- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 27 Mawrth 2020.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “arolygydd iechyd planhigion” (“plant health inspector”) yw swyddog iechyd planhigion swyddogol a benodir gan Weinidogion Cymru;
ystyr “awdurdod priodol” (“appropriate authority”) yw Gweinidogion Cymru, ac mae i’w ddehongli yn unol â rheoliad 6;
ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC” (“Council Directive 2000/29/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ynghylch mesurau i ddiogelu rhag cyflwyno i’r Gymuned organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion a rhag eu lledaenu yn y Gymuned(1);
ystyr “Cymru” (“Wales”) yw ardal gyfunol y siroedd a’r bwrdeistrefi sirol yng Nghymru (gweler Rhannau 1 a 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(2));
ystyr “dyddiad cychwyn” (“commencement date”) yw’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym;
ystyr “eitem a reoleiddir” (“regulated item”) yw—
unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y mae un [F1o’r rheolau iechyd planhigion] yn gymwys iddynt, heblaw unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall sy’n rhan o lwyth a reolir, neu
pla planhigion a reolir;
ystyr “Gorchymyn 2005” (“the 2005 Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005(3);
ystyr “Gorchymyn 2018” (“the 2018 Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018(4);
[F2mae i “label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon” yr ystyr a roddir i “Northern Ireland plant health label” yn rheoliad 2 o Reoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023]
ystyr “llwyth a reolir” (“controlled consignment”) yw llwyth sy’n cynnwys unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall—
na chaniateir dod â hwy i [F3Brydain Fawr] heb dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn unol â’r canlynol—
F7...
[F8ystyr “pasbort planhigion” (“plant passport”) yw pasbort sy’n basbort planhigion y DU neu’n basbort planhigion arall a ganiateir;]
ystyr “pla planhigion” (“plant pest”) yw pla a fewn yr ystyr a roddir yn Erthygl 1(1) a (2) [F9o’r Rheoliad Iechyd Planhigion];
ystyr “pla planhigion a reolir” (“controlled plant pest”) yw—
[F14ystyr “rheol iechyd planhigion” (“plant health rule”) yw rheol o’r fath a grybwyllir yn Erthygl 1(2)(g) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol;]
ystyr “Rheoliad Amodau Ffytoiechydol” (“Phytosanitary Conditions Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 yn sefydlu amodau unffurf i weithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion(5);
[F14ystyr “Rheoliad Iechyd Planhigion” (“Plant Health Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fesurau gwarchod rhag plâu planhigion(1);]
ystyr “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” (“EU Plant Health Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion [F15fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE](6);
ystyr “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol” (“Official Controls Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion i ddiogelu planhigion, i’r graddau y mae’n gymwys [F16i’r rheolau iechyd planhigion];
ystyr “SRFFf 15” (“ISPM 15”) yw’r Safon Ryngwladol ar Fesurau Ffytoiechydol Rhif 15 dyddiedig Mawrth 2002 ynghylch Canllawiau ynglŷn â rheoleiddio deunydd pecynnu pren mewn masnach ryngwladol, a baratowyd gan Ysgrifenyddiaeth y Confensiwn Rhyngwladol ar Warchod Planhigion a sefydlwyd gan Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig(7);
F17...
(2) Oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i eiriau ac ymadroddion sydd heb eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac y mae’r geiriau ac ymadroddion Saesneg cyfatebol yn ymddangos yn [F18y Rheoliad Iechyd Planhigion] neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd gan y geiriau ac ymadroddion Saesneg cyfatebol yn [F18y Rheoliad Iechyd Planhigion] neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol (yn ôl y digwydd).
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 2(1) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 4(2)(a)(ix)
F2Geiriau yn rhl. 2 wedi eu mewnosod (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(2)
F3Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 4(2)(a)(i)(aa)
F4Gair yn rhl. 2(1) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 4(2)(a)(i)(bb)
F5Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 4(2)(a)(i)(cc)
F6Gair yn rhl. 2(1) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 4(2)(a)(i)(dd)
F7Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 4(2)(a)(iii)
F8Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (4.3.2021) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/239), rhlau. 1(2), 2(2)
F9Gair yn rhl. 2(1) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 4(2)(a)(viii)
F10Gair yn rhl. 2(1) wedi ei fewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 4(2)(a)(ii)(aa)
F11Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 4(2)(a)(ii)(bb)
F12Gair yn rhl. 2(1) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 4(2)(a)(ii)(cc)
F13Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (13.11.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1134), rhlau. 1, 2(2)
F14Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 4(2)(a)(vii)
F15Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 4(2)(a)(iv)
F16Gair yn rhl. 2(1) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 4(2)(a)(vi)
F17Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 4(2)(a)(v)
F18Gair yn rhl. 2(2) wedi ei amnewid (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 4(2)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
F193. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F19Rhl. 3 wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 4(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
F204. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F20Rhl. 4 wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 4(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
5.—(1) At ddibenion Erthygl 82 [F22o’r Rheoliad Iechyd Planhigion] , bernir bod mangre gweithredwr cofrestredig yn un sy’n agos at fangreoedd eraill i’r gweithredwr hwnnw, yn yr ystyr a roddir i “close proximity”, os oes unrhyw bwynt ar ffin ei man gweithredol, neu ar ffin unrhyw un neu ragor o’i fannau gweithredol, o fewn deng milltir i unrhyw bwynt ar ffin y man gweithredol, neu ar ffin unrhyw un neu ragor o’r mannau gweithredol, o’r fangre arall
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “man gweithredol”, mewn perthynas â mangre gweithredwr cofrestredig, yw—
(a)yn achos mangre a ddefnyddir yn llwyr gan y gweithredwr cofrestredig i gyflawni un neu ragor o’r gweithgareddau a grybwyllir yn Erthygl 65(1) [F23o’r Rheoliad Iechyd Planhigion] , y man sy’n ffurfio’r fangre honno;
(b)yn achos unrhyw fangre arall a ddefnyddir gan y gweithredwr cofrestredig i gyflawni un neu ragor o’r gweithgareddau a grybwyllir yn Erthygl 65(1) [F23o’r Rheoliad Iechyd Planhigion] , man o fewn y fangre a ddefnyddir gan y gweithredwr cofrestredig i gyflawni unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau hynny.
Diwygiadau Testunol
F21Gair yn rhl. 5 heading wedi ei rhodder (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 4(4)(a)
F22Gair yn rhl. 5(1) wedi ei rhodder (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 4(4)(b)
F23Gair yn rhl. 5(2) wedi ei rhodder (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 4(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
6.—(1) Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi fel yr awdurdod cymwys sy’n gyfrifol am drefnu a chyflawni rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill yng Nghymru i’r graddau y maent yn ymwneud â’r canlynol—
(a)plâu planhigion, planhigion, plâu coed, coed, deunydd coedwigaeth neu ddeunydd nad yw’n ddeunydd coedwigaeth, neu
(b)gweithredwyr proffesiynol coedwigaeth neu weithredwyr proffesiynol eraill.
(2) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “coeden” (“tree”) yw coeden neu lwyn byw, neu ran fyw o goeden neu lwyn, ar unrhyw gyfnod yn eu tyfiant;
ystyr “deunydd coedwigaeth” (“forestry material”) yw—
pren sy’n cadw rhan neu’r cyfan o’i arwyneb crwn naturiol, gyda rhisgl neu hebddo;
pren ar ffurf sglodion, gronynnau, naddion, blawd llif, gwastraff neu sgrap pren;
coed conwydd dros 3m o uchder;
rhisgl sydd wedi ei dynnu neu sydd wedi datgysylltu oddi ar goeden fyw, coeden a gwympwyd neu goeden a syrthiodd, neu oddi ar ran o un o’r rhain;
ystyr “deunydd nad yw’n ddeunydd coedwigaeth” (“non-forestry material”) yw planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill, heblaw deunydd coedwigaeth;
ystyr “deunydd pecynnu pren” (“wood packaging material”) yw pren neu gynhyrchion pren (ac eithrio cynhyrchion papur) a ddefnyddir, neu y bwriedir eu defnyddio, i gynnal, diogelu neu gario nwydd o unrhyw fath, gan gynnwys pacin;
ystyr “gweithredwr proffesiynol coedwigaeth” (“forestry professional operator”) yw gweithredwr proffesiynol sy’n cyflawni un neu ragor o’r gweithgareddau a ganlyn, ond nid unrhyw weithgareddau eraill a ddisgrifir yn Erthygl 2(9) [F24o’r Rheoliad Iechyd Planhigion] —
cyflwyno deunydd coedwigaeth i Gymru;
storio, agregu neu symud deunydd coedwigaeth yng Nghymru, symud deunydd coedwigaeth i Gymru o ran arall o [F25Brydain Fawr neu un o Diriogaethau Dibynnol y Goron] neu symud deunydd coedwigaeth o Gymru i ran arall o [F25Brydain Fawr neu un o Diriogaethau Dibynnol y Goron] ;
allforio deunydd coedwigaeth o Gymru i drydedd wlad;
[F26cyflwyno deunydd coedwigaeth i Ogledd Iwerddon o Gymru;]
trin a marcio deunydd pecynnu pren neu ddeunydd coedwigaeth yn unol ag Atodiad 1 i SRFFf 15 neu drwsio deunydd pecynnu pren yng Nghymru;
cyflwyno plâu coed i Gymru, symud plâu coed yng Nghymru neu ddal neu luosi plâu coed yng Nghymru, at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dewis neu fridio amrywogaethau;
cyflwyno coed neu ddeunydd coedwigaeth i Gymru neu symud coed neu ddeunydd coedwigaeth yng Nghymru, i’w defnyddio at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dewis neu fridio amrywogaethau;
ystyr “pla coed” (“tree pest”) yw pla planhigion sy’n niweidiol i goed neu bren.
Diwygiadau Testunol
F24Gair yn rhl. 6(2) wedi ei hepgor (C.) (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 5(2)(a)
F25Geiriau yn rhl. 6(2) wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 5(2)(b)
F26Geiriau yn rhl. 6(2) wedi eu mewnosod (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 5(2)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
7.—(1) Rhaid i weithredwr cyfrifol llwyth a reolir sydd i’w ddwyn i Gymru drwy’r awyr [F27neu i borthladd RoRo yng Nghymru] fod wedi hysbysu’r awdurdod priodol y disgwylir i’r llwyth gyrraedd o leiaf bedair awr waith cyn y disgwylir iddo gyrraedd Cymru.
(2) Yn achos unrhyw lwyth a reolir sy’n cynnwys, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, logiau heb eu prosesu neu bren wedi ei lifio neu wedi ei sglodio ac sydd i’w ddwyn i Gymru wrth bwynt mynediad sydd â safle rheoli ar y ffin dros dro yn unig, rhaid i’r gweithredwr cyfrifol fod wedi hysbysu Gweinidogion Cymru fod y llwyth yn cyrraedd o leiaf dri diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddo gyrraedd Cymru.
(3) Nid yw Erthygl 1(1) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013 yn gymwys i unrhyw weithredwr cyfrifol ar lwyth a reolir y cyfeirir ato ym mharagraff (1) neu (2).
(4) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “awr waith” (“working hour”) yw cyfnod o un awr yn ystod diwrnod sydd yng Nghymru yn ddiwrnod gwaith, ac mae “oriau gwaith” yn cynnwys oriau yn ystod mwy nag un diwrnod gwaith;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod, heblaw—
dydd Sadwrn neu ddydd Sul,
dydd Nadolig neu ddydd Gwener y Groglith, neu
gŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(8);
ystyr “gweithredwr cyfrifol” (“responsible operator”), mewn perthynas â llwyth a reolir, yw gweithredwr y mae’n ofynnol iddo sicrhau bod y llwyth yn cael ei gyflwyno ar gyfer rheolaethau swyddogol wrth y safle rheoli ar y ffin lle mae’r llwyth yn cyrraedd [F28Prydain Fawr] am y tro cyntaf yn unol ag Erthygl 47(5) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol;
[F29ystyr “porthladd RoRo” (“RoRo port”) yw lleoliad RoRo a restrir o fewn ystyr “RoRo listed location” yn rheoliad 130 o Reoliadau Tollau (Tollau Mewnforio) (Ymadael â’r UE) 2018;]
ystyr “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013” (“Commission Implementing Regulation (EU) 2019/1013”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013 ynghylch hysbysu ymlaen llaw fod llwythi o gategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau yn dod i’r Undeb(9);
ystyr “safle rheoli dros dro ar y ffin” (“temporary border control post”) yw safle rheoli ar y ffin yng Nghymru sydd wedi ei esemptio o’r rhwymedigaethau yn Erthygl 64(3)(a), (c) ac (f) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yn unol ag Erthygl 4 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1012 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor drwy randdirymu’r rheolau ar ddynodi safleoedd rheoli a’r isafswm gofynion ar gyfer safleoedd rheoli ar y ffin(10).
Diwygiadau Testunol
F27Geiriau yn rhl. 7(1) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 6(2)(a)
F28Geiriau yn rhl. 7(4) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 6(2)(b)(i)
F29Geiriau yn rhl. 7(4) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 6(2)(b)(ii)
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
8.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd iechyd planhigion yn amau bod llwyth a reolir neu eitem a reoleiddir yn debygol o gael ei dwyn, neu wedi ei dwyn, i Gymru o drydedd wlad yn groes i un [F30o’r rheolau iechyd planhigion] , neu nad yw unrhyw lwyth neu eitem o’r fath yn cydymffurfio fel arall ag un [F30o’r rheolau iechyd planhigion] .
(2) Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth a reolir neu’r eitem a reoleiddir—
(a)yn rhoi’r llwyth neu’r eitem yng nghadw yn swyddogol, a
(b)yn gwahardd y llwyth neu’r eitem rhag dod i [F31Brydain Fawr] ,
tra disgwylir canlyniad y rheolaethau swyddogol i gadarnhau neu ddileu’r amheuaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1).
(3) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw lwyth a reolir neu eitem a reoleiddir p’un a yw eu cyrchfan derfynol yng Nghymru ai peidio.
Diwygiadau Testunol
F30Gair yn rhl. 8(1) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 6(3)(a)
F31Geiriau yn rhl. 8(2)(b) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 6(3)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
9. Pan fo arolygydd iechyd planhigion yn amau neu’n ymwybodol nad yw llwyth a reolir wedi ei gyflwyno ar gyfer rheolaethau swyddogol yn unol ag Erthygl 47(1) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, neu yn unol â’r gofynion eraill y cyfeirir atynt yn Erthygl 66(6) o’r Rheoliad hwnnw, rhaid i’r arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth yn adalw’r llwyth ac yn rhoi’r llwyth yng nghadw yn swyddogol.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
10.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—
(a)unrhyw lwyth a reolir neu eitem a reoleiddir sydd, ym marn arolygydd iechyd planhigion, wedi eu dwyn i Gymru o drydedd wlad yn groes i un [F32o’r rheolau iechyd planhigion],
(b)unrhyw lwyth a reolir neu eitem a reoleiddir a ddygwyd i Gymru o drydedd wlad ac nad yw fel arall yn cydymffurfio ag un [F33o’r rheolau iechyd planhigion], neu
(c)unrhyw lwyth a ddygwyd i Gymru o drydedd wlad ac sydd, ym marn arolygydd iechyd planhigion, yn peri risg i iechyd planhigion yng Nghymru neu i unrhyw ran arall o [F34Brydain Fawr].
(2) Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth neu’r eitem—
(a)yn rhoi’r llwyth neu’r eitem yng nghadw yn swyddogol, a
(b)yn nodi’r mesurau y mae’n rhaid i’r gweithredwr eu cymryd mewn perthynas â’r llwyth neu’r eitem.
Diwygiadau Testunol
F32Gair yn rhl. 10(1)(a) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 6(4)(a)
F33Gair yn rhl. 10(1)(b) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 6(4)(a)
F34Geiriau yn rhl. 10(1)(c) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 6(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
11.—(1) Caiff hysbysiad o dan reoliad 8, 9 neu 10 gynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a)y mesurau y mae’n rhaid i’r gweithredwr cyfrifol eu cymryd mewn perthynas â’r llwyth neu’r eitem i ynysu’r llwyth neu’r eitem neu eu gosod mewn cwarantin, neu i ymdrin fel arall â’r risg i iechyd planhigion sy’n deillio o’r llwyth neu’r eitem;
(b)pan fo arolygydd iechyd planhigion yn ei gwneud yn ofynnol i’r llwyth neu’r eitem gael eu dinistrio neu eu gwaredu fel arall, eu hailallforio neu eu trin, y mesurau y mae’n rhaid i’r gweithredwr cyfrifol eu cymryd i ddinistrio’r llwyth neu’r eitem neu i’w gwaredu fel arall, i’w hailallforio neu i’w trin;
(c)unrhyw fesurau eraill y mae’r arolygydd iechyd planhigion o’r farn eu bod yn briodol yng ngoleuni’r toriad tybiedig neu hysbys neu’r risg i iechyd planhigion yng Nghymru neu i unrhyw ran arall o [F35Brydain Fawr] sy’n deillio o’r llwyth neu’r eitem.
(2) Ym mharagraff (1), mae “gweithredwr cyfrifol” i’w ddehongli yn unol â rheoliad 8, 9 neu 10 (yn ôl y digwydd).
Diwygiadau Testunol
F35Geiriau yn rhl. 11(1)(c) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 6(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
12.—(1) Caiff yr awdurdod priodol roi trwydded sy’n awdurdodi—
(a)defnyddio cyfleuster a leolir o fewn safle rheoli ar y ffin yn ganolfan arolygu at ddibenion cyflawni rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill ar lwythi a reolir ac eitemau eraill a reoleiddir pan fyddant yn cyrraedd y safle rheoli ar y ffin;
(b)defnyddio cyfleusterau storio masnachol o fewn cyffiniau agos safle rheoli ar y ffin yn fan lle y gellir cynnal gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar lwythi a reolir ac eitemau eraill a reoleiddir pan fyddant yn cyrraedd y safle rheoli ar y ffin.
(2) Rhaid i gais am drwydded gael ei wneud i’r awdurdod priodol gan weithredwr y cyfleuster neu’r cyfleusterau storio masnachol yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol.
(3) Dim ond os yw’r awdurdod priodol wedi ei fodloni bod y cyfleuster yn cydymffurfio â’r gofynion a bennir mewn cysylltiad â chanolfannau arolygu yn Erthygl 8 o Reoliad (EU) 2019/1014 y caniateir rhoi trwydded o dan baragraff (1)(a).
(4) Dim ond os yw’r awdurdod priodol wedi ei fodloni bod y cyfleusterau storio masnachol yn cydymffurfio â’r gofynion a bennir mewn cysylltiad â chyfleusterau storio masnachol yn Erthygl 3(11) o Reoliad (EU) 2019/1014 y caniateir rhoi trwydded o dan baragraff (1)(b).
(5) Rhaid i drwydded a roddir o dan baragraff (1)(a) neu (b) fod mewn ysgrifen a chaniateir iddo gael ei roi—
(a)o dan amodau;
(b)am gyfnod amhenodol ynteu am gyfnod penodol.
(6) Caiff trwydded a roddir o dan baragraff (1)(a) neu (b) gynnwys darpariaeth yn caniatáu i’r awdurdod priodol addasu, atal neu ddirymu’r drwydded unrhyw bryd drwy hysbysiad ysgrifenedig.
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “Rheoliad (EU) 2019/1014” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1014 i osod rheolau manwl ynghylch yr isafswm gofynion ar gyfer safleoedd rheoli ar y ffin, gan gynnwys canolfannau arolygu, ac ar gyfer y fformat, y categorïau a’r byrfoddau sydd i’w defnyddio i restru safleoedd rheoli ar y ffin a phwyntiau rheoli(11).
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 12 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
13.—(1) Yn ystod y cyfnod perthnasol caiff yr awdurdod priodol awdurdodi—
(a)cludo llwyth a reolir i fan arolygu a gymeradwywyd, a
(b)cyflawni gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion gan arolygydd iechyd planhigion mewn man arolygu a gymeradwywyd.
(2) Rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth a reolir ac a fwriedir ar gyfer man arolygu a gymeradwywyd—
(a)rhoi i’r awdurdod priodol y manylion a nodir ym mharagraff (3) drwy hysbysiad ysgrifenedig heb fod yn hwyrach na thri diwrnod gwaith cyn i’r llwyth gyrraedd Cymru,
(b)sicrhau bod y llwyth, ei becyn a’r cerbyd y caiff ei gludo ynddo yn cael eu cau neu eu selio yn y fath fodd fel nad oes risg i’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau yn y llwyth achosi heigiad, haint neu halogiad na risg y bydd newid yn digwydd yng nghynnwys y llwyth, ac
(c)sicrhau bod dogfen symud iechyd planhigion yn cyd-fynd â’r llwyth.
(3) Dyma’r manylion—
(a)enw, cyfeiriad a lleoliad y man arolygu a gymeradwywyd y mae’r llwyth wedi ei fwriadu iddo,
(b)y dyddiad a’r amser y trefnwyd i’r llwyth gyrraedd y man y cyfeirir ato yn is-baragraff (a),
(c)os yw ar gael, rhif cyfresol unigol y ddogfen symud iechyd planhigion mewn perthynas â’r llwyth hwnnw,
(d)os ydynt ar gael, y dyddiad a’r man y lluniwyd y ddogfen symud iechyd planhigion,
(e)enw, cyfeiriad a rhif cofrestru’r gweithredwr, ac
(f)rhif cyfeirnod y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n ofynnol mewn perthynas â’r llwyth yn unol ag Erthygl 72(1) neu 74(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE.
(4) Rhaid i’r gweithredwr hysbysu’r awdurdod priodol ar unwaith mewn ysgrifen am unrhyw newidiadau yn y manylion y mae’r gweithredwr wedi eu rhoi o dan baragraff (2)(a).
(5) Rhaid i’r hysbysiad gael ei roi i’r awdurdod priodol yn y cyfeiriad a roddir gan yr awdurdod priodol o bryd i’w gilydd at ddibenion y rheoliad hwn.
(6) At ddibenion paragraff (1) caiff awdurdod priodol gymeradwyo man y mae llwyth a reolir wedi ei fwriadu ar ei gyfer fel man lle y caniateir i wiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion gael eu cyflawni gan arolygydd iechyd planhigion yn ystod y cyfnod perthnasol.
(7) Rhaid i gais am gymeradwyaeth o dan baragraff (6) gael ei wneud i’r awdurdod priodol yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol.
(8) Caniateir i gymeradwyaeth gael ei rhoi o dan amodau, gan gynnwys amodau ynglŷn â storio llwythi a reolir, a chaniateir ei thynnu’n ôl unrhyw bryd os nad yw’r awdurdod priodol bellach yn credu bod y man y mae’r gymeradwyaeth yn ymwneud ag ef yn addas at y diben y rhoddwyd y gymeradwyaeth ar ei gyfer.
(9) Dim ond os yw’r man wedi ei gymeradwyo gan Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i’w ddefnyddio’n gyfleuster storio dros dro y caiff yr awdurdod priodol gymeradwyo man fel man arolygu a gymeradwywyd.
(10) Yn y rheoliad hwn—
F36...
ystyr “cyfleuster storio dros dro” (“temporary storage facility”) yw cyfleuster storio dros dro o fewn ystyr Erthygl 148 o Reoliad (EU) Rhif 952/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor yn gosod Cod Tollau’r Undeb(12);
ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy’n diweddu yn union cyn 14 Rhagfyr 2020;
[F37mae i “diwrnod gwaith” (“working day”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 7(4);]
ystyr “dogfen symud iechyd planhigion” (“plant health movement document”) yw dogfen ar y ffurf a nodir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/103/EC ynghylch gwiriadau adnabod planhigion a gwiriadau iechyd planhigion ar blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill, a restrir yn Rhan B o Atodiad V i Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC, a all gael eu cyflawni mewn man heblaw’r pwynt mynediad i’r Gymuned neu mewn man gerllaw ac sy’n pennu’r amodau sy’n gysylltiedig â’r gwiriadau hyn(13);
ystyr “man arolygu a gymeradwywyd” (“approved place of inspection”) yw man a gymeradwywyd yn fan arolygu gan awdurdod priodol o dan erthygl 17(1) o Orchymyn 2005 neu Orchymyn 2018 cyn y dyddiad cychwyn ac sy’n dal wedi ei gymeradwyo yn rhinwedd rheoliad 54(1), neu fan a gymeradwywyd o dan baragraff (6).
Diwygiadau Testunol
F36Geiriau yn rhl. 13(10) wedi eu hepgor (13.11.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1134), rhlau. 1, 2(4)(a)
F37Geiriau yn rhl. 13(10) wedi eu mewnosod (13.11.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1134), rhlau. 1, 2(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 13 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
14.—(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys os bydd arolygydd iechyd planhigion yn amau bod pla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig yn bresennol neu’n debygol o fod yn bresennol, neu os bydd yn dod yn ymwybodol bod pla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig yn bresennol, ar unrhyw fangre yng Nghymru.
(2) Yn y Rhan hon—
ystyr “deunydd gwaharddedig” (“prohibited material” yw—
planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall sy’n cario pla planhigion a reolir, neu sydd wedi ei heigio neu wedi ei heintio ganddo, neu a allai fod yn cario pla planhigion a reolir, neu wedi ei heigio neu wedi ei heintio ganddo;
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le, gan gynnwys unrhyw dir, adeilad, cerbyd, llestr, awyren, hofrenfad, cynhwysydd llwythi, wagen reilffordd, trelar neu adeilad neu adeiledd symudol.
Diwygiadau Testunol
F38Geiriau yn rhl. 14(2) wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 7(2)(a)(i)
F39Gair yn rhl. 14(2) wedi ei amnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 7(2)(a)(ii)
F40Geiriau yn rhl. 14(2) wedi eu hepgor (C.) (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 7(2)(b)(i)
F41Gair yn rhl. 14(2) wedi ei amnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 7(2)(b)(ii)
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 14 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
15.—(1) Caiff arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad i’r person priodol—
(a)yn ei gwneud yn ofynnol i’r person priodol drin, dinistrio neu waredu fel arall y pla planhigion a reolir neu’r deunydd gwaharddedig,
(b)yn gwahardd am y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad—
(i)symud unrhyw bla planhigion a reolir neu unrhyw ddeunydd gwaharddedig ymaith o’r fangre, neu
(ii)unrhyw weithgaredd y mae’r arolygydd o’r farn ei bod yn angenrheidiol ei wahardd er mwyn atal pla planhigion a reolir rhag ymsefydlu neu ledaenu,
(c)yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw bla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig gael eu symud ymaith o’r fangre, neu
(d)yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gamau eraill gael eu cymryd, fel y’u pennir yn yr hysbysiad, y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol er mwyn dileu’r pla planhigion a reolir neu i’w atal rhag ymsefydlu neu ledaenu.
(2) Os oes gan arolygydd iechyd planhigion sail resymol dros gredu bod hynny’n angenrheidiol at ddiben atal unrhyw bla planhigion a reolir rhag lledaenu, neu sicrhau y dilëir unrhyw bla planhigion a reolir, o unrhyw fangre, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i’r meddiannydd yn gosod unrhyw waharddiad neu’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gam rhesymol gael ei gymryd at y diben hwnnw.
(3) Ym mharagraff (1), ystyr “person priodol” yw—
(a)yn achos mangre a ddefnyddir gan weithredwr proffesiynol, y gweithredwr proffesiynol;
(b)yn achos unrhyw fangre arall—
(i)y meddiannydd neu unrhyw berson arall sydd â gofal am y fangre;
(ii)unrhyw berson arall sydd â gofal am y pla planhigion a reolir neu’r deunydd gwaharddedig yn y fangre honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Rhl. 15 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
16.—(1) Caiff arolygydd iechyd planhigion, o roi hysbysiad rhesymol, fynd i mewn i unrhyw fangre ac unrhyw fangre gyfagos at ddiben cymryd camau i wneud y canlynol—
(a)dileu neu ddinistrio unrhyw bla planhigion a reolir, neu ddelio ag ef fel arall,
(b)atal unrhyw bla planhigion a reolir rhag lledaenu, neu
(c)dinistrio neu drin unrhyw ddeunydd a heintiwyd, neu ddelio ag ef fel arall.
(2) Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i arolygydd iechyd planhigion ddangos tystiolaeth o’i awdurdod cyn mynd i mewn i unrhyw fangre at y dibenion a bennir ym mharagraff (1).
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat oni bai bod 24 awr o rybudd wedi ei roi i’r meddiannydd.
(4) Caiff arolygydd iechyd planhigion ddod ag unrhyw bersonau eraill F42... gydag ef a chaiff ddod ag unrhyw offer a cherbydau i’r fangre y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol.
(5) Caiff person sy’n dod gydag arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff (4)—
(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb arolygydd iechyd planhigion,
(b)dod ag unrhyw offer neu gerbydau i’r fangre y mae’r person o’r farn eu bod yn angenrheidiol, ac
(c)cyflawni gwaith yn y fangre mewn modd a gyfarwyddir gan arolygydd iechyd planhigion.
(6) Ym mharagraff (1), ystyr “deunydd a heintiwyd” yw—
(a)planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall sy’n cario pla planhigion a reolir, neu sydd wedi ei heigio neu wedi ei heintio ganddo, neu a allai fod yn cario pla planhigion a reolir, neu wedi ei heigio neu wedi ei heintio ganddo;
(b)planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall nad yw’n cario pla planhigion a reolir, neu nad yw wedi ei heigio neu wedi ei heintio ganddo, ond y gallai eu presenoldeb neu eu bodolaeth, ym marn arolygydd iechyd planhigion, beri i bla planhigion a reolir ledu neu gael ei ledaenu.
Diwygiadau Testunol
F42Geiriau yn rhl. 16(4) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 7(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I16Rhl. 16 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
17.—(1) [F43Mae paragraff (2)] yn gymwys pan fo awdurdod priodol wedi cadarnhau’n swyddogol bresenoldeb pla planhigion a reolir nad yw’n hysbys ei fod yn bresennol yng Nghymru neu bresenoldeb pla planhigion a reolir mewn ardal o Gymru lle nad oedd yn bresennol o’r blaen.
(2) Caiff awdurdod priodol drwy hysbysiad—
(a)darnodi ardal mewn perthynas â phresenoldeb y pla planhigion a reolir at ddiben dileu neu gyfyngu’r pla planhigion;
(b)pennu’r gwaharddiadau neu’r cyfyngiadau sydd i fod yn gymwys i’r ardal a ddarnodir at y diben hwnnw.
[F44(2A) Mae paragraff (2B) yn gymwys pan fo’r awdurdod cymwys mewn perthynas ag un arall o diriogaethau Prydain Fawr—
(a)wedi cadarnhau’n swyddogol fod pla planhigion y mae Erthygl 18 o’r Rheoliad Iechyd Planhigion yn gymwys iddo yn bresennol yn ei diriogaeth; a
(b)wedi hysbysu’r awdurdod cymwys mewn perthynas â Chymru, yn unol ag Erthygl 18(4A) o’r Rheoliad Iechyd Planhigion”, y dylai ardal ddarnodedig ymestyn i Gymru neu gael ei sefydlu yng Nghymru.
(2B) Caiff yr awdurdod cymwys drwy hysbysiad—
(a)darnodi ardal er mwyn dileu neu gyfyngu’r pla planhigion, neu er mwyn atal y pla rhag ymsefydlu yng Nghymru; neu
(b)cadarnhau’r bwriad i ddarnodi ardal yng Nghymru a hysbyswyd yn flaenorol i’r awdurdod cymwys gan awdurdod cymwys arall yn unol ag Erthygl 18(4A) o’r Rheoliad Iechyd Planhigion.
(2C) Caiff hysbysiad o dan baragraff (2B) bennu’r gwahardddiadau neu’r cyfyngiadau sydd i fod yn gymwys i’r ardal ddarnodedig at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a bennir yn y paragraff hwnnw.]
(3) O ran hysbysiad o dan baragraff (2) [F45neu (2B)]—
(a)rhaid iddo fod mewn ysgrifen;
(b)rhaid iddo ddisgrifio hyd a lled yr ardal a ddarnodir;
(c)rhaid iddo bennu ar ba ddyddiad y bydd unrhyw waharddiadau neu gyfyngiadau o’r fath yn cychwyn;
(d)rhaid iddo gael ei gyhoeddi mewn modd sy’n briodol i ddod ag ef i sylw’r cyhoedd;
(e)caniateir iddo gael ei ddiwygio neu ei ddirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, drwy hysbysiad arall.
[F46(4) Yn y rheoliad hwn, mae i “awdurdod cymwys” yr ystyr a roddir i “competent authority” gan Erthygl 2(6) o’r Rheoliad Iechyd Planhigion.]
Diwygiadau Testunol
F43Geiriau yn rhl. 17(1) wedi eu hamnewid (20.12.2022) gan The Plant Health and Trade in Animals and Related Products (Amendment) Regulations 2022 (O.S. 2022/1367), rhlau. 1(1), 6(2)(a)
F44Rhl. 17(2A)-(2C) wedi ei fewnosod (20.12.2022) gan The Plant Health and Trade in Animals and Related Products (Amendment) Regulations 2022 (O.S. 2022/1367), rhlau. 1(1), 6(2)(b)
F45Geiriau yn rhl. 17(3) wedi eu mewnosod (20.12.2022) gan The Plant Health and Trade in Animals and Related Products (Amendment) Regulations 2022 (O.S. 2022/1367), rhlau. 1(1), 6(2)(c)
F46Rhl. 17(4) wedi ei fewnosod (20.12.2022) gan The Plant Health and Trade in Animals and Related Products (Amendment) Regulations 2022 (O.S. 2022/1367), rhlau. 1(1), 6(2)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I17Rhl. 17 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
F4718. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F47Rhl. 18 wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 8
Gwybodaeth Cychwyn
I18Rhl. 18 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
19. Rhaid i gais am gofrestru yn unol ag Erthygl 66(1) [F48o’r Rheoliad Iechyd Planhigion] sydd i’w gyflwyno i awdurdod priodol gael ei gyflwyno yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol.
Diwygiadau Testunol
F48Gair yn rhl. 19 wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I19Rhl. 19 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
20.—(1) Rhaid i’r ceisiadau a ganlyn gael eu gwneud i’r awdurdod priodol yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol—
(a)cais am awdurdodiad dros dro i ganiatáu gweithgaredd perthnasol at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dethol neu fridio amrywogaethau;
(b)cais am awdurdodiad y cyfeirir ato yn y darpariaethau a ganlyn yn [F49y Rheoliad Iechyd Planhigion] —
(i)Erthygl 64(2),
(ii)Erthygl 89(1), neu
(iii)Erthygl 98(1);
(c)cais am ddyroddi tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio [F50neu] tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio F51....
(2) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “gweithgaredd perthnasol” yw gweithgaredd a fyddai fel arall wedi ei wahardd o dan [F52y Rheoliad Iechyd Planhigion] F53... neu [F54reol iechyd planhigion arall] ac sy’n golygu—
cyflwyno pla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall i Gymru,
symud pla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall yng Nghymru,
dal pla planhigion a reolir neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall ar fangre yng Nghymru, neu
lluosogi pla planhigion ar fangre yng Nghymru.
Diwygiadau Testunol
F49Gair yn rhl. 20(1)(b) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(3)(a)(i)
F50Gair yn rhl. 20(1)(c) wedi ei amnewid ar gyfer comma (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(3)(a)(ii)(aa)
F51Geiriau yn rhl. 20(1)(c) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(3)(a)(ii)(bb)
F52Gair yn rhl. 20(2) wedi ei rhodder (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(3)(b)(i)
F53Geiriau yn rhl. 20(2) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(3)(b)(ii)
F54Gair yn rhl. 20(2) wedi ei rhodder (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(3)(b)(iii)
Gwybodaeth Cychwyn
I20Rhl. 20 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
21.—[F55(1) Caiff yr awdurdod priodol roi awdurdodiad i ganiatáu—
(a)cyflawni unrhyw weithgaredd a bennir mewn rhanddirymiad iechyd planhigion,
(b)cyflwyno pla planhigion cwarantin posibl i Gymru, symud pla planhigion cwarantin posibl o fewn Cymru, neu ddal neu luosogi pla planhigion cwarantin posibl yng Nghymru, at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dewis neu fridio amrywogaethau, neu
(c)cyflawni unrhyw weithgaredd arall y mae cymeradwyaeth yr awdurdod priodol yn ofynnol ar ei gyfer o dan [F56, neu yn rhinwedd,] [F57y Rheoliad Iechyd Planhigion], y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol [F58, unrhyw reoliadau a wneir o dan y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol,] neu’r Rheoliadau hyn.]
(2) Rhaid i gais am unrhyw awdurdodiad o’r fath gael ei wneud i’r awdurdod priodol yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol.
[F59(3) Ym mharagraff (1)—
ystyr “pla planhigion cwarantin posibl” (“potential quarantine plant pest”) yw pla planhigion nad yw’n bla cwarantin [F60Prydain Fawr neu’n bla cwarantin Prydain Fawr dros dro], ond sydd, ym marn yr awdurdod priodol, yn bodloni’r meini prawf a nodir yn Is-adran 1 o Adran 3 o Atodiad 1 i’r Rheoliad hwnnw neu y gallai fod yn bodloni’r meini prawf yn Is-adran 2 o’r Adran honno;
ystyr “rhanddirymiad iechyd planhigion” (“plant health derogation”) yw—
Diwygiadau Testunol
F55Rhl. 21(1) wedi ei amnewid (13.11.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1134), rhlau. 1, 2(5)(a)
F56Geiriau yn rhl. 21(1)(c) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(4)(a)(i)
F57Gair yn rhl. 21(1)(c) wedi ei rhodder (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(4)(a)(ii)
F58Geiriau yn rhl. 21(1)(c) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(4)(a)(iii)
F59Rhl. 21(3) wedi ei amnewid (13.11.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1134), rhlau. 1, 2(5)(b)
F60Geiriau yn rhl. 21(3) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(4)(b)(ii)
F61Gair yn rhl. 21(3) wedi ei rhodder (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(4)(b)(i)(aa)
F62Geiriau yn rhl. 21(3) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(4)(b)(i)(bb)
F63Gair yn rhl. 21(3) wedi ei amnewid (1.1.2024) gan Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1332), rhlau. 1(2), 24(2)
F64Geiriau yn rhl. 21(3) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(4)(b)(i)(cc)
Gwybodaeth Cychwyn
I21Rhl. 21 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
22.—(1) Rhaid i awdurdodiad a roddir gan awdurdod priodol at ddibenion [F65y Rheoliad Iechyd Planhigion] [F66neu] y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol [F67neu at ddibenion y Rheoliadau hyn, neu oddi tanynt,] fod mewn ysgrifen a chaniateir iddo gael ei roi—
(a)o dan amodau;
(b)am gyfnod amhenodol ynteu am gyfnod penodol.
(2) Caiff awdurdodiad a roddir gan awdurdod priodol ganiatáu i’r awdurdod priodol addasu’r awdurdodiad, ei atal dros dro neu ei ddirymu unrhyw bryd drwy hysbysiad ysgrifenedig.
Diwygiadau Testunol
F65Geiriau yn rhl. 22(1) wedi ei rhodder (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(5)(a)
F66Gair yn rhl. 22(1) wedi ei amnewid ar gyfer comma (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(5)(b)
F67Geiriau yn rhl. 22(1) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 9(5)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I22Rhl. 22 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
23. Mae Atodlen 2 yn cynnwys mesurau penodol ynglŷn â rhywogaethau mochlysaidd penodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Rhl. 23 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
F6824. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F68Rhl. 24 wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 10(2)
F6925. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F69Rhl. 25 wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 10(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I24Rhl. 25 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
26.—(1) Rhaid i weithredwr proffesiynol sy’n dod ag [F70unrhyw bren tanwydd solet o drydedd wlad nad yw Erthygl 47(1) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yn gymwys iddo] F71... i Gymru, cyn y dyddiad y maent yn cyrraedd Cymru neu heb fod yn hwyrach na phedwar diwrnod ar ôl y dyddiad y maent yn cyrraedd Cymru, roi hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd iechyd planhigion ynglŷn â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)—
F72(a). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F72(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F72(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(2) Dyma’r materion—
(a)y dyddiad y disgwylir i’r llwyth gyrraedd neu, os yw’r llwyth wedi cyrraedd Cymru, y dyddiad y cyrhaeddodd Gymru gyntaf;
(b)cyrchfan arfaethedig y llwyth, neu os yw’r llwyth wedi cyrraedd ei gyrchfan arfaethedig yng Nghymru, ei leoliad presennol;
(c)genws, rhywogaeth a nifer y F73... pren yn y llwyth;
(d)y wlad y traddodwyd neu y traddodir y F74...pren ohoni;
F75(e). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
[F76(f)cyfeiriad y traddodwr, ac
(g)manylion unrhyw driniaethau ffytoiechydol a roddwyd i’r pren.]
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “pren tanwydd solet” yw pren tanwydd ar ffurf logiau, plociau, brigau, ffagodau neu ffurfiau tebyg eraill.
Diwygiadau Testunol
F70Geiriau yn rhl. 26(1) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 10(3)(a)(ii)
F71Geiriau yn rhl. 26(1) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 10(3)(a)(i)
F72Rhl. 26(1)(a)-(c) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 10(3)(a)(iii)
F73Geiriau yn rhl. 26(2)(c) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 10(3)(b)(i)
F74Geiriau yn rhl. 26(2)(d) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 10(3)(b)(ii)(aa)
F75Rhl. 26(2)(e) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 10(3)(b)(iii)
F76Rhl. 26(2)(f)(g) wedi ei amnewid ar gyfer rhl. 26(2)(f) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 10(3)(b)(iv)
Gwybodaeth Cychwyn
I25Rhl. 26 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
27.—(1) Yn y Rhan hon—
mae “deunydd pecynnu pren” (“wood packaging material”) yn cynnwys unrhyw bren neu wrthrych arall y mae’n ofynnol ei drin a’i farcio yn unol ag Atodiad 1 i SRFFf 15;
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le, gan gynnwys unrhyw dir, adeilad, cerbyd, llestr, awyren, hofrenfad, cynhwysydd llwythi, wagen reilffordd, trelar neu adeilad neu adeiledd symudol;
ystyr “nod SRFFf 15” (“ISPM 15 mark”) yw’r nod y cyfeirir ato yn Erthygl 96(1) [F77o’r Rheoliad Iechyd Planhigion], y gellir ei osod ar ddeunydd pecynnu pren i dystio ei fod wedi ei drin yn unol ag Atodiad 1 i SRFFf 15.
(2) At ddibenion rheoliadau 32 a 33, mae person yn gosod nod SRFFf 15 ar ddeunydd pecynnu pren “yn anghywir” os yw’r person yn gosod y nod heblaw yn y modd a bennir yn Erthygl 96(1) [F78o’r Rheoliad Iechyd Planhigion], fel y’i darllenir gydag Erthygl 97(1) [F78o’r Rheoliad Iechyd Planhigion].
Diwygiadau Testunol
F77Gair yn rhl. 27(1) wedi ei rhodder (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(2)
F78Gair yn rhl. 27(2) wedi ei rhodder (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I26Rhl. 27 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
28.—(1) Caiff arolygydd iechyd planhigion fynd i mewn i unrhyw fangre ar adeg resymol at ddiben—
(a)cyflawni rheolaethau swyddogol i ddilysu—
(i)bod gweithredwr yn cydymffurfio â’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol,
(ii)bod gweithredwr proffesiynol yn cydymffurfio [F79â’r Rheoliad Iechyd Planhigion],
(iii)bod person yn cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, F80...
(iv)bod unrhyw blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun un [F81o’r rheolau iechyd planhigion yn cydymffurfio â’r rheol honno]; [F82neu]
[F83(v)bod gweithredwr awdurdodedig, gweithredwr proffesiynol neu weithredwr cofrestredig yn cydymffurfio â Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023]
(b)cyflawni gweithgareddau swyddogol eraill sydd i’w cyflawni gan yr awdurdod priodol yn unol â’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, y Rheoliad Iechyd Planhigion [F84, Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023] neu’r Rheoliadau hyn;
(c)gorfodi’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, y Rheoliad Iechyd Planhigion [F85, Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023] neu’r Rheoliadau hyn;
(d)dilysu gwybodaeth a roddwyd gan berson mewn cysylltiad â chais am gofrestriad neu am awdurdodiad neu drwydded a roddwyd, neu sydd i’w rhoi, o dan y Rheoliadau hyn;
(e)canfod a ydys yn cydymffurfio neu a gydymffurfiwyd ag amod mewn awdurdodiad neu drwydded a roddwyd gan awdurdod priodol o dan y Rheoliadau hyn neu at ddiben [F86y Rheoliad Iechyd Planhigion] neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.
(2) Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i arolygydd iechyd planhigion ddangos tystiolaeth o’i awdurdod cyn mynd i mewn i unrhyw fangre at y dibenion a bennir ym mharagraff (1).
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat oni bai bod 24 awr o rybudd wedi ei roi i’r meddiannydd.
(4) Caiff arolygydd iechyd planhigion sy’n mynd i mewn i fangre at ddiben a bennir ym mharagraff (1) neu o dan warant a ddyroddir gan ynad heddwch—
(a)archwilio, marcio neu dynnu ffotograff o unrhyw ran o’r fangre, unrhyw wrthrych yn y fangre neu unrhyw beth sydd wedi ei atodi i’r fangre neu fel arall yn ffurfio rhan ohoni;
(b)yn achos mangre sy’n cael ei defnyddio i weithgynhyrchu deunydd pecynnu pren, archwilio neu brofi unrhyw gyfleuster trin, peiriannau, offer neu gyfarpar arall a ddefnyddir i weithgynhyrchu deunydd pecynnu pren neu arsylwi a monitro’r broses o weithgynhyrchu deunydd pecynnu pren;
(c)cymryd samplau—
(i)o unrhyw bla planhigion neu oddi arno,
(ii)o unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall neu oddi arnynt, neu
(iii)o unrhyw gynhwysydd, pecyn neu wrthrych sydd wedi bod neu a allai fod wedi bod mewn cysylltiad â phla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall neu oddi ar y rhain;
(d)agor unrhyw gynhwysydd neu becyn neu ei gwneud yn ofynnol i berchennog neu berson sydd â gofal am unrhyw gynhwysydd neu becyn agor y cynhwysydd neu’r pecyn;
(e)arolygu neu wneud copïau o unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cânt eu dal) sy’n ymwneud â chynhyrchu unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall, neu ag unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud â hwy.
(5) Caiff arolygydd iechyd planhigion ddinistrio neu waredu fel arall unrhyw sampl a gymerir o dan y rheoliad hwn pan na fydd angen y sampl mwyach.
(6) Caiff arolygydd iechyd planhigion—
[F87(a)dod ag unrhyw bersonau y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol; a]
(b)dod ag unrhyw offer a cherbydau i’r fangre y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol.
F88(7) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(8) Caiff person sy’n dod gydag arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff (6)(a)F89...—
(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb arolygydd iechyd planhigion,
(b)dod ag unrhyw offer neu gerbydau i’r fangre y mae’r person o’r farn eu bod yn angenrheidiol, ac
(c)cyflawni gwaith yn y fangre mewn modd a gyfarwyddir gan arolygydd iechyd planhigion.
Diwygiadau Testunol
F79Gair yn rhl. 28(1)(a)(ii) wedi eu hamnewid (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(3)(a)(i)(aa)
F80Gair yn rhl. 28(1)(a)(iii) wedi ei hepgor (1.10.2023) yn rhinwedd The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(3)(a)(i)
F81Geiriau yn rhl. 28(1)(a)(iv) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(3)(a)(i)(bb)
F82Gair yn rhl. 28(1)(a)(iv) wedi ei fewnosod (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(3)(a)(ii)
F83Rhl. 28(1)(a)(v) wedi ei fewnosod (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(3)(a)(iii)
F84Geiriau yn rhl. 28(1)(b) wedi eu mewnosod (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(3)(b)
F85Geiriau yn rhl. 28(1)(c) wedi eu mewnosod (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(3)(c)
F86Gair yn rhl. 28(1)(e) wedi eu hamnewid (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(3)(a)(ii)
F87Rhl. 28(6)(a) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(3)(b)
F88Rhl. 28(7) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(3)(c)
F89Gair yn rhl. 28(8) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(3)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I27Rhl. 28 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
29.—(1) Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i arolygydd fynd i fangre o dan reoliad 16(1), 28(1) neu 31(1), gan ddefnyddio grym rhesymol os oes ei angen, os yw’r ynad wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—
(a)bod sail resymol dros fynd i’r fangre honno, a
(b)bod unrhyw un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni.
(2) Dyma’r amodau—
(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd,
(b)y byddai gofyn am gael mynediad i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant, yn mynd yn groes i’r amcan o fynd i’r fangre,
(c)bod angen mynd i’r fangre ar fyrder, neu
(d)bod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro.
(3) Mae gwarant yn ddilys am un mis.
(4) Rhaid i arolygydd sy’n mynd i unrhyw fangre nad yw wedi ei meddiannu ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr oedd cyn iddo fynd iddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Rhl. 29 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
30.—(1) Caiff arolygydd iechyd planhigion neu unrhyw swyddog arall i awdurdod priodol drwy hysbysiad ysgrifenedig ei gwneud yn ofynnol i berson priodol roi i’r arolygydd neu’r swyddog, o fewn yr amser a bennir yn yr hysbysiad, unrhyw wybodaeth a all fod gan y person ynghylch—-
(a)y planhigion a dyfwyd neu’r cynhyrchion a storiwyd unrhyw bryd yn y fangre a bennir yn yr hysbysiad,
(b)unrhyw bla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b), neu
(c)y personau sydd wedi cael, neu sy’n debygol o fod wedi cael, unrhyw bla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b) yn eu meddiant neu o dan eu gofal.
(2) Rhaid i’r amser y mae’n ofynnol i’r wybodaeth gael ei rhoi i’r arolygydd neu’r swyddog arall o’i fewn fod yn rhesymol.
(3) Rhaid i berson priodol ddangos unrhyw awdurdodiad, datganiad swyddogol, tystysgrif, pasbort planhigion, [F90label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon,] cofnod, anfoneb neu ddogfen arall sy’n ymwneud â phla planhigion neu unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a bennir yn yr hysbysiad i’w harchwilio gan yr arolygydd neu’r swyddog arall.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “person priodol” yw—
(a)mewn perthynas ag unrhyw fangre a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (1), person sy’n berchennog, yn feddiannydd neu’n berson arall sydd â gofal am y fangre,
(b)person y mae neu y bu ganddo feddiant o’r canlynol neu ofal amdanynt, neu y mae’n rhesymol i’r arolygydd neu’r swyddog amau bod ganddo, neu y bu ganddo feddiant ohonynt neu ofal amdanynt—
(i)pla planhigion a reolir,
(ii)unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a oedd yn cario pla planhigion a reolir neu a oedd wedi ei heigio neu wedi ei heintio gan bla planhigion a reolir, neu
(iii)unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y mae’r arolygydd neu’r swyddog yn gwybod neu’n amau eu bod wedi eu mewnforio i Gymru neu wedi eu hallforio ohoni, neu
(c)person sydd, fel arwerthwr, gwerthwr neu fel arall, wedi gwerthu pla planhigion a reolir, wedi ei gynnig ar werth neu wedi ei waredu fel arall.
Diwygiadau Testunol
F90Geiriau yn rhl. 30(3) wedi eu mewnosod (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I29Rhl. 30 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
31.—(1) Os bydd person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir i’r person hwnnw o dan y Rheoliadau hyn, caiff arolygydd iechyd planhigion fynd i unrhyw fangre yr effeithir arni ar bob adeg resymol i gymryd neu beri cymryd unrhyw gamau y mae’r arolygydd iechyd planhigion o’r farn eu bod yn angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r hysbysiad neu i unioni canlyniadau’r methiant i’w cyflawni.
(2) Rhaid i arolygydd iechyd planhigion sy’n gweithredu o dan baragraff (1) ddangos tystiolaeth o’i awdurdod i weithredu, os gofynnir iddo wneud hynny.
[F91(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys—
(a)i unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat oni bai bod 24 awr o rybudd wedi ei roi i’r meddiannydd, neu
(b)mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad a roddir o dan Atodlen 4A.]
(4) Caiff arolygydd iechyd planhigion ddod ag unrhyw bersonau F92... F93... gydag ef a chaiff ddod ag unrhyw offer a cherbydau i’r fangre y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol.
(5) Caiff person sy’n dod gydag arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff (4)—
(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb arolygydd iechyd planhigion,
(b)dod ag unrhyw ofer neu gerbydau i’r fangre y mae’r person o’r farn eu bod yn angenrheidiol, ac
(c)cyflawni gwaith yn y fangre mewn modd a gyfarwyddir gan arolygydd iechyd planhigion.
Diwygiadau Testunol
F91Rhl. 31(3) wedi ei amnewid (15.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1303), rhlau. 1, 2(2)
F92Gair yn rhl. 31(4) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(4)(a)
F93Geiriau yn rhl. 31(4) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I30Rhl. 31 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
32. Pan fo arolygydd yn gwybod, neu pan fo ganddo sail resymol dros amau, bod y nod SRFFf 15 wedi ei osod yn anghywir ar ddeunydd pecynnu pren, caiff arolygydd iechyd planhigion dynnu’r nod neu, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i berson arall ei dynnu.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Rhl. 32 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
33.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd iechyd planhigion yn gwybod, neu pan fo ganddo sail resymol dros amau, bod person wedi gosod yn anghywir, neu’n bwriadu gosod yn anghywir, y nod SRFFf 15 ar ddeunydd pecynnu pren mewn unrhyw fangre yng Nghymru.
(2) Caiff yr arolygydd iechyd planhigion ymafael mewn unrhyw stensil, templed neu eitem arall o offer y mae’n ymddangos i’r arolygydd y gellid eu defnyddio i osod y nod SRFFf 15, oddi wrth y person hwnnw neu o’r fangre honno a’u cadw.
(3) Os nad yw’r arolygydd iechyd planhigion o’r farn ei bod yn ymarferol, am y tro, i’r arolygydd ymafael mewn unrhyw eitem a’i symud ymaith, caiff yr arolygydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson yn y fangre sicrhau na chaiff yr eitem ei symud ymaith ac nad ymyrrir â’r eitem fel arall nes y gall yr arolygydd ymafael ynddi a’i symud ymaith.
(4) Rhaid i’r arolygydd iechyd planhigion wneud ymdrechion rhesymol i roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person priodol—
(a)yn nodi’r hyn yr ymafaelwyd ynddo a’r rheswm dros ymafael ynddo;
(b)yn esbonio effaith paragraffau (5) i (12).
(5) Caniateir i unrhyw eitem yr ymafaelir ynddi o dan baragraff (2) gael ei chadw gan Weinidogion Cymru am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol o dan yr holl amgylchiadau, ac yn benodol at ddibenion achos cyfreithiol mewn perthynas â throsedd a bennir yn rheoliad 38(1).
(6) Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais i’r llys ynadon am fforffedu unrhyw eitem a gedwir o dan baragraff (5).
(7) Pan wneir cais o dan baragraff (6), caiff y llys orchymyn i’r eitem gael ei fforffedu os yw’r llys wedi ei fodloni—
(a)bod trosedd a bennir yn rheoliad 38(1) wedi ei chyflawni mewn cysylltiad â hi, neu
(b)ei bod wedi ei defnyddio wrth gyflawni trosedd o’r fath.
(8) Os yw’r llys yn gorchymyn i’r eitem gael ei fforffedu, caiff Gweinidogion Cymru ei gwaredu ym mha ffordd bynnag y credant ei bod yn briodol.
(9) Os nad yw’r llys yn gorchymyn i’r eitem gael ei fforffedu, rhaid iddo orchymyn i’r eitem gael ei dychwelyd i’r person priodol.
(10) Caiff Gweinidogion Cymru adennill oddi ar y person priodol yr holl gostau rhesymol yr aed iddynt gan Weinidogion Cymru at ddibenion sicrhau bod eitem yn cael ei fforffedu o dan baragraffau (6) i (8).
(11) Pan awdurdodwyd cadw unrhyw eitem o dan y rheoliad hwn, ond nad yw hynny wedi ei awdurdodi mwyach—
(a)rhaid i’r eitem gael ei dychwelyd i’r person priodol;
(b)caiff y person priodol wneud cais i’r llys ynadon am orchymyn i’r eitem gael ei dychwelyd.
(12) Pan fo’n ofynnol i’r eitem gael ei dychwelyd i’r person priodol a bod ymdrechion rhesymol wedi eu gwneud, heb lwyddiant, i ddychwelyd yr eitem i’r person hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru waredu’r eitem ym mha ffordd bynnag y credant ei bod yn briodol.
(13) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “person priodol” yw—
yn achos eitem yr ymafaelwyd ynddi oddi wrth berson, y person yr ymafaelwyd yn yr eitem oddi wrtho;
yn achos eitem yr ymafaelwyd ynddi o fangre, y meddiannydd neu unrhyw berson arall sydd â gofal am y fangre;
yn achos eitem yr ymafaelwyd ynddi oddi wrth berson neu o fangre nad yw’n perthyn i berson sy’n dod o fewn paragraff (a) neu (b), y person y mae’n perthyn iddo ac sy’n haeru perchnogaeth drosti.
(14) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn effeithio ar bwerau arolygydd iechyd planhigion o dan reoliad 32.
Gwybodaeth Cychwyn
I32Rhl. 33 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
34.—(1) Caiff Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ddatgelu unrhyw wybodaeth yn eu meddiant i awdurdod priodol at ddibenion galluogi neu gynorthwyo’r awdurdod priodol i gyflawni unrhyw swyddogaeth a roddwyd iddo o dan [F94y Rheoliad Iechyd Planhigion], y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn, neu yn rhinwedd y rhain.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar unrhyw bŵer sydd gan y Comisiynwyr i ddatgelu gwybodaeth neu unrhyw ofyniad arall sydd arnynt i wneud hynny.
Diwygiadau Testunol
F94Gair yn rhl. 34(1) wedi ei rhodder (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I33Rhl. 34 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
35.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddatgelu gwybodaeth i unrhyw awdurdod cymwys arall [F95yn y Deyrnas Unedig neu i awdurdod Tiriogaeth Ddibynnol y Goron] at ddibenion [F96y Rheoliad Iechyd Planhigion] [F97, Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023] neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i ddatgelu gwybodaeth neu unrhyw ofyniad arall sydd arnynt i wneud hynny.
Diwygiadau Testunol
F95Geiriau yn rhl. 35(1) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(6)(a)
F96Gair yn rhl. 35(1) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(6)(b)
F97Geiriau yn rhl. 35(1) wedi eu mewnosod (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I34Rhl. 35 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
36.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw hysbysiad a roddir gan arolygydd iechyd planhigion o dan y Rheoliadau hyn heblaw hysbysiad a roddir o dan reoliad 33(4) [F98neu Atodlen 4A].
(2) Caiff yr hysbysiad—
(a)pennu—
(i)un neu ragor o ofynion neu ofynion amgen;
(ii)ym mha fodd ac ym mha gyfnod y mae’n rhaid cyflawni unrhyw ofyniad neu amod a bennir yn yr hysbysiad, neu
(b)ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog neu unrhyw berson arall y mae’n ymddangos ei fod â gofal am y fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi—
(i)hysbysu’r awdurdod priodol am unrhyw newid ym meddiannaeth y fangre, dyddiad y newid ac enw’r meddiannydd newydd, a
(ii)rhoi gwybod i feddiannydd newydd y fangre am gynnwys yr hysbysiad.
(3) Rhaid i unrhyw waith i ddinistrio, gwaredu, ailallforio neu drin planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall neu bla planhigion y mae’n ofynnol ei wneud o dan yr hysbysiad gael ei wneud neu rhaid trefnu iddo gael ei wneud, er boddhad arolygydd iechyd planhigion gan y person y mae’r hysbysiad wedi ei gyflwyno iddo o’r man a bennir yn yr hysbysiad neu yn y man hwnnw.
(4) Caiff arolygydd iechyd planhigion ddiwygio’r hysbysiad neu ei dynnu’n ôl drwy hysbysiad pellach.
(5) Caiff yr hysbysiad ddiffinio hyd a lled y fangre y cyfeirir ati yn yr hysbysiad drwy gyfeirio at fap neu blan neu fel arall.
Diwygiadau Testunol
F98Geiriau yn rhl. 36(1) wedi eu mewnosod (15.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1303), rhlau. 1, 2(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I35Rhl. 36 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
37.—(1) Caniateir i hysbysiad gael ei gyflwyno i weithredwr cofrestredig—
(a)drwy ei ddanfon yn bersonol,
(b)drwy ei adael yng nghyfeiriad cysylltu’r gweithredwr cofrestredig, neu ei anfon yno drwy’r post, neu
(c)drwy ei anfon at y cyfeiriad ebost y mae’r gweithredwr wedi ei roi i’r awdurdod priodol ar gyfer cyflwyno hysbysiadau.
(2) Caniateir i hysbysiad gael ei gyflwyno i unrhyw berson arall—
(a)drwy ei ddanfon yn bersonol,
(b)drwy ei adael yng nghartref neu fan busnes hysbys diwethaf y person, neu ei anfon yno drwy’r post, neu
(c)drwy ei anfon at unrhyw gyfeiriad ebost y mae’r person wedi ei roi i’r awdurdod priodol ar gyfer cyflwyno hysbysiadau
(3) Os oes hysbysiad i’w roi gan arolygydd iechyd planhigion [F99neu’r awdurdod priodol] i feddiannydd neu i berson arall sydd â gofal am fangre, ac na ellir dod o hyd i gartref neu gyfeiriad hysbys diwethaf y person hwnnw ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyflwyno’r hysbysiad i’r person hwnnw drwy ei gyfeirio at “y meddiannydd” a’i adael wedi ei osod yn weladwy ar wrthrych yn y fangre am gyfnod o saith niwrnod.
(4) Caniateir i hysbysiad gael ei gyflwyno—
(a)yn achos corff corfforedig (heblaw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig), i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff hwnnw,
(b)yn achos partneriaeth (heblaw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, ond gan gynnwys partneriaeth Albanaidd), i bartner neu berson sy’n llywio neu’n rheoli busnes y bartneriaeth yng nghyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth, neu
(c)yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, i aelod o’r bartneriaeth yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r bartneriaeth.
(5) At ddibenion paragraff (4), prif swyddfa cwmni a gofrestrwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig neu bartneriaeth sy’n cyflawni busnes y tu allan i’r Deyrnas Unedig yw ei brif swyddfa neu ei phrif swyddfa yn y Deyrnas Unedig.
(6) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfeiriad cysylltu” (“contact address”), mewn perthynas â gweithredwr cofrestredig, yw—
prif gyfeiriad y gweithredwr yn y gofrestr, neu
unrhyw gyfeiriad post arall yng Nghymru y mae’r gweithredwr wedi ei roi i’r awdurdod priodol fel cyfeiriad cysylltu ar gyfer cyflwyno hysbysiadau;
ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad sydd i’w roi gan arolygydd iechyd planhigion [F100neu’r awdurdod priodol] o dan y Rheoliadau hyn.
Diwygiadau Testunol
F99Geiriau yn rhl. 37(3) wedi eu mewnosod (15.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1303), rhlau. 1, 2(4)(a)
F100Geiriau yn rhl. 37(6) wedi eu mewnosod (15.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1303), rhlau. 1, 2(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I36Rhl. 37 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
38.—(1) Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n torri’r canlynol, neu’n methu â chydymffurfio â hwy—
(a)rheoliad F101...26(1);
F102(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(c)paragraffau 2(1) neu (2), 5(1) neu (2), 11(1), 12(1), 13(1), 14(1), 15, 20(1), 21(7), 22(2), 27(1), 28(7), 29(2) neu 31(2) o Atodlen 2;
(d)un o ddarpariaethau [F103y Rheoliad Iechyd Planhigion] a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3;
(e)un o ddarpariaethau’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 3 (i’r graddau y mae’n gymwys i blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun un [F104o’r rheolau iechyd planhigion] );
(f)darpariaeth mewn unrhyw ddeddfwriaeth [F105uniongyrchol] arall [F106a gymathwyd] a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 3;
[F107(fa)darpariaeth yn Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023 a bennir yn Atodlen 3A]
F108(g). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(2) Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw beth a wneir o dan y canlynol, neu yn unol â hwy—
(a)awdurdodiad neu drwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn, neu sy’n cael effaith o dan y Rheoliadau hyn neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn;
(b)cymeradwyaeth a roddir o dan reoliad 13(6) neu gymeradwyaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 54(1);
(c)hysbysiad a roddir gan arolygydd iechyd planhigion neu awdurdod priodol o dan y Rheoliadau hyn, neu sy’n cael effaith o dan y Rheoliadau hyn neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn.
Diwygiadau Testunol
F101Geiriau yn rhl. 38(1)(a) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 12(2)(a)
F102Rhl. 38(1)(b) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 12(2)(b)
F103Gair yn rhl. 38(1)(d) wedi ei amnewid (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 12(2)(c)
F104Gair yn rhl. 38(1)(e) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 12(2)(d)
F105Geiriau yn rhl. 38(1)(f) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 12(2)(e)
F106Geiriau yn rhl. 38(1)(f) wedi eu hamnewid (1.1.2024) gan Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1332), rhlau. 1(2), 24(3)
F107Rhl. 38(1)(fa) wedi ei fewnosod (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(6)
F108Rhl. 38(1)(g) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 12(2)(f)
Gwybodaeth Cychwyn
I37Rhl. 38 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
39.— [F109(1)] Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n methu â chydymffurfio â’r canlynol—
(a)darpariaeth neu amod mewn hysbysiad a gyflwynwyd i’r person o dan y Rheoliadau hyn neu sy’n cael effaith o dan y Rheoliadau hyn neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn,
(b)darpariaeth neu amod mewn awdurdodiad neu drwydded a roddwyd i’r person o dan y Rheoliadau hyn neu sy’n cael effaith o dan y Rheoliadau hyn neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, neu
(c)darpariaeth neu amod mewn cyfarwyddyd a roddir o dan y Rheoliadau hyn.
[F110(2) Nid yw paragraff (1)(a) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan Atodlen 4A.]
Diwygiadau Testunol
F109Rhl. 39(1): rhl. 39 wedi ei ailrifo fel rhl. 39(1) (15.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1303), rhlau. 1, 2(5)(a)
F110Rhl. 39(2) wedi ei fewnosod (15.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1303), rhlau. 1, 2(5)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I38Rhl. 39 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
40. Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan reoliad 38 neu 39 ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros dorri’r gwaharddiad neu’r gofyniad o dan sylw neu dros fethu â chydymffurfio â hwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I39Rhl. 40 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
41. Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw, at ddibenion sicrhau awdurdodiad neu drwydded neu at ddibenion sicrhau y dyroddir pasbort planhigion [F111y DU][F112, label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon] neu dystysgrif—
(a)yn fwriadol neu’n ddi-hid yn gwneud datganiad neu sylwadau sy’n ffug o ran manylyn perthnasol,
(b)yn fwriadol neu’n ddi-hid yn darparu dogfen neu wybodaeth sy’n ffug o ran manylyn perthnasol, neu
(c)yn fwriadol yn methu â datgelu unrhyw wybodaeth berthnasol.
Diwygiadau Testunol
F111Geiriau yn rhl. 41 wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 12(3)
F112Geiriau yn rhl. 41 wedi eu mewnosod (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(7)
Gwybodaeth Cychwyn
I40Rhl. 41 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
42.—(1) Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw—
(a)yn dyroddi pasbort planhigion [F115y DU] [F116, label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon] neu dystysgrif yn anonest,
(b)yn newid pasbort planhigion [F116, label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon] F117...neu dystysgrif yn anonest, neu
(c)yn ailddefnyddio pasbort planhigion [F116, label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon] F118... neu dystysgrif yn anonest.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “tystysgrif” yw tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio, tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio neu dystysgrif cyn-allforio.
Diwygiadau Testunol
F113Geiriau ym mhennawd rhl. 42 wedi eu mewnosod (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(8)(a)
F114Gair ym mhennawd rhl. 42 wedi ei hepgor (C.) (4.3.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/239), rhlau. 1(2), 2(3)(a)
F115Geiriau yn rhl. 42(1)(a)-(c) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 12(4)(b)
F116Geiriau yn rhl. 42(1) wedi eu mewnosod (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023 (O.S. 2023/1056), rhlau. 1(2), 6(8)(b)
F117Gair yn rhl. 42(1)(b) wedi ei hepgor (C.) (4.3.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/239), rhlau. 1(2), 2(3)(b)
F118Gair yn rhl. 42(1)(c) wedi ei hepgor (C.) (4.3.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/239), rhlau. 1(2), 2(3)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I41Rhl. 42 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
43.—(1) Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw—
(a)yn fwriadol yn rhwystro arolygydd iechyd planhigion neu berson awdurdodedig sy’n gweithredu i weithredu neu orfodi [F119y Rheoliad Iechyd Planhigion], y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn,
(b)heb esgus rhesymol, yn methu â rhoi i arolygydd iechyd planhigion neu berson awdurdodedig unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae’n rhesymol i’r arolygydd neu’r person awdurdodedig eu gwneud yn ofynnol at y dibenion hynny, neu
(c)yn methu â dangos dogfen neu gofnod pan fo awdurdod priodol neu arolygydd iechyd planhigion sy’n gweithredu i weithredu neu orfodi [F120y Rheoliad Iechyd Planhigion], y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.
[F121(2) Ym mharagraff (1)—
(a)ystyr “person awdurdodedig” yw person a awdurdodwyd gan awdurdod priodol;
(b)mae cyfeiriad at y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yn cynnwys cyfraith [F122a gymathwyd] a fabwysiedir, neu reoliadau a wneir, o dan y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol ac unrhyw gyfraith iechyd planhigion arall [F122a gymathwyd].]
Diwygiadau Testunol
F119Gair yn rhl. 43(1)(a) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 12(5)(a)
F120Gair yn rhl. 43(1)(c) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 12(5)(a)
F121Rhl. 43(2) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 12(5)(b)
F122Gair yn rhl. 43(2)(b) wedi ei amnewid (1.1.2024) gan Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1332), rhlau. 1(2), 24(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I42Rhl. 43 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
44. Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n datgelu unrhyw wybodaeth a gafwyd oddi wrth Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi o dan reoliad 34(1) ac—
(a)bod yr wybodaeth yn ymwneud â pherson y mae ei fanylion adnabod wedi eu pennu yn y datgeliad, neu y gellir eu casglu o’r datgeliad,
(b)bod y datgeliad yn ddatgeliad at ddiben heblaw’r un a bennir yn rheoliad 34(1), ac
(c)nad yw’r Comisiynwyr wedi rhoi eu cydsyniad i’r datgeliad ymlaen llaw.
Gwybodaeth Cychwyn
I43Rhl. 44 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
45. Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan reoliad 44 brofi ei fod yn credu’n rhesymol—
(a)bod y datgeliad yn gyfreithlon, neu
(b)bod yr wybodaeth ar gael i’r cyhoedd yn flaenorol a hynny mewn modd cyfreithlon.
Gwybodaeth Cychwyn
I44Rhl. 45 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
46.—(1) Pan fo trosedd o dan y Rhan hon [F123neu baragraff 22 o Atodlen 4A (methu â chydymffurfio ag hysbysiad stop)] wedi ei chyflawni gan gorff corfforedig ac y profir bod y drosedd—
(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog,
mae’r swyddog, yn ogystal â’r corff corfforedig, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw—
(a)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i’r corff, neu
(b)person sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o’r fath.
(3) Os yw materion corff corfforedig yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd ac anweithredoedd aelod mewn cysylltiad â swyddogaethau’r aelod hwnnw o reoli fel y mae’n gymwys i un o swyddogion corff corfforedig.
Diwygiadau Testunol
F123Geiriau yn rhl. 46(1) wedi eu mewnosod (15.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1303), rhlau. 1, 2(6)
Gwybodaeth Cychwyn
I45Rhl. 46 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
47.—(1) Rhaid i achos am drosedd o dan y Rhan hon [F124neu baragraff 22 o Atodlen 4A (methu â chydymffurfio ag hysbysiad stop)] yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig gael ei ddwyn yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.
(2) At ddibenion achosion o’r fath—
(a)mae rheolau’r llys ynglŷn â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforedig, a
(b)mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (gweithdrefn ynglŷn â chyhuddiad o drosedd yn erbyn corfforaeth)(14) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (corfforaethau)(15) yn gymwys mewn perthynas â’r bartneriaeth neu’r gymdeithas fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforedig.
(3) Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu ar gymdeithas anghorfforedig wedi ei chollfarnu o drosedd o dan y Rhan hon i’w thalu o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas.
(4) Os profir bod trosedd o dan y Rhan hon a gyflawnwyd gan bartneriaeth—
(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner,
mae’r partner, yn ogystal â’r bartneriaeth, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(5) Ym mharagraff (4), mae “partner” yn cynnwys person sy’n honni ei fod yn gweithredu fel partner.
(6) Os profir bod trosedd o dan y Rhan hon a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig (heblaw partneriaeth)—
(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad un o swyddogion y gymdeithas, neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o’r fath,
mae’r swyddog, yn ogystal â’r gymdeithas, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(7) Ym mharagraff (6), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig, yw—
(a)un o swyddogion y gymdeithas neu aelod o’i chorff llywodraethu, neu
(b)person sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn swyddogaeth o’r fath.
Diwygiadau Testunol
F124Geiriau yn rhl. 47(1) wedi eu mewnosod (15.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1303), rhlau. 1, 2(7)
Gwybodaeth Cychwyn
I46Rhl. 47 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
48.—(1) Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 38(1), 39, 41, 42 neu 43 yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.
(2) Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 44 yn agored—
(a)ar gollfarn ddiannod, i garchariad am gyfnod nad yw’n fwy na thri mis, i ddirwy neu i’r ddau;
(b)ar gollfarn ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw’n fwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i’r ddau.
Gwybodaeth Cychwyn
I47Rhl. 48 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
Diwygiadau Testunol
F125Rhn. 11A wedi ei fewnosod (15.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1303), rhlau. 1, 2(8)
48A. Mae Atodlen 4A (sy’n darparu ar gyfer sancsiynau sifil) yn cael effaith.]
49. Mae Atodlen 5 yn cynnwys diwygiadau mân a chanlyniadol i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â marchnata hadau a deunydd lluosogi planhigion a ffioedd iechyd planhigion.
Gwybodaeth Cychwyn
I48Rhl. 49 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
50. Mae’r offerynnau a restrir yn Atodlen 6 wedi eu dirymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I49Rhl. 50 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
51.—(1) Mae unrhyw drwydded a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 39(1) o Orchymyn 2005 neu o dan erthygl 41(1) o Orchymyn 2018, sydd mewn grym yn union cyn y dyddiad cychwyn, yn cael effaith yn ystod y cyfnod perthnasol fel pe bai wedi ei rhoi gan yr awdurdod priodol yn unol ag Erthygl 5 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/829 ar y dyddiad y’i rhoddwyd o dan Orchymyn 2005 neu Orchymyn 2018
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar unrhyw beth a gyflawnwyd cyn y dyddiad cychwyn, o dan y drwydded neu at ddibenion y drwydded.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y drwydded at Orchymyn 2005, Gorchymyn 2018, Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC neu Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/61/EC i’w ddarllen fel cyfeiriad at y ddarpariaeth gyfatebol yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliadau hyn neu o dan y Rheoliad hwnnw neu’r Rheoliadau hynny.
(4) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/61/EC” (“Commission Directive 2008/61/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/61/EC yn sefydlu o dan ba amodau y caniateir cyflwyno rhai organeddau niweidiol, planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill a restrir yn Atodiadau I i V i Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC i’r Gymuned neu i barthau gwarchodedig penodol ynddi, neu eu symud yn y Gymuned neu’r parthau hynny, at ddibenion treialon neu ddibenion gwyddonol ac ar gyfer gwaith ar ddethol amrywogaethau(16);
ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”), mewn perthynas â thrwydded, yw—
os yw’r drwydded yn dod i ben ar neu ar ôl 31 Rhagfyr 2020, y cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy’n diweddu ar 31 Rhagfyr 2020, neu
os yw’r drwydded yn dod i ben cyn 31 Rhagfyr 2020, y cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy’n diweddu ar y dyddiad a bennir yn y drwydded i’r drwydded ddod i ben;
ystyr “Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/829” (“Commission Delegated Regulation (EU) 2019/829”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/829 yn ategu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion, yn awdurdodi’r Aelod-wladwriaethau i ddarparu ar gyfer rhanddirymiadau dros dro oherwydd dibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dethol neu fridio amrywogaethau(17).
Gwybodaeth Cychwyn
I50Rhl. 51 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
52.—(1) Mae unrhyw drwydded a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 38(1)(a) o Orchymyn 2005 neu o dan erthygl 40(1)(a) o Orchymyn 2018 ac sy’n cael effaith ar y dyddiad cychwyn yn parhau mewn grym fel pe bai’n awdurdodiad a roddwyd gan yr awdurdod priodol o dan reoliad 21(1)(a) ar y dyddiad y rhoddwyd y drwydded o dan Orchymyn 2005 neu Orchymyn 2018.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar unrhyw beth a gyflawnwyd cyn y dyddiad cychwyn, o dan y drwydded neu at ddibenion y drwydded.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y drwydded at Orchymyn 2005, Gorchymyn 2018 neu Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC i’w ddarllen fel cyfeiriad at y ddarpariaeth gyfatebol yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliadau hyn neu o dan y Rheoliad hwnnw neu’r Rheoliadau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I51Rhl. 52 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
53.—(1) Mae unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan Orchymyn 2005, Gorchymyn Iechyd Planhigion (Marcio Deunydd Pecynnu Pren) (Coedwigaeth) 2006(18) neu Orchymyn 2018 ac sy’n cael effaith ar y dyddiad cychwyn—
(a)yn parhau mewn grym ac yn parhau i gael effaith fel pe bai wedi ei roi o dan y Rheoliadau hyn at ddiben cyfatebol ar y dyddiad y rhoddwyd ef o dan Orchymyn 2005, Gorchymyn Iechyd Planhigion (Marcio Deunydd Pecynnu Pren) (Coedwigaeth) 2006 neu Orchymyn 2018 (yn ôl y digwydd), a
(b)i’w ddarllen gydag unrhyw addasiadau sy’n angenrheidiol er mwyn iddo wneud hynny.
(2) Ym mharagraff (1), mae’r cyfeiriad at unrhyw hysbysiad o dan Orchymyn 2005, Gorchymyn Iechyd Planhigion (Marcio Deunydd Pecynnu Pren) (Coedwigaeth) 2006 neu Orchymyn 2018 yn cynnwys unrhyw gymeradwyaeth swyddogol a roddwyd at ddibenion yr hysbysiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I52Rhl. 53 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
54.—(1) Mae unrhyw gymeradwyaeth a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 17(1) o Orchymyn 2005 neu o dan erthygl 17(1) o Orchymyn 2018 sydd mewn grym yn union cyn y dyddiad cychwyn yn parhau mewn grym ac yn parhau i gael effaith yn ystod y cyfnod perthnasol.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “cyfnod perthnasol”, mewn perthynas â chymeradwyaeth a roddwyd o dan erthygl 17(1) o Orchymyn 2005 neu Orchymyn 2018, yw—
(a)os yw’r gymeradwyaeth yn dod i ben ar neu ar ôl 13 Rhagfyr 2020, y cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy’n diweddu ar 13 Rhagfyr 2020, neu
(b)os yw’r gymeradwyaeth yn dod i ben cyn 13 Rhagfyr 2020, y cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy’n diweddu ar y dyddiad a bennir yn y gymeradwyaeth i’r gymeradwyaeth ddod i ben.
Gwybodaeth Cychwyn
I53Rhl. 54 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
55.—(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020(19) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “deddfwriaeth berthnasol”, yn lle “is-baragraffau (a), (c), (d), (e) ac (f)” rhodder “is-baragraffau (a) i (f)”.
(3) Yn rheoliad 13(5)(b), yn y testun Cymraeg, ar ôl “bodlonir” mewnosoder “un”.
Gwybodaeth Cychwyn
I54Rhl. 55 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
2 Mawrth 2020
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: