- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020, ATODLEN 3.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Rheoliad 38(1)(d) i (f)
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau ym mhennawd Atod. 3 wedi eu hamnewid (1.1.2024) gan Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1332), rhlau. 1(2), 24(5)
Diwygiadau Testunol
F2Gair yn Atod. 3 Rhn. 1 pennawd wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 Rhn. 1 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
Y Ddarpariaeth yn [F3y Rheoliad Iechyd Planhigion] | Y Pwnc |
---|---|
Erthygl 5(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 8(1)) | Yn gwahardd cyflwyno pla [F4cwarantin Prydain Fawr] i [F5Brydain Fawr] , symud pla [F4cwarantin Prydain Fawr] o fewn [F5Prydain Fawr] neu ddal, lluosogi neu ryddhau pla [F4cwarantin Prydain Fawr] o fewn [F5Prydain Fawr] (1). |
Erthygl 9(3) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 33(1)) | Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol hysbysu awdurdodau cymwys ar unwaith am unrhyw dystiolaeth a all fod ganddynt ynghylch perygl sydd ar fin digwydd: |
Erthygl 14(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 16 a 33(1)) | Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol sy’n amau neu sy’n dod yn ymwybodol: (a) bod pla cwarantin [F11Prydain Fawr neu bla cwarantin Prydain Fawr dros dro] yn bresennol mewn planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sydd o dan reolaeth y gweithredwr; hysbysu’r awdurdod cymwys ar unwaith a chymryd camau rhagofalus i atal y pla rhag ymsefydlu a lledaenu. |
Erthygl 14(3) | Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol: (a) ymgynghori â’r awdurdod cymwys pan fo’r gweithredwr proffesiynol wedi cael cadarnhad swyddogol ynghylch presenoldeb pla cwarantin [F14Prydain Fawr] mewn planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sydd o dan reolaeth y gweithredwr, a (b) pan fo’n gymwys, bwrw ymlaen â’r camau sy’n ofynnol o dan Erthygl 14(4) i (7). |
Erthygl 15(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 15(2), 16 a 33(1)) | Yn ei gwneud yn ofynnol i berson nad yw’n weithredwr proffesiynol hysbysu’r awdurdod cymwys ar unwaith pan fydd y person yn dod yn ymwybodol o’r canlynol, neu pan fo ganddo reswm i amau’r canlynol: |
Erthygl 32(2) | Yn gwahardd cyflwyno pla cwarantin [F18PFA] i’r priod barth gwarchodedig, symud pla cwarantin [F18PFA] yn [F19yr ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr a sefydlwyd mewn cysylltiad â’r pla hwnnw] neu’r daliad, lluosogi neu ryddhau pla cwarantin [F18PFA] yn [F19yr ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr a sefydlwyd mewn cysylltiad â’r pla hwnnw] (2). |
Erthygl 37(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 39, ac Erthygl 17 o’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol) | Yn gwahardd gweithredwr proffesiynol rhag cyflwyno i [F20Brydain Fawr] bla nad yw’n bla cwarantin [F21Prydain Fawr] a reoleiddir ar blanhigion i’w plannu y caiff ei drosglwyddo drwyddynt, neu symud pla nad yw’n bla cwarantin [F21Prydain Fawr] a reoleiddir o fewn [F20Prydain Fawr] ar blanhigion i’w plannu y caiff ei drosglwyddo drwyddynt(3). |
Erthygl 40(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 47 a 48(1)) | Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill penodol i [F22Brydain Fawr] os ydynt yn tarddu o bob trydedd wlad neu diriogaeth neu rai penodol ohonynt(4). |
Erthygl 41(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 47 a 48(1)) | Yn gwahardd: (a) cyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill o drydydd gwledydd oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni(5); (b) symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni(6). |
[F23Erthygl 41(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 47 a 48(1)) | Yn gwahardd cyflwyno i Brydain Fawr blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill o drydydd gwledydd oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni. |
Erthygl 41(1A) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 48(1)) | Yn gwahardd cyflwyno i Brydain Fawr blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill o diriogaethau Dibynnol y Goron oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni. |
Erthygl 41(1B) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 48(1)) | Yn gwahardd symud o fewn Prydain Fawr blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni.] |
Erthygl 42(2) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 47 a 48(1)) | Yn gwahardd cyflwyno i [F24Brydain Fawr] blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n uchel eu risg o drydydd gwledydd(7). |
Erthygl 43(1) | Yn gwahardd cyflwyno i [F24Brydain Fawr] ddeunydd pecynnu pren, p’un a yw’n cael ei ddefnyddio i gludo gwrthrychau o unrhyw fath neu beidio, oni bai ei fod yn cyflawni’r gofynion penodedig neu ei fod yn destun yr esemptiadau y darperir ar eu cyfer yn SRFFf 15. |
Erthygl 45(1), y trydydd paragraff (fel y’i darllenir gydag Erthygl 55) | Yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau post a gweithredwyr proffesiynol sy’n ymwneud â gwerthu drwy gontractau pellter drefnu bod gwybodaeth benodol ar gael i’w cleientiaid drwy’r rhyngrwyd. |
Erthygl 53(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 57 a 58) | Yn gwahardd: (a) cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill sy’n tarddu o drydydd gwledydd i [F25ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr]; |
Erthygl 54(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 57 a 58) | Yn gwahardd: |
Erthygl 59 | Yn ei gwneud yn ofynnol: (a) i gerbydau, peiriannau neu ddeunydd pecynnu a ddefnyddir ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill sy’n symud i [F29Brydain Fawr] neu o’i mewn, neu drwy [F29Brydain Fawr], fod yn rhydd rhag plâu [F30cwarantin Prydain Fawr neu blâu cwarantin Prydain Fawr dros dro]; (b) i gerbydau, peiriannau neu ddeunydd pecynnu a ddefnyddir ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill sy’n symud i’r [F31ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr] neu o’u mewn, neu drwy [F32ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr], fod yn rhydd rhag y plâu cwarantin [F33PFA] [F34sy’n ymwneud â’r ardaloedd hynny]. |
Erthygl 62(1) | Yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gyfrifol am orsaf gwarantin neu gyfleuster cyfyngu fonitro’r orsaf neu’r cyfleuster a’r cyffiniau agos, am bresenoldeb anfwriadol plâu cwarantin [F35Prydain Fawr a phlâu cwarantin Prydain Fawr dros dro]. |
Erthygl 62(2) | Yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gyfrifol am orsaf gwarantin neu gyfleuster cyfyngu gymryd camau priodol ar sail y cynllun wrth gefn y cyfeirir ato ym mhwynt (e) o Erthygl 61(1) ac i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau i weithredwyr proffesiynol yn Erthygl 14 pan ganfyddir neu pan amheuir presenoldeb anfwriadol pla cwarantin [F36Prydain Fawr neu bla cwarantin Prydain Fawr dros dro]. |
Erthygl 64(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 64(2)) | Yn gwahardd rhyddhau planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o orsafoedd cwarantin neu gyfleusterau cyfyngu oni bai bod hynny wedi ei awdurdodi gan yr awdurdodau cymwys. |
Erthygl 66(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 65(3)) | Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol penodol gyflwyno cais am gofrestru i’r awdurdodau cymwys. |
Erthygl 66(5) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 65(3)) | Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr cofrestredig, pan fo’n berthnasol: (a) cyflwyno diweddariad blynyddol ynghylch unrhyw newidiadau yn y data y cyfeirir ato ym mhwyntiau (d) ac (e) o Erthygl 66(2) neu yn y datganiadau y cyfeirir atynt ym mhwyntiau (b) ac (c) o Erthygl 66(2); (b) diweddaru’r data y cyfeirir ato ym mhwynt (a) o Erthygl 66(2) heb fod yn hwyrach na 30 diwrnod ar ôl y newid yn y data hwnnw. |
Erthygl 69(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 65(3) a 69(3)) | Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol y cyflenwir iddo blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun y gofynion neu’r amodau penodedig gadw cofnod sy’n caniatáu i’r gweithredwr adnabod y gweithredwr proffesiynol a gyflenwodd bob uned fasnach. |
Erthygl 69(2) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 69(3)) | Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol sy’n cyflenwi planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun y gofynion neu’r amodau penodedig gadw cofnod sy’n caniatáu i’r gweithredwr adnabod y gweithredwr proffesiynol y cyflenwyd pob uned fasnach iddo. |
Erthygl 69(4) | Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol gadw’r cofnodion sy’n ofynnol yn unol ag Erthygl 69(1) i (3) am o leiaf dair blynedd. |
Erthygl 70(1) | Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol y cyflenwir y planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill y cyfeirir atynt yn Erthygl 69(1) a (2) iddynt, neu sy’n cyflenwi’r rheiny, fod â systemau neu weithdrefnau olrhain ar waith i ganiatáu i symudiadau’r planhigion, y cynhyrchion planhigion a’r gwrthrychau eraill hynny o fewn a rhwng eu mangreoedd eu hunain gael eu hadnabod. |
Erthyglau 72(1) a 73 | Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill i [F37Brydain Fawr] o drydydd gwledydd oni bai bod tystysgrif ffytoiechydol yn mynd gyda hwy(10). |
Erthygl 74(1) | Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill o drydydd gwledydd i [F38ardaloedd penodol sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr] oni bai bod tystysgrif ffytoiechydol yn mynd gyda hwy(11). |
Erthygl 79(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 81, 82 , 83 [F39, 92a a 95a(2)]) | Yn gwahardd symud planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill o fewn [F40Prydain Fawr neu gyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill i Brydain Fawr o diriogaeth Ddibynnol y Goron heb basbort planhigion y DU] (12). |
Erthygl 80(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 81, 82 , 83 [F41, 92a a 95a(2)]) | Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill i [F42ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr], neu symud planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill o fewn [F42ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr], heb basbort planhigion [F43y DU] (13). |
Erthygl 84(1) | Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol rhag dyroddi pasbortau planhigion [F44y DU] oni bai eu bod wedi eu hawdurdodi a rhag dyroddi pasbortau planhigion [F44y DU] ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill nad ydynt yn gyfrifol amdanynt. |
Erthygl 84(3) | Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion [F44y DU] ac eithrio mewn mangreoedd, warysau cyfun neu ganolfannau anfon penodedig. |
Erthygl 85 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 87) | Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion [F45y DU] ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill oni bai bod y gofynion penodedig wedi eu cyflawni mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny. |
Erthygl 86(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 86(2) a 87) | Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion [F46y DU] ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i’w cyflwyno i [F47ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr], neu i’w symud o’i fewn, oni bai bod y gofynion penodol wedi eu cyflawni mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny. |
[F48Erthygl 86a | Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion y DU ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i’w cyflwyno i diriogaeth Ddibynnol y Goron, oni bai bod y gofynion penodol wedi eu cyflawni mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny.] |
Erthygl 88 | Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol atodi pasbortau planhigion [F49y DU] i uned fasnach y planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill o dan sylw, neu pan fo’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill yn cael eu symud mewn pecyn, bwndel neu gynhwysydd, i’r pecyn, y bwndel neu’r cynhwysydd hwnnw. |
Erthygl 90(1) | Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr awdurdodedig: (a) nodi a monitro’r pwyntiau yn ei broses gynhyrchu a phwyntiau allweddol penodol eraill ynglŷn â symud planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill pan fo’r gweithredwr awdurdodedig yn bwriadu dyroddi pasbort planhigion [F50y DU] mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion a’r gwrthrychau eraill hynny, a (b) cadw cofnodion ynghylch nodi a monitro’r pwyntiau hynny am o leiaf dair blynedd. |
Erthygl 90(2) | Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr awdurdodedig sicrhau bod hyfforddiant priodol yn cael ei roi i’w bersonél sy’n ymwneud â’r archwiliadau y cyfeirir atynt yn Erthygl 87. |
Erthygl 93(1) | Yn gwahardd gweithredwyr awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion [F51y DU] amnewid oni bai bod amodau penodol wedi eu cyflawni. |
Erthygl 93(5) | Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr awdurdodedig gadw pasbortau planhigion [F52penodol] neu eu cynnwys am o leiaf dair blynedd. |
[F53Erthygl 95a(1) | Yn gwahardd cyflwyno uned fasnach GI berthnasol i Brydain Fawr o Ogledd Iwerddon oni bai bod y pasbort planhigion a oedd yn ofynnol ar gyfer ei symud o fewn Gogledd Iwerddon yn dod gyda hi.] |
Erthygl 96(1) | Yn gwahardd marcio deunydd pecynnu pren, pren neu wrthrychau eraill o fewn [F54Prydain Fawr]: (c) gan unrhyw weithredwr proffesiynol nad yw wedi ei awdurdodi yn unol ag Erthygl 98, neu (d) heblaw yn y modd gofynnol. |
Erthygl 97(1) | Yn gwahardd trwsio deunydd pecynnu pren: (a) gan unrhyw weithredwr proffesiynol nad yw wedi ei awdurdodi yn unol ag Erthygl 98, neu (b) heblaw yn y modd gofynnol. |
Diwygiadau Testunol
F3Gair yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi ei hepgor (C.) (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(i)
F4Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(ii)(aa)
F5Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 table wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(ii)(bb)
F6Gair yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi ei amnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(iii)(aa)
F7Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(iii)(bb)
F8Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(iii)(cc)
F9Gair yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi ei amnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(iii)(dd)
F10Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(iii)(ee)
F11Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(iv)(aa)
F12Gair yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi ei amnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(iv)(bb)
F13Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(iv)(cc)
F14Gair yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi ei amnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(v)
F15Gair yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi ei amnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(vi)(aa)
F16Gair yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi ei amnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(vi)(bb)
F17Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 table wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(vi)(cc)
F18Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(vii)(aa)
F19Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(vii)(bb)
F20Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(viii)(aa)
F21Gair yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi ei amnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(viii)(bb)
F22Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(ix)
F23Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(x)
F24Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xi)
F25Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xii)(aa)
F26Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xii)(bb)
F27Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xiii)(aa)
F28Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xiii)(bb)
F29Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xiv)(aa)
F30Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xiv)(bb)
F31Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 table wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xiv)(cc)
F32Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xiv)(dd)
F33Gair yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi ei amnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xiv)(ee)
F34Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu mewnosod (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xiv)(ff)
F35Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xv)
F36Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xvi)
F37Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xvii)
F38Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xviii)
F39Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (4.3.2021) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/239), rhlau. 1(2), 2(4)(a)
F40Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 table wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xix)(bb)
F41Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (4.3.2021) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/239), rhlau. 1(2), 2(4)(b)
F42Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xx)(bb)
F43Gair yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi ei fewnosod (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xx)(bb)
F44Gair yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi ei fewnosod (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xxi)
F45Gair yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi ei fewnosod (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xxii)
F46Gair yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi ei fewnosod (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xxiii)(aa)
F47Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 table wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xxiii)(bb)
F48Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu mewnosod (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xxiv)
F49Gair yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi ei fewnosod (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xxv)
F50Gair yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi ei fewnosod (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xxvi)
F51Gair yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi ei fewnosod (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xxvii)
F52Gair yn Atod. 3 Rhn. 1 table wedi ei amnewid (4.3.2021) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/239), rhlau. 1(2), 2(4)(c)
F53Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi ei fewnosod (4.3.2021) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/239), rhlau. 1(2), 2(4)(d)
F54Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(3)(b)(xxviii)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 3 Rhn. 2 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
Y ddarpariaeth yn y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol | Y pwnc |
---|---|
Erthygl 47(5) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 5 a 7 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2122 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran categorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau a esemptir o reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin, rheolaethau penodol ar fagiau personol teithwyr ac ar lwythi bach o nwyddau a anfonir at bobl naturiol na fwriedir eu rhoi ar y farchnad(14)) | Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol sy’n dod [F55i Brydain Fawr] sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno ar gyfer rheolaethau swyddogol ar y safle rheoli ar y ffin lle daw [F55i Brydain Fawr] am y tro cyntaf. |
Erthygl 50(1) | Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr llwyth perthnasol y mae Erthygl 47(1) yn gymwys iddo gyflwyno’r tystysgrifau neu’r dogfennau swyddogol gwreiddiol y mae’n ofynnol iddynt fynd gyda’r llwyth i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin. |
Erthygl 50(3) | Yn gwahardd gweithredwr llwyth perthnasol rhag hollti’r llwyth nes y bydd rheolaethau swyddogol wedi eu cyflawni a bod y Ddogfen Mynediad Iechyd Cymunedol (“DMIC”) wedi ei chwblhau. |
Erthygl 56(1) | Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr llwyth perthnasol gwblhau’r rhan berthnasol o’r DMIC. |
Erthygl 56(4) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 1(1) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013 ynghylch hysbysu ymlaen llaw fod llwythi o gategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau yn dod [F55i Brydain Fawr] (15) a rheoliad 9) | Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr llwyth perthnasol roi hysbysiad ymlaen llaw i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin fod y llwyth yn cyrraedd cyn i’r llwyth gyrraedd [F55Prydain Fawr] yn gorfforol. |
Diwygiadau Testunol
F55Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 2 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 3 Rhn. 3 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
Y ddarpariaeth yn neddfwriaeth yr UE | Y pwnc |
---|---|
Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1602 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y Ddogfen Mynediad Iechyd Cymunedol sy’n mynd gyda llwythi o anifeiliaid a nwyddau i’w cyrchfan(16) | |
Erthygl 3 (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 4(a), 5(1)(b) a (d), 5(2)(a) ac (c) a 6(a)) | Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth sicrhau bod DMIC yn mynd gyda’r llwyth cyn ei ryddhau ar gyfer cylchredeg rhydd yn unol ag Erthygl 57(2)(b) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol. |
[F56Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2123 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer yr achosion pan ganiateir cynnal gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar nwyddau penodol wrth bwyntiau rheoli a phan ganiateir cynnal gwiriadau dogfennol bellter oddi wrth safleoedd rheoli ar y ffin, ac o dan ba amodau y caniateir gwneud hynny | |
Erthygl 2(1)(d), (e), (f), (g)(i) ac (h) (fel y’u darllenir gydag Erthygl 2(2) a (3)), Erthygl 5(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 5(2), Erthygl 6(1) a (4) ac Erthygl 8(2)) | Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth gydymffurfio ag amodau penodol pan fo gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar y llwyth i’w cynnal wrth bwynt rheoli ac eithrio safle rheoli ar y ffin.] |
Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2124 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer rheolaethau swyddogol ar lwythi o anifeiliaid a nwyddau sy’n cael eu cludo, eu trawslwytho a’u cludo ymlaen drwy’r Undeb(17) | |
Erthygl 5(a) a (b) | Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol sydd wedi cael awdurdodiad i gludo’r llwyth ymlaen i nodi manylion penodol yn y DMIC a chyflwyno’r DMIC. |
Erthygl 6 | Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol sydd wedi cael awdurdodiad i’w gludo ymlaen gydymffurfio â’r amodau penodedig ynglŷn â’i gludo a’i storio. |
Erthygl 16(1) a (3) | Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol a drawslwythir roi’r wybodaeth benodedig i awdurdodau cymwys. |
Erthygl 22(4) | Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol sy’n cael ei gludo drwy [F57Brydain Fawr] gymryd mesurau penodol ynglŷn â chludo’r llwyth. |
Diwygiadau Testunol
F56Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 3 wedi eu mewnosod (C.) (13.11.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1134), rhlau. 1, 2(6)
F57Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 3 tabl wedi eu hamnewid (C.) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 21(5)
Nodir y rhestr o blâu cwarantin yr Undeb yn Atodiad 2 i Reoliad (EU) 2019/2072 (“Rheoliad Amodau Ffytoiechydol”) sy’n pennu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau diogelu rhag plâu planhigion (OJ Rhif L 319, 10.12.2019, t. 1) (“Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE”).
Nodir y rhestr o barthau gwarchodedig a’r priod blâu parth gwarchodedig yn Atodiad 3 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.
Nodir y rhestr o blâu nad ydynt yn blâu cwarantin Undeb a reoleiddir a’r planhigion perthnasol i’w plannu, gyda chategorïau a throthwyon, yn Atodiad 4 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.
Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill a’r trydydd gwledydd, y grwpiau o drydydd gwledydd neu’r ardaloedd penodol o drydydd gwledydd y mae’r gwaharddiad yn gymwys iddynt yn Atodiad 6 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.
Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill sy’n tarddu o drydydd gwledydd a’r gofynion arbennig cyfatebol mewn perthynas â’u cyflwyno i diriogaeth yr Undeb yn Atodiad 7 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.
Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill sy’n tarddu o’r Undeb a’r gofynion arbennig cyfatebol mewn perthynas â’u symud o fewn tiriogaeth yr Undeb yn Atodiad 8 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.
Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill uchel eu risg y mae’r gwaharddiad yn gymwys iddynt yn Atodiad 1 i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/2019 yn sefydlu rhestr dros dro o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill uchel eu risg, o fewn ystyr Erthygl 42 o Reoliad (EU) 2016/2031 a rhestr o blanhigion nad yw tystysgrifau ffytoiechydol yn ofynnol ar eu cyfer i’w cyflwyno i’r Undeb, o fewn ystyr Erthygl 73 o’r Rheoliad hwnnw (OJ Rhif L 323, 19.12.2018, t. 10).
Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 9 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.
Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 10 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.
Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at ddibenion Erthygl 72(1) yn Rhan A o Atodiad 11 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol. Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at ddibenion Erthygl 73(1) yn Rhan B o’r Atodiad hwnnw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill yn y rhestr a nodir yn Rhan C o’r Atodiad hwnnw.
Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 12 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.
Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 13 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.
Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 14 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.
OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 45.
OJ Rhif L 165, 21.6.2019, t. 8.
OJ Rhif L 250, 30.9.2019, t. 6.
OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 73.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: