- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020, RHAN 8.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Diwygiadau Testunol
34.—(1) Rhaid i’r awdurdod priodol gyhoeddi canllawiau ynghylch ei ddefnydd o sancsiynau sifil.
(2) Rhaid i’r awdurdod priodol adolygu a diweddaru canllawiau pan fo’n briodol.
(3) Rhaid i’r awdurdod priodol roi sylw i’r canllawiau neu’r canllawiau a adolygwyd ac a ddiweddarwyd wrth arfer ei swyddogaethau.
(4) Yn achos canllawiau ynghylch hysbysiadau cydymffurfio, hysbysiadau adfer, cosbau ariannol penodedig, cosbau ariannol amrywiadwy, hysbysiadau stop a chosbau am beidio â chydymffurfio, rhaid i’r canllawiau gynnwys gwybodaeth o ran—
(a)o dan ba amgylchiadau y mae sancsiwn sifil yn debygol o gael ei osod,
(b)o dan ba amgylchiadau nad yw’n debygol o gael ei osod,
(c)pan fo’n berthnasol, hawliau i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau,
(d)hawliau i apelio, ac
(e)yn achos canllawiau ynghylch cosbau ariannol amrywiadwy a chosbau am beidio â chydymffurfio, y materion y mae’r awdurdod priodol yn debygol o’u hystyried wrth bennu swm y gosb (gan gynnwys adrodd yn wirfoddol am beidio â chydymffurfio gan unrhyw berson amdano ei hun).
(5) Yn achos canllawiau ynghylch ymgymeriadau gorfodi, rhaid i’r canllawiau gynnwys gwybodaeth o ran—
(a)o dan ba amgylchiadau y mae’r awdurdod priodol yn debygol o dderbyn ymgymeriad gorfodi, a
(b)o dan ba amgylchiadau nad yw’r awdurdod priodol yn debygol o dderbyn ymgymeriad gorfodi.
35. Rhaid i’r awdurdod priodol ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae’r awdurdod priodol yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy cyn cyhoeddi—
(a)unrhyw ganllawiau, neu
(b)unrhyw ddiwygiadau neu ddiweddariadau sylweddol i ganllawiau sydd eisoes wedi eu cyhoeddi.
36.—(1) Rhaid i’r awdurdod priodol gyhoeddi yn flynyddol—
(a)yr achosion y gosodwyd sancsiynau sifil ynddynt;
(b)pan fo sancsiwn sifil yn hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu gosb ariannol amrywiadwy, yr achosion y derbyniwyd ymgymeriad trydydd parti ynddynt;
(c)yr achosion y derbyniwyd ymgymeriad gorfodi ynddynt.
(2) Yn is-baragraff (1)(a), nid yw’r cyfeiriad at achosion y gosodwyd sancsiynau sifil ynddynt yn cynnwys achosion pan osodwyd sancsiwn ond a gafodd ei wrthdroi ar apêl.
(3) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’r awdurdod priodol o’r farn y byddai cyhoeddi yn amhriodol.]
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: