- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
10 Awst 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
11 Awst 2020
Yn dod i rym
1 Medi 2020
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 a deuant i rym ar 1 Medi 2020.
2. Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3. Yn rheoliad 4(2), ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (2A),”.
4. Ar ôl rheoliad 4(2) mewnosoder—
“(2A) Rhaid cynnal o leiaf 370 o sesiynau mewn ysgol a restrir ym mharagraff (2B) yn ystod y flwyddyn ysgol 2020-2021 ond er hynny nid oes dim yn y paragraff hwn sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddosbarth meithrin yn yr ysgolion hynny gyfarfod am y nifer hwnnw o sesiynau.
(2B) Yr holl ysgolion a gynhelir yn yr ardaloedd awdurdod lleol a ganlyn—
(i)Conwy;
(ii)Sir Benfro ac eithrio Ysgol y Preseli, Crymych, Sir Benfro, SA41 3QH;
(iii)Powys.”
5. Ar ôl rheoliad 5 mewnosoder—
“6.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw sesiwn ysgol sy’n dod o fewn y flwyddyn ysgol 2020-2021 sydd wedi ei neilltuo (yn llwyr neu’n bennaf) i baratoi ysgolion a chynllunio gan athrawon yn dilyn y gostyngiad mewn gweithrediadau oherwydd amgylchiadau sy’n ymwneud â mynychder neu drosglwyddiad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2).
(2) Mae paragraff (1) i gael effaith mewn perthynas â dim mwy na phedair sesiwn ysgol yn nwy wythnos gyntaf tymor cyntaf y flwyddyn ysgol honno.
(3) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, mae’r sesiwn honno i’w hystyried at ddibenion rheoliad 4 fel sesiwn pan gyfarfu’r ysgol.”
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
10 Awst 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”) yn gymwys i ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol ac i ysgolion arbennig pa un a’u cynhelir felly ai peidio. Maent yn gwneud darpariaeth, ymhlith pethau eraill, ar gyfer diwrnod ysgol sydd fel arfer i’w rannu yn ddwy sesiwn gydag egwyl yn y canol, ac i ysgolion (ac eithrio ysgolion meithrin) gyfarfod am o leiaf 380 o sesiynau yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2003 mewn dwy ffordd:
(1) Er mwyn caniatáu i ysgolion a agorodd am wythnos ychwanegol ar ddiwedd tymor yr haf yn y flwyddyn ysgol 2019-2020 gynnal o leiaf 370 o sesiynau yn ystod y flwyddyn ysgol 2020-2021 yn lle o leiaf 380 o sesiynau.
(2) Er mwyn caniatáu i hyd at bedair sesiwn gyfrif fel sesiynau pan gyfarfu’r ysgol os oeddent wedi eu neilltuo i baratoi ysgolion a chynllunio gan athrawon yn dilyn gostyngiad mewn gweithrediadau o ganlyniad i fynychder a throsglwyddiad y coronafeirws yn ystod y flwyddyn ysgol 2019-2020. Cynhelir y sesiynau hyn yn ystod dwy wythnos gyntaf tymor cyntaf y flwyddyn ysgol 2020-2021.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Llywodraethiant, Trefniadaeth a Derbyniadau i Ysgolion, Yr Is-adran Effeithiolrwydd Ysgolion, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1996 p. 56. Mewnosodwyd adran 551(1A) gan baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), a diwygiwyd adran 551(2) gan baragraff 166 o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31). Am ystyr “regulations” a “prescribed gweler adran 579(1).
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: