnasol”, yn lle “Ewropeaidd a domestig” rhodder “uniongyrchol yr UE a ddargedwir a deddfwriaeth ddomestig”.

(3Yn rheoliad 4, hepgorer “yn y Deyrnas Unedig ac mewn Aelod-wladwriaethau eraill”.

(4Yn rheoliadau 4, 5(1), 9(3), 11(1), 12(1) a 13, ym mhob lle y maent yn digwydd, yn lle “a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “a’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, yn lle “â Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “â’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, yn lle “neu Reoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “neu’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol” ac yn lle “yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “yn y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”.

(5Yn rheoliad 9—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)hepgorer “o Aelod-wladwriaeth arall”;

(ii)yn is-baragraff (a), hepgorer y gair “gwlad”;

(b)hepgorer paragraff (2).

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

22 Rhagfyr 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ran gweithrediad sy’n ymwneud â rheolaethau swyddogol i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy. 252)) a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/44 (Cy. 5)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2018 p. 16. Diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan baragraff 53 o Ran 2 o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1).

(2)

O.S. 2011/2379 (Cy. 252), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

OJ Rhif L 18, 23.1.2003, t. 11 fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/20/EU (OJ Rhif L 158, 10.6.2013, t. 234).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources