- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020, Paragraff 28.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
28.—(1) Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno’r hysbysiadau a ganlyn i unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am fan cynhyrchu halogedig sydd mewn parth a ddarnodir gan arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff 26(2)(e)—
(a)mewn perthynas â chae halogedig neu uned cynhyrchu cnwd dan orchudd halogedig sy’n rhan o’r man cynhyrchu, hysbysiad yn cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu neu hysbysiad yn cynnwys yr ail set o fesurau dileu;
(b)mewn perthynas â chae sy’n rhan o’r man cynhyrchu ond nad yw’n halogedig a, pan fo’r arolygydd wedi ei fodloni bod y risg o blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd coch tatws wedi ei dileu, hysbysiad yn cynnwys y drydedd set o fesurau dileu.
(2) Y set gyntaf o fesurau dileu yw—
(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae neu’r uned o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am o leiaf bedair blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf, er mwyn dileu unrhyw blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol ac unrhyw blanhigion eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, sy’n cynnal Pydredd coch tatws,
(b)gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae neu’r uned yn ystod y cyfnod hwnnw—
(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws;
(ii)planhigion tomatos neu hadau tomatos;
(iii)gan ystyried bioleg Pydredd coch tatws, planhigion cynhaliol eraill neu blanhigion o’r rhywogaeth Brassica lle ceir risg mewn cysylltiad â hwy bod Pydredd coch tatws yn goroesi;
(iv)cnydau lle ceir risg mewn cysylltiad â hwy y bydd Pydredd coch tatws yn lledaenu,
(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae neu’r uned yn ystod y tymor cnydio tatws neu domatos cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, a bod y tatws dim ond yn cael eu plannu os canfuwyd bod y cae neu’r uned yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomato gwirfoddol a phlanhigion cynhaliol eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, yn ystod arolygiadau swyddogol ar gyfer Pydredd coch tatws, am o leiaf y ddwy flwyddyn dyfu olynol cyn plannu, a bod y cloron neu’r planhigion tomatos a gynaeafwyd yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn [F1EPPO PM 7/21], a
(d)gofyniad bod rhaid cymhwyso cylch cylchdroi priodol yn y tymhorau cnydio tatws neu domatos dilynol, a rhaid i’r cylch hwnnw fod yn ddwy flynedd o leiaf pan fo tatws i’w plannu i gynhyrchu tatws hadyd.
(3) Yr ail set o fesurau dileu yw—
(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae neu’r uned o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am bum blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, sy’n cynnal Pydredd coch tatws,
(b)gofyniad—
(i)yn ystod tair blwyddyn gyntaf y blynyddoedd tyfu hynny, fod y cae neu’r uned yn cael ei gadw neu ei chadw—
(aa)yn fraenar,
(bb)gyda chnydau grawnfwyd, os yw’r arolygydd wedi ei fodloni nad oes risg y bydd Pydredd coch tatws yn lledaenu,
(cc)yn dir pori parhaus gan dorri’r borfa yn fyr neu bori’r tir yn ddwys yn fynych, neu
(dd)fel glaswellt ar gyfer cynhyrchu hadau;
(ii)yn ystod y bedwaredd a’r bumed flwyddyn dyfu, mai dim ond planhigion nad ydynt yn cynnal Pydredd coch tatws ac nad oes unrhyw risg mewn cysylltiad â hwy y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu y caniateir eu plannu yn y cae neu’r uned, ac
(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta y caniateir eu plannu yn ystod y tymor cnydio tatws neu domatos cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, a bod y tatws dim ond yn cael eu plannu os canfuwyd bod y cae neu’r uned yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion cynhaliol eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, yn ystod arolygiadau swyddogol ar gyfer Pydredd coch tatws, am o leiaf ddwy flwyddyn dyfu yn olynol cyn plannu, a bod y cloron neu’r planhigion tomatos a gynaeafwyd yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn [F2EPPO PM 7/21].
(4) Y drydedd set o fesurau dileu yw—
(a)gofyniad na phlennir planhigion sy’n cynnal Pydredd coch tatws neu mai dim ond y planhigion tatws a’r planhigion tomatos a ganlyn y caniateir eu plannu yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am y flwyddyn dyfu gyntaf—
(i)tatws hadyd ardystiedig ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta;
(ii)planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol ar gyfer cynhyrchu ffrwythau,
(b)gofyniad mai dim ond y tatws a ganlyn y caniateir eu plannu i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn y flwyddyn dyfu ddilynol gyntaf, os oes tatws i’w plannu yn y flwyddyn honno—
(i)tatws hadyd ardystiedig;
(ii)tatws hadyd a brofwyd yn swyddogol ar gyfer absenoldeb Pydredd coch tatws ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n halogedig,
(c)gofyniad mai dim ond y planhigion tomatos a ganlyn y caniateir eu plannu i gynhyrchu planhigion neu ffrwythau yn y flwyddyn dyfu ddilynol gyntaf, os oes planhigion tomatos i’w plannu yn y flwyddyn honno—
(i)planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol;
(ii)os ydynt wedi eu lluosogi yn llystyfol, planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n halogedig,
(d)gofyniad, yn achos tatws, mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol o datws hadyd ardystiedig y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod yr ail flwyddyn dyfu ddilynol ac unrhyw flwyddyn dyfu ddilynol arall i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn y cae,
(e)gofyniad, yn achos tomatos, mai dim ond planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol neu, os ydynt wedi eu lluosogi yn llystyfol, planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod yr ail flwyddyn dyfu ddilynol ac unrhyw flwyddyn dyfu ddilynol arall i gynhyrchu planhigion neu ffrwythau yn y cae,
(f)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad hyd at ddiwedd y flwyddyn dyfu a bennir yn yr hysbysiad er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, a phlanhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd coch tatws, ac
(g)arolygiadau swyddogol o gnydau sy’n tyfu ar adegau priodol a phrofion swyddogol ar datws a gynaeafwyd yn unol â’r dull a nodir yn [F3EPPO PM 7/21].
(5) Rhaid hefyd i hysbysiad a gyflwynir gan arolygydd iechyd planhigion o dan is-baragraff (1)(a) sy’n cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu—
(a)cynnwys gofyniad bod rhaid i’r holl beiriannau a chyfleusterau storio yn y man cynhyrchu a ddefnyddir i gynhyrchu tatws gael eu glanhau a’u diheintio ar unwaith ac yn dilyn y flwyddyn dyfu gyntaf,
(b)pennu’r dulliau priodol ar gyfer glanhau a diheintio’r peiriannau a’r cyfleusterau storio, ac
(c)gwahardd unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu neu bennu sut y mae’n rhaid cynnal unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu, at ddiben atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.
(6) Caniateir i’r mesurau y caiff eu pennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (1) neu (5) gael eu cynnwys mewn hysbysiad gyda mesurau priodol eraill.
(7) Rhaid i’r person y cyflwynir hysbysiad iddo yn unol ag is-baragraff (1) sicrhau bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn cael eu cymryd yn y modd gofynnol.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 2 para. 28(2)(c) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 19(6)
F2Geiriau yn Atod. 2 para. 28(3)(c) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 19(6)
F3Geiriau yn Atod. 2 para. 28(4)(g) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 19(6)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 28 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: