- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020, RHAN 9.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
27.—(1) Yn y Rhan hon—
mae “deunydd pecynnu pren” (“wood packaging material”) yn cynnwys unrhyw bren neu wrthrych arall y mae’n ofynnol ei drin a’i farcio yn unol ag Atodiad 1 i SRFFf 15;
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le, gan gynnwys unrhyw dir, adeilad, cerbyd, llestr, awyren, hofrenfad, cynhwysydd llwythi, wagen reilffordd, trelar neu adeilad neu adeiledd symudol;
ystyr “nod SRFFf 15” (“ISPM 15 mark”) yw’r nod y cyfeirir ato yn Erthygl 96(1) [F1o’r Rheoliad Iechyd Planhigion], y gellir ei osod ar ddeunydd pecynnu pren i dystio ei fod wedi ei drin yn unol ag Atodiad 1 i SRFFf 15.
(2) At ddibenion rheoliadau 32 a 33, mae person yn gosod nod SRFFf 15 ar ddeunydd pecynnu pren “yn anghywir” os yw’r person yn gosod y nod heblaw yn y modd a bennir yn Erthygl 96(1) [F2o’r Rheoliad Iechyd Planhigion], fel y’i darllenir gydag Erthygl 97(1) [F2o’r Rheoliad Iechyd Planhigion].
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 27(1) wedi ei rhodder (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(2)
F2Gair yn rhl. 27(2) wedi ei rhodder (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 27 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
28.—(1) Caiff arolygydd iechyd planhigion fynd i mewn i unrhyw fangre ar adeg resymol at ddiben—
(a)cyflawni rheolaethau swyddogol i ddilysu—
(i)bod gweithredwr yn cydymffurfio â’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol,
(ii)bod gweithredwr proffesiynol yn cydymffurfio [F3â’r Rheoliad Iechyd Planhigion],
(iii)bod person yn cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, F4...
(iv)bod unrhyw blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun un [F5o’r rheolau iechyd planhigion yn cydymffurfio â’r rheol honno]; [F6neu]
[F7(v)bod gweithredwr awdurdodedig, gweithredwr proffesiynol neu weithredwr cofrestredig yn cydymffurfio â Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023]
(b)cyflawni gweithgareddau swyddogol eraill sydd i’w cyflawni gan yr awdurdod priodol yn unol â’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, y Rheoliad Iechyd Planhigion [F8, Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023] neu’r Rheoliadau hyn;
(c)gorfodi’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, y Rheoliad Iechyd Planhigion [F9, Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023] neu’r Rheoliadau hyn;
(d)dilysu gwybodaeth a roddwyd gan berson mewn cysylltiad â chais am gofrestriad neu am awdurdodiad neu drwydded a roddwyd, neu sydd i’w rhoi, o dan y Rheoliadau hyn;
(e)canfod a ydys yn cydymffurfio neu a gydymffurfiwyd ag amod mewn awdurdodiad neu drwydded a roddwyd gan awdurdod priodol o dan y Rheoliadau hyn neu at ddiben [F10y Rheoliad Iechyd Planhigion] neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.
(2) Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i arolygydd iechyd planhigion ddangos tystiolaeth o’i awdurdod cyn mynd i mewn i unrhyw fangre at y dibenion a bennir ym mharagraff (1).
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat oni bai bod 24 awr o rybudd wedi ei roi i’r meddiannydd.
(4) Caiff arolygydd iechyd planhigion sy’n mynd i mewn i fangre at ddiben a bennir ym mharagraff (1) neu o dan warant a ddyroddir gan ynad heddwch—
(a)archwilio, marcio neu dynnu ffotograff o unrhyw ran o’r fangre, unrhyw wrthrych yn y fangre neu unrhyw beth sydd wedi ei atodi i’r fangre neu fel arall yn ffurfio rhan ohoni;
(b)yn achos mangre sy’n cael ei defnyddio i weithgynhyrchu deunydd pecynnu pren, archwilio neu brofi unrhyw gyfleuster trin, peiriannau, offer neu gyfarpar arall a ddefnyddir i weithgynhyrchu deunydd pecynnu pren neu arsylwi a monitro’r broses o weithgynhyrchu deunydd pecynnu pren;
(c)cymryd samplau—
(i)o unrhyw bla planhigion neu oddi arno,
(ii)o unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall neu oddi arnynt, neu
(iii)o unrhyw gynhwysydd, pecyn neu wrthrych sydd wedi bod neu a allai fod wedi bod mewn cysylltiad â phla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall neu oddi ar y rhain;
(d)agor unrhyw gynhwysydd neu becyn neu ei gwneud yn ofynnol i berchennog neu berson sydd â gofal am unrhyw gynhwysydd neu becyn agor y cynhwysydd neu’r pecyn;
(e)arolygu neu wneud copïau o unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cânt eu dal) sy’n ymwneud â chynhyrchu unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall, neu ag unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud â hwy.
(5) Caiff arolygydd iechyd planhigion ddinistrio neu waredu fel arall unrhyw sampl a gymerir o dan y rheoliad hwn pan na fydd angen y sampl mwyach.
(6) Caiff arolygydd iechyd planhigion—
[F11(a)dod ag unrhyw bersonau y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol; a]
(b)dod ag unrhyw offer a cherbydau i’r fangre y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol.
F12(7) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(8) Caiff person sy’n dod gydag arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff (6)(a)F13...—
(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb arolygydd iechyd planhigion,
(b)dod ag unrhyw offer neu gerbydau i’r fangre y mae’r person o’r farn eu bod yn angenrheidiol, ac
(c)cyflawni gwaith yn y fangre mewn modd a gyfarwyddir gan arolygydd iechyd planhigion.
Diwygiadau Testunol
F3Gair yn rhl. 28(1)(a)(ii) wedi eu hamnewid (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(3)(a)(i)(aa)
F4Gair yn rhl. 28(1)(a)(iii) wedi ei hepgor (1.10.2023) yn rhinwedd The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(3)(a)(i)
F5Geiriau yn rhl. 28(1)(a)(iv) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(3)(a)(i)(bb)
F6Gair yn rhl. 28(1)(a)(iv) wedi ei fewnosod (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(3)(a)(ii)
F7Rhl. 28(1)(a)(v) wedi ei fewnosod (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(3)(a)(iii)
F8Geiriau yn rhl. 28(1)(b) wedi eu mewnosod (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(3)(b)
F9Geiriau yn rhl. 28(1)(c) wedi eu mewnosod (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(3)(c)
F10Gair yn rhl. 28(1)(e) wedi eu hamnewid (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(3)(a)(ii)
F11Rhl. 28(6)(a) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(3)(b)
F12Rhl. 28(7) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(3)(c)
F13Gair yn rhl. 28(8) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(3)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 28 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
29.—(1) Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i arolygydd fynd i fangre o dan reoliad 16(1), 28(1) neu 31(1), gan ddefnyddio grym rhesymol os oes ei angen, os yw’r ynad wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—
(a)bod sail resymol dros fynd i’r fangre honno, a
(b)bod unrhyw un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni.
(2) Dyma’r amodau—
(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd,
(b)y byddai gofyn am gael mynediad i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant, yn mynd yn groes i’r amcan o fynd i’r fangre,
(c)bod angen mynd i’r fangre ar fyrder, neu
(d)bod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro.
(3) Mae gwarant yn ddilys am un mis.
(4) Rhaid i arolygydd sy’n mynd i unrhyw fangre nad yw wedi ei meddiannu ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr oedd cyn iddo fynd iddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 29 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
30.—(1) Caiff arolygydd iechyd planhigion neu unrhyw swyddog arall i awdurdod priodol drwy hysbysiad ysgrifenedig ei gwneud yn ofynnol i berson priodol roi i’r arolygydd neu’r swyddog, o fewn yr amser a bennir yn yr hysbysiad, unrhyw wybodaeth a all fod gan y person ynghylch—-
(a)y planhigion a dyfwyd neu’r cynhyrchion a storiwyd unrhyw bryd yn y fangre a bennir yn yr hysbysiad,
(b)unrhyw bla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b), neu
(c)y personau sydd wedi cael, neu sy’n debygol o fod wedi cael, unrhyw bla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b) yn eu meddiant neu o dan eu gofal.
(2) Rhaid i’r amser y mae’n ofynnol i’r wybodaeth gael ei rhoi i’r arolygydd neu’r swyddog arall o’i fewn fod yn rhesymol.
(3) Rhaid i berson priodol ddangos unrhyw awdurdodiad, datganiad swyddogol, tystysgrif, pasbort planhigion, [F14label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon,] cofnod, anfoneb neu ddogfen arall sy’n ymwneud â phla planhigion neu unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a bennir yn yr hysbysiad i’w harchwilio gan yr arolygydd neu’r swyddog arall.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “person priodol” yw—
(a)mewn perthynas ag unrhyw fangre a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (1), person sy’n berchennog, yn feddiannydd neu’n berson arall sydd â gofal am y fangre,
(b)person y mae neu y bu ganddo feddiant o’r canlynol neu ofal amdanynt, neu y mae’n rhesymol i’r arolygydd neu’r swyddog amau bod ganddo, neu y bu ganddo feddiant ohonynt neu ofal amdanynt—
(i)pla planhigion a reolir,
(ii)unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a oedd yn cario pla planhigion a reolir neu a oedd wedi ei heigio neu wedi ei heintio gan bla planhigion a reolir, neu
(iii)unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y mae’r arolygydd neu’r swyddog yn gwybod neu’n amau eu bod wedi eu mewnforio i Gymru neu wedi eu hallforio ohoni, neu
(c)person sydd, fel arwerthwr, gwerthwr neu fel arall, wedi gwerthu pla planhigion a reolir, wedi ei gynnig ar werth neu wedi ei waredu fel arall.
Diwygiadau Testunol
F14Geiriau yn rhl. 30(3) wedi eu mewnosod (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 30 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
31.—(1) Os bydd person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir i’r person hwnnw o dan y Rheoliadau hyn, caiff arolygydd iechyd planhigion fynd i unrhyw fangre yr effeithir arni ar bob adeg resymol i gymryd neu beri cymryd unrhyw gamau y mae’r arolygydd iechyd planhigion o’r farn eu bod yn angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r hysbysiad neu i unioni canlyniadau’r methiant i’w cyflawni.
(2) Rhaid i arolygydd iechyd planhigion sy’n gweithredu o dan baragraff (1) ddangos tystiolaeth o’i awdurdod i weithredu, os gofynnir iddo wneud hynny.
[F15(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys—
(a)i unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat oni bai bod 24 awr o rybudd wedi ei roi i’r meddiannydd, neu
(b)mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad a roddir o dan Atodlen 4A.]
(4) Caiff arolygydd iechyd planhigion ddod ag unrhyw bersonau F16... F17... gydag ef a chaiff ddod ag unrhyw offer a cherbydau i’r fangre y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol.
(5) Caiff person sy’n dod gydag arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff (4)—
(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb arolygydd iechyd planhigion,
(b)dod ag unrhyw ofer neu gerbydau i’r fangre y mae’r person o’r farn eu bod yn angenrheidiol, ac
(c)cyflawni gwaith yn y fangre mewn modd a gyfarwyddir gan arolygydd iechyd planhigion.
Diwygiadau Testunol
F15Rhl. 31(3) wedi ei amnewid (15.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1303), rhlau. 1, 2(2)
F16Gair yn rhl. 31(4) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(4)(a)
F17Geiriau yn rhl. 31(4) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 31 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
32. Pan fo arolygydd yn gwybod, neu pan fo ganddo sail resymol dros amau, bod y nod SRFFf 15 wedi ei osod yn anghywir ar ddeunydd pecynnu pren, caiff arolygydd iechyd planhigion dynnu’r nod neu, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i berson arall ei dynnu.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 32 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
33.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd iechyd planhigion yn gwybod, neu pan fo ganddo sail resymol dros amau, bod person wedi gosod yn anghywir, neu’n bwriadu gosod yn anghywir, y nod SRFFf 15 ar ddeunydd pecynnu pren mewn unrhyw fangre yng Nghymru.
(2) Caiff yr arolygydd iechyd planhigion ymafael mewn unrhyw stensil, templed neu eitem arall o offer y mae’n ymddangos i’r arolygydd y gellid eu defnyddio i osod y nod SRFFf 15, oddi wrth y person hwnnw neu o’r fangre honno a’u cadw.
(3) Os nad yw’r arolygydd iechyd planhigion o’r farn ei bod yn ymarferol, am y tro, i’r arolygydd ymafael mewn unrhyw eitem a’i symud ymaith, caiff yr arolygydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson yn y fangre sicrhau na chaiff yr eitem ei symud ymaith ac nad ymyrrir â’r eitem fel arall nes y gall yr arolygydd ymafael ynddi a’i symud ymaith.
(4) Rhaid i’r arolygydd iechyd planhigion wneud ymdrechion rhesymol i roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person priodol—
(a)yn nodi’r hyn yr ymafaelwyd ynddo a’r rheswm dros ymafael ynddo;
(b)yn esbonio effaith paragraffau (5) i (12).
(5) Caniateir i unrhyw eitem yr ymafaelir ynddi o dan baragraff (2) gael ei chadw gan Weinidogion Cymru am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol o dan yr holl amgylchiadau, ac yn benodol at ddibenion achos cyfreithiol mewn perthynas â throsedd a bennir yn rheoliad 38(1).
(6) Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais i’r llys ynadon am fforffedu unrhyw eitem a gedwir o dan baragraff (5).
(7) Pan wneir cais o dan baragraff (6), caiff y llys orchymyn i’r eitem gael ei fforffedu os yw’r llys wedi ei fodloni—
(a)bod trosedd a bennir yn rheoliad 38(1) wedi ei chyflawni mewn cysylltiad â hi, neu
(b)ei bod wedi ei defnyddio wrth gyflawni trosedd o’r fath.
(8) Os yw’r llys yn gorchymyn i’r eitem gael ei fforffedu, caiff Gweinidogion Cymru ei gwaredu ym mha ffordd bynnag y credant ei bod yn briodol.
(9) Os nad yw’r llys yn gorchymyn i’r eitem gael ei fforffedu, rhaid iddo orchymyn i’r eitem gael ei dychwelyd i’r person priodol.
(10) Caiff Gweinidogion Cymru adennill oddi ar y person priodol yr holl gostau rhesymol yr aed iddynt gan Weinidogion Cymru at ddibenion sicrhau bod eitem yn cael ei fforffedu o dan baragraffau (6) i (8).
(11) Pan awdurdodwyd cadw unrhyw eitem o dan y rheoliad hwn, ond nad yw hynny wedi ei awdurdodi mwyach—
(a)rhaid i’r eitem gael ei dychwelyd i’r person priodol;
(b)caiff y person priodol wneud cais i’r llys ynadon am orchymyn i’r eitem gael ei dychwelyd.
(12) Pan fo’n ofynnol i’r eitem gael ei dychwelyd i’r person priodol a bod ymdrechion rhesymol wedi eu gwneud, heb lwyddiant, i ddychwelyd yr eitem i’r person hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru waredu’r eitem ym mha ffordd bynnag y credant ei bod yn briodol.
(13) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “person priodol” yw—
yn achos eitem yr ymafaelwyd ynddi oddi wrth berson, y person yr ymafaelwyd yn yr eitem oddi wrtho;
yn achos eitem yr ymafaelwyd ynddi o fangre, y meddiannydd neu unrhyw berson arall sydd â gofal am y fangre;
yn achos eitem yr ymafaelwyd ynddi oddi wrth berson neu o fangre nad yw’n perthyn i berson sy’n dod o fewn paragraff (a) neu (b), y person y mae’n perthyn iddo ac sy’n haeru perchnogaeth drosti.
(14) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn effeithio ar bwerau arolygydd iechyd planhigion o dan reoliad 32.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 33 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
34.—(1) Caiff Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ddatgelu unrhyw wybodaeth yn eu meddiant i awdurdod priodol at ddibenion galluogi neu gynorthwyo’r awdurdod priodol i gyflawni unrhyw swyddogaeth a roddwyd iddo o dan [F18y Rheoliad Iechyd Planhigion], y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn, neu yn rhinwedd y rhain.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar unrhyw bŵer sydd gan y Comisiynwyr i ddatgelu gwybodaeth neu unrhyw ofyniad arall sydd arnynt i wneud hynny.
Diwygiadau Testunol
F18Gair yn rhl. 34(1) wedi ei rhodder (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 34 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
35.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddatgelu gwybodaeth i unrhyw awdurdod cymwys arall [F19yn y Deyrnas Unedig neu i awdurdod Tiriogaeth Ddibynnol y Goron] at ddibenion [F20y Rheoliad Iechyd Planhigion] [F21, Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023] neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i ddatgelu gwybodaeth neu unrhyw ofyniad arall sydd arnynt i wneud hynny.
Diwygiadau Testunol
F19Geiriau yn rhl. 35(1) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(6)(a)
F20Gair yn rhl. 35(1) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(6)(b)
F21Geiriau yn rhl. 35(1) wedi eu mewnosod (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 35 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: