- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020, Paragraff 26.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
26.—(1) Os bydd presenoldeb Pydredd coch tatws yn cael ei gadarnhau yn dilyn profion swyddogol a gynhelir yn unol â pharagraff 25(2)(a), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cymerir y camau a bennir yn is-baragraffau (2) i (4) yn unol ag egwyddorion gwyddonol cadarn, bioleg Pydredd coch tatws a systemau cynhyrchu, marchnata a phrosesu perthnasol planhigion sy’n cynnal Pydredd coch tatws.
(2) Yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, y camau yw—
(a)ymchwiliad gan arolygydd iechyd planhigion i ganfod graddau’r halogiad a phrif ffynonellau’r halogiad [F1sy’n cynnwys cynnal ymchwiliad i’r pethau a ganlyn— ;
(i)tatws sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sy’n perthyn drwy glonio i unrhyw datws halogedig;
(ii)tomatos sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sydd o’r un ffynhonnell ag unrhyw domatos halogedig;
(iii)tatws neu domatos sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sydd o dan reolaeth swyddogol ac yr amheuir eu bod wedi eu halogi â Phydredd coch tatws;
(iv)tatws sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sy’n perthyn drwy glonio i unrhyw datws a dyfwyd yn y man cynhyrchu halogedig;
(v)tatws neu domatos sy’n tyfu gerllaw’r man cynhyrchu halogedig, gan gynnwys y rhai sy’n rhannu cyfarpar a chyfleusterau cynhyrchu yn uniongyrchol neu drwy gontractwr sy’n gyffredin rhyngddynt;
(vi)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau a chwistrellu o unrhyw ffynhonnell y cadarnheir neu yr amheuir ei bod wedi ei halogi a Phydredd coch tatws;
(vii)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau a chwistrellu o ffynhonnell a ddefnyddir ar y cyd â’r mannau cynhyrchu halogedig a’r mannau cynhyrchu sy’n halogedig o bosibl;
(viii)mannau cynhyrchu sydd wedi eu gorlifo, neu a oedd wedi eu gorlifo, â dŵr wyneb halogedig neu ddŵr wyneb sy’n halogedig o bosibl;
(ix)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau neu chwistrellu’r man cynhyrchu halogedig neu gaeau sydd wedi eu gorlifo yn y man cynhyrchu halogedig;]
(b)profion swyddogol pellach, gan gynnwys profion ar yr holl stociau tatws hadyd sy’n perthyn drwy glonio;
(c)dynodi gan arolygydd iechyd planhigion bod y pethau a ganlyn yn halogedig—
(i)y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a’r llwyth neu’r lot y cymerwyd y sampl ohono neu ohoni;
(ii)unrhyw wrthrychau sydd wedi dod i gysylltiad â’r sampl honno;
(iii)unrhyw uned cynhyrchu cnwd dan orchudd neu gae cynhyrchu cnwd dan orchudd ac unrhyw fan cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y cymerwyd y sampl ohoni neu ohono;
(d)penderfyniad gan arolygydd iechyd planhigion ynghylch graddau’r halogiad tebygol drwy ddod i gysylltiad cyn neu ar ôl cynaeafu, drwy gysylltau cynhyrchu, dyfrhau neu chwistrellu neu drwy berthynas drwy glonio;
(e)darnodi parth gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad o dan baragraff (c), y penderfyniad a wneir o dan baragraff (d) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws [F2gan ystyried y ffactorau perthnasol].
(3) Yn achos planhigion cynhaliol, heblaw deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, pan fo arolygydd iechyd planhigion yn nodi bod cynhyrchu deunydd o’r fath yn wynebu risg, y camau yw—
(a)ymchwiliad gan arolygydd iechyd planhigion i ganfod graddau’r halogiad a phrif ffynonellau’r halogiad [F3sy’n cynnwys cynnal ymchwiliad i’r pethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(a)(i) i (ix)];
(b)dynodi gan arolygydd iechyd planhigion fod planhigion cynhaliol y cymerwyd y sampl ohonynt yn halogedig;
(c)penderfyniad gan arolygydd iechyd planhigion o ran yr halogiad tebygol;
(d)darnodi parth gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad o dan baragraff (b), y penderfyniad a wnaed o dan baragraff (c) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws [F4gan ystyried y ffactorau perthnasol].
(4) Yn achos dŵr wyneb a phlanhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt cysylltiedig, pan fo arolygydd iechyd planhigion yn nodi bod cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn wynebu risg oherwydd dyfrhau, chwistrellu neu lifogydd dŵr wyneb, y camau yw—
(a)ymchwiliad gan arolygydd iechyd planhigion i ganfod graddau’r halogiad, sy’n cynnwys cynnal arolwg swyddogol, ar adegau priodol, ar samplau o ddŵr wyneb ac, os ydynt yn bresennol, planhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt;
(b)dynodi dŵr wyneb y cymerwyd y sampl ohono gan arolygydd iechyd planhigion, i’r graddau sy’n briodol ac ar sail yr ymchwiliad o dan baragraff (a);
(c)penderfyniad gan arolygydd iechyd planhigion o ran yr halogiad tebygol ar sail y dynodiad a wnaed o dan baragraff (b);
(d)darnodi parth gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad o dan baragraff (b), y penderfyniad a wnaed o dan baragraff (c) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws [F5gan ystyried y ffactorau perthnasol].
[F6(5) Y “ffactorau perthnasol” yw—
(a)at ddibenion is-baragraffau (2)(e) a (3)(d)—
(i)agosrwydd mannau cynhyrchu eraill sy’n tyfu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau;
(ii)cynhyrchu a defnyddio stociau tatws hadyd ar y cyd;
(iii)mannau cynhyrchu sy’n defnyddio dŵr wyneb i ddyfrhau neu chwistrellu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau pan fo risg o ddŵr wyneb ffo o’r man cynhyrchu halogedig;
(b)at ddibenion is-baragraff (4)(d)—
(i)mannau cynhyrchu sy’n cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n gyfagos i ddŵr wyneb halogedig, neu sy’n wynebu risg o orlifo gan ddŵr o’r fath;
(ii)unrhyw fasn dyfrhau ar wahân sy’n gysylltiedig â’r dŵr wyneb halogedig;
(iii)crynofeydd dŵr sy’n gysylltiedig â’r dŵr wyneb halogedig, gan roi sylw i gyfeiriad a chyfradd llif y dŵr wyneb halogedig a phresenoldeb planhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 2 para. 26(2)(a) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 19(4)(a)(i)
F2Geiriau yn Atod. 2 para. 26(2)(e) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 19(4)(a)(ii)
F3Geiriau yn Atod. 2 para. 26(3)(a) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 19(4)(b)(i)
F4Geiriau yn Atod. 2 para. 26(3)(d) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 19(4)(b)(ii)
F5Geiriau yn Atod. 2 para. 26(4)(d) wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 19(4)(c)
F6Atod. 2 para. 26(5) wedi ei fewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 19(4)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 26 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: