- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020, Adran 6.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
6.—(1) Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi fel yr awdurdod cymwys sy’n gyfrifol am drefnu a chyflawni rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill yng Nghymru i’r graddau y maent yn ymwneud â’r canlynol—
(a)plâu planhigion, planhigion, plâu coed, coed, deunydd coedwigaeth neu ddeunydd nad yw’n ddeunydd coedwigaeth, neu
(b)gweithredwyr proffesiynol coedwigaeth neu weithredwyr proffesiynol eraill.
(2) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “coeden” (“tree”) yw coeden neu lwyn byw, neu ran fyw o goeden neu lwyn, ar unrhyw gyfnod yn eu tyfiant;
ystyr “deunydd coedwigaeth” (“forestry material”) yw—
pren sy’n cadw rhan neu’r cyfan o’i arwyneb crwn naturiol, gyda rhisgl neu hebddo;
pren ar ffurf sglodion, gronynnau, naddion, blawd llif, gwastraff neu sgrap pren;
coed conwydd dros 3m o uchder;
rhisgl sydd wedi ei dynnu neu sydd wedi datgysylltu oddi ar goeden fyw, coeden a gwympwyd neu goeden a syrthiodd, neu oddi ar ran o un o’r rhain;
ystyr “deunydd nad yw’n ddeunydd coedwigaeth” (“non-forestry material”) yw planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill, heblaw deunydd coedwigaeth;
ystyr “deunydd pecynnu pren” (“wood packaging material”) yw pren neu gynhyrchion pren (ac eithrio cynhyrchion papur) a ddefnyddir, neu y bwriedir eu defnyddio, i gynnal, diogelu neu gario nwydd o unrhyw fath, gan gynnwys pacin;
ystyr “gweithredwr proffesiynol coedwigaeth” (“forestry professional operator”) yw gweithredwr proffesiynol sy’n cyflawni un neu ragor o’r gweithgareddau a ganlyn, ond nid unrhyw weithgareddau eraill a ddisgrifir yn Erthygl 2(9) [F1o’r Rheoliad Iechyd Planhigion] —
cyflwyno deunydd coedwigaeth i Gymru;
storio, agregu neu symud deunydd coedwigaeth yng Nghymru, symud deunydd coedwigaeth i Gymru o ran arall o [F2Brydain Fawr neu un o Diriogaethau Dibynnol y Goron] neu symud deunydd coedwigaeth o Gymru i ran arall o [F2Brydain Fawr neu un o Diriogaethau Dibynnol y Goron] ;
allforio deunydd coedwigaeth o Gymru i drydedd wlad;
[F3cyflwyno deunydd coedwigaeth i Ogledd Iwerddon o Gymru;]
trin a marcio deunydd pecynnu pren neu ddeunydd coedwigaeth yn unol ag Atodiad 1 i SRFFf 15 neu drwsio deunydd pecynnu pren yng Nghymru;
cyflwyno plâu coed i Gymru, symud plâu coed yng Nghymru neu ddal neu luosi plâu coed yng Nghymru, at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dewis neu fridio amrywogaethau;
cyflwyno coed neu ddeunydd coedwigaeth i Gymru neu symud coed neu ddeunydd coedwigaeth yng Nghymru, i’w defnyddio at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dewis neu fridio amrywogaethau;
ystyr “pla coed” (“tree pest”) yw pla planhigion sy’n niweidiol i goed neu bren.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 6(2) wedi ei hepgor (C.) (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 5(2)(a)
F2Geiriau yn rhl. 6(2) wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 5(2)(b)
F3Geiriau yn rhl. 6(2) wedi eu mewnosod (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 5(2)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 6 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: