- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Yr Amgylchedd, Cymru
Gwnaed
15 Mehefin 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
17 Mehefin 2020
Yn dod i rym
9 Gorffennaf 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 57(6) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff (Deddfiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Gorffennaf 2020.
2.—(1) Mae’r deddfiadau a ganlyn wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 57(6) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990—
(a)adrannau 33, 34 a 47 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(2);
(b)adrannau 171G, 179, 187, 187A, 216 a 331 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(3);
(c)adran 23 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990(4);
(d)rheoliad 65 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(5);
(e)rheoliad 56 o Reoliadau Batris a Chronaduron Gwastraff 2009(6);
(f)rhannau 5, 8, a 9 o Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011(7); a
(g)rheoliad 38 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016(8).
(2) Ni chaiff person fod yn euog o drosedd o dan y deddfiadau hyn oherwydd unrhyw beth o angenrheidrwydd a wneir neu nas gwneir er mwyn cydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 57 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.
Hannah Blythyn
Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, o dan awdurdod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
15 Mehefin 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi deddfiadau amrywiol at ddibenion adran 57(6) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (“Deddf 1990”).
O dan adran 57(1) o Ddeddf 1990, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo deiliad unrhyw drwydded amgylcheddol sy’n awdurdodi gweithrediad gwastraff i dderbyn a chadw, neu dderbyn a thrin neu waredu, gwastraff mewn mannau penodedig o dan delerau penodedig.
O dan adran 57(2) o Ddeddf 1990, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo unrhyw berson sy’n cadw gwastraff ar dir i ddanfon y gwastraff i berson penodedig o dan delerau penodedig, gyda’r nod bod y gwastraff yn cael ei drin neu ei waredu gan y person hwnnw.
Mae adran 57(6) o Ddeddf 1990 yn caniatáu i ddeddfiadau gael eu rhagnodi gan Reoliadau i sicrhau na chaiff person fod yn euog o drosedd o dan y deddfiadau hynny oherwydd unrhyw beth a wneir er mwyn cydymffurfio â Chyfarwyddyd o dan adran 57.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1990 p. 43. Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru o dan adran 57, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y pwerau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Diwygiwyd adran 33 gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, Deddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd 2005, O.S. 2007/3538, O.S. 2006/937, O.S. 2009/1799, O.S. 2015/664, O.S. 2016/1154 ac O.S. 2019/620. Diwygiwyd adran 34 gan O.S. 2000/1973, O.S. 2005/2900, O.S. 2006/123 (Cy. 16), O.S. 2007/3538, O.S. 2009/1799, O.S. 2010/675 ac O.S. 2011/988.
1990 p. 8. Ychwanegwyd adran 171G gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2015/664. Amnewidiwyd adran 179 gan Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991, ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2015/664. Diwygiwyd adran 187 gan Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991, a chan O.S. 2015/664. Ychwanegwyd adran 187A gan Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991, ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011. Diwygiwyd adran 216 gan Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991.
1990 p. 10 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991, a chan O.S. 2015/664.
O.S. 2005/1806 (Cy. 138), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/971 (Cy. 141).
O.S. 2009/890, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2019/188.
O.S. 2011/988, y ceir diwygiadau amrywiol iddo.
O.S. 2016/1154, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2018/1227.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: